Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR…

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR GAN EYNON. Yr wyf newydd ddarllen yn y Star am heno (nos Lun) erthygl fechan yn dweyd y drefn yn bur effeithiol wrth ein hawdur- dodau Seneddol. Credaf gyda Syr Robert1 son Nicoll fod erthyglau prydnawnol y Star o hyd yn werth eu darllen, ac y mae hon yn iach dros ben. Galw sylw y mae at anghysondeb ein Seneddwyr yn deddfu ein bod ni y werin a'r miloedd i beidio treatio ein gilydd mewn tafarnau, ond fod hynny yn cael ei ganiatau yn y man dafarnau sydd y tufewn i furiau Sant Stephen. Campus o beth yw dylanwad esiampl, ond nid yw Mr. Asquith, mewn ffordd bersonol, wedi codi bys bach i helpu'r Brenin i sobri'r wlad. Y mae yn gywilydd. i'r Prifweinidog a'r Senedd nad ydynt ar adeg fel hon yn gwneud rhyw- beth heblaw pregethu sobrwydd. Mae'r wlad yn cymeryd notes o bethau anghyson fel hyn, ac yn pwyso a mesur dynion, nid yn ol eu proffes, ond yn ol eu dull o fyw. Ofer pregethu dirwest a chadw open tap yn y Senedd-dy yr un pryd. Ai ofn Syr John Heiddyn sydd wrth wraidd y cyfan ? Llawer o bregethu ar gynildeb hefyd. Ond nid oes fawr son fod y pregethwyr yn dechreu gartref. Neithiwr ym Mryste gwelaf fod Mr. Birrell wedi cyffwrdd a'r mater, ac yn awgrymu ei fod ef yn ber- ffaith barod i ddychwelyd punt o bob tair mewn ffordd o helpu'r wlad i ddwyn baich y rhyfel. Mae'r papurau Toriaidd yn bloeddio'n groch anghyffredin ynghylch y pedwar cant delir i'r Aelodau Seneddol. Ond paham na ddechreuir cynilo efo'r pensions sylweddol a delir i Arglwydd George Hamilton a Mr. Henry Chaplin a'r tlodion eraill sydd yn byw ar gefn y wlad ? Dyna'r hen frawd bytholwyrdd Arglwydd Halsbury (Giffard gynt) wedi tynnu dros hanner can mil mewn pensions. Am y pedwar cant a delir i'r Aelod Sen- eddol, wiw dechreu gyda'r pedwar cant. Beth am wyr mawr y pedair mil ? Can drws y Senedd yn erbyn dyn tlawd yw atvcl y pedwar cant ac, os dim, eisiau mwy o ddynion tlawd sydd yn y Senedd, nid llai. Os yw gwyr goludog Ty'y Cyff- redih yn teimlo yn anesmwyth eu cyd- wyboda)u ar bwnc y pedwar cant, rhwydd iddynt yw taflu y cheque chwarterol i'r tân. 0 na nid dyna lie mae'r esgid yn gwasgu, ond fod dynion fel yr Aelod newydd dros Merthyr yn gallu eistedd ochr-yn-ochr a mab Lord Hwn-a-hwn a Bady Hon-a-hon. Os cynilo, dywedaf eto, dechreuer tua'r top, nid i lawr ar y gwaelod. Mae fod Syr John Simon wedi cael £ 21,000 o gyflog y flwyddyn o'r blaen—dros bed- war cant yr wythnos-yn gywilyddus, gan nad faint ei ddawn a'i dalent. Dyna ddigon i dalu dros hanner cant a <lau o Aelodau Seneddol Pa ryfedd fod pobl yn siarad ? Busnes y sniper ar faes y gwaed yw anelu ei fwled at unrhyw wrthrych o fewn cyrraedd iddo. Mae Ty y Cyffredin yn bur llawn o snipers y dyddiau hyn, ac y maent yn cadw pethau yn fyw ddigon, ond eto yn gwastraffu amser gwerthfawr mewn modd 'gwaradwyddus. Un ta-rget ydyw Arglwydd Haldane, a'r sniper dinod sydd yn gofalu am Haldane ydyw Aelod o'r enw Hooper. Handel Booth sydd yn cadw llygad ar Masterman. Dichon fod eisiau cadw llygad ar yr etholedigion Seneddol, ond chwi synnech y fath amser gwerthfawr sydd yn cael ei ddifa wrth hidlo gwybed pan y mae camelod mawr o gwestiynau yn cael eu llyncu ddydd ar 01 dydd. Nid cadw standing afalau ar ben ffair ydyw rhedeg busnes Prydain Fawr y dyddiau hyn, a dylesid cadw hyn mewn cof, yn lie hymbygio dynion sydd yn gwneud eu goreu i gario'r gwaith ymlaen. Angen mawr y dyddiau presennol yw llai o busybodies. Mor hoff yw llawer am ofalu am grochan cawl pobl eraill, pan y mae eu crochan eu hunain yn berwi i'r tan. Yn y wasg, ac allan o'r wasg, mawr yw rhif y bobl anffaeledig sydd yn llunio bai lie ni bydd.' Ceir digon o bobl ber- ffaith yn deall crefft rhyfel yn well na Kitchener, ac yn deall crefft y m6r yn well na Jellicoe. Eisteddant wrth y tan, a'u traed ar y fender, i ysgrifennu i'r papurau yn dweyd sut y dylai pethau fod. Y gwaethaf yw eu bod yn difa nerth ac amynedd pobl brysur. Dyledswydd y foment hon yw i'r bobl sylweddoli y ddy- ledswydd bersonol sydd yn perthyn i ni. Yr ydym yn suddo ddyfnach, ddyfnach mewn dyled, ond yn cynilo dim. Heblaw hyn, yr ydym yn anghofio pethau mawr- ion bywyd Yr ydym yn ymddiried gor- mod i fraich o gnawd. Yn dro yr elo hi,' ys dywedai yr hen saint gynt. Gwir fod pwerau y dafarn (yn cael help gan rai o benboethiaid yr achos dirwestol) wedi atal Mr. Bloyd George yn ei ymdrech i ffrwyno'r f a s n a c h feddwol draw ar gychwyn y rhyfel. Ond fry yng Ngogledd Lloegr, mewn darn o wlad yn mesur 25 milltir o hyd wrth 10 o led, y mae experi- ment dirwestol ar droed o'r fath fwyaf diddorol. Mae'r awdurdodau rhyfel wedi prynu pob tafarn a hotel yn y lie, ac yn eu rhedeg ar linellau diwygiedig-llinellau hanner-dirwestol. Yn ol yr hen drefn, bodoli er mwyn y. tafarnwr oedd y fas- nach. Yn y tafarnau newydd hyn-rhyw 36 ohonynt--inte-yest y cyhoedd sydd i gael y lie blaenaf. Gwasanaethu'r cyhoedd fydd yr amcan, ac felly ceir bwydydd yn ogystal a diodydd—diodydd dirwestol yn hytrach na diodydd meddwol. Synnwn i ddim nad yw meddwl craff y Cymro enwog yn golygu creu object lesson, fel y gwelo'r byd mewn darlun byw sut i yrru'r Phil- istiaid tafarnol ar ffo. Dyma stroke o athrylith yw hon Sonnir am athrylith ym myd y gerdd a'r gan, ond dim son am athrylith ym myd politics, Addefir bellach gan bawb o bob plaid fod y Brenin Mawr, pan yn creu Lloyd George, wedi creu political genius. Synnwn i ddim nad y Dafydd hwn ddaw a Goliath y dafarn i'r llawr wedi'r cyfan. Llwyddiant iddo

GALWADAU.

10 FRYN I FRYN.