Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Y STORM.
News
Cite
Share
Y STORM. DAN draed y noswynt cryf A saethau dur y gwlaw Y cartre 'mhelJ, a'r awr yn hir, Heb fur na chell gerllaw. Fe'm hyrddiwyd fewn i'r ty Gan ddwrn y storom erch Y daith ar ben, a'r awr "n fyr, YDghanoi swynion serch Barry. LLEW JONES
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y 'l'VS'I' AM 1916.-Dymullwn alw sylw ein darllenwyr at Hysbysiad y Gol. a welir ar tudal. 13.
LLES YR ACHOS.
News
Cite
Share
LIes i'r achos Onid yw bywyd Bvan Powel ar ei hyd yn lies i'r achos ac yn addurn i grefydd ? Ac os gofyn yr ydych i Evan droi o'r ffordd, nid y fi gysyllta fy hun ag unrhyw symudiad fydd yn debyg o wneud dolur i Evan Powel. Na, trwy drugaredd, 'rwyf wedi dysgu gwell na hynyna.' Yr oedd dau neu dri eraill yn cadarnhau mynegiad yr hen frawd, ac yn addef mai fel yna yn hollol yr oeddynt hwythau yn teimlo. Canfyddai y gweinidog fod ffrewyll hy- awdledd yr hen flaenor wedi gwneud ei hoi ar Charles ac am ei fod yn gwybod mai nid o unrhyw deimlad drwg tuagat Evan yr oedd yn symud yn y mater, dywedodd mai gwell iddynt cyn myned ymhellach fyddai bwrw golwg ar ei sef- yllfa. 'Does neb eto wedi awgrymu troi Evan Powel o'r swydd os bydd hynny yn debyg o ddolurio ei deimladau ef, neu deimladau unrhyw un arall. A da chwi, gadewch i ni ymdrin a'r materion yma yn y dymer a'r ysbryd goreu. Dyma i chwi beth sydd wedi bod yn fy meddwl er's tro, ac y mae yn ymddangos ein bod yn barotach i hyn heddyw nag erioed. Oni ddylem gydnabod Evan Powel, a rhoi tysteb iddo ? Cyfeiriodd rhai ohonoch at les yr achos dyna i chwi rhywbeth fydd yn lies i'r achos. Yr ydym o hyd yn derbyn, ond byth yn rhoi. Cofiwn gym- helliad yr apostol mai dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.' Dyna yn awr,' meddai Evan Dafydd, rhywbeth gwerth ein sylw-parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus. Yr wyf yn eich cefnogi a'm holl galon.' Penderfynwyd y noson honno i anfon casglyddion i ymweled a'r aelodau a chyf- eillion yr achos, gan orchymyn iddynt ei wneud mor dawel fel na ddeuai Evan a'i briod i wybod fod hyn ar droed, os yn bosibl. Y cefnogwr mwyaf ymroddgar oedd Philip Rees, arweinydd y cor. Taer gym- hellai ei gyfeillion i roi pob geWyn a dyfais ar waith er gwneud yn deilwng o'r gwas- anaeth ardderchog oedd- Evan wedi ei gyflawni, ac yn parhau i'w wneud mor ganmoladwy. Siarad yr oedd pobl am Philip fel pe bai yn awyddus i weled Evan yn troi o'r neilltu, er na roddodd le i neb ddweyd dim felly. Ond yr oedd rhai yn meddwl ei fod am gael y canu yn gwbl i'w law, gan mai efe oedd arweinydd y cor. Gwnaeth ddefnydd iawn o'i gor ar gyfer y dysteb. Ynghyda fod y bechgyn ar eu heithaf, ymddiriedwyd i bedair o'r merched mwyaf taer ac egllïol i ymweled a phawb, yn enwedig y sawl oedd yn perthyn i Bethania, a chynifer oedd o fewn cyr- raedd o'r rhai a fu, ond ar hynny o bryd wedi symud. Cafodd yr ymwelwyr dyst- iolaeth sylweddol o'r hyn oedd barn y gymdogaeth am gychwynnydd m a w 1 Bethania—pawb yn rhoi yn hael, ac yn flin na allasent roi mwy. Wedi i'r gwa- hanol symiau ddod i law, ymwelwyd ag Evan er cael gwybod ganddo beth hoffai ei gael. Synnwyd ef, ac nid oedd ganddo air i'w ddweyd ond Y chwi sydd yn gwybod gwnewch fel y gwelwch yn oreu.' Noson y cwrdd trefnwyd rhaglen ddi- ddorol, a daeth torf ynghyd. Dywedodd y gweinidog, fel arweiniad i fewn i brif amcan y cwrdd, fod y frawdoliaeth yn gwerthfawrogi yn fawr wasanaeth hir Evan Powel, ac yn enwedig ei ysbryd goddefgar, didramgwydd. Yr oedd hyn yn rhywbeth i unrhyw un fod yn falch ohono-i edrych yn ol ar bum mlynedd a deugain o wasanaeth difwlch. Pan oedd rhai yn oeri ac yn. sefyll, para yn ffyddlon ac yn gynnes yr oedd Evan o hyd a phe dim ond er mwyn hyn, y mae achos Bethania wedi cyfreithloni ei bodolaeth drwy gynhyrchu yr hyn y mae engyl a phawb yn ei edmygu, sef sefydlogrwydd cymeriad ac ymarweddiad cyson. Ymhob cyfarfod arbennig yr oedd rhaid i Evan Dafyddjgymeryd rhan, ac]efe oedd y mwyaf cymwys ar yr amgylchiad hwn. Rhoddodd hanes y cychwyniad pan y penderfynwyd i osod Evan Powel yn ei swydd, a'i dystiolaeth oedd iddo gysegru ei fywyd i gychwyn mawl, a'i oes i gymell moliant. Yr oedd unfrydedd a phriodoldeb hefyd mewn dewis Philip Rees i gyflwyno'r dys- teb. A chyn ei chyflwyno dywedodd nad oedd yn cofio eglwys Bethania yn fwy parod i wneud unrhyw orchwyl erioed na hwn. 'Ac yr ydym i gyd yn gwybod paham-oherwydd fod Evan Powel yn annwyl yn ein golwg. Dywed rhai fod ein canu cynulleidfaol yn dioddef am nad yw y gynghanedd yn cael mwy o sylw, a'r gelfyddyd heb fod mor amlwg. A chan- I iatau fod rhai cynulleidfaoedd yn rhagori yn y cyfeiriad yna, nid wyf yn meddwl, wedi'r cyfan, fod un gynulleidfa a mwy o fawl ac ysbryd y peth byw yn ei chanu nag sydd yma. A hyn sydd yn gwneud y canu yn addoli, ac y mae yn bwysig i ni ei gadw. A byddwn yn sicr ohono cyhyd ag y bydd Evan Powel yn arwain, oherwydd hyn yw ei neilltuolrwydd ar- bennig ef ei hun. Y mae wedi dal yn hir hir y parhao yn gYlllles ei fawl, ac yn hyfryd i'w ddliyn.' Wedi i Evan dderbyn y codaid aur, disgwylid iddo ddweyd ychydig eiriau. Yr oedd yn llawn cystal siaradwr ag oedd o ganwr, ond bloesg iawn oedd y tro hwn. Wedi diolch yn fawr iddynt am eu cared- igrwydd a'u geiriau teg a thyner, adrodd- odd gyfrinach fu rhwng Mari ei wraig ac yntau. Yr oeddynt yn sylwi fod amgen- ach doniau wedi codi yn y capel, ac yntau yn mynd ymlaen ar ei oedran. Yr oeddynt 'hwy ill dau yn barnu mai doeth oedd iddo ef droi o'r neilltu, a rhoi lie i'w well; bellach mai fel yna y gwnai ef les i'r achos. O'r diwedd penderfynodd roi ei ymddi- swyddiad i'r blaenoriaid. Daeth i'r gwas- anaeth un noson wedi penderfynu yn der- fynol i ymryddhau. Ni bu erioed yn y fath odfeuon nid oedd yn gwybod dim beth oedd yn cael ei drafod. Gwn hyn,' meddai, mi fethais a dweyd gair wrth neb am ymddiswyddo. Wedi dychwelyd gartref dywedais wrth Mari am fy anhaws- ter, ac awgrymais iddi hi ei wneud yn fy lie. Atebodd Mari, Os yw yn rhy anawdd i chwi, sut yr ydych yn meddwl y gallaf fi ei wneud ?" W edi aros peth wythnosau daeth yr anesmwythter yn ei ol wedyn. Gwelwn fy hun yn gwneud niwed i'r achos, a dywedais wrth Mari eto jy mod yn teimlo'n euog o wneud cam a dyledswydd gysegredig. Wedi eto ymgynghori an gilydd, ymddanghosai yn rhwydd i ysgrif- ennu fy ymddiswyddiad a'i estyn i'r ysgrif- ennydd. Gwnes hynny, a bu yn fy mhoced am wythnosau, gan feddwl ei roi bob gwasanaeth—ond methais wedyn gwneud. Yr wyf wedi bod cyhyd yn y swydd, nes fy mod wedi dod i'w charu, ac yn ofni bod allan ohoni. Gyfeillion (gan afael yn ei neised, ac edrych ar y llawr), os ydych wedi blino arnaf, ddigiai i ddim wrthych os trowch fi ffwrdd ond nis gallaf fynd o'm rhan fy hun.' Nid oedd yno un heb ddeigryn yn ei lygaid, a'u calonnau wedi cynhesu tuagat un oedd mor dirion a didramgwydd. Wedi iddo eistedd, dywedai y gweinidog fod yn dda iawn ganddo eu bod fel eglwys wedi ymgymeryd a gwneud hyn, pe dim ond er mwyn anerchiad Philip Rees, heb son am amfygiad o gydwybodolrwydd Evan Powel. 'Ac os oes un peth yn fwy amlwg na'r llall yn y gydnabyddiaeth yma, hyn ydyw-fod yr eglwys wrth wneud hyn yn tttynegi ei gwerthfawrogiad o wasanaeth ein blaenor ac yn ol fel y mae P hilip Rees wedi dangos, mai dyledswydd Evan Powel yw aros yn ei swydd er lies yr achos.' Cyn eu bod Y11 gwasgaru, galwodd y gweinidog ar Charles Evans i gynnyg diolchgarwch i'r casglyddion am wneud eu gwaith mor ganmoladwy. Daeth Charles i wneud hynny, a dywedodd ei fod wedi cael mwy o les wrth fod yno nas gallai yn hawdd ei fynegi. Sut yr ydych chwi, syr, wedi deall fod arnaf awydd i siarad, nid wyf yn gwybod, ond yr wyf yn ddiolch- gar am gyfle, oherwydd yr wyf yn teimlo mai nid awyrgylch cymdeithas sydd yma, ond cynhesrwydd aelwyd, a'n bod fel teulu y ffydd. Nid ein lie yw manylu ar ddiffygion a cholliadau ein gilydd, a'u gwneud lie nad ydynt, fel y mae yn llawer o gywilydd i rai ohonom, ond yn hytrach gorfoleddu yn rhagoriaethau ein brodyr, a sefyll i edmygu dyn sydd wedi treulio ei oes i foli ei Dduw, a hwnnw, gyfeillion, y dyn tyneraf a mwyaf caruaidd yn yr holl eglwys.' Yna trodd at Evan Powel, gan ofyn ei bardwn. Synnodd Evan ei glywed yn siarad felly, a braidd na lesmeiriodd pan dorrodd cymeradwyaeth y dorf ar guriad dwylaw Philip Rees. Wedi iddynt dawelu, Diolch i'r casglyddion sydd gennyf i'w wneud,' meddai Charles, a hynny yr wyf yn ei wneud o'm jcalon. A dywedaf fwy diolchaf i Dduw am Ei ras a'i ofal arbennig dros eglwys Bethania. Y mae wedi can- iatau i ni wasanaeth didor dechreuwr Ei fawl am bum mlynedd a deugain ac ar ol profiad mor hir, yr wyf yn sicr ar ol heno y daw eraill ohonom, heblaw dust ysgafn Philip Rees, i fwynhau tine son- iarus y gan dragwyddol yn seiniau mawl Evan Powel. Hir y cynhalio'r Arglwydd ef i fod yn lies i'w achos yn y byd.' Yn ysbryd y Nadolig y gwelwyd lies yr achos.' Trefforest. W. D.