Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GOGLEDD GWYR.

News
Cite
Share

GOGLEDD GWYR. Brynteg.Y gwr gwahoddedig i'r cyfarfod hanner blynyddol yma eleni oedd y Parch D. Silyn Evans, Aberdar. Cafwyd gweinidogaeth dda a chynulleidfaoedd llawnion i'w gwrando. Bendith yr lor ar yr had. Oym)-eigydd ion. -Caf wyd cyfarfod diddorol neiiituol o dan nawdd y gymdeithas hon, pryd y traddododd Mr J. Davies, B.A., anerchiad godidog ar I Cilhweh ae Olwen.' Nid oedd y testyn ond enwau dieithr i'r mwyafrif cyn dechreu; ceisient ddyfalu beth allasai fod: tybient wahanol bethau; ond fel yr oedd yr anerchiad yn mynd yn ei flaen, gwelid y diddordeb yn pefru yn fwy tanbaid yn y Hygaid, a boddlonrwydd yn eistedd yn esmwyth ar y wyneb-deallent mai ystori oedd o lyfr a elwid Y Mabinogion Mawr oedd y mwynhad, a sylweddolent fod mwy yn ein hiaith nag oeddent wedi feddwl. Llyw- yddwyd yn gampus gan y Parch D. H. Thomas, Ebenezer, Canwyd alawou Cymreig gan Miss N Williams, B.Se, Gowerton, i'w chyfeiliad ei hun ar y berdoneg, a chwareuwyd darnau detholedig ar y delyn gan Megan Glan Ta we- y ddwy yn hyfryd. Diolchwyd yn gynnes iddynt, ac i Mr Davies a'r llywydd. Noson swynol iawn. Anrheg Priodas —Yn ddiweddar gwelwyd deuddyn ieuanc yn gwneud eu ffordd at allor Hymen i ymgyfamodi mewn glan briodas. Yr oedd yr ardal yn gwenu yn serchog ar eu huniad, a'u mam-eglwys yn Brynteg yn rhoi ei bendith arnynt, Profodd Mr B Looker hen air y gwirionedd, mai 4 nid da bod dyn ei hun,' a gwelodd certain something yn Miss M Morgan oedd yn ei foddloni yn fawr, a chytunwyd gydag unfrydedd gwresog i fyw ar yr un aelwyd. Teimlodd athrawon ac athrawesau y plant yn yr hen gapel awyddfryd i ddathla yr amgylchiad hapus yn en plith hwy drwy gyf- lwyno anrheg i Mrs Looker yn arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i gwasanaeth gyda'r plant yno am un flynedd ar ddeg. Trefnwyd yr oil yn dawel iawn. Ar brydnawn Sal pan oedd y plant yn mynd allan, gofynwyd i'r athrawon a'r athrawesau i aros ar ol. Cymerwyd y gadair gan Mr G. D. Stephen. Hysbysodd yr amcan mown geiriau caredig a chynnes. Galwodd ar Mrs Morgan, priod y gweinidog, i gyftwyno y rhodd-silver fruit basket-yr hyn a wnaed, drwy ddymano hir oes a bendithion goreu nof a daear ya eiddo icldynt. Cafwyd ychydig eiriau llongyfarchiadol gan Mri T. Rees, T. Davies, Mrs Shepherd, a phenillion tarawiadol gan Mr D. Williams,T.S.C. Yr oil mor ddistaw a thyner a'r wawr ar aellV bryn, ond yn gweithredu tel cordial i'w calonogi i bob gweithredu dda. Well done! ILLTYD.

RHUTHYN.I

iLLANBEDR PONTSTEPHAN.

I Hermon, Plasmarl.

Advertising