Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

IPOB OCHR I'R HEOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

stesion-bawb ond y rhai oedd yn dis- gwyl eu trens i mewn o wahanol gyfeir- iadau-fel y gallai'r Brenin a'i gwmni gael lie i ddisgyn a symud hyd y platfform. Ymysg y rhai oedd yno yn aros am eu trens yr oedd Syr John Rhys a minnau. Cawsom ysgwrs dawel, ac aethom ynghyd i gael golwg ar y Brenin yn disgyn o'i gerbyd ac yn eyfarch hwn ac arall. Bychan feddyliai y rhai oedd o gwmpas fod pen- naeth Coleg yr Iesu yn y cynhulliad cymysg hwnnw-gwr oedd a llawer o frenhiniaeth dysg o'i gylch ac eto nid oedd neb yn y stesion yn fwy diymhongar na Syr John. Cariai ei fag arferol gydag ef. Yr oedd mackintosh lwyd-felen am dano, a dywedai wrthyf mai dychwelyd adref yr oedd o un o gynadleddau dysg ei wlad. Gresyn meddwl na cheir golwg mwy ar y dysgawdwr hyfwyn hwn, mwy nag ar Syr Edward Anwyl-y ddau Gymro mwyaf dysgedig efallai yn yr holl fyd mewn rhai cyfeiriadau. (3) Pa beth a wna cyfeillion Aber- ystwyth gyda'r Bisteddfod y flwyddyn nesaf ? Taflwyd hi eisoes o 1915 i 1916 ac yn awr, oherwydd y rhyfel, y mae barn y dref yn lied ranedig ynghylch y priodoldeb o'i chynnal yr haf nesaf eto. Anfonodd Mr. D. Lloyd George lythyr yn eu hannog i wneud, ond ar raddfa lai nag arferol. Y mae a thra won Aberystwy th yo lied awyddus am wneud, a'r gwyr sy'n gwybod mwyaf, o bosibl, am bethau cenedlaethol. O'r ochr arall, ymddengys fod y gwarantwyr, sydd a'u henwau yn rhestr swyddogol y trefniadau a'r tes- tynau, yn pryderu,, a rhai ohonynt yn dweyd nad ymgymerant a bod yn warant- wyr os cynhelir hi yn ystod tymor y rhyfel. Diau iddynt frawychu wrth weled sut y bu ym Mangor eleni, a gorfod i'r gwarantwyr yno dalu symiau tuagat y golled. Yn wyneb y ewbl, anodd gwybod beth i'w ddweyd, a diau fod pobl oreu Aberystwyth yn deall yn well na neb arall. -(4) Crybwyllwyd yn un o'r pwyllgorau, yn ol y papurau newyddion, y byddai Birkenhead yn barod i gynnal yr Eistedd- fod yn 1916 pe y tynnai Aberystwyth yn ol. Prin y gallwn gredu hynny, ryw- fodd a gwell hefyd fyddai gennym weled 1 pob man arall yn gadael llonydd i'r Eis- teddfod hyd oni chaffo Aberystwyth ei thro, a hynny'n deg ac mewn heddwch Anturiaeth fawr yw ei chynnal o dan yr amgylchiadau goreu. Y mae cryn tenter ynglyn a hi. Gall llu o bethau by chain gyd-ddigwydd a'i gwneud yn fethiant. Dibynna ei llwyddiant ar ysbryd y wlad ar y pryd yn fwy na dim, yna ar y tywydd, ac yna ar yr urddasolion a ddel iddi. Pe byddai streic fawr mewn gwlad, neu anghydfod ynglyn a'r reilffyrdd, dyna ddigon am dani. Yn sicr, prin y gellir dweyd fod hwyl fawr eisteddfoda yn meddiannu neb ynghanol cythrwfl y cen- hedloedd ac eto, y mae blwyddyn arall heb Eisteddfod Genedlaethol yn beth chwithig iawn yng Nghymru. Cafwyd un felly eisoes—1914- 0 ran hynny, chwithig yw'r cwbl yn awr. (5) Llithro yn lied dawel o'r golwg ddarfu Mr. David Jenkins, y cerddor, hefyd. Cludwyd ei gorff o Aberystwyth i Drecastell, Brycheiniog, i'w gladdu. Dyna ddau olygydd adnabyddus y Cerddor wedi mynd yn lied agos at eu gilydd- Emlyn Evans a David Jenkins. Gall nad oedd Mr. Jenkins wedi ennill llawn cymaint o serch y genedl ag Emlyn, ond yr oedd iddo yntau le amlwg ym myd cerddorol ein gwlad. Ystyrrid ef, efallai, yn un o brif awdurdodau'r genedl ar bynciau cerddorol yn ddiweddar. Tuedd i fod yn ddiamynedd gyda phopeth ond cerddor- iaeth oedd ynddo pan ddelai i lwyfan eisteddfod. Gwelsom hynny ein hunain ynddo. Nid oedd i feirniaid llenyddol yr Bisteddfod d r a d d o d i beirniadaethau manwl ar draethodau ac awdlau namyn gwastraff ar amser yn ei olwg. Yr oil a fynnai iddynt ei wneud oedd cyhoeddi'r ffugenwau, a chilio o'r ffordd. Eithr wele yntau wedi mynd cyn heneiddio ohono lawer. (6) Derbvniais air fod pulpud yr eglwys Annibynnol Gymraeg yn nhreflan Granville, yn nhalaith New York, America, wedi myned yn wag, a'r gweinidog, Mr. Newton, wedi ymddeol o'i ofalon gweinid- ogaethol er diwedd Medi. Y mae'r eglwys hon yn un lied gryf-tua thri chant o aelodau, fel y deallaf. Un o'r capeli harddaf a fedd y Cymry yn yr holl wlad yw capel Annibynnol Granville. Y mae yn eang, ac wedi ei wneud yn dda, ac yn llawn o'r trefniadau diweddaraf ynglyn ag addoldai. Un o ardaloedd y chwareli yw. Y mae tair neu bedair o ardaloedd o'r fath ynghlwm gyda' n gilydd yn yr un cylch— West Pawlett, Poultney, Fair- haven a Granville-rhvw ddau can milltir o ddinas New York ydynt. Ond y lie goreu a harddaf yw Granville, ac y mae yna gyfeillion caredig odiaetli. Pwy, tybed, fydd y gweinidog nesaf ? Tybed mai rhywun o Gymru eto, fel y Parch. Joseph Evans, B.A., i New York, ai ynte un o'r brodyr da sydd eisoes yn y wlad ? (7) Dyna Stephen Piiillips, y dramodydd Saesneg, wedi mynd-awdur llawer drama dra nodedig, ac amryw ohonynt a gogwydd ysgrythyrol iddynt, megis Herod,' loan Fedyddiwr,' Pechod Dafydd,' &c. Tyb- iasom pan ddaeth ei enw i sylw gyntaf mai Cymro ydoedd, neu o'r hyn lleiaf fod iddo gysylltiadau Cymreig yn rhywle; eithr deallwn mai mab i offeiriad yn Peter- borough ydyw. Gall er hynny fod ei dad, Dr. Phillips, yn dod o linach Gymreig yn y pen draw. Bu'r mab galluog farw yn lied gynnar—ychydig gyda deugain oed. Y mae gweld dynion galluog fel hyn yn syrthio i'r bedd yn ysgil y rhyfel yn drist iawn, canys ni chant yn eu marwolaeth gymaint sylw ag a gawsent ar adeg arall. Brbyn y bydd y byd wedi dod yn ol i ddyddiau heddwch bydd eu beddau hwy wedi dechreu glasu, a phobl oedd gynt yn edmygwyr mor fawr ohonynt wedi dechreu eu hanghofio. (8) Ulawer sydd o ysgrifennu yn ol a blaen am swyddi a safleoedd yn y fyddin. Y mae'r ceisiadau am gomisiwn' yn aneirif ymron, meddir ond yn ddiweddar y mae athrawon rhai o'r ysgolion i fechgyn sydd ar hyd a lied Lloegr yn protestio yn erbyn rhoi comisiwn' i fechgyn yn rhy ieuainc. Dywedant fod bechgyn dwy ar bymtheg oed yn cael eu gwneyd yn swydd- ogion cyfrifol yn y fyddin. Gwedir hyn i raddau gan yr awdurdodau, a dywedant nad oes neb o dan ddeunaw i gael comis- iwn.' Er hynny, atebir hwy gan yr athrawon, a dadleuant y gallant roi enghreifftiau o fechgyn 17 oed a 171,i yn second lieutenants. Tybed fod y fath beth yn bosibl a gosod llafnau dibrofiad fel hyn uwchben cannoedd o ddynion hynach o lawer na hwy ? Y mae yn anghredadwy ymron Yn sicr, nid oes reswm o gwbl yn y fath beth. Prin y credem ein hunain mewn dodi neb o dan rhyw ddwy neu dair ar hugain oed mewn swyddi cyfrifol o'r fath-ac y maent yn beryglus o ieuainc hyd yn oed wedyn. Profiad a barn lied gywir, a medr i gymeryd pethau i mewn gyda chryn feistrolaeth, ddylai sicrhau comisiwn/ a dim arall. Ffolineb dybryd yw rhoi safleoedd milwrol o'r fath i fech- gynos amrwd, a disgwyl i ddynion yn cyrraedd i fyny hyd at ddeugain oed ufuddhau iddynt ymhob rhyw fodd, a thalu gwarogaeth i rai mor ddibrofiad ac anwybodus. Mewn adeg heddychol yn hanes y wlad ni byddai berygl mawr mewn gwneud bechgyn mor ieuainc yn swydd- ogion ond ar hyn o bryd y mae yn beth og i on ond ar h- y dylid ei vsgoi, a rhoi terfyn diamwys arno. Y mae gennym filwyr nad oes droi yn ol arnynt ymha adwy bynnag y dodir hwy. Ymladdant fel teigrod, ac ni chil- iant er dim. Gresyn fyddai ymddiried cymaint o lewder ac o hunanaberth i ofal rhai nas gallant, ar gyfrif eu hoedran, wneud chware teg a'r cyfryw. (9) Daw rhyw gvfeiriadau rhyfedd i rai o bapurau newyddion ein gwlad am y nifer sydd wedi ymrestru o dan gynllun yr Iarll Derby mewn gwahanol rannau o Gymry. Cyhoeddai un o bapurau Caer- dydd fod Gogledd Cymru wedi gwneud yn wael iawn ond yr un diwrnod yn union cyhoeddai un o bapurau goreu Lloegr fod gwyr Gogledd Cymru yn brysio wrth y miloedd i ymrestru. Dywed rhai o hyd fod Arfon a Mon a Meirion, Cered- igion a sir Gaerfyrddin. wedi bod yn araf iawn ac yn gyndyn ryfeddol. O'r ochr arall, dyma bapur o ardal Conwy sy'n dweyd fod apel y Cadfridog Owen Thomas wedi achosi dylifiad y Gogleddwyr o dan y faner. Ceisir esbonio'r hwyrfrydedd tyb- iedig o lawer cyfeiriad. Priodolir yr araf- wch (os bu'r fath beth) i drefniadau gwael ynglyn ag agor swyddfeydd ymrestru yn y rhannau gwledig. Hyn a gyhoeddir-i dri o fechgyn o ardal anghysbell Blan- sanan orfod cerdded un milltir ar bymtheg cyn y gallent ddodi eu henwau i lawr tel rhai parod i'r fyddin. Cerdded o Lansanan i Abergele ar nos Sul ar ol y moddion A oedd rhyw syimwyr mewn petli o'r fath ? Ac a feiddia rhywun, lieb chwilen yn ei ben, wadu gwladgarvvch bechgyn o'r fath, a'u parod my dd i wasanaethu gwlad a brenin ? (10) Ymholiadau annheilwng yn Nhy r Cyffredin h e f y d oedd y rhai hynny ynghylch nifer y Gogleddwyr sydd wedi dianc i weithfeydd y Deheudir er mwyn ymguddio, yn ol yr haeriad, rhag ymrestru. Ffiaidd yw ensynnu peth o'r fath, ac wfft i wladgarwch y dyn oedd yn gofyn cwest- iynau fel hyn! Oni ddylai efe wybod cyflwr gweithfaol Gogledd Cymru cyn athrodi gweithwyr ei genedl gydag ymhol- Parhad ar tudal. 12.