Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ICWRS PRBSENNOL B.D. CYMRU.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CWRS PRBSENNOL B.D. CYMRU. I At Olygydd y Tyst. I SYR,—Yr oedd yn dda iawn gennyf am lythyr Mr. Fred Jones yn y TYST. Myfi a leddir,' achwyna. Da gennyf ganfod ei fod eto'n fyw, er ei fod yn awr yn ymguddio'n lied lechwraidd tucefn un arall. Buasai'n well i fy hen gyfaill pe buasai wedi ail-astudio gwaith Dr. Moulton cyn ysgrifennu ei lythyr cyntaf. Arbedai hynny ef rhag ysgrifennu mor gam- arweiniol. Teimla llawer ohonom yn ddiolchgar i Mr. Jones am ei wasanaeth yn Gloywi'r Gym- raeg,' ond mae lie i ofni fod y gwaith hwn, tra yn llesol i lawer, wedi gwneud rhyw faint o ddrwg iddo ef ei hun. Amcan dysgu Hebraeg, meddai ef, yw galluogi dyn, nid i fwynhau dar- llen y Salman ac Esaiah yn y gwreiddiol, ond i ddeall ambell air o enau Hi broffwydi. Trueni fod unrhyw weinidog Cymreig yn cymeryd golwg mor arwynebol ar bethau Amcan ewrs y B.D. yw gwneud y myfyriwr yn fwy cymwys i ddysgu eraill. Dyna paham y tala'r eglwysi warogaeth i'r teitl. Gwyr Mr. Jones mai ychydig, os dim, o ysbrydiaeth geir wrth ddarllen yr Hen Desta- ment yn y gwreiddiol. Credaf fod gennyf gy- maint os nad mwy o hawl nag ef dros ddweyd fod yr anawsterau ieithyddol yn lladd yf ysbryd- iaeth gawn wrth ei ddarllen yn iaith ein mham.' Ond gwyr pob myfyriwr diwinyddol nas gellir gwerthfawrogi Beirniadaeth Feiblaidd yn iawn heb wybodaeth o'r iaith Hebraeg. Gwnaeth Mr. Jones wasanaeth gwerthfawr trwy ddyfynnu o waith Dr. Moulton. Gadawer inni osod rhoi o'i frawddegau ef yn ymyl rhai o eiddo'r Doctor. Yn ol llythyr cyntaf Mr Jones, yr iinig gasgliad allwn dynnn yw mai y Roeg oedd iaith Crist a'i apostolion.' Sylwer ar y brawddegau can- lynol Y Testament Newydd hefyd ydyw unig len o bwys yn ei iaith yntau. Yn awr, fe ddysga dyn o gyrhaeddiadau gweddol ddarllen iaith geiriau Crist a'r apostolion ymhen rhyw chwe mis o amser ac unwaith y dysg dyn ddarllen felly, nid yw byth yn foddlon ar un cyf- ieithiad wedyn. Y mae rhywbeth yn y geiriau eu hunain, a welwch chwi ? Beth ddywed Dr. Moulton ? That Jesus Himself and His disciples regularly used Aramaic is beyond question, but that Greek was also at command is equally certain.' Iaith cenedl arall, iaith arferid ganddynt wrth gyfathrachu ag estroniaid, oedd y Roeg. Yr Aramaeg oedd eu hiaith hwy. Gwelir felly fod cryn wahaniaeth rhwng Mr. Jones a Dr. Moulton. Ofnaf mai nid tucefn,' ond o dan draed y Doctor y mae yn y mater hwn. Rhoddodd Oho fy hen gyfaill tua diwedd ei lythyr foddlonrwydd mawr i mi. Diau y teimlai pan yn ymwneud a'r iaith Hebraeg y gallai siarad gyda mwy o awdurdod ar iaith arall. Beth wnaeth ? Tynnodd frawddeg o'i chysyllt- iadau, gofynnodd gwestiwn, a dallodd y dar- llenydd. Pan ddechreuodd ddyfynnu o Dr. Moulton, ni chollodd ei dymer er iddo golli ei bwynt. Ond yn awr, i bob ymddanghosiad, mae'r Doctor ac yntau ar delerau da a u gilydd. O'r diwedd dyma floedd am oruchafiaeth Enill- odd ran o'r maes Gadewch i ni weld. Mae n ddrwg gennyf fod yn rhaid i mi falu ei gastell. Yn ol Dr. Moulton, yr Aramaeg oedd eu hiaith gyffredin. Ar yr un pryd, yr oeddynt yn hyddysg yn y Roeg.' Ni fyddent yn siarad Groeg fel rhai yn cyfieithu o'u hiaith eu hunain fel yr aent rhagddynt. Ond y cwestiwn yw, A gyfieithent eu cynhyrchion o'r Aramaeg i'r Roeg pe bodolai y cynhyrchion hyn yn barod yn vr iaith flaenaf ? Meddylier am Mr. Fred Jones yn cael byr rybudd i bregethu yn Saesneg. Beth wnelai em cyfaill ? Cyfansoddi pregeth newydd yn yr iaith honno ? Na, nid wyf yn tybied. Dechren meddwl am un o bregethau'r cyrddau mawr wnelai Mr. Jones. Nid yw|hyn ond dychymyg Cymro Tybed ? Gwrandawer beth sydd gan Mr. James Smith of Jordanhill, F.R.S., i ddweyd ar y cwestiwn :— i. Several of the apostles, including iviattnew, Peter and John, committed to writing accounts of the transactions of our Lord and His disciples in the language spoken by them, i.e., Syro- Chaldaic or Aramaic, known in the New ?yro- ment and the works of the Fathers as Hebrew. 2. When the apostles were driven by perse- cution from Judsea, a history of the life of our Lord was drawn up from the original memoirs, in Hebrew and in Greek, by the Apostle Matthew for the use of the Jewish converts—the Greek being the same as the Gospel according to Ma+ttlfiw 3. 'St. Luke drew up, for the use of Theo- philus, a new life of our Lord, founded upon the authority of eye-witnesses and ministers of the Word—including the Hebrew memoir of Peter and the Greek Gospel of Matthew. 4. After Peter's death or departure from Rome, St. Mark translated the memoir, written by Peter, into Greek.' iter period, com p osed his 5. John, at a still later period, composed hi.s Gospel from his own original memoirs, omitting much that was already narrated by the other evangelists for reasons assigned by himselt. .L u" 1. Llelara yr uciioci arosto ei mm. Beth sydd gan Dr. Sanday i draethu ar y mater ? Ymddangliosodd erthygl o'i eiddo ar Yr Hfengylau yng Ngeiriadur Smith a gy- hoeddwyd yn 1893. Yn hon dadleual fod amryw- iaeth y tair Ivfengyl gyntaf yng nghofnodiac1 yr un digwyddiadau i'w briodoli i'r ftaitli y cyf- ieithai eu hawdwyr o ryw waith ynyr Aramaeg. Dengys amryw gyfeiriadau yn ei erthygl ar Iesu Grist yng Ngeiriadur Hastings a gy- hoeddwyd yn 1900, na newidiodd ei farn. Mab- wysiedir yr un syniad gan Dri Waca. GaUem brofi hyn hefyd trwy ddwyn tystiol- aeth y Tadau Boreol ger bron. Caiff Papias eu cynrychioli. Blodeuodd Papias tua diwedd y ganrif gyntaf a dechreu'r ail. Ffe oedd esgob Hierapolis yr amser hwnnw, a dywed Eusebius wrthym yr adwaenai rai o deulu Phylip yr apostol. Gwelir, felly, fod ei dystiolaeth yn bwysig. A dyma hi Cyfansoddodd Matthew y Logia yn yr iaith Hebraeg—hynny yw, yr Aramaeg, ac esboniodd pob un fel y medrai. Ni raid ychwanegu. Mae hyn yn ddigon i gadarnhau yr hyn a geisiodd Mr. Jones ei wrth- bron. Gan hyderu v bydd yr ymdriniaeth hon o rywfaint o fudd i ddarllenwyr y TYST, a clian ddymuno'r goreu iddynt hwy ac i fy hen gyfaill, dLI Yr eiddoch yn gywir iawn, P. R. THOMA.S I Guildhall Villa, Caerfyrddin.

I Siloh, Glandwr. I -

IEbenezer, Tynewydd.

IPRAWF 0 FERTHYR.

IPOB OCHR I'R HEOL.