Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
'Y TYST 'AM 1916.1 1
News
Cite
Share
'Y TYST 'AM 1916.1 AT BIN DARUvENWYR. YR ydym wedi gwneud ein goreu i was- anaethu ein Henwad a Chrefydd an Gwlad yn ystod 1915 dan lawer iawn o anfanteision. Mae y Rhyfel yn ei hamryfal agweddau ac effeithiau wedi mynd a sylw pawb, fel mai ychydig gydymdeinilad na diddordeb ddanghosir tnagat newyddiadur crefyddol ac enwadol. Y llynedd apeliasom am fwy o ymdrech a chymorth oddiar law yr eglwysi a'r gweinidogion i sicrhau ychwaneg o gefn- ogaeth a chylchrediad, a chawsom rai geiriau caredig a gwerthfawrogiad o'n llafur fu yn sirioldeb a symbyliad mawr i ni. Ond prin iawn fu'r gefnogaeth ymar- ferol a sylweddol. A gawn ni eto erfyn ar i'r gweinidogion a swyddogion yr eglwysi gymell y TYST i sylw a chroesaw eu pobl fel yr unig bapur wythnosol sy'n cysegru ei hun yn gyfangwbl i fuddiannau a hanes a llwydd ein Henwad ? Pery'r ysgrifenwyr medrus sydd eisoes yn adnabyddus trwy Gymru gyfan fel tlenorion a sylwedyddion craff ac effro i gyfoethogi ein colofnau yn ystod 1916, a chroesawn bob gohebiaeth fo'n dyrchafu y gwir, ac yn meithrin crefydd, ac yn diddori'n iach a dyrchafol. Y GOLYGYDD.
AT EIN GOHEBWYR. I
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. I Mewn Z?ai?.—Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin—Seilo Facli y Myn- yddoed.d-O-erddoriaeth a Cherddorion-Llan- silin-Cyfarfodydd, &c.
BYODIN YR OEN AR ENCIL.I
News
Cite
Share
BYODIN YR OEN AR ENCIL. dl ,j. BOB tro y clywir am filwyr dewr Prydain a'u Cyfeillion yn cael eu gorfodi i roi i fyny safleoedd cedyrn, oeddynt wedi ennill trwy aberoedd o waed a gwrhydri anhy- goel, daw ton o brudd-der dwys a dwfn dros galon pawb ohonom a chysur go brin geir o'r eglurhad swyddogol fod yr encil yn angenrheidiol ac wedi ei gario allan yn llwyddiannus. Felly y teimlid pan orfu i'r Rwsiaid ffoi o Poland a'r Prydeinwyr o Gallipoli, ac erys stori'r encil o Sulva Bay a'r Anzac, ar ol y fath, orchestion anferth i'w hennill, yn graith lem ar galon Prydain ac Awstralia a New Zealand tra bo dwr yn rhedeg. A'r unig ystyriaeth bar inni ddygymod a'r anffawd yw fod y fuddugoliaeth ar y gelyn i'w hennill wedi'r ewbl yn hwyr neu hwyrach. Dyna yn sicr sydd gywir am danom oil fel dineswyr a gwladgarwvr Prydeinig ond beth am danom fel dineswyr Teyrnas CRIST ? Mae byddin IESU hefyd ar encil, ac yn gorfod rhoi i fyny, meddir, rai o'r safleoedd pwysicaf ar y ffrynt-.advance positions enillwyd gan gadfridogion yr OEN fel JOHN WILLIAMS a CHALMERS, a ddiw- eddasant eu gyrfa fel merthyron CRIST yn hytrach na thynnu'r faner i lawr. Dyna'r newydd trist dorrodd ar ein clyw yn nydd- iau olaf 1915, ac mae wedi peri braw a gofid anaele i ni. Wrth uno a'r engyl fore Nadolig i ganu Gogoniant yn y Goruchaf i DDUW' am eni CEIDWAD yn ninas DAFYDD ar gyfer byd colledig, daeth tagfa i'n gwddf wrth feddwl fod Ei advanced guard ar gilio o rai o'r cadarnleoedd cryfaf ar y ffrynt. O'r hyn lleiaf, felly y bydd, os nad ymuna cedyrn yr OEN i anfon adgyfnerthion yn ddioed i'w diogelu. Dair blynedd yn ol penderfynodd Cym- deithas Genhadol Iylundaiu roi i fyny rai o'i gorsafoedd os na chwyddai'r cyllid blynyddol oddeutu £ 10,000. Iylwyddwyd y flwyddyn gyntaf, ac yna daeth y rhyfel. Mae'r Gymdeithas yn fyr o dalu ei thraul y llynedd yit unig o f25,000 a dydd Mawrth cyn y diweddaf gorfu i'r Cyfar- wyddwyr gyhoeddi y byddai raid gostwng y draul am y flwyddyn nesaf o beth bynnag £ 10,000, onite aem yn fethdalwyr. Ac nid oes gan hyd yn oed garedigion CRIST hawl i'w fygwth a methdaliad. A'r unig ffordd o safbwynt gweinyddiad y Gymdeithas i gynilo'r swm o ddeng mil o bunnau, oedd rhoi i fyny rannan pwysig o'r maes. Wedi hir ystyried cymeradwywyd fod- (I) Calcutta yn cael ei gadael gennym. Mae yno staff dysgedig o ddeuddeg o gen- hadon, ysgolion uwchraddol i fechgyn a merched, sefydliad i hyfforddi athrawon i'r pentrefi, heblaw canghennau eraill i'r gwaith mawr. (2) Mirzapur hefyd i'w gadael yr un modd, a'r 5 cenhadwr sydd yno i'w galw adref, gan gau yr ysgolion oil. (3) Rhannau belaeth hefyd o New Guinea ac Ynysoedd Mor y De-hen orsaf- oedd y merthyron, JOHN WILLIAMS a CHALMERS-I fynd yr un fath. i- fYstyrrid yr arbedid £ 10,000 y flwyddyn trwy hyn, a dyna Avaed y dewrion mewn un ystyr wedi mynd yn ofer. Ond gwelodd y Cyfarwyddwyr fod yn bosibl osgoi y trychineb os gellid sicrhau f £ 10,000 cyn diwedd Ionawr. Rhaid cael yr arian neu'r addewid am danynt erbyn hynny, am fod y gwarantau ar gyfer y treuliau yn 1916 a 1917 yn cael eu hanfon allan yn gynnar yn Chwefror. A'r cwestiwn yn awr ydyw-Pa beth a wna ein hadran ni o Fyddin CRIST yn wyneb yr argyfwng ? Ai encilio sydd i fod ? A ydyw Cymru yn mynd i adael hen feysydd JOHN WILLIAMS yn y flwyddyn yr oeddym yn paratoi i ddathlu pen canmlwydd hwylio o'r llong John Williams allan gyntaf ? Yn wir, mae'n rhan o'r cynllun i wario llai o £ 2,000 ar y llongau Cenhadol yn flynyddol, os oes ildio i fod. Beth mae Cymru yn arbennig am wneud ? Clywsom fod rhai cannoedd o Ysgolion Sul Cymru wedi anwybyddu yn hollol eleni y cardiau i'r plant gasglu at y llong John Williams. Os gwir hyn, mae rhywbeth sobr allan o le. Oni ddylai llynges CRIST gael cyfran o'n haelioni ? Deallwn fod Pwyllgorau Cenhadol Cymru yn myned i symud. Anfonir llythyr i bob gweinidog ac ysgrifennydd eglwys. Trefnir cyfarfodydd a chynadleddau. Apelir trwy y wasg ac mewn ffyrdd eraill at lilwyrr CRIST i ddylifo i'w {lielpu i ddal ei dir. Er fod^rhai 'trefi |yn dioddef ^yn fawr -? ?o-dde f yn fawr oblegidfy rhyfel, maeVlrhanlfwyaf o lawer o'r parthau amaethyddol a diwyd- iannol yn derbyn mwy o arian nag a ddetz byniasant erioed. A ydyw'r mannau hyn am ymguddio tu ol i'r rhyfel, a gwrthod cyfrannu dim o'u da at Achos yr Hwn sydd wedi cadw'r pla oddiwrth eu pabell a'u hamgylchynnu a chaniadau ym- wared ? Mae Achos CRIST mewn cyni, a geilw'r BRENIN arnom i'w helpu ar y ffrynt. Beth fydd ateb Cymru, tybed ?
I INODION LLENYDDOL. I-
News
Cite
Share
NODION LLENYDDOL. ( Blagur A wen Ben Bowen.' MYFYR HEFIN, brawd y bardd ieuanc Ben Bowen, yw golygydd y gyfrol fechan dlos hon, ac fel hyn y disgrifia ei chynnwys Oweddiil- ion Barddoniaeth Ben Bowen, adewais allan o'r gyfrol gyhoeddais neg mlynedd yn ol, geir yn y gyfrol hon yn bennaf.' Mae hyn yn wir, ond nid dyna'r gwir i gyd. Ceir ynddi hefyd sketch o fywyd y bardd yn ei febyd a'i fachgendod, yn hogyn yn y pwll glo, ar yr aelwyd ac yn y capel, sydd yn swynol a diddorol dros ben. Dyga'r Myfyr i mewn, mae'n wir, lawer rhigwm doniol, ac englyn a phill addawol iawn o'r dyddiau bore hyn ond mae gwerth parhaol yn yr ysgrif ei hun sydd mewn perygl o gael cam gan wyl- eidd-dra yr awdur ei hun. Ysgrif fyw- graffol ragorol ydyw, a chymer 55 o dudalennau. Am y farddoniaeth geir yma, mae'r darnau oil yn flaenffrwyth awen y bardd ieuanc. Blagur yn unig ydynt. ond addaw- awant ffrwyth rhyfeddol. Ac mae eu darllen yn peri i ni ymofidio yn fwy nag erioed fod y delyn hon wedi ei thorri mor gynnar. Cyhoeddir gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig, Cyf., Caernarfon; pris i f-. Y Beirniad.' Nis. gallwn yn ein byw deimlo fod rhifyn Hydref o'r Beirniad i fyny a'r cyn- rifynnau, er ei fod yn llawn o ysgntau da. Ysgrif ddiddorol a ffres iawn yw un yr Athro William Phillips ar Ddisgyblu'r Meddwl' ac mor bell ag mae'r cof yn y glorian, ychydig iawn o ffydd sydd gan yr Athro mewn unrhyw gyfundrefn gyn- hygir, oddigerth deall y pwnc yr ydym am ei wybod a cheisio trysori hwnnw. Nid oes fawr gwerth mewn systemau peirian- nol o unrhyw fath. Ysgrif ragorol sydd gan Mr. Shankland ar Goronwy Owen: ac mae'n amlwg bellach fod yn rhaid wrth gofiant newydd i'r bardd. Am gyfieithiad Tecwyn o gan odidog Thompson, The Hound of Heaven, rhaid i ni ddweyd mai siomedig ydyw. Mae rhai o'r llinellau yn llawer tywyllach na'r gwreiddiol, a bu raid i ni droi i'r gwreiddiol i ddeall Tecwyn, er ein bod yn honni rhyw gymaint o ddawn i ddeall Cymraeg. Ac ystori ddigon bethma ydyw un Tegla Davies, Cen- hadwr Bethlehem ni wna lawer o les i unrhyw hogyn ysgol i'w darllen. Traetba'r Golygydd ei farn yn glir a diamwys ar Grefydd Newydd yr Almaen,' a chytunwn ag ef yn hollol, ond potes ail-dwymn ydyw bron oil. Mae'r cylchgronau Cymraeg a Saesneg wedi dweyd yr un peth drosodd a throsodd er haf 1914. Ond yn ei Nod- iadau leithyddol' mae'r Golygydd yn ei gynefin, ac yn gampus. Bron na ddy- wedem mai Nesta,' can fach Pedr Hir i'w wyres, yw gogoniant y rhifyn.