Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

TREORCI. I

News
Cite
Share

TREORCI. I Marwolaeth Gynnar.-Gyda gofid dwys y cofnodwn farwolaeth y chwaer hynaws Mrs Annie Davies, 16, Dumfries-street, yr hon a orffennodd ei gyrfa yn yr cedrati cynnar o 33. Merch ydoedd i Mrs Griffith, 14, Cemetery-road, ac yr oedd ei diweddar dad yn un o golofnau yr achos ym Methania. Gafodd gystudd caled, ond dioddefodd yr oil yn amyneddgar, ac er caleted i ffarwelio, hyfryd i'r teimla 1 oedd ei chlywed yn canu mor swynol a hyderus pan yn rhodio Uwybrau y glyn. Bu ei phriod a'i mam a'i birodyr a'i chwiorydd yn gweini yn siriol arni nos a dydd; ond er pob gofal ehedodd oi hys- bryd at Dduw yr Hwn a'i rhoes, nos Fercher, Rhagfyr iaf. Brawd iddi ydyw y cyfaill annwyl, y Parch T. Gibbon Griffiths, gweinidog gweithgar a llwyddiannus, Marton, Salop. Bo yntau am ddyddiau laweryn gweini'n dyner ar ei chwaer gystuddiol, a chafodd y fraint o'i chysuro yn ei boriau olaf. Prydnawn dydd Llun, Rhagfyr 6ed, daeth torf fawr, er gwlyped yr hin, i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i Gladdfa Gyhoeddus Trecrci. Darlleawyd rhan o Air Duw yn y ty gan y Parch J. Oldfield Davies, B.A., Ton, Pentre, a gweddiwyd yn dyner-ddwys gan y Parch H. T. Jacob. Aber- gwaun. Wedi cana emyn wrth y ty, symudwyd yn araf tua'r gladdfa. Siaradwyd wrth y bedd gan y Parch Samuel Bowen, Ramah. yng ngofal yr hwn yr oedd trefuiadauyr angladd. Gweddi- wyd gan y Parch T Jones, Efailisaf, a chyn ymwahanu rhoddodd y Parch J C. Jones, Tre- herbert, yr Emyn Hwyrol' o eiddo Elfed allan i'w ganu, yr hwn a ganai yr ymadawedig mor swynol yn ei horiau olaf ar y ddaear. Gwelwyd hefyd yn bresennol y Parchn T. D. Jones, Bodringallt; B Wynn Jones, Clydach Vale, ac eraill. Oes fer gafodd Mrs Davies, ond bu yn oes o weithgarwch a defnyddioldeb, ac fe fydd lie gwag yn y cartref ar ei hoi, lie y mae pedwar o blant bach a phriod hoff mewn galar. Diddsned yr Arglwydd yr oil o'r teulu tralloduS, ac arhosed dylanwad da y fam hon aeth i'r bedd mor gynnar yn berarogl yn y cartref. Gorwedda yn erw Duw hyd oni wawrio y dydd a chilio o'r cysgoaau. CYFAIIJ, I I

Eglwys Seisnig Castle Square,…

Advertising

EBENEZER, CAERDYDD. I

Advertising

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney.i