Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

\ Y WERS SABOTHOL I Y WERS…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y WERS SABOTHOL I Y WERS SABOTHOL. ? — $$Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. ff 6 .?.— 6 <> Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., f TREFFYNNON. t t v I Å v Ionawr zil.- Yr Arglwydd Esgynedig.—Actau i. 1-14. Y Testyn EURAIDD. Oherwydd paham y mae Efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i'r uchelder. Efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a I roddes roddion i ddynion.'—Ephesiaid iv. 8. RHAGARWEINIüI" Y, MAÉ awdur Elyfr yr Actau yn dechreu gyda chyfeiriad at yr, Efengyl yn ol Luc, yr hon sydd yn diweddu gyda hanes esgyniad Crist i'r lief. Cyfeiria at yr amgylchiad eto yn y Llyfr hwn, a rhydd hanes mwy manjvl ohono, ac felly I cysyllta y Elyfr hwn a'r Efengyl, a dengys mai hanes yr un person gogoneddus sydd ganddo i'w ysgrifennu. Er nad oedd yn weledig, fel yn nyddiau Ei gnawd, eto Crist, trwy yr t, Ysbryd Glan yn a thrwy Ei ddisgyblion, sydd yn gweith- redu. Hanes Actau Crist trwy Ei Eglwys ydyw y Elyfr hwn. Gelwir ef weithiau Efengyl yr Ysbryd.' Luc yn ddiau ydyw yr awdur, a bernir iddo gael ei ysgrifennu ganddo yn Rhufain pan yn aros gyda Phaul yno. Yn y Llyfr hwn cawn hanes ffurfiad yr Eglwys Gristionogol a'i lled- aeniad. Gellir rhannu y Llyfr i ddwy ran, sef yr Actau trwy Pedr a'r Actau trwy Paul. Esgyn- nodd Crist i'r nef oddiar lechweddau Mynydd yr Olewydd ymhen deugain niwrnod ar ol Ei adgyfodiad ond er Ei fod wedi esgyn i'r nef, eto yr oedd yn bresennol gyda'i bobl ar y ddaear trwy yr Ysbryd Glan, ac yn nerthol weithredu. Esboniadoi,. Adnod Y traethawd cyntaf a wneuthum, 0 Theophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu.' Cyf. Diw., Y traethawd blaenorol a wneuthum.' Cyfeirir at yr Efengyl yn ol Luc. 0 Theophilus. Cyfeirir y ddau draethawd at yr un person. Ychydig wyddom am Theophlius. Y mae ei enw yn genhedlig, a geilw Euc ef 'Ardderchocaf,' enw a arferid am rai mewn safleoedd uchel, megis Ffelix (Actau xxiii., 26) a Ffestus (Actau xxvi. 25). Yr oedd yn wr o safle ac awdurdod, ac wedi cofleidio Cristionogaeth. Y mae'n debygol ei fod yn byw yn yr Eidal. Am yr holl bethau a ddechreuodd. Yr holl bethau o'r dechreuad a wnaeth ac a ddysgodd yr Iesu. Yr oedd yr Iesu yn gwneud ac yn dysgu—yn pregethu yn Ei fywyd Ei Hun, ac yn byw yn Ei egwyddorion. Rhaid i'r Cristion hefyd yn gyntaf wneud, ac yna dysgu. Adnod 2.—' Hyd y dydd y derbyniwyd Ef i fyny, wedi iddo trwy yr Ysbryd Glan roddi gorchmynion i'r apostolion a etholasai.' Hyd y dydd. Ei esgyniad i'r nef. Parhaodd Crist Ei waith ar y ddaear hyd nes y dechreuodd Ef yn y nef. Wedi iddo trwy yr Ysbryd Glan. Neu, wedi iddo roddi gorchmynion trwy yr Ysbryd Glan. Y mae y cyfeiriad at y bennod olaf yn yr Efengyl yn ol Luc. Yr oedd y gorchmynion trwy ysbrydoliaeth, ac felly o awdurdod dwyfol. Apostolion. Ystyr y gair apostol ydyw anfon- edig.' Ceir eu henwau yn adnod 13, eddigetth Judas. Adnod 3. I'r rhai hefyd yr yrnddanghosodd Efe yn fyw wedi dido ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berth- ynent i Deyrnas Dduw.' Cyf. Diw., 'A ddang- hosodd Ei Hun yn fyw iddynt ar ol Ei ddioddef- aint trwy lawer o brofion [y gair sicr allan], gan ymddangos iddynt dros ysbaid deugain niwrnod.' Cawn hanes deg o ymddangosiadau o eiddo yr Iesu i'w ganlynwyr ar ol Ei adgyfod- iad I Mair Magdalen, i'r gwragedd wrth y bedd, i Pedr, i'r ddau ddisgybl ar y ffordd i Emmaus, i'r apostolion pan oedd Thomas yn absennol, i'r disgyblion pan oedd Thomas yn bresennol, i'r saith apostol wrth For Galilea, i'r un ar ddeg yn Galilea, i Iago, ac i'r disgyblion yn Jerusalem. Llawer 0 brofion. Y mae'r gair gwreiddiol am brofion yn un cryf iawn-profion diymwad— ¡ profion sier-profioii i'r golwg, y clyw a'r teimlad. Rhoddodd brofion diamheuol i'w ddisgyblion mai Efe Ei Hun ydoedd, a'i fod yn fyw. Gan fod yn weledig. Nid yn barhaus, ond ar adegau. Ddeugain niwrnod. Dyma'r unig fan y nodir yr amser y bu yr Iesu cyn esgyn i'r nef ar ol Ei adgyfodiad. A dywedyd y pethau. Y gwirion- eddau oeddynt i'w eredu, a'r gorchmynion yr oeddynt i ufuddhau iddynt. A berthynent i Deyrnas Dduw. Sef yr oruchwyliaeth Gristion- ogol. Teyrnas Nefoedd ar y ddaear. Adnod 4.—' Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, Efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerusalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr Hwn, eb Efe, a glywsoch gennyf Fi.' Cyf. Diw., 'A chan ymgynnull gyda hwynt.' Yn Jerusalem, hwyrach, ar ddydd yr Esgyniad. Nad ymadawent o Jerusalem. Cymharer Luc xxiv. 49. Yr oedd y gwaith gogoneddus i dde- chreu yn y fan lie y condemniwyd yr Arglwydd lesu. Addewid y Tad. Dyma'r addewid yr oedd yr Iesu wedi rhoddi'r fath arbenigrwydd arni y nos y bradychwyd Ef (gwel loan xiv. 16-26, xv. 26). Dyma'r addewid yr oedd y proffwydi wedi cyfeirio ati (gwel Joel ii. 28, 29; Esaiah xliv. 3). Adnod 5.—' Oblegid loan yn ddiau a fedydd- iodd a dwfr ond chwi a fedyddir a'r Ysbryd Glan, cyn nemawr o ddyddiau.' A fedyddiodd a dwfr. Allanol ydoedd bedydd loan, mewnol ydoedd bedydd yr Ysbryd. Nid oedd bedydd loan ond cysgod bedydd yr Ysbryd Glan ydoedd y sylwedd. Cyn nemawr 0 ddyddiau. Ymhen deg niwrnod wedi'r esgyniad. Yr oedd ansicrwydd yr amser yn brawf ar eu hamynedd J a'u ffydd. Adnod 6.—' Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy o ofynasant iddo, gan ddywedyd, 1 Arglwydd, ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel ? Gan hynny. Gan gyf- eirio at adnod 4. Yr oedd y cynhulliad trwy apwyntiad. Ai y pryd hwib ? Yr oedd eu syn- iadau hwy yn aros gyda theyrnas ddaearol, ac nid teyrnas ysbrydol a chyffredinol. Adnod 7. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na'r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn Ei feadiant Ei Hun.' Cyf. Diw., Ni pherthyn i chwi wybod amseroedd a phrydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn Ei awdurdod Ei Hun.' Nid ydyw yr Iesu yn ateb gofyniad y disgyblion yn union- gyrchol y mae yn cyd-ddwyn a'u gwendid. Byddai i'r Ysbryd Glan eu perffeithio a'u dwyn i sylweddoli ysbrydolrwydd y Deyrnas. Am yr amseroedd a'r prydiau, y mae'r rhai hynny yn hollol dan awdurdod y Tad. Adnod 8. Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glan wedi y delo efe arnoch ac a fyddwch dystion i Mi yn Jerusalem, ac yn holl J udea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.' Cyf. Judea, Eithr chwi a dderbyniwch nerth pan D i w., ddelo yr Ysbryd Glan arnoch a chwi a gewch fod yn dystion.' Addewir iddynt allu ysbrydol i'w rhyddhau oddiwrth y syniadau daearol oedd yn glynu wrthynt. Gallu i amgyffrecl a sylweddoli yr ysbrydol. Yn dystion. Traetliu yr hyn a welsant ac a glywsant, dyna oedd eu gwaith, ac nid traethu eu golygiadau eu hunain. Yn Jeru- salem. Fe ymledodd yr Efengyl yn union fel y dywedir yn yr adnod hon. Dechreu yn Jeru- salem, yna ymledodd i Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. Dynia gynllun yr hanes yn Elyfr yr Actau. Adnod 9.—'Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt-hwy yn edrych, Efe a ddyrchaf- wyd i fyny a chwmwl a'i derbyniodd Ef allan o'u golwg hwynt.' Ac wedi fiddo ddywedyd y- pethau hyn. Yn ol Euc xxiv. 50, Efe a gododd Ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.' Ylla y dechreuodd esgyn oddiar y ddaear tra yr oeddynt hwy yn edrych. A chwmwl a'i derbyn- iodd Ef. Cymharer Matt. xvii. 5 Luc ix. 34. Nid oedd dim amheuaeth am ei Esgyniad- yr oeddynt wedi gweled. Aeth mor uchel nes y daeth cwmwl i'w dderbyn o'u golwg. Adnod 10.—'Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua'r nef, ac Efe yn myned i fyny, wele, dau wr a 'safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen.' Edrych yn ddyfal. Yn dal i edrych, fel rhai yn methu tynnu eu golygon o'r lie yr oedd eu Hathraw wedi myned. Dent WY. Dau angel, cenhadon o'r net. Aclnocl ix.—' Y rhai liefyd a ddywedasant, Chwi wyr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua'r nef ? yr Iesu hwn, yr .Hwn a gymerwyd i fyny oddiwrthych i'r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch Ef yn myned i'r nef.' Cyf. Diw., Yr Hwn a dderbyniwyd i fynv.' Paham y sefwch yn edrych tua'r nef ? Hwyrach eu bod yn disgwyl Ei weled Ef yn dychwetyd. Dywedir wrthynt fod ganddynt waith i'w gyf- lawni, a gelwir hwy at eu gwaith. Y mae dyled- swyddau personol y Cristion ar y ddaear. Yr Iesu hwn. Yr lesu a groeshoeliwyd, a fu farw, a gladdwyd ac a adgyfododd, ydyw'r Iesu a 'aeth i fyny i'r nef, gyda'r corff yr hwn a wel- sant ac a deimlasant. Yr oedd yn bwvsig i'r rhai oedd yn tystio i'w adgyfodiad wybod i ba le yr oedd wedi myned. Yr un modd. Yn gor- fforol ac yn weledig. Y mae'r geiriau hyn yn eglurhad ar yr hyn ddywedir am y disgyblion yn Euc xxiv. 52. Adnod 12. Yna y troisant i Jerusalem, o'r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, sef taith diwrnod vSaboth.' Yna y troisant i Jerusalem. I ddisgwyl a gweddio, fel yr oedd Efe wedi gorchymyn iddynt. Taith diwrnod Saboth. Yn ol traddodiad Iddewig, tua thri chwarter milltir (2,000 cubits)-y pellter tybiedig o'r gwersyll i'r tabernacl yn yr anialwch. Adnod 13.Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lie yr oedd Pedr, ac Iago, ac loan, ac Andreas, Phylip, a Thomas, Bartholomew, a Matthew, lago mab Alpheus, a Simon Zelotes, a Judas brawd Iago, yn aros.' Cyf. Diw., 'Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i'r oruwchystafell, lie yr oeddynt yn aros Pedr ac loan, ac lago ac Andreas, Phylip a Thomas, Bartholomeus a Matthew, lago fab Alpheus, a Simon y selog, a Judas mab lago yn aros.' Yr oytwcltystalell. LIe y bwyt- asant y Pasg, Adnod 14. Y rhai hyn oil oedu yn parliau yn gytun mewn gweddi ac ymbil, gyda'r gwrag- edd, a Mair mam yr lesu, a chyda'i frodyr Ef. Cyf. Diw., Y rhai hyn oil yn gytun oedd yn parhau yn ddyfal mewn gweddi, gyda'r gwrag- edd.' Yn gytun. Yn un mewn dymuniad a dis- gwyliad am yr Ysbryd Glan. Ymbil. Erfyniac1 taer a neilltuol. Gyda'r gwragedd. Y rhai a ddaetliant o Galilea i weini i'r lesu o'r hyn oedd ganddynt (gwel Matt. xxvii. 55, 56 Luc xiii. 3, xxiv. 10). Mair mam yr lesu. Enwir hi mewn modd neilltuol fel mam yr Iesu, ac un oedd yng ngofa! loan. A'i frodyr Ef. Erbyn hyn yr oeddynt wedi dyfod i gredu ynddo. GoifYNIADAU AR Y WERS. i, Pwy ydyw awdur Elyfr yr Actau ? 2. Beth oedd ei amcan wrth ei ysgrifennu ? 3. Beth ydyw y berthynas sydd rhwng Elyfr yr Actau a'r Efengyl yn ol L-Lic ? 4. Pa brofion roddodd yr lesir o'i adgyfodiad i'r disgyblion ? 5. Pa orchymyn neilltuol a roddodd iddynt, ac am ba beth yr oeddynt i ddisgwyl ? 6. Beth oedd agwedd ineddwl y disgyblion gyda golwg ar Deyrnas Crist, cyn dyfodiad yr Ysbryd Glan ? 7. Pa gyfnewidiad a wnaed arnynt wedi dyfod yr Ysbryd Glan ? 8. Pa sicrwydd oedd ganddynt fod yr Iesu wedi myned i'r nef ? 9. Beth oedd ystyr y genadwri a roddodd y ddau angel iddynt ?

Advertising