Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

> Y WERS SABOTHOL. | > 0

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

> Y WERS SABOTHOL. | > 0 ———— V WER8 RYNGWLADWRIAETHOL. f ► Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., TREFFYNNON- ► Ionawr gfed.—Dyfodiad yr Ysbryd Glan.— Actan ii. 1-13. Y Testyn Euraidd.—' Oni wyddoch chwi mai teml Duw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynnoch ? '-1 Cor. iii. 16. llH A GAR WEINIOL. DIDI) y Pentecost.—Dyma'r enw a roddir yn y Testament Newydd ar un o brif wyliau coffad- wriaethol yr Iddewon. Ystyr yr enw ydyw, deg a deugain.' Rhoddid yr enw hwn iddi am mai ar y degfed dydd a deugain wedi'r Pasg yr oedd i gael ei chynnal. Gelwir lii yn yr Hen Destament wrth enwau eraill, megis gwyl yr wythnosau, am fod saith wythnos i fod cyd- rhwng yPasg a'r Pentecost; gwyl y cynhaeaf,' am y cynhelid hi er talu diolch am y cynhaeaf, llawenydd y gyfraith,' am mai ar yr adeg hon, fel y tybid, y rhoddwyd y ddeddf i Moses ar Sinai. Gelwir yr wyl yn awr, Y Sulgwyn.' Ar y dydd nodedig hwn y tywalltwyd yr Ysbryd Glan ar y disgyblion yn Jerusalem. Cymhwys- wyd ac awdurdodwyd hwy i gyhoeddi newydd- ion da teyrnasiad y Messiah, nid i drigolion Jerusalem yn unig, ond, yn eu hiaith eu hun, i bob cenedl dan y nei. Wedi gweled yr Iesu yn esgyn i'r nef, dychwelodd y disgyblion i Jeru- salem, a dywedir eu bod oil yn parhau yn gytuu mewn gweddi yn disgwyl am gyflawniad yr addewid a roddasid iddynt, sef y derbyniasent nerth yr Ysbryd Glan cyn nemawr o ddyddiau. Cyflawnwyd yr addewid ar dydd y Pentecost. Sefydlwyd yr Hen Oruchwyliaeth trwy roddiad y ddeddf ar Sinai, a sefydlwyd yr Oruchwyl- iaeth Newydd trwy dywalltiad yr Ysbryd Glan ar ddydd y Pentecost. HSBONIADOL. Adnod x.—' Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oil yn gytun yn yr un lie.' Ac wedi dyfod dydd y Pentecost. Neu, Wyl y Pentecost.' Tybir mai y Saboth Cristionogol ydoedd y dydd hwn. Yr oedd wedi dyfod (f ully come). Yr oeddynt hwy oll. Sef yr ugain a chant sonnir am danynt yn y bennod flaenorol. Yn gytun. Gyda'u gilydd yn yr un lie, ac yr oeddynt o un meddwl ac o un galon, yn dymuno ac yn disgwyl am yr un peth. Yn yr un lie. Yn yr oruwchystafell, lie yr arferai y disgyblion ymgasglu. Tybia llawer mai yn y deml oeddynt. -Adnod 2.—'Ac yn ddisymwth y daeth swn o'r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lan- wodd yr holl dy lie yr oeddynt yn eistedd.' Ac yn ddisymwth. Yn ddirybudd. Yr oeddynt yn disgwyl cyflawniad addewid yr Iesu, ond ni wyddent pa fodd. Daeth ?M?M o'r nef. Swn megis gwynt nerthol yn rhuthro. Nid ydym i feddwl fod yno wynt yn rhuthro, ond fod y swn yn debyg i swn a gynhyrchir gan wynt ystormus. Yr oedd yna arwyddion allanol o sylwedd ysbrydol. Daeth y swn o'r nef yn arwyddo mai o'r nef y deuai y dylanwadau dwyfol. Llan- wyd yr holl dy lie yr oeddynt yn eistedd gan y swn. Yr oedd y gwynt yn arwyddlun o'r Ysbryd Glan yn ei weithrediadau-yn anwel- edig, yn nerthol, ac yn ddirgel. Adnod 3.—'Ac ymddanghosodd iddynt daf- odau gwahanedig megis o dan, ac efe a eistedd- odd ar bob un ohonynt.' Ac ymddanghosodd iddynt dafodau gwahanedig megis 0 dan. Cyf. Diw., Yn ymwahanu oddiwrth eu gilydd megis o dan.' Y fflam yn ymwahanu megis tafodau. Megis tan. Nid yn llosgi, ond yn llewyrchu megis tan-yn ymddangos yn danbaid ddisglair. Ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. Gorffwys- odd y tafodau gwahanedig ar bob un oedd yn y ty. Nid yn unig yr apostolion, ond pob un- y gwyr a'r gwragedd hefyd. Yr oedd y tafodau yn arwyddlun o ddoniau yr Ysbryd Glan. Adnod 4.A hwy oil a lanwyd a'r Ysbryd Glan, ac a ddechreuasant lefaru a thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd.' A hwy oll'.J Cynifcr ag oedd yn y ty. A lamvyd a'r Ysbryd Glan. A fedyddiwyd a'r Ysbryd Glan. Derbyniasant ne-rthoedd yr Ysbryd Glan i weith- redu arnvnt. Ac a ddechreuasant lefaru a thaf- odau eraill. Mewn canlyniad i dderbyn nerth- oedd yr Ysbryd Glan, dechreuasant lefaru mewn tafodieithoedd eraill—tafodieithoedd anadnab- yddus iddynt o'r hlaen-tafodieithoedd y cen- hedloedd a nodir yn yr adnodau dilynol. Megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. Yr oeddynt yn liefaru yn ol fel yr oedd. yr Ysbryd yn rhoddi ymadrodd ar y pryd. Nid oedd hon yn ddawn parhaus, ond dawn i gyfarfod a'r amgylchiadau. Adnod 5.—' Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem, Iddewon, gwyr bucheddol, o bob cenedl dan y nef.' Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem. Yn aros ar'y pryd hwn yn Jerusalem. Iddewon, gwyr bucheddol. Iddewon defosiynol, yn disgwyl am ymddanghosiad y Messiah. 0 bob cenedl dan y nef. Yr oedd y rhan luosocaf o'r genedl Iddewig yr adeg yma yn wasgaredig ymysg y gwahanol genhedloedd, ond deuai y rhai crefyddol ohonynt i Jerusalem i gadw y gwyliau gosodedig. Adnod 6.—' Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oher- wydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun.' Ac wedi myned y gair o hyn Cyf. Diw., 'A phan glybuwyd y swn hwn. Y swn oedd wedi llenwi'r ty. Yr oedd y swn mor fawr fel y clywid ef gan y lliaws oddiallan. Daeth y lliaws ynghyd. At y lie yr oedd canlyn- wyr Crist wedi ymgasglu. Ac a dra.lhd.wyd. Neu, 'A gynhyrfwyd.' Taflwyd y lliaws i ddy- ryswch gan y swn a chan y ffaith eu bod yn eu clywed hwy yn llefaru yn eu hiaith hwy. Clyw- ent hwy yn llefaru eu tafodiaith eu hun. Naill ai yr amrywiol ddisgyblion yn llefaru auirywiol ieithoedd-pob un mewn rhyw un iaith yn unig -neu yr un personau yn siarad un iaith yn awr ac iaith arall bryd arall.' Adnod 7. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyf- eddu a wnaethant, gan ddy wedyd wrth eu gilydd, Wele, onid Galileaid yw y rhai hyn oil sydd yn llefaru ? HTele. Arwydd o syndod- Onid Gali- leaid yw y rliai hyn oll sydd yn llefaru Yr oedd un ar ddeg o'r disgyblion o Galilea. Ystyr- rid y Galileaid yn gyffredin yn rhai diddysg. Y rhyfeddod ydoedd fod dynion o'r un dalaitli, ac a ystyrrid yn anwybodus, yn gallu llefaru mewn gwahanol dafodieithoedd. Adnod 8. A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y'n ganed ni ? Yn ein hiaith ein hun, yn yr hwn y'n ganed ni. Iaith ein 111 am a u. Estroniaid o dalaith annysgedig yn llefaru ein hiaith yn v priod-ddulliau hynny na ddiclion neb eu meistroli ond rhai wedi eu magu yn ein gwlad.' Nid oedd gymaint ag un o'r holl wahanol genhedloedd nad oedd y disgyblion yn gallu llefaru yn ei iaith. Adnod 9. Parthiaid, a Mediaid, ac Elauiit- iaid, a thrigolion Mesapotamia, a J udea, a Chap- padocia, Pontus, ac Asia.' Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid. Gwledydd yn Persia. Ymysg y bobl hyn y gwasgarwyd y deg llwyth gan Shal- maneser, brenin Assyria (gwêl 2 Bren. xvii. 6, xviii. 11). A thrigolion Mesopotamia. Y wlad rhwng y ddwy afon Euphrates a'r Tigris. Judea. Yr adran ddeheuol o wlad Canaan. Cappadocia, Pontus, ac Asia. Yr oedd y rhai hyn yn Asia Leiaf. Wrth Asia golygir Proconsular Asia. Adnod 10.—' Phrygia, a Phamphylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrenc, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselyt- iaid.' Phrygia, a Phamphylia. Taleithiau eto yn Asia Leiaf. Yr Aifft. Gwlad yn y gogledd- ddwyrain o Afirica. A pharthau Libya. Rhaunau gogledd-orllewin i Affrica a'r Aifft. Gerllaw Cyrene. Dinas a thalaith rhwng Libya a Mor y Canoldir. Dieithriaid o Rufeinwyr. Iddewon o Rufain yn siarad Lladin. Adnod 1 1 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym tii yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni tawrion weithredoedd Duw.' Cretiaid. Trig- olion Crete, yr hon a elwir yn awr Calidia-ynys ym Mor y Canoldir. Ambiaid. Gwlad yn Asia, rhwng y Mor Coch a Chulfor Persia. Yr ydym yn eu clywed hwynt yn llefaru. Y disgyblion oedd yn llefaru y tafodieithoedd hyn, a'r cenhedloedd yn gwrando ac yn deall. Fawrion weithredoedd Duw. Yr anilygiad o gariad Duw yn nanfoniad Ei Fab-lianes Ei fywyd a'i weithredoedd nerthol, Ei farwolaeth, Ei adgyfodiad, a'i esgyn- iad. Adnod 12.—'A synasant oil, ac ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod ? A synasant oil, ac a ameuasant. Yr oeddynt wedi myned i ddyryswch, ac nis gallent roddi cyfrif am yr hyn welent ac a glywent. Beth a all hyn fod ? Beth yw yr achos a diben o hyn oil ? Cydymholent a'u gilydd. Adnod 13.—'Ac eraill, gan watwar, a ddywed- asant, Llawn o win melys ydynt.' Ac eraill, gan watwar. Y rhai oedd elynol i Grist a'i ddis- gyblion. Iddewon o Judea a Jerusalem. Yr oeddynt yn llawn llid a rhagfarn. Dywedent 'Llawn o win melys ydynt.' Taerent mai meddwon oeddynt, ac yn siarad baldordd fel meddwon. Tra yr oedd y dosbarth goreu o'r edrychwyr yn svnnu ac yn petruso—heb amcanu esbonio'r olygfa—yn gwneuthur dim mwy na datgan eu dyryswch yn y cwestiwn, Beth all hyn fod ? yr oedd eraill—rhai oddiar ysbryd anystyriol, ac eraill oddiar atgasedd at ddis- gyblion yr Iesti-yn gwatwar. Gofyniadau AR Y Wbrs. i. Beth ydyw ystyr y gair Pentecost ? Pa enwau eraill a roddir ar yr wyl hon ? 2. Pa le yr oedd disgyblion Crist ? Beth ddywedir am danynt ? 3. Pa beth ddigwyddodd lie yr oeddynt yn eistedd ? 4. Beth oead ffurf ymddanghosiad yr Ysbryd ar y disgyblion ? 5. Beth oedd effaith disgyniad yr Ysbryd ar y disgyblion ? 6. Nodwch y gwahanol genhedloedd oedd yn trigo yn Jerusalem ar y pryd. 7. Paham yr oeddynt yn synnu ac Y11 rhyf- eddu ? ID 8. Am ba bethau 3^ Hefarai y disgyblion ?j|Hf 9. Beth^ddywedai y rhai oedd Y11 gwatwar am y disgyblion ?

BETHANIA, TREORCI.

Advertising