Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
I CWYN COLL
News
Cite
Share
CWYN COLL Am Mr -Wiltiam Ellis, A.C. (Alaw Cynori), Abercynon (Ooedpoeth gynt), yr hwn a'n gadawodd fore Saboth, Ghwefror 21ain, 1915, yn 5P mlwydd oed. OFER ydyw codi prydles Ar dangnefedd yn y byd Niwliog ydyw ymdaith hanes, Sefyll raid wrth fedd o hyd Oeraidd oedd y Chwefror hwnnw, Gwywai anian dan ein trood; Ond gwnaeth marw William Ellis Hwn yn oerach nag erioed. Pwy all feio teimlad tyner Am ddihidlo'n ddwys ar oi Cyfaill oedd a'i wen bob amser Fel y wawr ar feillion dot ? Yn ei wedd yr oedd hynawsedd Yn pelydru ar bob pryd Urddasolrwydd ac anrhydedd A dywynnai drwyddo i gyd. Ni chwenychodd gyhoeddusrwydd Ar lwyfannau gwlad na thref; Byw yn ddistaw mewn symylrwydd- Dvna oedd ei bleser ef Llwybrau geirwon gonest gweithiwr A gysegrodd ar eu hyd Llawn o'r prydferth dangnefeddwr, Heb un daran yn ei fyd Teithiodd lwybrau defnyddioldeb, Hoffai'r dyledswyddau mân; Gwasgar ddarfu ei oleuni, Dysgodd lu yng nghylchoedd cAn Troes ei allu yn wasanaeth— Gloywodd ddolydd rhin a moes; Cerddodd trwy bob goruchwyliaeth A'i olygon ar y Groes. Bu ym Marah fwy nag unwaith, Ac yn Elim lawer awr Cafodd drwy ffenestri gobaith Edrych ar binaclau'r wawr: Ca'dd o'r I graig'ffynbonnau dyfroedd, Dwyfol ddiod cariad rhad Cafodd hefyd fanna'r nefoedd Ar ei ymdaith tua'r wlad. Dyn yn dweyd yn glir ei brofiad Mewn brawddegau gonest, clir Blaenor gloyw ei gymeriad- Dyn yn siwr o ddweyd y gwir Carodd Iesu trwy ei fywyd, Glynodd wrtho hyd ei fedd Yn Ei winitan bu yn ddiwyd, Wrth Ei draed yr oedd ei hedd. Hyfryd oedd ei oriau olaf, Pan yn mynd i groesi draw; Rhwymyn euraidd y cyfamod Wasgai'n dynnach am ei law; Gwasgodd ymaith ei bryderon, Iddo weld enfysau hedd; Croesodd gydag engyl hyder, Ddigon cryf i ddal y gwynder, Wrth oleuni bwrdd y wledd Pontypridd. T. JOÑES (Arfonfab).
MASNACH A'R RHYFEL.
News
Cite
Share
MASNACH A'R RHYFEL. GAN BURLAIS. Bodola cryn lawer o anwybodaeth ac an- nealltwritieth drwy'r wlad ydghyleh polisi'r Weinyddiaeth ynglyn a masnach dramor ein gelynion ac yn Nhy'r Arglwyddi ddydd Llun cyn y diweddaf gwnaeth Arglwydd Crewe ymdrech deg i chwalu'r cymylau. Cofie i'r Almaen, fisoedd yn ol, esgor ar gynllun i ddiddymu masnach dramor PrydainFcIowr drwy offerynoliaeth y submarine, gan fygwth dis trywio pob Hong Brydeinig ar y cefnfov, a pheryglu bywydau morwyr a theithwyr Pryd- einig ac arallyn ddiwahaniaeth. Mewn atabiad i'r cynllun anfoesol hwn o eiddo'r gelyn, mab- wysiadodd yLlywodraeth fesurau effeithiolach na chynt i atal nwyddau o bob math rhag cyrraedd Germani, a hefyd rhag gadael porth- laddoedd ein gelynion ar eu taith i wledydd tramor. Yng ngeiriau'r Prifweinidog, pender- tynodd Prydain a Ffrainc ddal ac arwain i'w porthladdoedd eu hunain unrhyw long a dybid naill ai ei bod ya eiddo i'r gelyn neu yn cludo nwyddau oddiwrtho neu ato Wele eiriau'r mesurau a fabwysiadwyd bryd hynny, sef ar yr lleg o Fawitti: 1. Ni chaniateir i long masnach a hwyliodd wedi Mawith laf, 1915, fynd at ei thaith i borthladd a berthyn i'r gelyn. 2. Ni chaniateir i long masnach a hwyliodd o German! wedi Mawrth laf, 1915, ag unrhyw fath ar nwyddau, fynd are! thaith. 3 Bydd hawl gan Brydain a'i Chynghreiriau i orfodi pob llong o eiddo'r gelyn, neu a gludo nwyddau drosto, i fyud i borthladd arbennig a dadlwytho. Gadawai'r mesurau hyn yr argraff atal ohonom bob nwyddau rhag cyrraedd Germani neu ymadael oddiyno, ac y byddai hynny'n effeithiolach moddion i ddwyn y gelyn i syl- weddoli grym a Uwyddiant ein llynges. Yn yr araith y cyfeiriasom ati, dywedai Arglwydd Crewe nad oedd yr argraff hwnnw yn un hollol gywir. Nid ein hamcan oedd torri ar draws bob cyfraith a rheol masnach rhyngom a gwledydd tramor, ond yn hytrach cryfhau gwarchae ein llynges yn unol a chyfreithiau ac egwyddorion cydnabyddedig Nid ein polisi ychwaith yw atal pob nwyddau rhaQ; cyrraedd ein gelynion, ond yn hytrach y nwyddau hynny sydd, neu a all fod, o ddefoydd iddynt i ryfela yn ein herbyn Mewn geiriau eraill, nwyddau gwabarddedig yn unig oedd gan Mr Asqaith mewn golwg, a chan y Weinyddiacth pitu yn trefnu'r mesurau a fabwysiadwyd ym mis Mawith. Mae'r hyn a elwir y Declaration of London yn gosod i lawr yn bendant pa nwyddau a ddylid gyfrif yn nwyddau gwaharddedig pan fo rhyfel. Ar ein cyfrifoldeb ein hunain yr ydym, oherwydd erchyllterau Germani yn bennat, wedi ychwanegu llawer at nifer y nwyddau a ystyrrid yn waharddedig gan y Declaration of London; a rhaid i ni wynebu r ffaith na ellir gwahardd nwydd wrth osod lebel tgwaharddedig'arno, a ninnau am weithredu yn unol a chyfreithiau rhyngwladol. Mae i wledydd amhleidiol eu hiawnderau ac ymhlith y rhain yr hawl i farchnata a thrafoidio gelynion. Mae inni'r hawl i atal y cyfryw fasnach os bydd yn gwneud niwed i'n hachos neu yn fanteisiol i'r gelyn a dyma'r egwyddor sydd wrth wraidd y cytundeb a wnaetkoai yn ddiweddar a Denmark—cytundeb y bu cymaint o daranu yn ei erbyn, er na wyr neb tuallan i'r Weinyddiaeth beth yw ei gynnwys. Credwn y byddai'n ddoeth inni adael Germani dderbyp o wledydd tramor ei digonedd o foethau na fo'n ychwanegu at ei nerth milwrol Byddem, wrth hynny, yn gwanhau ei sefyllfa ariannol wrth ei gorfodi i dalu am y cyfryw foethau ag aur Y mae gennym ffydd ddisigl ym mholisi masnachol y Weinyddiaeth; ar yr un pryd, byddai'n dda gennym pe bai'r Llywodraeth yn trosglwyddo mwy o wybodaeth i'r cyhoedd. Credwn y byddai hynny'n arbed llawer iawn o gam- syniadau niweidiol.
I - LLBF O'R ANIAL.-
News
Cite
Share
LLBF O'R ANIAL. Tu draw I'r tew gymylau ar bob llaw Mae teg ororau'r byd a ddaw 'Does briw na braw yn blino'r rhai Sy'n chwyddo byth yr anthem gref Yn lion eu lief mewn hedd didrai. Pa bryd Caf roi ffarwel i'r anial fyd, A chroesi'r lli' i'r Ganaan glyd ? Yn iach o hyd yw'r dedwydd lu Ar Seion fryn sydd gyda bias Yn canmol gras ein Ceidwad cu. Hoff wlad! Lie ni ddaw gofid blin na brad, Lie mae y saint mewn pur fwynhad: Yn nhy ein Tad 'does neb yn brudd- Mae dyfroedd byw, trigfannau braf, Tragwyddol haf i deulu'r ffydd. 0 Dduw Gaf ft, bechadur gwael ei ryw, Ddod yna atat Ti i fyw ? Fy ngweddi clyw, a gad i mi Gael eilio fry yn Sdem lan Y newydd eftn' o fawl i Ti. Ebenezer, Caerdydd.. PERERIN.
I INODION LLENYDDOL. I-
News
Cite
Share
'Cofvant y Parch. Edward Humphreys. UN o brif weinidog- ion y Wesleaid Cym- reig oedd y Parch. Edward Humphreys fu farw yn 1913 yn 67 mlwydd oed, wedi oes o wasanaeth ardderchog i'w enwad a'i Feistr yng ngweinidogaeth y Gair. Clyw- som ef yn pregethu rai gweithiau, a gad- awodd argraff ffafriol iawn arnom ond rhaid i ni gyfaddef na thybiasom erioed ei fod y dyn da, cryf, addfwyn, duwiol a galluog a gyfleir ger ein bron mor deg a dirodres a thyner yn y gyfrol brydferth hon. Onid yw yn drueni na baem fel gweinidogion y gwahanol enwadau yn adnabod ein gilydd yn well yn ystod ein bywyd, ac na feddem rhyw gyfrwng i gyfathrachu a'n gilydd lawer mwy nag y gwnawn ? Er hynny, prof a'r llyfr hwn ein bod yn llawer mwy cymdogol a gwerth- fawrogol o'n gilydd nag oeddym yn nydd- iau mebyd Edward Humphreys. Y Parch. Edward Davies, gweinidog gyda'r un enwad a'r gwrthrych, yw awdur y Cofiant. Bu Mr. Davies a Mr. Humphreys yn gyfeillion agos, a rhy hyn iddo fantais i bortreadu a chyfleu bywyd Mr. Hum- phreys gyda medr mawr. Ysgrifenna yn ddeniadol iawn. Dengys farn dda wrth drefnu a dewis ei ddefnyddiau—er prinned oeddynt-ac nid yw ei edmygedd a'i gariad at ei gyfaill yn ei arwain i ormodiaeth nac annoethineb. Hannai Mr. Humphreys o linach Anni- bynnol. Yr oedd ei rieni yn Annibynwyr duwiol a selog, a'i fam yn gyfnither i Ap Fychan, a llawer o dalent y teulu ynddi. Yn Glanafon, rhwng Iylangynnog a Phen- ybontfawr, y ganwyd Mr. Humphreys yn 1846, ond pan oedd efe yn dra ieuanc symudodd ei rieni i' Lanblodwel, gan ymuno a'r eglwys yn Smyrna, Nantmawr. Ond trodd Edward yn Wesley' pan yn hogyn dengmlwydd, a hynny oherwydd amryfusedd a bai plentynaidd. Gofidiai hyn y fam yn fawr, oblegid yr oedd yn caru Independia Fawr' a holl rym a gwres ei meddwl a'i chalon. Ond Weslead fu Edward o hynny allan. Eithr bu hyn bron a'i faglu ar gychwyniad ei yrfa bregethwrol, canys yr oedd gormod o arddull yr Annibynwyr ar ei bregeth a'i draddodiad i foddhau rhai o'i frodyr, hyd yn oed arolygydd y gylchdaith, y diweddar Dr. Samuel Davies. Yn wir, gwrthodai Edward gyngor a chy- morth ei fam ei hun am yr ofnai i neb dybio fod ei dylanwad ar ei arddull o bregethu.' Sibrydid mai'r ddawn Anni- bynnol' oedd ganddo, ac yr oedd hynny yn milwrio yn ei erbyn Mae peth fel hyn bron yn anhygoel heddyw, ac eto yr oedd yn ffaith hanner canrif yn 01. Modd bynnag, trwythwyd Mr. Hum- phreys yn fuan a holl rin y ddawn Wes- leaidd, nes yr oedd hyd yn oed Dr. Samuel Davies yn methu sawru Annibyniaeth arno A daeth yn fuan yn un o gedyrn ei enwad fel gweinidog, trefnydd, arolygydd a phreg- ethwr. Ac uwchlaw popeth, daeth yn sant mawr ac mae bywyd o fath ei un ef yn werth i'w gofio a'i barchu gan Gymru gyfan. Mae'r pregetliau geir yn y gyfrol yn llafurfawr a meddylgar, ac wedi eu llunio yn fedrus ond wedi'r cyfan y preg- ethwr ei hun a roddai fywyd ynddynt. Mae rhai pethau ieithyddol yn y llyfr sy'n peri chwilfrydedd i nI. Paham y gelwir pregethwr fyth a hefyd y gennad,' yn y rhyw fenywaidd ? Nes peri i'r gennad deimlo y dylai gysegru ei alluoedd a'i amser,' &c. Eto, gwraig rhinweddol,' nodwedd cyffelyb, credeb," pertrwydd- air,' &c. Ond nid yn fynych y ceir llyfr Cymraeg a'i orgraff mor gywir, a'i arddull yn fwy chwaethus. Pris 3 Cyhoeddwr: Evan Thomas, Bangor.