Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Y DRYSORFA GYNORTHWYOD.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y DRYSORFA GYNORTHWYOD. GOGLD A DE. At Olygydd y Tyst. SVR,-Nid amcan hyn o nodyn yw ail-ennyn yr hen genfigen a'r hen ragfarn sydd wedi cael 1 llawer gormod o le yni mywyd Cymru, yn wladol a chrefyddol, ond ceisio rhoi hoelen newydd yn ei harch. Y mae wedi cael ei ddweyd-rhwng difrif a chwareu, o bosibl-mai'r Gogledd sydd yn mynd i fanteisio ar y Drysorfa Gynorthwyol. Rhyw hanner gwir sydd waeth na chelwydd yw hynny. Y mae yn ffaith fod yn y Gogledd fwy o eglwysi gweiniaid., a mwy o weinidogion ar gyflogau bychain, nag sydd yn y De ond gadawer i ni graffu ar y peth o ddau gyfeiriad. 1. Pwy yw y gweinidogion yclynt yn gortod byw ar gyflogau bychain ? Deheuwyr, lawer ohonynt. Cyfyngaf fy sylw i un darn o'r wlad yn unig, heb roi cymaint ag awgrym pa ddarn, am resymau y gellir yn hawdd eu deall. Y mae yn y darn hwnnw ar hyn o bryd 16 o weinid- ogion, ac o'r rhai hynny y mae saith yn Ddeheu- wyr. 0 ran eu cyflogau gellir eu dosbarthu yn dri dosbarth :-Dosbarth I., o £ 150 i £ 200, tri- dau Ddeheuwr ac un Gogleddwr Dosbarth II., o £100 i £150, pedwar-un Gogleddwr, dau Dde- heuwr, ac un anwyd yn y Gogledd ond a god- wyd i bregethu yn y De Dosbarth III., dan ?100 (amryw ohonynt gryn lawer dan hynny), ji?w—?chwe Gogleddwr a thri Deheuwr. Gair r am y tri hyn. No. i.-Y mae wedi treulio ei oes yn yr un fan, yn fawr ei barch ymysg ei bobl ei hun yn ogystal ag yn ei gymdogaeth a'r Cyfundeb. Y mae yn bregethwr sylweddol a synhwyrol, ac ar adegau gall fod yn rymus ac effeithiol iawn. Ni esgynnodd gloewach cymeriad i bulpud erioed, ac ni fu neb uniollach ei amcan yn bugeilio praidd Duw un amser a bu'n gwneud yr oil, a chadw gwraig a thri neu bedwar o blant, am ychydig iawn dros bunt yr wythnos am flyn- yddoedd meithion. Sut y llwyddodd sydd fwy dirgelwch na Pliegwn y Gogledd No. 2.—Gwr priod yw hwn eto, gyda gwraig a dau o blant. Mae'n bregethwr da, yn siaradwr effeithiol, yn gymeriad gloew ac yn frawd annwyl, 45 y mis (calendar). No. 3.—Newyddian yw ef, ac nid llawer wn am dano, heblaw fod amgylchiadau allanol yr eglwys ar hyn o bryd mewn ystad ddifrifol iawn ac nid oes ond gobeithio fod yr adnod honno yn wir—' Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.' Ychydig o ddim arall all ddisgwyl am amser maith i ddod Dyma dri Deheuwr ydynt yn sicr o fod yn I sychedu am ddyfroedd oerion y Drysorfa Gy- northwyol. Felly gwelir, os y daw cyfran weddol o arian y De i'r Gogledd, y bydd Deheuwyr yn cyfranogi ohonynt cystal a Gogleddwyr, fel y mae y ffin rhwng Gogledd a De yn torri i lawr. (2) Edrychwn eto ar y peth o safbwynt yr eglwysi. Paham y mae cynifer o eglwysi y Gogledd yn eglwysi gweiniaid ? Y ffaith yn syml yw hyn nad oes gan y Gogledd foddion cynhaliaeth i'w phlant, ac y maent yn gorfod gadael cartref er mwyn enuill eu bywioliaeth. Dyma un enghraifft o eglwys fechan mewn cil- fach ddiarffordd: Ddeng mlynedd ar hugain yn 01 ni rilai ond rhyw 44; am rai blynyddoedd bu'n dringo yn araf, araf, nes cyrraedd i yniyl y 60 yna yn raddol drachefn dechreuodd ddis- gyn, nes yn awr y mae yn beryglus o agos i'r 44 gwreiddiol. Ceir ei phlant mewn llawer rhan o'r byd-America, De Affrig, Lerpwl, Mancein- ion, Llundain, cymoedd Morgannwg (nifer fawr) ac eraill hwnt ac yma. Dyna'r fel y cedwir yr eglwys wan yn wan o hyd ac, wrth gwrs, nid oes unrhyw lafur nac ymdrech o du gweinidog nac eglwys yn effeithiol i'w rwystro. Tafled y Deheuwr lygaid ei feddwl c1.ws aelodau llawer eglwys mewn cylchoedd gweithfaol yn arbenuig, a cheisied allanfjpa sawl Gogleddwr sydd yn eu mysg a chofied fod y rhan fwyaf ohonynt, ond odid, wedi gadael eglwys wan yn wannach pan gefnodd ar gartref. Yr eiddoch, &c., CYMRO.

I 'Y DRYSORFA GYNORTHWYOL.

Tabor, Abergwynfi.

GLOYWI'R GYMRAEG. r