Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Rhiwmatic ac Anhwyldeb yI…
News
Cite
Share
Rhiwmatic ac Anhwyldeb y I Kidney. Triniaeth Rad. I Y mae Rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansoddiad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur gyda hyn y cytuna pob meddyg gradd- edig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg, grafel a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drill Rhiw- matic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a thrwy hynny symudir achos yr anhwyldeb, yr hyn o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia ohono ac y mae wedi iachau achosion dirifedi wedi meth- iant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddygin- iaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog, ac sydd yn fynych syrthio mor fyr o'r honiadau rhyf eddol a wneir, fel y mae ffydd ynddynt wedi mynd ar goll. I brofi fod Tabledi Estora yn llawn deilyngu y disgrifiad ohonynt—meddyginiaeth onest am bris gonest—anfonir un blychaid llawn o 40 Tabled i ddarllenwyr y TYST fel sampi rhad, ar dderbyniad y rhybudd hwn a 3c. mewn llythyr- nodau i dalu'r cludiad, y pacio, &c. Ar werth gau Fferyllwyr am J/3 y blwch o 4° Tabled, neu 6 blw eh am 6/9. Am Sampl- flwch llawn, cyfeirier Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C.
CYFARFOD YDDCH WARTEROL.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYFARFOD YDDCH WARTEROL. CYFUNDBB CYMRBIG PENPRO. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol diweddaf y Cyfundeb uchod ym Mhenygroes ar y dyddian Mawrth a Mercher, Tachwedd 23ain a'r 24ain. Cynhadledd am 2 o'r gloch y dydd cyiitaf, dan lywyddiaeth y Parch. D. M. Thomas, gweinidog parchus y lie. Yr oedd yn hresennol hefyd y Parchn. J. Stephens, llwynyrhwrdd H. T. Jacob, Abergwaun J. Evans, Gideon; R J. lloyd, Llandudoch D. lewis, A.T.S., Ford J. H. Evans, Trefdraeth J. J. Jones, B.A., Bryn Seion P. R Price, Giandwr W. Owen, y cenhadwr; a D. Williams, Maenclochog. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. J. Stephens. Ar ol dalrlen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd 1. Fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynnal yn Rehoboth, yn ol y gylchres. 2. Fod y Parch. D. M. Thomas, Penygroes, i bregethu yn y cyfarfod nesaf ar Brofiad o Grist.' 3. Fod gweinidog y lie y bydclo y Cyfarfod Chwarterol yn cael ei gynnal ynddo i bregethu ar y pwnc yn y cyfarfod dilynol. 4. Fod yr Ysgrifennydd i anfon gair at y Parch. J. T. Phillips, Hebron, i ddatgan cyd- ymdeirnlad y frawdoliaeth ag ef yn wyneb gwaeledd ei iechyd, ynghyda'u dymuniadau mwyaf diffuant am ei adferiad buan i'w iechyd cynefin,a'i ffyddlondeb a'i wasanaeth gwerthfawr i'r Cyfundeb- 5. Penodwyd y Parchn. E. J. Lloyd, P. E. Price, a'r Ysgrifennydd i ymgymeryd a'r gwaith o ad-drefnu cylchres y Cyfarfod Chwarterol. J 6. Galwodd y Parch. P. E. Price sylw at y Drysorfa Gynorthwyol. Siaradwyd ar y mater ] gan amryw frodyr, a dymunid yn daer am i'r personau sydd wedi eu trefnu i yinweled a'r gwahanol eglwysi i wneud hynny mor fuan ag I sydd bosibl. Da iawn oedd genxiyin oil weled y Parch, w. Owen, y cenhadwr, yn ein mysg. Cawsom ganddo anerchiad rhagorol ar y Genhadaeth-prif bwnc ei fyfyrdod a'i wasanaeth-a diolchwyd iddo yn gynnes am dano. GorfJennwyd trwy wcddi gan y Parch. P. R Price, Glandwr. Am 6 yn yr hwyr, ym Mhenygroes, dechreu- wyd gan y Parch. E. J. Lloyd, Tlandudoch, a phregethwyd gan y Parchn. D. Lewis, A.T.S., Ford, a D. Williams, Maenclochog. Ar yr un adeg, yn Antioch, pregethwyd gan y Parchn. J. H. Evans, Trefdraeth, a P. E. Price, Giandwr. Am 10 bore trannoeth dechreuwyd gan y Parch. D. Lewis, A.T.S., Ford, a phregethwyd gan y Parchn. J. C. Rees, D.D., Brynberian, a J. J. Jones, B.A., Bryn Seion. Yr oedd y blaenaf yn pregethu ar y niater rhoddedig iddo gan y Gynhadledd, sef Enwau Duw fel Cysuron i Saint.' Cafwyd ganddo bregeth werthfawr yn llawn o gysuron i'r saint ar gyfer eu treialoh a throion dyrys y daith. Diolchwyd iddo yn galonnog am dani. Am 2 y prydnawn dechreuwyd gan y Parch. J. H, Evans, Trefdraeth. Yn dilyn cafwyd anerchiad Cenhadol byw, diddorol a melys gan y Parch. W. Owen, y cenhadwr, a phregethwyd gan y Parch. J. Evans, Gideon. Am 6 yn yr hwyr dechreuwyd gan y Parch. H. T. Jacob, Abergwaun, a phregethwyd gan y Parchn. R. H. Williams, Tyrhos, a II. T. Jacob. Cafwyd cyfres o gyfarfodydd a hir go fir er. daioni yn ddiau. Yr oedd ein cyflawniadau yn cael eu dwyn yiulaen mewn ardal sydd yn nodedig am nifer yr enwogion a godwyd ynddi,. ymysg y rhai nid oes neb yn fwy na'r anfarwol Caleb Morris, yr hwn sydd yn noswylio yn yuiy] y capel oeddem ynddo a theimlem oil fod ein hagosrwydd at fan fechan ei fedd yn rhoddi ysbrydiaeth i ni ynglyn a'n gweithrediadau. Da iawn oedd gennym weled agwedd mor llewyrchus ar y frawdoliaeth ym Mhenygroes, a'n hannwyl frawd, y Parch. D. M. Thomas, mor barchus ymysg ei bobla thrwy yr ardal yn gyffreclii- lol, Rhoddwyd derbyniad croesawgar iawn ganddynt i'r Cwrdd Chwarter yr oedd eu darpariadau yn helaeth ar gyfer yr ymwelwyr, ac yn cael eu gweini gyda phob sirioldeb. Diolch- wyd yn galonnog iddynt am eu llafurus gariad. Bydded iddynt oil deimlo eu bod yn cael adgyf- nerthiad gyda'r gwaith da trwy y cyfarfodydd rhagorol a gafwyd. D. WILLIAMS, Ysg. I
Advertising
Advertising
Cite
Share
1. RHYMNI.—Wedi penderfynu aros yn Rhyrani y mae'r Parch Fred Jones, B.A., B D ar oi yr alwad a gafodd o Lmidaia a'r 011 arall o hen eglwys barchus yr Hen Gapel, llanuwehilvn.
Seion, Treffynnon.
News
Cite
Share
Seion, Treffynnon. Mae y flwyddyn hon yn hanes y Parch. T. Henry Jones, gweinidog yr eglwys uchod, a'i deulu, yn darllen fel rhamant. Daeth y ferch henaf, Miss M. Emily Jones, allan o Goleg Bangor wedi ennill ei thystysgrif fel athrawes gyda distinction yn Gymraeg, ac ymgeisiodd am le yn Wilmington Park School (yr ysgol fwyaf yn sir Gaer) ac er fod 18 o vingeiswyr, Miss Jones enillodd y saile. Y mae yr all ferch, Miss Bertha Ceridwen Jones, mewn safle anrliydeddus yn Rhyl er's pedair blynedd. Bwriada yn awr symud gyda'r tei-ilu i Market Drayton. Pasiodd Miss Alice Claudia ei Senior Certifi- cate (Central Welsh Board), ac ennillodd y prif safle -yn yr ysgol mewn tri o'r testynau, ac fe sicrliaodd le fel student teacher mewn ysgol gyf- agos i'w chartref. Paiodd y bachgen, Mr. Newton S. Jones, ei Honours Certificate (Central Welsh Board) er nad yw ond 17 oed, ac y mae wedi cael derbyniad anrhydeddus i Brifysgol Manchester. Pasiodd yr eglwys yn Seion yn unfrydol a chynnes iddo ddechreu pregethu, a phregethodd ei bregeth gyntaf nos Lun, Tachwedd 29ain, yn Gymraeg, o flaen cynulleidfa fawr, Bwriada bregethu ei bregeth Saesneg gyntaf yn y Tabernacl, Tre ffynnon, lie gweinidogaetha yr ysgrifennydd, ar y Sul cyntaf yn Rhagfyr. Galwyd y tad i gadair Cyfarfod Chwarterol Dinbych a Fflint am y flwyddyn. Mae wedi derbyn galwad unfrydol a thaer oddiwrth yr eglwys barchus yn Market Drayton gyda'r Saeson, ac y mae yntau wedi ateb yr alwad yn gadarnhaol. Dwys iawn oedd y teimladau yn Seion pan hysbysodd Mr. Jones ei fwriad i ymadael, ac y mae'r ffaith i'r eglwys yn Seion wrthod yn bendant ei ymddiswyddiad mewn distawrwydd dwfii. yn siarad cyfrolau am eu hoffter ohono ar ol 14 mlynedd o lafur difiino. Bydd y golled ar ei ol yn fawr, nid yn unig yn Seion. ond yn y dref a'r sir yn gyffredinol. Cyll y pulpud Cymreig hefyd un o'i pliregethwyr mwyaf poblogaidd a dawnus. Yn wir, bydd ei ymadawiad fel ymadawiad proffwyd—vn gadael bwkh ar ei ol. Nid llai dwys. v\v teimladau yr eglwys a'r cylch wrth feddwl colli Mrs. Jones, ei briod siriol a eharedig, yr hon sydd wedi ennill y lie dyfnaf ac anwylaf yn serchiadau yr ardal. Ei charedigrwydd y tuhwnt i ddisgrifiad (fel y gwyr llu o bregethwyr ac eraill) yn flaenllaw ymhob daioni, ac erys cof am dani yn hir yn Seion. Er mewn hiraeth wrth feddwl eu colli, dy- munwn i Mr. Jones a'i deulu hawddgar bob bendith a llwyddiant yn en maes llevvydd, Treffynnon. D. J. CHAPPLLL.
Advertising
Advertising
Cite
Share
 ?W ?tt! tHEREALWELSHCURE_ ,???R3??? /111 IAYW^ 1111 BALSAM I MLMm j? I WELLHA ||| I BESWCH ac ANWY H ¡II A "'hsiawy gyda phla"t l'li Pote1i 1/3 da 3/. GAN OLL FFERYLLWYR A GROSBRS BKI IIII ¡II II! I ,ULu Jl1 ¡
[No title]
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
eddaf, byddwn wedi colli ein cyfle, a'n tre tadaeth wedi ei rhoddi i arall. %■ Pregethu cryf, effeithiol greodd Ymneilltuaeth Cymru, a dyna hefyd a'i ceidw'n fyw felly dylasai unrhyw gynllun fyddo yn ceisio effeithioli y weinidogaeth yn ein plith gael cefnogaeth galonnog. yr holl eglwysi. Y mae ein hen gyn- lluniau i geisio cyfarfod yr angen wedi nietini yn druenus, oblegid y mae ami un o'n gweinid- ogion ffyddlonaf heddyw na dderbyniant bunt yn yr wythnos am eu llafur. Yn bendifaddeu, ni ddylai y pethau hyn fod. Rhaid i ni felly ymysgwyd o'n cysgadrwydd, a cheisio dyfeisio cynllun newydd mwy effeithiol na'r hen gyn- lluniau i wynebu problem y weinidogaeth. Y mae gan y Saeson gynllun effeithiol trwy yr hwn y rhoddir cyflog byw i bob gweinidog rheolaidd sydd a gofal eglwys arno. Ac y mae yn bryd i eglwysi Cymru ddeffro i'r ffaith na erys yr un dyn ieuanc teilwiig i'w gwasanaethu hwy am drigain punt tra y geill gael cant ac ugain trwy groesi at y Saeson. Diwrnod tywyll du yn hanes Annibynwyr Cymru fydd y diwrnod yr a eu bechgyn disgleiriaf drosodd at yr estron, gan adael gwlad eu genedigaeth i ofal gweiniaid. Ond nis geill neb eu beio am fyned drosodd at genedl arall, gan na rydd eglwysi Cymru gyflog byw iddynt. 2. Rhaid i ni hefyd gael eynllun trwy ba un y medr y cryf gynorthwyo'r gwan, a hynny heb beri poen i'w hunanbarch ef.-Nid cardod sydd yn eisiau ar y pregethwr, ond fel pob gweithiwr arall hawlia gyflog byw am ddiwrnod gonest o waith. Y mae gan rai Cyfundebau ddarpariaeth leol tuagat gynorthwyo y weinidogaeth mewn lle- oedd gweiniaid, ac y maent wedi gwneud llawer o ddaioni yn ddiddadl; ond gwneir y casgliad a rhennir yr arian mewn cylch mor gyfyng fel y mae lliw a bias elusen ar y cynhorthwy weith- iau. Y mae eynllun y Gronfa Ganolog yn cy- northwyo'r gwan, ac ar yr un pryd yn parchu ei annibyniaeth. Y mae mwy o eisiau annibyn- iaeth meddwl yn y pulpud heddyw nag a fu erioed, ac yn sicr nid ar ford cardod ac elusen y megir ef. 3. Rhaid i ni hefyd gael eynllun trwy ba un y gelliv dwyn hawliau y weinidogaeth adyaf at feddwl a chydwybod pob a-elod unigol trwy yr Enwad i gyd.—Gwastraff ar amser ydyw cynnal cyfar- fodydd a gyrru cylchlythyrau rhaid mynd at y bobl, a dwyn y pwnc hwn i sylw pob aelod. llwyddodd yr awdurdodau gwladol i gael gan filiynau o ddynion ieuainc i ymuno a'r fydd in trwy fyned i siarad a phob dyn ar ei ben ei hun. Os ydym am lwyddo gyda'r mudiad hwn, rhaid i ninnau fyned at y bobl. Ymddengys nad yw ein cyfoethogion yn malio llawer beth a ddaw o'r weinidogaeth yn ein plith, ond teimla y gwerinwr ddiddordeb angherddol yn y preg- ethwr a chredaf pe y gosodid y pwnc hwn ger bron Y bobl, y cawsid yr arian rhag blaen. D. STANLEY J ONUS. I