Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

GLOYWI'R GYMRAEG. r

News
Cite
Share

GLOYWI'R GYMRAEG. r Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn !â'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Rhymni. YNGLYN A I^YFRAU CYMRAEG. Nid yw Cymro Gwael' ond un o lawer sydd ag achwyn cyfiawn ganddynt am esgeuluso'u haddysg Gymraeg. Ni chaw- som ni'r do sydd wedi codi awr oGymraeg yn yr ysgol ddyddiol erioed. Y wyrth ydyw ein bod cystal Cymry, a'r Gymraeg hithau mor fyw ag y mae ar ol cymaint dirmvg yn nhy ei charedigion. Eto yr wyf yn synnu na ddysgir dim Cymraeg yn ysgolion eich tref fawr, canys yr oeddwn yn meddwl fod enw o ddysgu Cymraeg ymhob ysgol yng Nghymru yn awr. Am y modd y gwneir hynny'n ami ni allaf fy ymddiried fy h-Lin i ysgrifenuti. lVIi wnaf I fy ngoreu i'ch cynorthwyo chwi ac eraill i drefnu'ch darllen yn ddoeth a darbodus trwy gyhoeddi rhestr o lyfrau Cymraeg I. Rhyddiaith 2. Barddoniaeth 3. Halies fclenyddiaeth 4. Hanes Cymru. Mi garwn yn fawr ynghyntaf allu cyf- eirio at lyfrau eglurhaol ar Rhyddiaith a Barddoniaeth, ond y mae Hen Gymraeg yn ddiffygiol iawn yn hyn. Eto y mae erth- yglau da yma a thraw yn y cyfnodolion. Dyna ysgrif W. H. Jones Ynglyn ag Arddull,' yn y Beirniad flwyddyu neu fwy yn ol a'i lyfr, 'At the Foot of Snowdonia,' 2/6, ond mae llyfr Saesneg ydyw ar ten Cymru. Mi welais ysgrif dda gan Gwili ar Farddoniaeth yn y Geninen ryw saith mlynedd yn ol efallai, ac ysgrif y Parch. W. Evans, B.A. (Wil Ifan) ar Delynegion yn y Geninen ryw flwvddyn neu fwy yn ol. Ac yn y Traethodydd ryw ddeuddeng mlynedd yn ol yr oedd ysgrif ar Fardd- oniaeth gan yr Athro J. Morris Jones, M.A. Cymaint a hynyna o'm cof. Ymhle y dechreuwn gyda'r awduron ? Wel, gydag anerchiadau'r beirdd, bid siwr. Os gallwn ni gredu'r beirdd eu hunain, ni bu well barddoniaeth yng Nghymru erioed nag a ysgrifennir heddyw. A gan y byddaf yn go.rfod, oherwydd gofod a phrinder fy ngwybodaeth, ddethol o blith beirdd byw (hynny yw, beirdd heddyw), bydd raid i mi adael beirdd da allan. Felly, gariadus frodyr, peidiwch a digio. 0 blith y beirdd byw y mae'n rhaid cael Caniadau Elfed,' 3/6 efe yw seren fore eglur yr awen ddiwylliedig ddiweddar. Telynegion Maes a Mor Eifion Wyn, I y llyfr telynegion Cymraeg mwyaf poblog- aidd. Gweithiau Barddonol Dyfed,' 2/6 (2 Gyf.), y bardd aml-dlysog ac aml- gadeiriog y mae rhwysg ei feddyliau yn atgofio dyn o gerdded byddin. Eto, Tros y Nyth' gan Wil Ifan, y gwr a'r awen loyw, wreiddiol, a fedr gynneu tan ymhob man. Y mae'n sicr na bydd neb yn foddlon heb gael bias ar gynhyrchion mwyaf nodwedd- iadol yr Ysgol Newydd,' felly pryner Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill' gan Gwynn Jones, 3/6, a 'Chaniadau W. J. Gruffydd, 3/6, a chyhoeddiadau'r Eis- teddfod Genedlaethol am y blynyddoedd diweddaf am awdlau a phryddestau'r cefn- dyr Parry-Williams a Williams-Parry. Yn lies yn ol y mae Ceiriog, sydd a haul ei boblogrwydd yn myned yn uwch, uwch. Mynner ei dair cyfrol 2/6, neu ddetholion o'i waith yng Nghyfres y Fil, i Chwi gewch ddetholion cyffelyb yma a thraw o waith Talhaiarn, Mynyddog ac eraill. Rhyfedd mor ddi-son-am-danynt ydyw rhai o ser gloyw'r ganrif o'r blaen, megis Hiraethog, Nicander, Emrys ac ApVychan. Fe gyhoeddir barddoniaeth Hiraethog am ryw driswllt gan Gee, neu ddetholion o'i waith am swllt. Fe ellir cael pigion o weithiau'r lleill gan mwyaf yng Nghyfres y Fit. Y mae eraill o'r beirdd, megis Eben Fardd a Dewi Wyn, yn dal eu tir yn well. 1 Y mae Blodau Arfon yn hawdd eu cael am ryw liannHf coron neu lai, ond y mae gwaith Eben yn ddrud. Eithr yma eto fe ddarpar Cyfres y Fil. Yn ol ar wib i'r ddeu- nawfed ganrif. Fe'11 cyferfydd ar unwaith ddau enw mawr anhebyg i'w gilydd, sef Goronwy Owain a Williams, Pantycelyn. Gyda Goronwy fel ser Itai y gellir enwi ymhlith eraill Lewis Morris ac Ieuan Brydydd Hir. Fe ellir cael '-Cywyddau Goronwy Owain,' gyda Nodiadau a Rhag- adrodd gan W. J. Gruffydd, am 1/6 ac fe gyhoeddodd Silvan Evans gymaint o waith Ieuan ag a allodd roddi ei ddwylo arno am ryw 2/6. Pan drawo dyn ar Williams, Pantycelyn, yn y ganrif, fe ddywed, nid yn unig Dyma ddyn mawr,' ond Dyma ddyn newydd —athrylith. Yn gyffelyb y teimla dyn wrth daro ar John Bunyan yn lien Lloegr. Y mae'n drist iawn na thalai i rywun roddi argraff- iad ei fab John Williams o'i Hymnau, ynghyda rhyw ddetholion eraill. Heb fynd mor bell a haern bod ei Hymnau wedi eu newid er gwaeth bob amser yn Llyfrau Hymnau'r enwadau, eto y maent yn ami iawn naill ai, yng ngeiriau ei fab, wedi eu newid gan ryw hurtyn penglogaidd,' neu wedi eu cyfaddasu i gyfarfod a gwrtaith) findlws y cynulleidfaoedd- Rhaid cael y rhai gwreiddiol cyn adnabod Williams. Fe geir ei Holl Weithiau Prvdyddawl a Rhyddieithol' o gasgliad Kilsby weithiau yn ail law. Cam arall yn ol tua'r cynfyd Y Cywydd oedd hoff fesur y beirdd ardderchog a flodeuai'n y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r rhai dilynol, a thad a phennaeth y cywyddwyr ydoedd Dafydd ab Gwilym.* Y mae cyfrol rad iawn o brif weithiau Dafydd gennym erbyn hyn. Dafydd ab Gwilym a'i Gyfoeswyr ydyw y teitl, wedi eu cynnull gan Ifor Williams, M.A., a T. Roberts, M.A., athrawon yng Ngholegau Bangor. Y mae'n gywilydd i Gymry, er mai 2/6 yw ei phris, na werth- wyd digon o'r gyfrol i ddigolledu'r ddau ysgolor anturiaethus. Y mae Rhagymad- rodd Mr. Williams i'r llyfr ei hun yn fwy na gwerth y gyfrol, a'r nodiadau a'r Eirfa'n gymorth hawdd i bawb ddarllen Dafydd. Fe deifl rhywun y sen fod Cym- deithasau Cymreig yn bod er mwyn bwyta ac yfed cinio Gwyl Ddewi, ac ymweled a phlas y.gwr bonheddig o Sais nesaf atynt. Ni wnaent ddim yn fwy effeithiol tuag at fyw i lawr y sen na chymryd at werthu clasuron fel hyn o ten Cymru. Fe ellir cael cywyddau'r beirdd eraill, m e g i s Dafydd ap Edmwnd, Tudur Aled, Lewys Glyn Cothi a William Llyn, 5/ Drud ydynt fel rheol. Eto y mae dau ddetholiad da o gywyddau y gwn i am danynt heblaw Gorchestion Beirdd Cymru' sydd allan o brint, sef Cywyddau Cymru (Hughes), 3/6, a'r Flodeugerdd Newydd' (W. J. Gruffydd), 5/ Y mae Rhagymadrodd a Nodiadau'r ddau'n werthfawr iawn. Er mwyn i chwi gael bias gwin beirdd y Mesurau Rhydd o holl faes lien, heibio Huw Morris hyd at ein dyddiau ni, mi gymeradwyaf yn galonnog iawn' Ganiadau Cymru,' 3/6. Os bydd ar rywun awydd ymgydnabyddu a gwaith y Gogynfeirdd —y beirdd a flodeuai tua -T120-1370-fe gaiff y gweithiau wedi eu codi o'r 'Myfyrian Archaeology,' a'u cyhoeddi gan Gee am 5 gyda Rhagymadrodd ar eu geiriau a'u gramadeg gan Syr E. Anwyl. Di-na i chwi hefyd Gemau'r Gogynieirdd,' gyda 1 Rhagymadrodd a Nodiadau gan Arthur Hughes, M.A., ac Ifor Williams, M.A. ac eto 'Rieingerètdi'r Gogynfeirdd gan T. Gwynn Jones, M.A., 6c. Ar ol bod cyhyd gyda'r beirdd, y mae'n rhaid brysio gyda'r Rhyddiaith. Cynorth- wyo rhywun i feithrin chwaeth at lenydd- iaeth uchelryw a hoffwn. Fel y mae gwaetha'r modd, y mae ysgrifennu Cym- raeg, i raddau pell, fel y dywed Syr John Rhys, yn gelfyddyd goll eto y mae hi fel petai hi'n pico lan y blynyddoedd diweddaf yma. Y mae'n rhaid dethol eto heb ddigio neb. Am y deng mlynedd ar hugain diweddaf, y gwr yn anad neb sydd yn llwyddo i wneuthur popeth yn llenydd- iaeth ydyw Mr. Owen M. Edwards, M.A. Mynnwch ei Glych Atgof,' Tro i'r Gog- ledd,' Tro i'r De,' Tro i'r Eidal.' Er bod ganddo ryw chwith arferion, megis gadael allan y rhagenw ILerthnasol, chwi gewch Gymraeg na flinwch arno, a llawer o wybodaeth am Gymru yr un pryd. Wrth reswm, rhaid cael holl weithiau Daniel Owen, sef Rhys Lewis,' Elioe Huws,' Gwen Tomos,' Y Dreflan ac Ystraeon y Pentan,' 2/6 yr un. Gwaith ffug arall ydyw '0 Go rlannau.'r D ef aid gan Wyneth Vaughan, a Plant y Gorthrwm gan yr un am ryw 2/6 yr un. Chwi ellwch gael Cofiant Daniel Owen gan ei hen gyfaill Llyfrbryf hefyd am i Ymysg y Cof- iannau sydd yn rhoddi llawer o wybod- aeth am wleidiadaeth Cymru ddiweddar y mae 'Cofiant Thomas Gee gan y lienor gwych T. Gwynn Jones, M.A., 6 /-1. 0 nifer mawr Cofiannau Annibynwyr, fe ellir enwi 'Cofiant Herber' gan Elfed, 3/6, a 'Chofiant Dr. John Thomas gan Thomas a Rees, 7/6. Nid oes neb o hen gewri'n Henwad yr ydym yn ei foli ac esgeuluso'i ddarllen yn gyfartal fel Hiraethog. Mi garwn weled argraffiad rhad o'i Gofiant i Williams y Wern. Fe ellir cael ei Helynt- ion Bywyd Hen Deiliwr am i Y mae yna argraffiad o'i holl weithiau rhydd- ieithol yn un gyfrol, ond allan o brint 'rwy'n meddwl. Oni thalai i ni hefyd gael argraffiad o 'Atgofion fy Ngweinidogaeth gan Emrys. Nid byth yr anghofiaf ddar- llen y llyfr hwnnw flynyddoedd yn ol. Ar y ffordd yn ol i'r hen fyd, a gaf fi gyflwyno i'ch sylw 'Lythyrau Goronwy Owen,' i ? Heblaw Cymraeg cryfaf a choethaf y cyfnod, chwi gewch lawer o wybodaeth am Oronwy a'i dreialon am Gymru, ei llenorion a'i llenyddiaeth a'i haddysg yn yr oes lionno. Dyna eo' r llyfr rhyfedd hwnnw'r 'Bardd Cwsg,' sydd, efallai, yn netholiad ac amrywiaeth ei eiriau, gloywder ei arddull, a grym ei frawddegau, y goreu o bob llyfr Cymraeg a ysgrifennwyd. Argraffiad yr Athro J. Morris Jones ohono ydyw'r goreu, ond allan o brint. Chwi gewch Argraff Eerpwl ami/6. Ni chyfrifir llyfrgell dyn yn llawn ychwaith hebDdrych y Prif Oesoedd.' Cewch ef yn rhad, ond yr argraffiad goreu am 4/6 (Jarvis & Foster). Ym myd y Par had ar tudal. 12.