Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
c - Hyn a'r llall 0 Babilon…
News
Cite
Share
c Hyn a'r llall 0 Babilon Fawr. GAN EYNON. Peth newydd dan haul ydyw fod pregethwr yn cyrchu i'w gyhoeddiad ar adenydd Dyna'r stori ydwyf yn glywed heno (lids Sadwrn) ym mhlas esgobol y Parch. D. W. Edwards, B.A., Pen- main, Mynwy, ac y niae'11 werth ei hail-adrodd. Yn Bailey-street, Brynmawr, dydd Mercher d.iw- eddaf, urddwyd Mr. Levi J. Evans, B.A. (Aber- honddu) yn weinidog, ac yinhlith ei gyfeillion yn bresennol yr oedd y Capten Enoch Powell (Coleg Bala-Bangor), yr hwn ddaeth drosodd o Ffrainc gan ehedeg drwy'r awyr o ganol brwydro ffyrnig i Folkestone, ac yna efo'r tren i Frynmawr. Llawer o son am bregethwr hedegog,' ond y brawd ieuanc yma o Bala-Bangor, yn sicr, yw'r cyntaf y gwn i am dano yn brysio i'w oedfa ar aclenydd. Buan y cldo'[ dydd pan y gall ehedeg adref—for good. Mae'r Senedd yn eistedd unwaith eto ar ol ychydig seibiant, ac y mae dwylaw ein Senedd- wyr yn llawn o waith. Mae'r Prifweinidog o hyd yn cael cryn drafferth efo'r Iwerddon. Nid rhwydd cael cant o Wyddelod brwdfrydig i gyd- eistedd mewn cyngor ar bwnc Home RiTe. Y mae Redmond a Carson, a'r ddwyblaid tucefn iddynt hwv, wedi cytuno'n rhwydd i gymryd en rhan yn y seiat.' Mae'r bobl eithafol (Sinn Fein) yn cadw draw. Ond wiw mesur y natur Wyddelig gyda'r ffon lathen arferol. Mae Patrick 311 berson ar ei ben ei hnn. Pan yn cyfarfod ar faes y gwaed mae'r Gwyddelod yn cytimo i anghytuno—yn cytuno i anghofio hen gwerylon, ac yn ymladd fel llewod dros yr un iawiiderau mawr. Gobeithio y gwelir cyffelyb ysbryd yn cael ei arddangos ar feysydd hecidweh y dyddian nesaf yma. Stroke athrylithgar o eiddo'r Prif- weinidog ycloecld cYllnyg fod i'r Gwyddel eistedd mewn s-iat' ar ei fater ei hun. Can fod y Sais a'r estronhid era ill wedi methu gwneud trefn ar yr Ynys Werdd, dyma gyfle bellach, am y tro cyntaf erioed, i'r Gwyddel ddyfeisio cynllun Honze R le o'i waith ei hiiii--brethyt-i cartref. Pob llwydd a bendith i'r ymgais ddiw- eddaf ho a i gychwyn y Mil Blyuyddoedd yn Ynys y Saint. o Y newydd diweddaraf ar fater y Fasnach. Feddwol ydyw fod ymchwiliadau ar waith er mwyn cael allan beth fydd y gost, os pender- fynir ar brynu allan (State purchase). Er fod y British Weekly a'r papurau eraill (heb son am fudiad nerthol Mr. Arthur Mee) yn dweyd pethau arswydus yn erbyn prynu'r Fasnach, eto dengys y rhagarwyddion mai hwn yw'r cynllun sydd o flaen y Llywodraeth yn bresnnol. Nid yw yn cael ei fabwysiadu, mi gosliaf, am mai hwn yw'r cynllun goreu, ond am mai hwn, ar hyn o bryd, ydyw'r ui.ig gydlnll ymarferol. Fel y dywedais o'r blaen yn y cclofnau hyn, cynllun ail oreu ydyw hwn, ac yr wyf yn codi dwylaw drosto am fod y cynllun goreu yn amiiosibl ar hyn o bryd. Unig obaith y Fasnach Feddwol ar hyn o bryd yw y gallant rannu'r fyddin. ddirwestol. Yna, os llwyddir cael y pleidiau hyn i groi a thraflyncu ei gilydd, ni bydd perygl iddynt gydymosod ar y gelyn cyffredinol. Dywedaf eto, gwell hanner y dorth na dim Anelwn felly at hanner y dorth yna —yn ol esiampl yr anfanvol Mr. Oliver Twist— gofynnwn am yr hanner anil Peth poblogaidd yw coroni a gwobrwyo ymhob oes a gwlad, ac y mae iddynt en 11-2 priodol hefyd lllCwll bywyd. Os ceir gwas da a ffyddlon mewn byd neu Eglwys, teilwng iddo gael ei wobr. Ar ddydd pen blwydd y Breuin byddis bob ainser yn CyflWYI10 gwobrau felly gyda llaw hael, ac y mac tyrfa fawr wedi derbyn tfafrau felly o law y Brenin Stir y flwydclyn hon ac y mae yn herwydd liynny lawer o feirniadu a beio a chablu. Gwir fod llawer un anenwog yn en plith, ac y mae hynny'n anocheladw3*. Wedi'r cyfan, beth yw enwogrwydd ? A vw masnachwr pills yn enwog ? Ceir llawer o oreuon y deyrnas yn byw yn yr encilion, a phriodol eu bod yn cael eu hanrhydeddu am eu gwasanaeth i fasnach, a chelf, a lien, a moes, a chrefydd. Codir y cri arferol yn erbyn gwerthu breintiau fel hyn i wyr cyfoethog. A synnwn i ddim os yw ambell un yn talu hard, cash am ei deitl. Hen system bwdr ydyw. Ond y mae'r un peth yn wir am y teitlau hanner gLi-mwy neu l:d—sydd yn croesi tonnau'r Werydd i'r v lad. hon Doniol yw gweled y Times yr wyth- nos hon yn codi gwvrion llygaid tua'r nef am fod pethau fel hyn yn bod. Ond, atolwg, pa waSanaeth enwog fel gwladgarwr neu Gristion wnaeth Harmsworth i'r byd pan grewyd ef gan Balfour yn Arglwydd Northcliffe ? Ymhlitli yr Annibynwyr a anrliydeddir cawn enw Syr W. H. Lever o Bolton—Arglwydd Lever hulme bellach. Tebyg mai efe fydd yr unig Anni- bynllwr yn Nhy yr Arglwvddi. Ymhlitli y marchogion ceir hen ddiacon i mi yn Becken- ham, yn awr Syr Robert Murray Hyslop, ac nid oes dda.dl nad 3rdyw, ar gyfrif ei wasanaeth i ddirwest a phob achos da, yn llawn haeddu'r anrhydedd. Uiddorol ydyw gweled enw Syr Beddoe Rees o Gaerdydd ymhlith yr urddedig- ion. Compliment, mi wn, i'r ffaith mai efe eleni ydyw Llywydcl yr Eglwysi Rhyddion yiig Nghymru. Dywed Mr. Hugh Edwards yn ei golofn wythnosol yn y British Weekly fod un o oleuadan'i" Pulpud Cynireig wedi gwrthod teitl. Beth oedd y teitl, tvbed ? D01:bl fuasai cyhoeddi fod y Parchedig Syr Hwn-a-Hwn yn pregethu yn y fan a'r fan y Saboth nesaf, &c. Ac eto y mae Syr o flaen enw pregethwr yn llawn mor briodol ag ydyw rhiban benthyg wrth y gynffon. Mae'r teimlad yn codi ftl Ilaii.w'i- mor yn crbyn y criw anonest hynny ydynt yn codi eu crogbi.is am fwyd y bobl. Er enghraifft, y mae cligoii o gig moch yn y Brifddinas ar hyn o bryd i ddiwallu pawb, ond gwell gan y Shylocks iddo bydru yn y warehouse yn hytrach na'i werthu am bris gonest. Y middleman yw melltith y byd masnachol. Bydd yn rhaid diddwmu'r middle- man maes o law. Iddew ydyw ft 1 rheol a gambler mewn bwydydd. Y canlyniad yw fod y tlodion yn cael hanner newynnu. Ac y mae Plaid IJafnr yn dyrchafu eu lief nerthol yn erbyn y drefn anniben bresennol. Y mae'll hen brycl torri'r ring felltigedig sydd 3-11 gofyn dan swllt a thair y pwys am gig eidion, a hanner coron am gig oen. Y mae Arglwydd Devonport., prif swyddog y Cwpbwrdd Cenedlaethol, wedi ymddiswyddo. Gobeithio y cawn yn ei le ddyn a thipyn o haearn yn ei gyfansoddiad, i roddi atalfa ar y lladrad mileiuig sydd mor gyffredin ynglyn a bwyd y bobl. Y mae llawer ohony-nt yn millionaires, er mai carchar yw en haeddiant. Un o'r diwygiadau cyntaf yn y byd newydd ar 01 y rhyfel fydd tynnu'r gwerthwr a'r prynwr yn nes at ei gilydd, heb fod hanner dwsin o estroniaid yn ymwthio rhyiagddyiit, a phob un yn codi ei doll.
INew Tredegar.I
News
Cite
Share
I New Tredegar. I UHDDIAD MR. GOMER DAVIKS. I Cynhaliwyd cyfarfodydd ynglyn ag urddiad Mr. Gomer Davies yn weinidog ar eglwys Anni- bynnol Seisuig y lie uchod ar y Sul a'r Llun, Mai 27am a'r 28ain, 1917. Pregethwyd ar v Sul gan y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Aber- honddu, i gynulleidfaoedd lluosog. Yr oedd v Prifathro, fel arfer, yn egluro ac yn esbonio'r hen Lyfr wrth ei bregethn. Cymfirodd yr urddiad. le brynhawll dydrl Llun, pryd y cymerwyd rhan gan y Parchn. E. Wal- rond Skinner, Casnewydd D. Hughes Jones, Llanelli (siars i'r gweinidog) Oswald Davies, Moriah, Ystradmynach Llewefyn Bowyer, Dan- ygraig, Alltwen, a'r Prifathro T. Lewis. Cynrychielwyd eglwys Danygraig gan y Parch. Llewelyn Bowyer a Mr. Thomas, un o'r diacon- iaid. Dygodd y blaenaf y dystiolaeth uchaf i gymeriad a galluoedd Mr. Davies, yr hwn a ddechreuodd bregetliu yn eglwys Danygraig. Hefyd, daeth amryw frodyr o eglwys Pont Senni, ymha un y dygwyd Mr. Davies i fyny, ac yr oedd ganddynt hwythau'r dystiolaeth oreu i'w mynegi, a dygasant anrhegion o aur yn eu dwylaw. Rhoddodd ysgrifennydd yr eglwys fraslun o'i hanes o'r dechreuad, 27 o flynycl.doedd yn ol. Bu iddi dri o weinidogion, sef y Parchn. J. Marks Evans (yn awr o Abertileri) J. Gari Phillips, B.A., Wigston Magna; a W. H. Jones, Staple Hill, Bryste. Dygodd Mr. L. J. Evans (cyd-fyfyriwr a Mr. Davies yn Aberhonddu, a'r hwn sydd newydd ei nrddo ym Mrynmawr) dystiolaeth i'w hy- nawsedd a'i gy wir deb fel cyfaill, a'i gymeriad dilychwin tra yn y Coleg. Yna cafwyd barn y Prifathro, yr hon oedd yn gredid i unrhyw ddyn ieuanc, sef ei fod yn weithiwr caled, ac yn un o'r cymeriadau niwyaf dymunol—bob amser yn hynaws, gwylaidd a diymhongar. Yn yr hwyr traddododd. y Parch. D. Leyshon Evans, Bargoed, 3- siars i'r eglwys. Prif fater y siars oedd y pwysigrwydd i'r eglwys i arfer gweddi ar ran y gweinidog a llwyddiant yr achos. N aturiol oedd i Mr. Evans gyflawni hyn 0 orch- wyl, oherwydd efe a'r diweddar Parch. J. Tertius Phillips fu'n gwasanaethu ar achlysur sefyclliad yr eglwy s, a bu'r ddau yn amlwg yn ei phulpud ar hyd y btynyddoedd. Y Sul canK-nol dechreuodd Mr. Davies ei weiaidogaeth, a phrcgethodd i gynulleidfaoedd lluosog. Cafodd y fraint o dderbyn pump o aelodau newyddion, a dau trwy lythyrau. Gobeithiwu y bydd yr undeb yn un dedwydd a llwyddiannns. I =:- GOHKBYDD.
_-._- -"-. -.-_-__.._-.___-.-…
News
Cite
Share
I DIOLCHGARWCH. At Olygydd y Tyst.. j I SVR,Dymuna Mrs. Roberts, gweddw y diw- ecldar Barch. R. Dervel Roberts, ynghyda'r eglwys, ddiolch yn wresog iawn i'r cyfeillion roddasant eu gwasanaeth gwerthfawr mor barod ar y Sabothau yn y Tabernacl. Os oes rhywun hoffai roddi Saboth o hyn i ddiwedd y flwyddyll, bydded garediced a gohebu ag ysgrifennydd yr egliv_)-s--Mr. johii Arthur Davies. Pant-teg, I Brecon-road, Hirwaun. E.W.W.
IDIOLCHCARWCH. I I
News
Cite
Share
I DIOLCHCARWCH. I At Olygydd y Trst. SYR,—Yr wyf, ar ran fy chwaer-yng-iighyf- raith, Mrs. Evans, Ysgol y Cvngor, Pencader. a'i mab, yn ogystal ag ran fy hun, yn dymuno cvflwyno ein diolchgarwch gwresocaf i'r undebau, yr eglwysi a'r lliaws cyfeillion fu mor garedig ag ysgrifennu i ddatgan eu cydymdeimlad a 11 i yn wyneb inarwolaeth fy annwyl frawd. Carwn ateb pob un yn bersonol, ond gan eu bod yfl rhy luosog i mi allu gwneud hynny, rhaid ymfoddloni ar ddiolch trwy gyfrwng y TYST- Mor werthfawr yw cydymdeimlad cyfeillion pan mae ein hanwyliaid yn cael eu cymryc1 oddi- arnom. Llanbedr. EVAN EVANS. I
Y PARCH. HUGH DAVIES.t
News
Cite
Share
Y PARCH. HUGH DAVIES. t At Olygydd i, Tyst. j SYR, -Darllenais gyda boddhad yn y TYST am Mai Joain y golofn N odion o Leyn, yn rhoddi ychydig o hanes y Parch. Hugh DavieS, Abererch. Cofiaf yn dda am dano'll traddodi ei bregetli gyntaf ym Magillt ar fore Saboth y dyddiad a nodir, ar v testyn I Thes. v. 25. Fe wel ysgrifennydd y notlioll fod gan Mr; Davies dalent i ddewis testyn ar ddechreu ei yrfa bregethwrol, a dymuniad llawer o'i hen gydnabod ydyw, Hir 'oes iddo. Yr eiddoch, &c., I/KUMAS. I
Y -GRONFA. IM
News
Cite
Share
Y GRONFA. M At Olygydd y Tvst. I SYR,—Dyniunir hysbysu fod. Mr. Owen Evans, Liverpool, wedi ymcldeol o'i swydd fel TryTsorydd y Gronfa, ac fod yr Ymcldiriedolwyr wedi penodi Mr. W. G. Owen, Y.H., London City and Mid- land Bank, Ijanrwst, yn Drysorydd pro. tem-, hyd nes y cyferfydd y Pwyllgor i benodi TryS- orydd parhaol. Anfoner pob arian a gohebiaetb ariannol i Mr. Owen. H. M. HUGHES, Ysgrifennydd. 1
EGLWYS Y DOCK, LLANELLI.,…
News
Cite
Share
EGLWYS Y DOCK, LLANELLI., I I AI Olygydd y Tyst, SYR, Ar ran Mrs. Lewis, gweddw y diweddaf Barch. D. Lewis (Dewi Medi), dymunir cydnabod gyda diolchgarwch dderbyniad llu mawr o lyth- yrau cydymdeimlad oddiwrth eglwysi a gweinid- ogion ymhob rhan o'r wlad. Ainled yclynt fel nas gellir eu liateb, na gwneud un hysbysiad allI danynt a.c o'u hannhraethol werth i Mrs. Lewi_s, oddieithr yn y ffordd hon. Derbynied eu dan- fonwyr ei diolch diffuant hi ynghyrdag eiddo eglwys y Dock—eglwys garedig a gofalus, sydd yn yr amgylchiadau trallodus hyn yn ymddwyi1 yn urddasol ac yn wir anrhydedd us tuagat wedd hoff eu diweddar weinidog, a hynny heb feichio neb o'r tuallan, na pheri iddi hithau deÏtnlo'u caredigrwydd yn dreth. Yr eiddoch yn g3rwir, K. CTWYLFA KOBERXb. I