Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN.

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. Y Tri Darlun o Watcyn Wyn. YR ydym a'n golwg ar ei Gofiant gan y Parch. Penar Griffiths. Ei dri darlun yn y Cofiant hwn aeth a'n I I ? Drycl, ac yn wyneo rnelny, a rhai o benawdau y llyfr, yr edrychwn ar ein prifardd hyglod yn awr. Ceir y dar- luniau hyn yn y drefn ac o dan y teitlau a ganlyn, sef Watcyn Wyn,' Watcyn Wyn tua 18 oed,' Watcyn Wyn yn ei Gadair.' Ar ei feddfaen ceir tri gair etyb i'r tri enw hyn, sef athro,' bardd,' preg- ethwr.' Ychydig yn ddibwys yn ein golwg ydyw llenyddiaeth cerryg beddau. Parant i ni feddwl, rywsut, am aml-eiriau gwedd- lau rhywrai yn yr Efengylau ac yn hynny o beth mae gweddiau a cherryg beddau yn gyffelyb. Gwelsom dro yn ol fedd heb faen, ac estyllen wrth y pen, ac arni ddau air; ond agorid cyfrolau yn y ddau air hynny, sef Griffith John.' Er na buasai Watcyn Wyn ei hun yn hidio am y tri gair hyn ar garreg ei fedd, eto atebant i ni i'w defnyddio yn eglurhadau ar ei dri darlun. Dealler mai son am dano ydym yn ei ddarluniau, ac nid fel athro, bardd a phregethwr. Rhai sal yw pregethwyr i son am bregethwr, a sal yw beirdd i son am fardd, ac nid gwell yw athrawon i son am athraw. LIed wahanol i'w gilydd ydyw'r tri darlun hyn, at eto mae'r tri yn un. Yn Rhif i saif gwr bonheddig o'n blaen, a gwr bonheddig yn arolygydd cyfandir mawr, ac ynddo yr arwr a'r busneswr. Yn Rhif 2 ceir yn y golwg, neu yn dod i'r golwg, dawelwch a hedd y bore a gwawr y dydd. A chyda hynny daw ger bron lawer iawn o wreiddiolder, ac mae hwnnw yn brigo allan mewn pethau bychain megis tro y gwallt, a phleth y cadach gwddf, a threfn y ddeheulaw, ac arddull y gwef- usau. Yn Rhif 3 canfyddir ymdeithydd blynyddoedd yn dychwelyd yn amlder ei nerth o wledydd pell, ac wedi hel ei an- farwoldeb ynghyd, ac ar roi ei hun i lawr i eistedd yn ei Gadair,' a'r byd ar ei aswy. Hoff iawn ydym o'r darlun hwn. Nesaf ato yw Rhif 2. Nid- cystal yw Rhif i. Nid Watcyn Wyn yw Watcyn Wyn Rhif i. Wrth weld Rhif 2 deffroir ynnom edmygedd a gweddi a hwre. Wrth sefyll o flaen Rhif 2 diolchwn a llawen- hawn, a chyfyd deigryn i'n llygad. Yn briodol iawn, rhoddir yn y llyfr hwn ddwy bennod gyfoethog a diddorol i'r BARDD. Bardd wrth raid a bardd gwerihol oedd Watcyn Wyn. Un o'r beirdd mwyaf natur- iol a fagodd Cymru ydoedd ef, Felly tair ffenestr geir i'w weld drwyddynt fel bardd, ac i raddau pell fel dyn, ydyw naturioldeb, gweriniaeth a rhaid. Safai yn yr un dos- barth yn hyn a Mynyddog a Cheiriog, a safai ar ei ben ei hun yn rhagorol yn eu cymdeithas mewn rhai pethau hefyd. Difyr fuasai edrvch arno ef ac Islwyn yn cydgerdded hefyd. Meddylier am danynt yn cyd-deithio drwy Gymru am dro. Natur wel Islwyn, a'r bobl a'u harferion wel Watcyn Wyn. Via natur yr aethai Islwyn i'w nefoedd hen gymeriadau Cym- reig, a'u meddyliau a'u defosiynau, a ddiddorai Watcyn Wyn. Ceid mwy o gyfriniaeth yn Islwyn, a mwy o feudwy- aeth (aloneness) ond ceid mwy o'r bywyd bob dydd, yn ei bobl a'i arferion a'i ddi- fyrion a'i addoli, yn Watcyn Wyn. Un dosbarth ga Islwyn i'w werthfawrogi, ac mae hwnnw, bid sicr, y dosbarth goreu ond ca Watcyn Wyn bob dosbarth rydd ei fryd ar ddarllen a meddwl i gymdeithasu ag ef. Y mae i'r ddau fardd anfarwol hyn eu mawredd, ac nid mawredd yr efelychwr sydd i'r un ohonynt. Caiff eraill ddweyd am fawredd Islwyn a dywedwn ninnau yn wylaidd ac yn nacaol am fawredd Wat- cyn Wyn, nad ydoedd yn un dwfn, tawel a thywyll. Yr oedd ei naturioldeb a'i weriniaeth yn rhy gryf i fod yn bell o'r golwg. Chwery ei awen yn uchel, mae'n wir ond yn ei holl ehediadau mae yn y golwg, a gerllaw, ac o hyd Haw. Nid ydym yn synnu at ei naturioldeb a'i weriniaeth. Bro werinol ydoedd, ac ydyw, ei fro ef. o'r Cyfyng i'r Gellimamvydd. Bro rydd, er fod y Cyfyng ynddi, ydyw'r fro hon a bardd rhydd fel awel y Mynydd Du ydoedd Watcyn Wyn. Nid oes bardd o nod yn hanes Cymru aeth mor agos i'r bobl yn ei Chrefydd a'i Haelwyd a'r bardd Wateyn Wyn. Ac er ei goronatt a'i gad- eiriau, aethai yn nes i'r bobl o hyd. Perthyna i fardd ac i brifardd ei bellter a'i ddieithrwch a'i geidwadaeth. Nis gwyddom ai codi o swydd neu o natur mae hyn, ond darllenwn mai hyn sydd wir. Er ein boddhad, wele eithriad yn Wateyn Wyn ac un rheswm am hynny yw fod mwy o naturioldeb nag o ddysg yn ei awen, ac mai yn ei gwaith yr ymhyf- rydai yn fwy nag yn ei safle a'i gwobr. Bardd y werin a bardd wrth raid ydcedd ef. Cenwch yr hen benillion gwledig a gwerinol hyn, fechgyn, fel y canai eu hen awduron syml hwynt, ac nid yn iaith yr oes ole hon.' Hoffwn ei weriniaeth yn fawr. Yr oedd barddoniaeth yn ei werin- iaeth, ac yr oedd naturiaeth iach y gwan- wyn a'r haf yn y ddau. Yr oedd ei weld yn llawer, a'i wrando yn fwy, a'i ddeall 1 yn berchenogaeth. A welsoch chwi ei wisg ? A glywsoch chwi ei ymgom ? A ddarfu i chwi graffu ar lamneidiau ei ergyd- ion? A fuoch chwi'n sylwi ar ei law- ysgrifeii ? Gawsoch chwi ryw awgrym oddiwrth ei chwardd a'i wen ? Wele wr gerddodd allan o ddieithrwaith athro, pregethwr, bardd a beirniad a lienor, a phawb a phob un yn ei garu o galon ar hyd ei daith fel ar ei diwedd. Fe dosturia yr awdur Penar wrthym am ddweyd ein bod yn ystyried ei ddwy lbennod ar CHWARE AWEN yn un o anhepgorion y Cofiant, ae maent yn addurn yn eu troad allan. Fe fuasai son am Watcyn Wyn heb son am y Chware' hwn yn bradyrchii dallineb i arbenigrwydd y dyn a'r bardd. Ac yn briodol iawn, gesyd Penar hwn o'n blaen mewn deuair cywir, sef Chware Awen.' Un o weddau rhyfeddaf ei bersonoliaeth ydoedd y chwareuster hwn. Ymddengys ei fod yn barddoni wrth chware, ac yr ydoedd yn chware wrth farddoni. Medd- ylier am dano ar ol. nythau adar, ac yn neidio, a meddylier am dano: y 11 canu ar Dynnu'r Dant Hir,' ac 'Ann yn Hanner Cant,' a'i farwnad i Hen Gaseg Dafydd William, Nantrhiw,' &c. Wrth gymeryd golwg arwynebol ar hyn, gellid tybio fod llawer o wast' ac o ddireidi ffol ynddo, ac o vsgafnder ond camgymeriad anni- oddefol fuasai ei ddarllen felly. Ceid dyfn- deroedd o ddifrifwch yn ei natur. Yr ydoedd ef yn wr difrifol iawn, er ei fod beunydd yn wr humourous. Dawn a eilw am galon yn ogystal a deall yw humour. Y ddawn hon enillodd i Watcyn Wyn ei boblogrwydd, sef y ddawn hon fel yr oedd yn Chware Awen.' Soniasom am y gair ysgafnder.' Wat- cyn Wyn yn ysgafn, yn wir Yr ydoedd yn ei dclydd yn un na feddai Cymru mo'i fath, ac yr oedd iddo gadair- uwch yng Nghymru na Chadair Eisteddfod ac eto efe ydoedd un o ddynion mwyaf dirodres y Dywysogaeth, ac efe ydoedd un o ddyn- ion mwyaf difrifol yr Orsedd a'r lIwvfan a'r areithfa. Ymhellach, edmygwn ddoethineb yr awdur yn y lie a rydd i .1 ANERCHIAD o eiddo'r prifardd, sef ei Anerchiad yn yr Undeb, 1895. Teitl neu destyn yr Anerch- iad yw Y Paratoad Goreu ar Gyfer y Weinidogaeth.' Eir a'r darllenydd i faes newydd gyda'r Anercliiad hwn, a cheir y bardd mewn diwyg arall o lenyddiaeth. Ceir eynhorthwy adnewyddol ac ychwan- egol i weld ewmpas a nodwedd troad meddwl Mr. Williams yn yr Anerehiad hwn fel yn ei bedair pregeth sydd yn dilyn. Hawdd gweld ei graffter fel sylwedydd yma, a'i onestrwydd di-dderbyn-wyneb, a'r athroniaeth agos ac ymarferol oedd yn ei feddwl. Rhoddid iddo ar gyfer 1895 destyn dyrys ac anodd. Ceid o'i gylch lawer o wahanol farnau, a cheid o gyleh y gwahanol farnau hyn deimladau tyner I iawn'; a cheid dosbarthiadau gwahanol yn llygadfyw i'w gwahanol fuddiannau a cheid rhai, ysywaeth, yn edrych ar y pwnc