Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Marwolaeth y Parch. D. Rees,…
News
Cite
Share
Marwolaeth y Parch. D. Rees, Capel Mawr. Drwg gennym hysbysu marwolaeth y Parch. David Rees, Capel Mawr, Mon, yr hyn gymerodd Ie dydd Sadwrn diweddaf, ac efe yn hynafgwr 78ain mlwydd oed. Yr oedd yn ei ddydd yn un o bregethwyr ac arweinwyr amlycaf Cvmrn, ac yn ein nesaf ceir ysgrif ar ei fywyd a'i waith.- Yr oedd ei briod wedi ei ragflaenu ers HI 1 nyddoedd, ac ni bu iddynt blant.
Coleg Aberhonddu.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Coleg Aberhonddu. renderfynodcl y Pwyllgor arbennig a benod- wyd i ystyried gwaith y Coleg yn ystod y flwyddyn nesaf gymeradwyo'r cynygiadau a ganlyn i Bwyllgor y Coleg i. That in view of the abnormal situation the Committee undertakes, for the time being, to provide tuition in Arts for candidates for the ministry who are desirous of entering this College. 2. That the Committee is prepared to consider applications from persons who are anxious to attend a course in Theology. Disgwylir i'r dosbarth blaenaf gynnal eu hunain, a thalu tri gini'r flwyddyn am eu haddvsg hyd nes derbynnir hwynt fel mvfyrwyr. Disgwylir i'r ail ddosbarth gynnal eu hunain, a thalu tri gini am eu haddysg. Cymerodd yr Is-bwyllgor i ystyriaeth sef- yllfa'r Coleg, anghenion yr eglwysi, a phrinder gweinidogion, ac yr oedd yn hollol argyhoedd- edig y dyiid cadw'! Coleg yn agored.
I DYFODOL ADDYS6 - CYMRU.
News
Cite
Share
nag y bu erioed cyn hynny. Mae'r Bwrdd Ca ol roi r gynhysgaeth oreu fedr addysg eijroi i fechgyn a merched Cymru iddal en tir yn y gystadleuaeth honno. Cychwynnwyd y deffroad drwy bender- fvniad a basiwyd ddwy flynedd yn ol ar gynygiad Mr. William George, i'r perwyl y buasai'r Bwrdd yn croesawu ymchwiliad trwyadl i sefyllfa holl gyfundrefn addysg Cymru. Er y bwriedid ar y pryd ohirio'r ymchwiliad tan ar ol y rhyfel, buan y gwelwyd fod yn rhaid ei wneud yn ddioed, os oedd Cymru i fod yn barod at fedd- iannu'r maes pan gyhoeddir lieddwch. Felly, adeg Eisteddfod Genedlaethol Bangor, fftirfiwyd Pwyllgor ymchwiliad cryf. Mae'r Pwyllgor hwnllw wedi bod wrthi bellach am yn agos i ddwy flynedd yn myned yn ofalus dros bob rhan o'r maes. Nid oes neb ond y sawl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad a fedr amgyffred maint y gwaith a gyflawiiwyd. Casghvyu ffeitbiau ac ystadegau amhrisiadwy a ddat- guddiant wendi dan'r gorffennol, dyled- swydd y presennol, a phosibiliadau'r dyf- odol. Rhoddir crynhodeb o brif bwyntiau ffrwyth yr ymchwiliad hwnnw mewn ysgrif arall. Digon ar hyn o bryd yw dweyd fod y Bwrdd Canol, ar ol ymgyng- liori a phob awdurdod a d d y s g yug Nghymru, yn awr yn galw- Cynhadledd Genedl- aethol. Cynhadledd fawr genedlaethol dros Gymru gyfan. I ddefn- yddio cyffelybiaetli fasnacliol, mae'r Bwrdd Canol, .fel Cyf- arwyddwyr Cwmni Addysg Cymru, yn galw Cyfarfod Cyffredinol o'r Cyfranddalwyr er rnwyn cyflwyno i'w hys- tyriaeth adroddiad o sefyllfa'r cwmni—ei eiddo a'r cyflwr y mae ynddo, ei ddyled- 1011 a piia beth sycld a'u cyferfydd, ei adnoddau a'r defnydd goreu ellir wneud ohonynt, ei gynlluniau am y dyfodol a pha fodd i'w cario allan. Amlwg yw, felly, fod y Bwrdd Canol am gymryd yr holl wlad i'w gyfrinach. Amlwg hefyd fod y Pwyllgor Ymchwiliad wedi Gael agoriad llygaid wrth gario'r ymchwil- iad ymlaen. Ymgymerasant a'r gwaith gyda meddwl agored a diragfarn, parod i dderbyn a manteisio ar bob gwybodaeth a goleuni a gaffent a fyddai er, mantais i Gymru ei gael. Gan osod budd plant Cymru ymlaenaf ac yn uchaf, ui lyffeth- eiriwyd hwynt gan arferion y gorffennol, ui rwystrwyd liwynt gau ystvriaetli gor- nioclol am fuddiannau personol y presen- nol, ni ddyehrynwvd molionynt gan ofn Gael eu cyliuddo o dorri tir newydd yn y dyfodol a cheisio gwneud peth na wnaeth neb o'u blaeil. Lles dyfodol plant Cymru, Yn feihion ac yn ferched, oedd yr amcan tnawr a gadwent yn ddiysgog o flaen eu llygaid. Gellir beiddio dweyd y bydd yr adrodd- lad a gyflwynir i'r Gynhadledd Genedl- aethol yn un o'r rhai mwyaf pwysig a diddorol a gyflwvnwvd erioed i'r cyhoedd 5rng Nghymru. u Safle'r Brifysgol. I ddetnyddio eto y gynelyb- iaeth fasnacliol, gellir dweyd yn gyffredinol mai cwmni umharod i ymgymefyd ag inichwiliad cyhoeddus i'w amgylchiadau, ac amharotaeh na hynny i ddiwygio ei Wthdai a'i beiriannau, a fu'r Brifysgol. N"td am nad oedd angen diwygiad, ond am na f -nnai'r cwmni gydnabod fod Sanddo le i ddiwygio. Gwrthwynebai Ynlchwiliad-hycl nes y gorfodwyd ef gan | y Iylywodraeth i'w dderbyn condemniai y sawl a fynnent ddwyn gwelliantau i mewn. lirs dros ddwy H ucdd yn ol awgrym- odd y Trysorlys mai dymunol fyddai cael ymchwiliad trwyadl i holl sefyllfa cysvllt- iadau a gweithrediadau'r Brifysgol. Ar yr un pryd, gadawodd y drws yn agored I i'r Brifysgol naill ai i ymgymeryd a'r ymchwiliad ei hun, neu awgrymu i'r Trysorlys gynllun o ymchwiliad- Ni wnaeth y naill na'r llall. Pallodd amynedd y Trysorlys. Penodwyd Dirprwyaeth Fren- hinol. Mae honnc/n awr yn cario'r vrn- chwiliad ymlaen. A yw'f Brif' gal yn Genedlaethol. Cwestiwn a ofvnnir y dydd- hyn yw, A yw'r Brifysgol yn genedlaethol? Ha wlia\ Prifathro Griffiths o Gaer dydd mai hi yw'r nnig Brif ysgol Genedlaethol yn y byd. Eithr rhaid yw cydnal)od mai gwan ac anelfeithiol yw fel gallu cenedlaethol llywoclraethol. Mae 3rii y Brifysgol dri Choleg Cenedl- aethol, pob un ohonynt yn annibynnol ar y Hall ac ar awdurdod y Brifysgol. Nid oes gan y Brifysgol lais mewn penodi athraw, mewn penderfynu pa destynau a dysgir, na maes llafur unrhyw un o'r col- egau. Y ewbl a fedr wneud yw arholi'r myfyrwvr a rhoi, neu wrthod, graddau iddynt. Canlyniad naturiol hyn yw diffyg cyd- ddealltwriaeth a chydweithrediad rhwng y Colegau, gwastraffu adnoddau ariannol ac addysgol y genedl, a cholli'r arweiniad a unolai'r oil yn un gallu cenedlaethol. 0 hyn y daw cynhennau, ac eiddigedd, a chydymgais diraid a disynwyr. Ni cheis- iodd y Brifysgol erioed reoli yn y pethau hyn, hyd yn oed gymaint ag i ddosljartim y maes rhwng y tri Choleg, 11a chydraddio eu gwaith. Gofalent fwy am aiiniltyniaeth leol pob Coleg nag am unoliaeth genedl- aethol y Brifysgol ei hun. Canlyniad hyn oedd gwaith athrawon Coleg y De (Caerdydd) yn codi baner gwrthryfel, gan alw am wneud Coleg Caer- dydd yn Brifysgol ar wahan i'r g wed dill o Gymru-ffurfio Ulster wrth-genedlaethol yn Neheudir Cymru. Yn ffodus-ffodus i Gaerdydd, i'r Coleg ac i'r Brifysgol-gor- uwchreolwyd gwrthryfel yr athrawon gan synnwyr cyffredin cryf Rheolwyr etholedig y Coleg. Ni bit son 111WY am Brifysgol i Gaerdydd ar ei phen ei hun. Golygasai hynny dorri cysylltiad y ddinas a'r Dy- wysogaeth, a darostwng yn hytrach na dyrchafu safle'r Coleg a'r ddinas. Cafwyd perygl mwy fyth oddiwrth lac- rwydd awdurdodau'r Colegau. Ymrwyin-^ asant ymlaen Haw i dderbyn dyfarniad y Ddirprwyaeth Frenhinol heb w y b o d ohonynt pa beth a fyddai'r dyfarniad hwnnw. Dywedir fod Arglwydd Haldane, Cadeirydd y Ddirprwyaeth, wedi bwriadu penodi deg o ddynion yn Llundain i lyw- odraethn Prifysgol Cymru Derbyniasid hynny gan awdurdodau Colegau Cenedl- aethol' Cyniru fel pe na bai Cyniru '11 medru llywodraethu ei materion ei hun, neu heb feddu dynion cymwys at y gwaitli. I Bwyllgor gwirfoddol, o'r tuallan i'r Brifysgol. gyda Mr. William George yn gadeirydd iddo, y rhaid i (rymru ddiolch am gael ei gwaredu rhag y gWarth a'r perygl o weled ei Phrifysgol yn syrthio i ddwvlaw ac o dan lywodraeth estroniaid na fyddai gan Gymru ei hun unrhyw reol- aeth drostynt. Drwy egni ac ymroddiad y Pwyllgor hwn deffrowyd Cymru mewn pryd. i aiuddiffyn y bwlch a werthwyd ymlaen llaw i'r estron. Cododd pob awdur- dod cyhoeddus yng Nghymru lef 311 erbyn peth mor wrthun a gwarthus a darostwng buddiannau addysgol cenedl y Cymry i awdurdod corff o'r tuallan J'r genedl a'r Dywysogaeth. ic Y r Aelodau £ Cymreig. u P"L le y s'a i f t y r Ae-lodan Cymreig ?'" Arferent arwain mewn'Jmaterion addysg er lies, y geii,edl.% Penderfvn- wyd prif linellall: Siarter y Brifysgol a Deddf Addysg Ganolraddol Cymrn mewn ymgomiau cyfeillgar gyda'r Aelodau Cym- reig yn Nhy'r Cyffredin. Mr. (Syr) Bryn- mor Jones dynnodd allan y Siarter. Gwnaeth y diweddar Tom Ellis a Mr. Ellis Jones Griffith wasanaeth mawr gyda Mesur Addysg Ganolraddol. Bu Mr. Her- bert Lewis ac eraill yn gwasanaetliu'n ffyddlon ar Gyd-bwyllgorau Sir Cymru. Mr. Lloyd George gododd faner gwrth- ryfel Cymru yn erbyn Mesur Addysg 1902. Sut mae pethau heddyw ? Pa sawl Aelod Cymreig sy'n dangos diddordeb ym mater Addysg Cymru ? Gwrthododd yr Aelodau Cymreig gydsynio a chais y Bwrdd Canol i gydweithredu a'r Bwrdd i alw Cynhadl- edd Genedlaethol. Pan benodwyd Dir- prwyaeth Frenhinol Anghymreig, yn cynnwys tri neu bedwar estron am bob un Cymro, ni chododd cymaint ag un Aelod Cymreig lais yn erbyn yn y Senedd. Nid felly yr enillodd Cymru y breintiau sydd ganddi heddyw. Nid felly ychwaith y ceidw hi feddiant ohonynt. Hithr nid yw eto'n rhy ddiweddar i hyd yn oed yr Aelodaix Cymreig ymddeffroi ac ymarfogi o b 1 a i d buddiannau Addysg Cymru. Hyderir y gwelir liwynt, un ac oil, gyda hyn yn ymaflyd yn eu gwaith, ac yn gwneud eu dyledswydd dros Gymru, Cymro a Chymraeg ym myel Addysg y genedl. :,J