Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

10 FRYN I FRYN.

News
Cite
Share

1 0 FRYN I FRYN. Ychydig iawn o iveddill PWY wel heddyw, sef yr adeg hon, yn y darlun hwn, sef heddyw per- sonau cyfnodol a ffeithiau hanes a disgyblaeth Duw ? Yn y darlun hwn o annhrefn ac adfeilion a chelwydd a lladd gwelir ychydig iawn o weddill.' Un o'r cymeriadau amlycaf ddaw o'n blaen yw Esaiah. Y mae a fynnom yn awr a'i gyfnod yn fwy nag a'i athrylith a'i gymeriad ef ei hun. Y mae llawer o'r gorffennol ymiiob proffwyd. Dengys ef yr hyn a ddaw oddiwrth yr hyn a fu. Rhydd arliw y gorffennol ar y dyfodol. Yn hyn mae ei berthynas ag Hanes yn gyffelyb i berthynas yr apostolion a'r Efengylau. Un arall amlwg yn y darlun yw Uzziah. Gwelir ef yn mynd i'w orsedd yn un ar bymtheg oed a cheir ef ar ei orsedd, sef gorsedd Judah, am 52 mlynedd. Cadwer mewn cof fod Israel y deuddeg llwyth, ar ol Dafydd a Solomon, wedi eu rhannu i Judah ac Israel fod yn y blaenaf ddau lwyth, sef Judah a Benjamin fod yn yr olaf ddeg. Gyda hyn, cofier nad yw y gair Israel' bob amser yn yr Hen Des- tament yn ddiamwys a phenodol, gan y golyga weithiau y ddau lwyth, prydiau eraill golyga y deg, ac ambell dro mae am y cwbl. Y mae yn Esaiah i. yn gyfyngedig i Judah a Jerusalem, sef y wlad a'i phrif- ddinas, neu y wladwriaeth a'i heglwysydd- iaeth. Ac mae Uzziah yn ben. A gwr o ben cryf ydoedd hyd nes iddo yn ei lwydd- iant mawr esgyn mor uchel nes mynd yn ysgafnben ac yn bendro. Rhagorai fel milwr ac adeiladydd tyrau a muriau, a chloddiwr pydew mewn maes ac anialwch, ac yr oedd yn amaethwr deallus, a chan- ddo fyddin gref. Ond yn niwedd ei fren- hiniaeth diystyrrodd offeiriaid yr Ar- glwydd aeth yn rhyfygus gyda chyflawn- iadau dosbarthol a chysegredig, a chell- weiriodd a Duw, a bu farw o dan fain. Dioddefai y ddwy deyrnas, sef Judah ac Israel, oddiwrth frenhinoedd sal. Gwaeth- ygai y teyrnasoedd hyn fel pe yn y ddar- fodedigaeth oherwydd balchter a chystadl- euaeth eu brenhinoedd. Clafychai y corff oherwydd rhyfelgarwch y pen. Brenhin- oedd eilunaddolgar a drwg o hyd gawsai y deg llwyth, sef Israel, ac am hynny bu raid eu hymlid o'u gwlad i wlad estronol. Nid oedd Judah fawr gwell. Yr oedd o hyd mewn gwrthryfel a'r deg llwyth, neu a Samaria a'r Arabiaid a'r Philistiaid. Yr rhif a glewder eu byddinoedd y fath fel na safai yr un gallu o'u blaen, ac o anturiaethau llwyddiannus Uzziah fel gwrthryfelwr cododd ei afiaeth a'i bender- fyniad i fod yn arweinydd mewn crefydd. Dengys hanes fod yr hwn a ragora mewn militariaeth, gydag amser, fel rheol, yn honni ei hawla'igymhwyster i fod yn ben llywydd mewn pethau cysegredig. Hynny welir yn y darlun hwn. Hynny welir yn hanes lliaws o hen frenhinoedd y wlad hon a brenhinoedd gwledydd eraill. Ac mae gan y dieflwch hynny ran yn y rhyfel presennol ar Gyfandir Ewrop. Teimlai teyrn sydd yn gampwr gyda'i fyddin ei fod yn addas i flaenori mewn crefydd hefyd ac mae hyn yn golygu annhrefn, dinistr, difrod a drwg nas gellir ei ddis- grifio. Y ffaith ddaw ger bron yn yr hanes hwn yw mai Y BOBI, YDYW Y DIODDEFWYR MWYAF yn y fath argyfwng. Hwynt-hwy welir felly yn y bennod gyntaf o'i Lyfr gan Esaiah. Dywed: Y mae eich gwlad yn atirheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosg a than eich tir a dieithriaid yn ei ysu yn eich gwydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.' Sut hyn yn wir ? Ni raid gofyn hyn i Iddew. Gwyddai ef fod yn rhaid wrth gymeriad da i lwvdd- iant a thawelwch mewn amgylchiadau. Hen ddeddf oedd hyn, ac yr oedd ar ei gof beunydd. Mi a rodiaf yn wrthwyneb i chwi a chwi a fwytewch gnawd eich meibion a'ch merched. Eich uchelfeydd a ddinistriaf, a'ch delwau a dorraf. Dinis- triaf eich dinasoedd, a'ch cysegroedd, a'ch tir. Gwasgaraf chwi ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ol.' Sut hyn, ar bob cyfrif ? Atebiad y proffwyd yw ,lategais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i'm herbyn.' Y syndod yw, nid fod eu sefyllfaoedd y fath, ond eu bod wedi eu harbed o gwbl—na buasent oil yn golledig a hynny fuasai eu tynged oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill.' Dylesid darllen llawer yn y dyddiau hyn ar Lyfr y proffwyd Esaiah. Nid oes ei fath o fewn y Beibl i roi darlleniad byw o'r cyfnod presennol yn Ewrop, ac mae ei hyfforddiant yn wyneb hyn cystal a'i ddarlun. Disgynna yn drwm ar arwein- wyr ei amserau, a deil hwynt yn gyfrifol mewn barn ger bron Duw am lawer o ddioddefaint a thlodi y bobl. Nid ydyw yn edrych arnynt yn ddieuog ar yr un pryd cymedrolai ei gondemniad ohonynt yn herwydd yr olwg gawsai ar annuwiaeth ac annuwioldeb eu harweinwyr. Nid ydyw yn yr ystyr hwn yn cymeryd y gair arweinwyr' yn ei ystyr gyfyng, ond rhydd iddo ei lawn gwmpas. Yr oeddynt yn arweinwyr gwladol yn ogystal a chref- yddol, ac ystynai ef fod gwladlywiaeth yn cario gyda hi ddylanwadau moesol, ac fod crefydd ysbrydol ar ei gwell neu ei gwaeth yn ol moescymeriad y gwleidlywiawdwyr. Egwyddor gyffredinol yw hyn, a pharhaol, fel mae o'r pwys mwyaf i'r bobl i fod yn glir ac yn eu lie ar y rhai sydd yn arwein- wyr iddynt. Ivlawenhawn i feddwl fod y pwys o hyn yn cael ei deimlo yn fwy-fwy, a'i fod yn cael ei gydnabod yn well a hyn yn ddiau ydyw rhediad cryfaf y dydd- iau hyn. Gwylir mwy ar ol brenhinoedd ac ymerawdwyr ar ol y rhyfel hwn, ac fe roddir mwy o gydwybod a Duw yn y wyliadwriaeth hon nag a wnaed o'r blaen. Ni chaiff unbenaethdod fyth o hyn allan, mewn byd nac mewn Eglwys, y fath siawns i roi ei gorsedd i lawr ag mae wedi gael hyd yn hyn. Pe buasai hyn eisys yn ffaith fwy cyfiredinol: ac ymarferol, ni buasai y rhyfel hwn wedi torri allan. Rhyfel wedi torri allan o unbenaethdod yn ymwisgo mewn militariaeth ydyw ac am ei fod yn unbenaethol, mae yn orfodol. Y mae unig obaith y Cyfanidr am well trefn ar bethau yn yr ychydig weddil' sydd wedi ac yn mynd allan o'u bodd i ladd militariaeth unbenaethol o'r fath. Y mae mwv yng ngwirfoddcliaeth milwyr Prydain na'u bod yn dod allan i roi pen ar Kesariaeth. Byehan ydyw hyn o'i gymharu a'r hyn sydd yn dilyn. Gesyd hyn wedd newydd ar weriniaeth Prydain ac hyd yn hyn nid ydyw ei newydd-deb wedi ei rhoi mewn mynegiant i'w deall yn iawn a'i gweld i gyd. Y mae yn amheus gennym fod Kitchener a Derby yn deall yr hyn maent yn ei gylch yn eu hymdrech i godi gwir- foddolwyr allan i'r gad. Er cymaint eu mawredd hwy, mae mwy yn y gwaith hwn o'u heiddo nag maent hwy yn ei gylch ar hyn o bryd. Tybed fod y bendefigaeth yn sylweddoli hyn ? Y mae cydwybod yug ngwirfoddolnvydd y werin ieuanc, a chydwybod ieuanc sydd gan ddyn ieuanc. Cydwybod dyner iawn ydyw hon, ac mae yn sylwgar iawn, a hi a erys i roi barn wedi buddugoliaeth. Hi welir ym mhebyll y Y.M.C.A., a hi sydd yng nghyfarfodydd crefyddol milwyr yn swn y megnyl ac yn y mwg a'r tan. Hyfryd o beth yw fod cenhadon yn mynd allan at y milwyr. A oes cenhadon wedi mynd allan at y maeslywyddion a'r capteniaid a'r swydd- ogion ? Ar lw ger bron Duw, mae mwy o eisiau Efengyl ar y mawrion hyn a'u bath nag sydd o'i heisiau ar y werin. Bid sicr, mae digon o'i heisiau ar y bobl gyffredin, ond credwn y buasai llai o'i heisiau arnynt pe buasai ein gwyr mawr wedi byw yn nes i'w lie. Holir mwy nag a wneir, nid Beth am y bobl ? ar ol y rhyfel yma, ond Beth am benaethiaid y bobl ? Faint o'r rhai hyn sydd yn mynd allan i wrando Efengyl Peris Williams a John Williams a James Evans a dynion rhagorol eraill sydd yn genhadon hedd ar faes 'y gwaed ? Hyn bar i Esaiah ddweyd gyda llygad fflam a dwm cau, Gwrandewch, dywysogioul Chodir byth o'r werin yn uwch na'i thywysogion. Os am wefla'r bobl gyff- 1 redin yn y wlad a'r Eglwys, gwellhaer eu