Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Cyfarfod Ordeinio -yn Amanford.

News
Cite
Share

Cyfarfod Ordeinio yn Amanford. Cynhaliwyd cyfarfod i ordeinio Mr. J. Morgan, Quay-street, Amanford, yn y Christian Temple, dydd Iau, Tacliwedd i8fed, am 2.30 o'r gloch, i gyflawn waith y weinidogaeth yn eglwysi Iesu Grist. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. D. Tegfan Davies, y gweinidog. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. E. J. Rosser Evans, Gwynfryn. Dywedodd y Llywydd fod duwiolfrydedd ac uniondeb ysbryd Mr. Morgan wedi gadael argraff ddofn arno teimlai ei fod yn ddyn Duw. Siar- adodd Mr. Davies yn uchel am wasanaeth a doethineb Mr. Morgan yn arwain yr eglwys honno tra yr ydoedd heb weinidog. Yr oedd wedi llenwi cylchoedd cymdeithasol pwysig heb ei andwyo gan ddyrchafiad. Yr oedd yn bregethwr ardderchog, a'i son yn yr holl eglwysi. Bu Mr. Morgan yn gyfaill hawddgar iddo ef oddiar y daeth yno. Llongyfarchai ef yn galonnog y dydd hwnnw, gan ddymnno iddo Dduw yn rhwydd. Daeth ymlaen yn awr Mr. J. Evans, New- road, ysgrifennydd medrus yr eglwys, yr hwn a wnaeth ohebiaeth yr eglwys ac a ofalodd am ei supplies oddiar marwolaeth ei diweddar hybarch weinidpg, y Parch.-I. C. Evans. Yr oedd Mr. J. Evans wedi ei benodi gan eglwys y Christian Temple i ddarllen yr anerchiad canlynol, oedd yn fynegiad o'i barch a'i ddymuniadau ef i Mr. j Morgan A nerchiad cyflwynedig gan eglwys y Christian Temple, Amanford, i'r Parch. John Morgan ar ei urddiad i waith y weinidogaeth, Tachwedd I Sled, 1915. ANNWYI, I'R A WD,—Gyda brwdfrydedd mawr penderfynasom fel eglwys eich urddo i waith y weinidogaeth Gristionogol. Dymunwn eich 11011- gyfarch fod y mudiad wedi cael cymeradwyaeth frwdfrydig Cyfarfod Chwarterol y sir, ac fod gweinidogion a lleygwyr y Cyfundebau cylchynol wedi datgan eu llawenydd am fod hyn yn cael ei wneud i chwi. Cyflwynwn i chwi yr anerchiad hwn fel arwydd o'n gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth anhunan- gar inni am flynyddoedd lawer. Dechreuasoch bregethu yn eglwys Hope, Pontardulais, yn 1881. Daethoch i'r lie hwn yn Awst, 1882, ac oddiar hynny yr ydych wedi bod yn pregethu y Gair o Sul i Sul yn ein heglwysi goren gyda chymer- adwyaeth uchel. Gwrthodasoch alwadau i gyf- lawn waith y weinidogaeth, eithr buoch yn fath o weinidog i nifer o eglwysi, a'r Nef yn itnig a wyr beth yw maint y daioni sydd wedi deilliaw oddiwrth eich gwasanaeth wrth bregethu i'r llu mawr sydd wedi eich gwrandaw. Hin hamcan pennaf ni, fodd bynnag, yw cof- nodi eich gwasanaeth diball ar hyd y blynydd- j oedd i ni fel eglwys. Prawf o'r syniad uchel a goleddwn am danoch yw ddarfod inni eich ethol yn ddiacon yn y flwyddyn 1907. Buoch yn gyfaill trwyadl i'n diweddar annwyi weinidog, y Parch. I. C. Evans, ac yn gynhorthwy iddo yn ystod blynyddoedd olaf ei weinidogaeth ac o'i farw ef hyd ddyfodiad ein gweinidog pres- ennol, y Parch. D. Tegfan Davies—cyfnod o bum inlynedd a hanner-huoch inni yn bopeth a ddymunem. I'ch rhan chwi y disgynnodd y gorchwyl o arwain cyfarfodydd yr wythnos, a gwnaethoch hynny gyda chryn fedr, doethineb a deheurwydd. Teimlem oil fod y llestr yn ddiogel pan fyddecli chwi wrth }- llyw. Dangosasoch un o anhep- gorion gweinidog yn eich pryder gofalus am yr eglwys a'i chysylltiadau. Atoch chwi yr edrychai y cleifion am gysur mewn adfyd, a'r blinderog am falm i wella briwiau bywyd. Pan fylchid ein teuluoedd drwy angeu, chwychwi a fu'11 cvfrannu iddynt o gysuron yr Efengyl ac yn gweini'r gymwynas olaf i'w hanwyliaid. Y mae eich gwasanaeth fel pregethwr \n dra chymeradwy. Traddodwch yr Efengyl yn wresog a dawnus, a baich eich cenadwri bob amser yw gwirioneddau hanfodol a chanolog Cristionog- aeth. Nid ydym yn ddiystyr, ychwaith, o'ch gwas- anaeth cyhoeddus i'r ardal. Cymerwch-ran flaen- llaw ymhob mudiad daionus. Yr ydych oddiar sefydliad ein Cyngor Dinesig wedi bod yn ddidor yn un o'r cynrychiolwyr, a dychwelir chwi ymhob etholiad ymron ar uchaf y rhestr, yr hyn a ddengys fod gan y trethdalwyr lwyr ymddiried- aeth ynnoch fel un teilwng i'w cynrychioli. Prawf o'ch safle yn y Cyngor yw ddarfod i chwi eisoes lanw cadair y Cyngor, a gwasanaethu yn rhinwedd eich swydd ar Fainc yr Ynadon, lie y cawsoch wroldeb i weinyddu a sefyll yn ddi- bryder wrth yr hyn oedd yn iawn. Yr ydych yn aelod ffyddlon hefyd o Fwrdd y Gwarcheid- waid, a cha'r tlodion ynnoch wr a gydymdeimla'n llwyr a hwynt ac a'u gwarchod yn dyner a gofalus. Dymunwn i chwi hir oes i barhau i wasau- aethu eich Duw a'ch cyd-ddyuion, a bendith gyfoethocaf y Nef i chwi a'ch teulu parchus. Arwyddwyd dros yr eglwys, D. TEGFAN DAVIES (gweinidog), D. J. JONES (trysorydd), JOHN EVANS (ysgrifennydd), JOHN I/MDYD, EVAN EVANS, J. C. JONES, DANIEL EVANS, JOHN THOMAS, J. E. JONES, JOHN THOMAS, EVAN JONES, T. J. REES, GEO. DAVIES, ISAAC WILLIAMS, THOMAS LAKIi a JOB THOMAS (diaconiaid). Cynghorwr Evan Evans a ddywedodd fod yn llawen iawn ganddo fod yn bresennol. Perchid Mr. Morgan yn fawr iawn gan y rhai a'i had- waenai. Gwnaeth wasanaeth arhosol yn eglwys y Christian Temple. Arweiniai yng ngliyfar- fodydd crefyddol yr eglwys oddiar marwolaeth ei diweddar weinidog. Dymunai iddo bob ben- ditli a gras. Mr. John-White, Pontardulais: Danfonwyd ef yno gan eglwys yr Hope i gario rhodd fechan o lyfrau gwerthfawr ynghyda dymuniadau goreu yr eglwys honno. Teitl y llyfrau ydoedd, The Expositor's Dictionary of Texts.' Rhaid eu bod yn dda, oblegid prynwyd hwynt ar air Dr. Morgan, eu gweinidog. Yn eglwys yr Hope y dechreuodd Mr. J. Morgan bregethu, tan weinid- ogaeth y diweddar Hybarch J. Thomas (Soar, Merthyr, wedi hynny). Cofiai Mr. Morgan yn dod i Bontardulais o Bethlehem, Cadle, yn 1879. Yr oedd yn ffyddlon yn holl gyfarfodydd yr eglwys, ac yn flaenllaw ynddynt oil. Dechreu- odd Mr. Morgan bregethu yn 1881. Symudodd, at fanteision addysg, i Amanford yn 1882. Bu Mr. Morgan ac yntau yn gyfeillion calon hyd heddyw. Mae'r eglwys wedi ysgrifennu yn y llyfrau hyn fel y canlyn :—' Rhodd fechan o eiddo eglwys Hope, Pontardulais, i un o'i plilant, Mr. John Morgan, Amanford, ar yr achlysur o'i urddiad i gyflawn waith y weinidogaeth Grist- ionogol, fel arwydd o'i serch tuagato a'i dymun- iadau goreu iddo. Arwyddwyd dros yr eglwys gan D. Uoyd Morgan, D.D. (gweinidog), John White (ysgrifennydd), Thomas Jones (diacon). Tachwedd i8fed, 1915.' Mr. Thomas Jones, Pontardulais Dlawenydd iddo yntau oedd sefyll fan honno yn enw eglwys yr Hope i longyfarch Mr. J. Morgan ar ddydd ei urddiad i waith y weinidogaeth. Cofiai yn dda y gyfeillach honno pan ofynnodd y Parch. J. Thomas, eu gweinidog y pryd hwnnw, ar ol chveyd am gymwysterau Mr. Morgan i'r weinid- ogaeth, A oedd yno ry wrai gynygiai ein bod yn ceisio gan Mr. Morgan ymgysegru yn hollol i'r gwaith ? Teimlai ef yn falch y prydnawn hwnnw ei fod wedi ymgymerycl a'r gorchwyl hynny. Mae'r gwasanaeth mawr wnaeth Mr. Morgan yn yr eglwysi wrth bregethu wedi 11wyr gyfiawnhau ei ymgymeriad. Dymunai iddo fendith ac an- rhydedd gweison yr Arglwydd. Parch. E. J. Rosser Evans Safai ef yno dros eglwys y Gwynfryn i dd}*niuno'ii dda i Mr. Morgan. Gwasanaethodd yr eglwys gyda bodd- lonrwydd ac adeiladaeth gyffredinol. Yr oedd y cyfarfod hwnnw yn un eithriadol hyd yn oed yn yr Enwad Annibynnol. Arfer yr Enwad ydoedd ordeinio gweinidogion i eglwysi neilltuol, ond ordeinient Mr. Morgan i wasanaeth yn yr eglwysi yn gyffreclinol. Yr oedd esiamplau o urddiadau eyffeIyb wedi bod o'r blaen, ond eithr- iadau oeddent. Safle, gwasanaeth a thalent y cyfryw oedd yn cyfrif am yr anrhydedd osodid arnynt yn ein Henwad, megis Watcyn W yn, prifathrawon a phroffeswyr ein colegau, ac eralll. Teimlai fod Mr. Morgan wedi ennill yr anrhydedd osodid arno y dydd. hwnnw. Dymunai Dduw yn rhwydd iddo. Parch. W. D. Roderick, Rliiwfawr Yr oedd yn bleser mawr iddo ef fod yn bresennol y dydd hwnnw. Adwaenai Mr. Morgan yn dda. Mynych y profodcl haelfrydedd ei gymdeithas a'i gyfeill- garwch. Yr oedd ei gwmni bob amser yn galon- did ac ysbrydoliaeth, ei gymeriad yn aml-ochrog, a'i feddwl yn llawn gwybodaeth fuddiol a chwedl ddigrif. Bu Mr. Morgan yn ufudd i wasanaethu ymhob cylch ufuddhai gydag urddas i bob cais a gorchymyn. Nid oedd chwerwder yn ei natur. Yr oedd ef yno i ddymuno i Mr. Morgan iechyd ac estyniad dyddiau i fwynhan yr an- rhydedd fawr osodid arno y dydd hwnnw. Parch. J. Griffiths (B.), Aiiialiford Dymunai longyfarch Mr. Morgan. Adwaenai ef yn dda, ac o'r adnabyddiaeth honno y cododd einbarch iddo, a gwerthfawrogai ei gyfeillgarwch yfawr. Yr oedd natur wedi donio Mr. Morgan Y11 neill- tuol a dawn cysuro y galarus a chalonogi yr afiach, ac yr oedd gras wedi ychwanegu at effeitliiolrwydd y dawn hwnnw. Yr oedd ef yn bregethwr cviiorthwyol yng ngwir ystyr yr yinadrodd—cynorthwyol i'r weinidogaeth ymhob man. Yna galwyd ar y Parch. W. Davies, Llandeilo, i holi cwestiynan. Dywedodd ei bod yn arfer yn Enwad yr Annibynwyr i holi ychydig gwest- iyuau i'r ordeiniedig er mwyn ch-wed ganddo ei brofiad ysbrydol, ychydig o'i hanes fel Cristion a'i ddaliadau diwinydclol. Carai dclweyd. gair cyn holi'r gofyniadan. Yr oedd yn galonnog yii llongyfarch Mr. Morgan, ac yn ategu popeth oedd wedi ei ddweyd yn 3" cwrdd hwnnw mewn ffordd o gymeradwyaeth. Ond hefyd yr oedd am bwysleisio'r ffaith, er fod yr ordeiniad yn y. Christian Temple, eto nid yr eglwys honno oedd yn ei ordeinio. Pasiwyd penderfymad yng Nghjmliadledd Cwrdd Chwarter y Cyfnlldeb ym Mhenygroes yn awdurdodi'r urddiad hwn, ac yr oedd Mr. Morgan yn cael ei urddo gan y Cyf- undeb at wasanaeth y weinidogaeth 3-11 yr eglwysi yn gyffredinol. Yr oeddent oil yn gwbl argy- hoeddedig fod Mr. Morgan wedi profi ei hun, trwy wasanaeth cyson a maith, yn deilwng o'r safle a'r anrhydedd o osodid arno. Yna holodd Mr. Davies ofyniadau ynghylch profiad, cymer- iad ac athrawiaeth Mr. Morgan. Atebodd yntau yn glir a syml. Teimlem ddiddordeb dwfn iawn yng nghysylltiaclau teuluol Mr. Morgan a Tir- donkyn. Dywedodd Mr. Davies ei fod wedi ei foddloni yn yr atebion. Yna offrymodd y Parch. J. Evans, Bryn, Llanelli, yr urdd-weddi, a phregethodd y Parch. D. Dloyd Morgan, D.D., Pontardulais, siars i'r ordeiniedig. Wedi i'r Parch. T. Thomas, Gorseinon, lefaru geiriau llongyfarchiadol, ac i'r Parch. J. Morgan ddiolch i'r gynnlleidfa luosog iawn oedd wedi ymgynnull, i'r siaradwyr am eu geiriau caredig, ac yn enwedig am deimlad da cglwys y Christian Temple, terfynodd y Parch. D. Tegfan Davies trwy weddi. Gwasanaethodd Mr. Gwilym Jones wrth yr organ gyda'i fedr arferol. Yn oedd yn bresennol y Parchn. W. Davies, Dlandeilo J. Griffiths, B.A., B.D. E. J. Rosser Hvans, Gwynfryn, a D. Tegfan Davies, Aman- ford D. J. Morris, Ellis Jones a Penar Griffiths, Pentre Estyll; W. D. Roderick, Rhiwfawr W. Bowen, Pcnygroes W. D. Thomas, Brynaman T. M. Price, Llanon D. Harford Evans, Cross- hands W. R. Lloyd, Siloh D. Lloyd Morgan, D.D., Hope, a G. jones, Capel Newydd Hendy, Pontardulais; J. C. Evans, Llandebie D. J. Moses, B.A.,Tycroes D. H. Thomas, Gorseinon D. Ffrwdwen Lewis, Felindre J. Evans, Bryn, Llanelli Mri. J. Davies a W. Evans, Gwynfryn J. Phillips, Bryn Seion, Glanaman; J. White a T. Jones, Pontardulais, ynghyda diaconiaid y Christian Temple. Pregethodd y Parchn. W. Bowen, Penygroes, a Penar Griffiths, Pentre Estyll, yn yr hwyr. Paratodd eglwys y Christian Temple de i'r holl ymwelwyr yn y festri wrth y capel. Yr oedd y byrddau wedi eu haddurno gan flodati liardd, a chwiorydd serchog yn gweini wrth y byrddan. JOHN EVANS, Ysg. Cyfundebol. O.Y.Aeth yr adroddiad hwn ar gyfeiliorn trwy amr37fusedd. j-E

Advertising