Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

IY Ddirprwyaeth Yswiriol Gymreig.

News
Cite
Share

Y Ddirprwyaeth Yswiriol Gymreig. Gan Btjrivais. Gwelwyd ar hyd yr wythnos a aeth heibio, yn newyddiaduron Lloegr a Chymru, gyfeiriad neu ddau at y sefydliad cenedlaethol uchod, a'r priodoldeb neu'r amhriodoldeb o'i ddiddymu. Hwyrach mai ychydig iawn o Gymry hyd yn liyn sydd wedi sylweddoli maint y perygl y mae'r Ddirprwyaeth Gymreig ynddo ar hyn o bryd. Am ryw reswm neu gilydd mae mudan- dod yn cloi tafodau'r Dirprwywyr Cymreig. Nid ydynt mewn anwybod o'r cynllunio ystryw- gar sydd yn mynd ymlaen y tnhwnt i'r lien. Ond er en distawrwydd, aeth y si ar adenydd y gwynt fod Mr. Morant, Cadeirydd y Ddirprwy- aeth Yswiriol Seisnig, a rhai o'r Dirprw3<-wyr Cymreig yn cydweithio ac yn cynllunio i ddi- ddymu'r Ddirprwyaeth Gymreig, a'i suddo yn y Ddirprwyaeth Seisnig. Y mae'n amlwg ddigon i'r sawl a ddarlleno ddifrifoled yr ymdrech a wneir gan y Llywodr- aeth y dyddiau hyn i gynilo ar bob llaw. Er nad yw swyddogion a gweinidogion Seneddol yn rhyw awyddus iawn i aberthu rlian feehan o'u cyflogau a'u henillion fel esiampl i'r werin prinach eu manteision a'u cyfoeth, eto gwelir arwyddion, ond odid ymhob adran o'r Llyw- odraeth ac ymhob swyddfa wladol, i gwtogi llafur a nifer ein swyddogion gwladol. Ychydig fisoedd yn ol sibrydid y posibilrwydd a'r priod- oldeb o ddiddymu'r Dirprwyaethau Cenedlaethol yn yr Alban, yr Iwerddon, ac yng Nghymru, gan drosglwyddo'r gwaith i swyddfa ganolog yn Llun- dain, a suddo'r tair Dirprwyaeth hyn yn y Ddir- prwyaeth Seisnig. Y mae Mr. Morant yn wr medrus, amryddawn a chyfrwys; eithr ni fedd fymryn o gydymdeimlad a delfrydau cenedl- aethol y gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol. Ei brif waith ef yn yr argyfwng presennol yw lleihau treuliau'r Llywodraeth ynglyn ag Yswir- iant, ac nid oes a fynno a hawliau Cymru nag unrhyw un o'r cenhedloedd bychain eraill. Cyr- haeddodd atom y wybodaeth iddo, er's misoedd bellach, geisio darbwyllo Prif Ddirprwywyr Cymru, yr Iwerddon a'r. Alban, i aberthu eu rhagorfreintiau cenedlaethol yn y gyfundrefn Yswiriol. Methodd yn llwyr yn yr Iwerddon a'r Alban. Ni fynnai'r Scotyn na'r Gwyddel ollwng un o'r sefydliadau a'r rhagorfreintiau y mae wedi ymladd cyhyd o'u plegid. A hwy yn sylweddoli'r perygl mewn pryd, aetliynt ati o ddifrif i gynhyrfu'r wlad ac yn ol pob argoel aeth y perygl heibio, ac o ganlyniad y mae'r Dirprwyaethau Cenedlaethol yn yr Iwerddon a'r I Alban yn ddiogel. Hwyrach fod y Cymry wedi ymddiried yn y ffaith fod Mr. Lloyd George wrth y llyw, ac yn aelod o'r Cyfrin-gyngor. Ysywaeth, nid Mr. Lloyd George sydd yn y Trysorlys ar hyn o bryd ac er maint ei allu a'i ddylanwad, mae'n rhaid iddo ef wrth gyd- weithrediad a gwyliadwriaeth ei genedl ei hun. Ac hyd yn hyn nid yw'r Cymry wedi symud bys bach yn y mater. Mae'n wir nad yw'r Dirprwywyr Cymreig fel corff yn mwynhau ymddiriedaeth Iwyraf y genedl. Yll wir, clywsom ddywedyd gan rai sydd mewn sefyllfa i wybod dirgelion y Ddir- prwyaeth Yswiriol Gymreig fod un neu ddau o'n Dirprwywyr Cymreig yn barod i aberthu hawliau cenedlaethol Cymru yn y mater pwysig hwn, a bod Mr. Morant, er iddo fethu yn yr Iwerddon a'r Alban, yn debyg o lwyddo yng Nghymru, oni wel y wlad ei pherygl yn fuan iawn. Nid mater o bersonau mo hwn, Mae cenedlaethau o Gymry wedi llafurio 'ac wedi aberthu llawer i ennill a sicrhau cydnabyddiaetli o genedlaeth- oldeb Cymru. Gall fod ein Dirprwywyr presen- nol yn amhoblogaidd eithr y mae'r sefydliad yn fwy o lawer na'r personau, ac y mae'n annhraethol bwysig inni fel cenedl i gadw pob sefydliad cenedlaethol a feddwn. Ac os ydym am gadw'r sefydliad hwn, fe fydd yn rhaid i Bwyllgorau Trefol a Sirol symud yn ddiatreg. Yn ol y wybodaetli sydd gennym, mae'r gelyn- ion pennaf yn ein plith, ac nid yn Llundain.

Advertising

IY Cyngor Cenedlaethol o'r…