Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

0 FRYN I FRYN. I

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. Vmchwxlio a chwalu ydyw hanes heddyw. y Gymraeg ar yr Aelwyd. Medr i weld gwallau ydyw ei fedr pennaf, ac ar glep a gwallau mae'n byw. Nid oes graen ffeithiau syl- faenol ac arhosol yn ei wyneb. Cin- tachtod a balcliter ac esmwythyd ydyw ei drioedd amlycaf. Y mae n ymborthi arnynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain ac ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr. Y mae dinistrydd yn enw priodol arno. Pe gallai, dinistriai nefoedd ac uffern a Duw. Teinilid oddiwrth yr ysbryd hwn ers llawer dydd bellach mewn Diwinyddiaeth yn ddiw- eddarach daeth i'r golwg mewn Gwleidyddiaeth nawr mae mewn Cyondeithasiaeth a Chrefydd. Ac nis geill y teulu ddianc y farn hon. Y peth goreu a fedd y byd ydyw ei deulu, ac mae'r teulu yn y tan. Gair geiriadur ac aw en atgof yw cartref. Y mae cymdeithas bron i gyd oddi- Cartref, ac fel petai'n fab afradlon. Ychydig o dai byw a geir ar hyn o bryd. Gwir fod rhai ohollynt yn dai bwyd, ond a rheiny'n llai, gan Y ceir bwyd yn awr mewn certi bwyd yn bryd- Ion ac aroglus. Os na edrychir ati, Y TEUIJJ l ca hi waethaf yn ninistr heddyw. Meddyl- ier am y duedd sydd yn y bobl i fod yn rhydd ° gyfrifoldeb, hyd yn oed cyfrifoldeb i fagu plant, ac am ddysg ffafriol rhai arweinwyr oieddwl a moes i'r duedd hon a meddylier ymhellach am blesergarwch y dydd, i geisio rhyw fath ar fwynhad o'r tuallan i'w preswyl- fOd-a chofier fod y rhieni fel y plant yn y dwymyn heintus hon a chyda hyn, meddylier am alwedigaethau a phrysurdeb dynion. Y fath mfer o blant a fegir ar aelwydydd nad ydynt yn nabod eu tad ac os gwelant ef, ysywaeth Y. bydd yn ei gwsg yn feddw neu yn feddw yn  gwsg. Pa ryfedd i blentyn bach i'r cadfridog da Smuts ddweyd wrth ei fam 'Dwyf fi ddim am weld dada. Ydyw' i yn caru Ewythr Jim, ac Ewythr Jim fydda' i'n briodi' ? Ond un o golledion pwysicaf yr aelwyd yng Nghymru yw ei bod yn colli ei Chymraeg. Yr aelwyd yw'r cyntaf i ddioddef yn herwydd hyn, ond buan y dilynir hi gan y Gyfeillach, yr Ysgol pul a'r Addoldy. Mae mwy mewn iaith na geir- lau a gramadeg, ac fe gyll ambell un ei fywyd wrth golli ei iaith. Cenedl yn marw yw cenedl y Cymry heb ei Chymraeg. Daw i'n cof yn awr ddau dy, sef ty yn y ddinas a thy yn y wlad a dyma'r stori am y naill a'r llall ohonynt. Buom ar ein hynt bregethu yn y ty yn y ddinas. lIoffem y ddinas am ei hafon, a'i hen fur, a'i hllwchffyrdd, a'i hogylch olygfeydd. Eto ymhol- gar ac yswil yr elem ar hyd ei ffyrdd a'i throion, a dieithr i ni oedd ei Saesneg a'i thai a'i phobl; a phan agoshaem at fasnachdy mawr mewn scwar agored, y lie oeddem i aros ynddo dros udwynos, crynai ein calon gan faint y ty, ac cheneidiem yn ddwfn am aelwyd ein mam a slarad Cymraeg. Modd bynnag, wedi ein dodi Qiewn ystafell oleulawn, cawsom ein bod y?ghanol Cymry a Chymraeg. Yr oedd dar- lUl1au o Gymry ar y muriau, a gwelsom yn eu lth ddau o sir Gaer, sef Peter Williams, a Dr. Abertawe ac yr oedd llyfrau Cymraeg ,r Beibl hyd at Emyn-lyfr S.R. ar y bwrdd ac yr oedd y gwr a'r wraig yn Gymraeg bob 0 r I'r tin ? ac yr oedd y plant yn siarad Cym- r ae|0 gylch eu traed, a merched o Feirionydd a Môn oedd yn gweini arnynt. Ac nid hir y bUol11 yn eu plith cyn gweld fod crefydd y Pennaf peth ar yr aelwyd, a bod ganddynt en aboth i'w sancteiddio, a'u capel Cymraeg i'w Yychu. Nid oedd teulu parchusach yn y tdlnas na hwn, a rhyfeddem at Gymraeg mor yw mewn dinas mor Seisnigaidd. Fe gollodd t piant hyn eu tad a'u mam, ond cadwant eu yniraeg, ac maent yn ffyddlon i grefydd. vrwahanol i hyn ydoedd y ty yn y wlad. Plas yn werth purn mil o sofrins, ar ael bryn, a'i wyneb ar dref gynhyddol a ffasiynol ydyw hwn, a'r mor mawr yn dod i'r amlwg gerllaw. Adwaenem y teulu hwn er pan oeddent bobl ieuainc. Y tro cyntaf yr euthom i'w cym- deithas, derbyniai gwr y ty gyflog o ^150, ond yn awr yr oedd ei gyflog i'w rhifo wrth y mil- oedd o bunnoedd y flwyddyn. Teulu o gyff Cymreig hollol ydoedd y teulu hwn, ac erys Cymraeg tan heddyw yn ardal eu genedigaeth ond am y ddeuddyn hyn, fel yr esgynnent mewn cyfoeth a ffasiwn, collent eu hiaith, anwybydd- ent eu gwaedoliaeth, a honnai eu plant eu bod yn Saeson o waed coch, cyfan. Nid oedd. y Cymry ond anwaraidd yn eu golwg a buan ar ol iddynt i golli eu Cymraeg, collasant eu neill- tuolion Cymreig, ac yn He mynd i Lan neu Gapel, aethent i ddawns a chwareudy a dy- wedid wrthym ar air a chydwybod gan un o'r morwynion na oddefid i'r Beibl fod yn y golwg, ac na chaniateid son yn y ty am Enaid a Chrefydd a Saboth a Duw. becaiise -it's vulgar,' sef yw hynny, ei fod yn siarad y bobl gyffredin. Gwell gan rywrai beilch yw mynd yn ddieflig na bod yn werinol. Gymaint sonnir hedclyw am Gynildeb a Moes- garwch a Moes Saif Cynildeb ar ffordd gwas- traff, a Moesgarwch ar ffordd amharcli a dibris- dod, a Moes ar ffordd anghrefyddolder a drwg. Lie bynnag y ceir y teirplyg hyn yn y cymer- iad cenedlaethol, ceir yr un pryd yn yr un genedl ei chartrefi mewn annhrefn a gwaethygiad. Ai gwlad heb ei chartrefi ydyw Cymru ? Nid pawb o berchen ty sydd yn cadw cartref. Nis gellir dehongli Cartref yng Nghymru heb ei adnod a'i emyn, a'i fawl a'i Dduw. Rhywbeth i lety- aeth, ac nid i deuluaeth, ydyw tai byw heb hyn. Beth os ydyw cartrefi Cymru yn y mwy- afrif ohonynt yn fagwrfau i aflerwch ac afrad- lonedd, ac yn afrwydd-deb i lwyddiant Teyrnas Nefoedd yn a thrwy yr eglwysi ? A beth os oes nifer aethus o'r cartrefi hyn a chanddynt ryw lun o aelodaeth eglwysig ? Na sonier am undebu eglwysi, ac am gynghreirio enwadau. Pan sonnir am hynny daw geiriau'r Gwaredwr o'n blaen, sef Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lan hefyd yr hyn sydd oddiallan iddynt.' Y diwygiad mwyaf ei chwyldroadaeth a'i genedlaetholdeb heddyw a fuasai diwygiad yn y teulu. Eto gan fod y teulu mor agos i bawb, a phawb yn perthyn i ryw deulu neu gilydd, prin,. neu o'r braidd y cred neb fod i'r teulu ei le mewn diwygiadaeth o gwbl. Yn y pellter y gwelir angen diwygiad o hyd gyda'r Iddewon neu yn Iwerddon, neu yn y wlad bellaf yn y byd, ac yn uffern am a wn i, erbyn hyn, 'sef yn Geriliani. Y mae i agosrwydd ei anfantais yn y byd hwn, ac eto mae'n rhaid wrtho. Yn y ddau deulu a roddasoni eisoes gerbron ceid dechreuad cyffelyb, ond ar eu hymdaith ym- bellhaent oddiwrth ei gilydd yn fawr. Glynai un ohonynt wrth symledd bywyd ac wrth eu Cymraeg, a chadwent eu crefydd a'-u haddoldy o genhedlaeth i genhedlaeth. Buan yr aeth y llall i scornio Cymraeg a Chymru yn ei chrefydd, ac am hynny aethant yn ddi-Dduw. A'r awgrym a gawn yn hyn yw, fod colli'r Gymraeg i Gvmro yn golli ei grefydd. Lie mae'r Gymraeg salaf, ac yn cael ei lladd gan Saesneg bratiog, yno mae crefydd iselaf. Y mannau goreu am eu Cymraeg yw'r goreu am eu crefydd hefyd. (Son ydys yn awr am werin Cymru, ac nid am ei hysgolheigion a'i haddysgwyr.) Ni buasem ymhell o'n lie pe dywedem na cheir eglwys Saesneg lewyrchus yng Nghymru o gwbl. Dy- lasai'r eglwysi Saesneg yn awr lwyddo yng Nghymru fel y llwyddai'r eglwysi Cymraeg hanner can mlynedd yn ol. Ceir gweinidogion ymroddedig a da yn yr eglwysi Saesneg, ond boddlonant i'r gosodiad y dylasai'r addoldai fod yn llawnach nag ydynt, a'r gwaith yn llawer iiiwy Ilewyrehits. Mae'n vvir taw gwag, o'u cymharu a'r hyn a fuont, yw'r capelaii Cyril- raeg; ond ni ddylid achwyn pan gofir niair Saeson a ddylifa i'r gweithfeyTdd a'r trefydd, a bod plant y Cymry yn colli eu Cymraeg. Yn araith Pedr Hir yng Ngheninen Ebrill, darllenir Wedi tyfu o'th blant, mynnant, er dy waethaf, adael dy dai addoli, a mynd ryw ychydig ohonynt i addoldai Saesneg, a'r mwyaf- rif mawr i'r lluniau byw a'r tafarnau a'r pare- iau. Ant i chware golff ac i gamblo ac i dorri Saboth, ac i fathru dan, en traed bobeth cysegr- edig. Dyna paham yr wyt ti'll byw ym Mhen- nant Gofid ac ar gyffiniau uffern.' Y mae hwn yn ddarlun du, ond er ei ddiiwch mae'n wir. Yr unig gysur i Gymro wrth edrych arno yw mai Saesneg yw iaith y golffwyr a'r gamblwyr a'r Saboth-dorwyr hyn. Iaith, yn wir A'r Gymraeg i'r Cymry ? Beth sydd mewn iaith ? Son gwiiion yw'r son fod crefydd yn fwy na iaith. Ydyw, mae bywyd yn fwy na'i fwyd; ond beth am fyw bywyd heb ei fwyd ? A chof- ier fod gan chwaeth ei rhan gyda ckrcfydcl fel gyda bwyd. Beth gwell yw'r Cymro o'r Gym- raeg fel crefyddwr ac addolwr ? Clywsom Dr. John Thorn;is yn dweyd yn yr Undeb yn Aber- dar (1886) mai cam cyntaf y Cymro i fynd i dir gwrthgiliad y-doedd, mynd at y Saeson. Os am berffeithio cymedad cenedlaethol Cymru, a gwella ei chrefydd a'i moes, cadwer ei Chym- raeg yn fwy dilwgr. Ac os am svella Cymraeg y Pulpud a'r Ysgol Sul a'r oedfa, dechreuer gyda'r plant ar yr aelwyd ac yn yr ysgol bob dydd. Rhaid wrth Gymraeg chware ac ymgom i'w chadw'n fyw yn y wlad. A wnawn gredu'll gryfach yn ein Cymraeg ? Pa iaith mor gref a hi ? Iaith y bryniau a'r mynyddoedd yTw'r Gymraeg. Beth yw Saesneg a Ffrangeg yn ymyl Cymraeg ? leithoedd flat yw rheiny. A wna'r fam a'r ferch gredu hyn ? Wedyn fe gred y tad a'r plant a phawb ynddi, mewn gwledd a gwyl.

Rhiwmatic ac Anhwylder y Kidney.