Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENt, PRIODI, A MARW. MARWOLAETHAU. WILLIAMS.—Bydd yn chwith gan lawer ddarllen am ymadawiad yr annwyl Mrs Elizabeth Williams, gweddw y diweddar Mr Thomas Williams, Tylaw- inder, ger Pontypridd, er ei bod wedi cyrraedd oedran teg. Ymadawodd a'r fuchedd hon ddydd Sadwrn, Tachwedd 13eg, pan yn ymyl 84 mlwydd oed. Yr oedd yn enedigol o ardal Cefnybedd, sir Frycheiniog. Derbyniwyd hi yn aelodeglwysig yn Beulah gan y diweddar batriarch D. Williams, Troedrhiwdalar, yn dra ieuanc, a bu ei goffadwriaeth ef yn gysegredig gan ei chalon ar hyd ei hoes. Symudodd i ardal Castellau i wasanaethu fel coges i'r Mri Harris o Treferig, a bwriodd ei choelbren i fysg hen ffyddloniaid yr eglwys hon, o ba un yr oedd yr hynaf pan fu farw Cyn hir ymunodd mewn priodas a Mr Thomas Williams, yr hwn, a'i rhag- flaenodd i'r wlad well amryw flynyddau, gan adael ar ol dri o blant i ddilyn yr esiamplau da a roddwyd o'u blaen. Mae dau ohonynt—Mri John Williams a Thomas Williams (Castellydd) wedi ennill y llawryf fel adroddwyr ar fanlawr yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd ein diweddar chwaer, fel Martha gynt, bob amser yn barod i ymdrafferthu er dangos croesaw i bawb a alwent yn Nbylawinder, ac yn nodedig am ei medrusrwydd, ei thynerwch a'i pharodrwydd i weini ar unrhyw glaf fyddai yn yr ardal; a bydd ar ei hoi fwlch yn yr ystyr hwn, yn ogystal ag mewn ystyriaethau eraill, nas gellir yn hawdd ei lenwi. Y dydd lau caulynol, ymgasglodd tyrfa luOBOg i hebrwng ei gwaddillion at eiddo ei diweddar briod i gladdfa y Methodistiaid Calflnaidd yn Nhonyrefail. Cyflawnwyd y gwasanaeth yn y ty gan y Parch Walter Daniels (M.C), Trehafod, ac yn y capel gan y Parch Gwrhyd Lewis, Tonyrefail. Er fod amgylchiadau bywyd wedi ei symud ymhell o'i bro enedigol, hawdd oedd gweled ei bod wedi ennill iddi ei hun dorf o anwyliaid a deimlent yn ddwya wrth gefnu ar ei bedd. Heddwch i'w II wch.-Cymydog.
iBECHGYN CYMRU A'R BRI F.…
News
Cite
Share
BECHGYN CYMRU A'R BRI F. YSGOL. GAN DR. SHARE-J ONES, PRII-YSGOI, LERPWI,. Ychydig amser yn ol cyhoeddasom adroddiad o ymweliad. Dirprwyaeth o Gymru, yn cael ei harwain gan Mr. E. T. John, A.S., at Arglwydd Selborne, Llywrdd Bwrdd Amaethyddiaeth, yn gofyn am fwy o ystyriaeth gan y Llywodraeth i anghenion a hawliau ffermwyr Cymru. Da gennym allu cofnodi yr wythnos hon fod lies wedi deilliaw eisoes o'r ymweliad hwnnw, yn gymaint a bod Cyngor Cenedlaethol Amaethyddiaeth Cymru i gyfarfod o hyn allan bob mis yn lie bob hanner blwyddyn, a bod, yr awdurdodau yn Ivlundain yn cymeryd mesurau eraill i roi sylw priodol i anghenion amaethyddiaeth yng Nghymru. Dengys hyn beth a ellir ei wneud wrth fod yn ddyfal ac yn daer mewn ceisio. Treiswyr sydd yn cipio ffafrau gan y Llywodr- aeth, ac nid y bobl dawel, amyneddgar, na flinant byth mo'r awdurdodau. Yr oedd sylwadau Dr. Share-Jones, o Brif- ysgol Lerpwl, yn y cyfarfod hwnnw mor eithr- iadol o gyfaddas i gais y Ddirprwyaeth, ac yn rhoi goleuni mor newydd ar anfanteision bechgyn Cymru, fel mai pleser yw gennym roddi yr wyth- nos hon rydd- gyfieithiad o grynhodeb llawn o'r hyn a ddywedodd. Dylesid o bosibl egluro mai Proffeswr mewn Mèddyginiaeth Anifeiliaid (Vet- erinary Science) yw Dr. Share-Jones ym Mhrif- ysgol Lerpwl, a'i fod yn cael ei gydnabod fel un o awdurdodau pennaf yr oes ar y wyddor bwysig honno. Ebe Dr. Share-jones:- Fel Cymro, fel Rheolwr un o Golegau Cymru, fel Rheolwr Adran yn un o Brifysgolion Lloegr, ac fel Arholwr un o Brifysgolion yr Alban, da gennyf gael dweyd ychydig ar Addysg y Brif- ysgol. Cymhellwyd fi gan fy mhrofiad personol i dynnu cymhariaeth, yn enwedig rhwng Cymru a'r Alban, o'r manteision addysgol a fwynheir gan fechgyn y ddwy wlad. Er cymaint cynnydd a wnaed gan Addysg yn Nghymru er pan sefydlwyd ein Prifysgol, rhaid cydnabod fod y cynnydd hwnnw wedi bod ymron yn hollol ar hyd dau lwybr yn unig, sef yn y Celfyddydau [Arts) a'r Gwyddorau (Pure Science) Allan o bob cant o'r bechgyn a enillant raddau ym Mhrifysgol Cymru, ceir fod ofileiaf o 60 i 70 ohonynt yn graddio yn y Celfyddydau- hynny yw, B.A. vSyndod mawr yw na thelir dim sylw i'r galwed- igaethau hynny y rhaid cael trwydded i'w harfer. Er enghraifft, ni cheir yng Nghymru heddyw gymaint ag un meddyg a gafodd ei holl addysg galwedigaethol, na'i drwydded fel meddyg, yn ei wlad ei hun. Mae yr un peth yn wir am Feddyg Anifeiliaid, am Ddientydd, a galwedig- aethau cyffelyb. Y canlyniad naturiol yw, os na bydd gan fachgen o Gymro rieni fedrant fforddio ei ddanfon i Loegr neu'r Alban i gael ei addysg ofer i d do freuddwydio am ymgymeryd a'r galwedigaethau hyn. Yn awr, ni all Prifysgol roi gradd ond yn unig yn y gwybodaethau hynny y bo ganddi y cyfleus- terau a'r moddion angenrheidiol i gyfrannu addysg ynddynt. Ym Mhrifysgol Cymru gellir ennill gradd mewn Amaethyddiaeth. Ymhlith y testynau i'w hastudio am y radd hon ceir Coedwigaeth, a Iechydyddiaeth Anifeiliaid. Ond nid oes ym Mhrifysgol Cymru y trefniant priodol i alluogi myfyriwr i fyned i mewn fel y dylasai wneud i anhepgorion gwybodaeth drwyadl o'r materion hyn. Ym Mhrifysgolion yr Alban y mae yn dra gwahanol. Yno gellir cael gradd mewn Meddyginiaeth Anifeiliaid, yr" hyn nis gellir ei gael yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw fod gan Brifysgolion yr Alban drysorfeydd na feddir gan Brifysgol Cymru. Y canlyniad yw fod llawer o Ymchwilwaith (Reseasch Work) yn cael ei wneud yn yr Alban, a dim yng Nghymru. Canlyniad arall yw hyn: Drwy Gymru ben- baladr ceir bechgyn o deuluoedd tlawd a godwyd o'r tuallan i Gymru, wedi dod i'n plith ac ym- sefydlu fel Meddygon, &e. Croesawir hwynt gan •y Cymry ond nid peth dymunol yw edrych ymlaen i'r dyfodol a gweled parhad cyfundrefn sy'n galluogi'r estron i sefydlu mewn galwedig- aeth enillfawr yng Nghymru, tra'r alwedigaeth honno yn exel ei chadw allan o gyrraedd y Cymro fo'n perthyn i'r un dosbarth mewn cymdeithas I a'r estron. Hoffai Cymru i'w bechgyn hi gael o leiaf gystal manteision ag a fwnyheir gan fechgyn yr Alban i ddod yn Raddedigion mewn Coedwigaeth, mewn Meddyginiaeth Anifeiliaid, a'r cyffelyb, a gweithredu y galwedigaethau hyn yng Nghymru. Ond cyn y gellir gwneud hyn, rhaid sefydlu adrannau newydd ym Mhrifysgol Cymru a thuagat hynny rhaid cael rhoddion helaethach gan y Llywodraeth. Mae gan Gymru heddyw gyfle neilltuol i wneud enw iddi ei hun, ac i agor llwybrau newydd mewn bywyd i'w phlant, ym maes Meddygaeth Gym- harol (Comparative Medicine). Hon yw Meddyg- aeth y dyfodol. Gall Cymru sefydlu Ysgol Medd- ygaeth Anifeiliaid ac Ysgol Meddygaeth Tro- fannol (Tropical Medicine) mewn cysylltiad ag Ysgol Meddygaeth Ddynol (Human Medicine). Mantais i'r tair Ysgol a fyddai iddynt gydweithio a'u gilydd, yn neilltuol mewn Ymchwilwaith. Gwneir hyn ym Mhrifysgol Lerpwl er mantais iddynt oil. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, ceir mwyafnf bechgyn Cymru yn sathru ar sodlau eu gilydd i un dosbarth o alwedigaethau yn unig. Astud- iant yn galed, abertha eu rhieni lawer i'w cadw yn yr ysgol a'r coleg a phan ddont allan wedi ennill gradd, gorfodir hwy i foddloni ar gyflog y gall unrhyw grefftwr da ei ennill wrth y fainc. Yr hyn a ofynna Cymru heddyw yw rhoi chware teg i fechgyn talentog Cymru i gym- liwyso eu hunain yng Nghymru at y galwedig- aethau hynny na cheir pawb yn rhuthro iddynt, ond galwedigaethau na fedr y bachgen tlawd o Gymro byth obeithio ennill gradd a thrwydded ynddynt o dan yr amgylchiadau presennol. Gymaint a fydd Cymru ei hun ar ei mantais o gael ei bechgyn ei hun yn gallu graddio ac ennill trwydded gartref, a gweithredu yng Nghymru alwedigaethau a'u galluogant i ddatblygu adnoddau naturiol eu gwlad eu hunain
Mynydd Seion, Casnewydd, a…
News
Cite
Share
Mynydd Seion, Casnewydd, a Bethania, Llantarnam. Galwad —Bydd yn dda gan luaws cyfeillion yr achos Cymraeg yng Nghasnewydd ddeall fod y Parch R J. Pritchard, B.A., Salem, Pen- maenmawr, wedi derbyn yr alwad anfonwyd iddo oddiyma. Darllenwyd ei atebiad nos Sul, Rhagfyr Sod, pryd yr oedd y Parch W. Salmon, Treforris, yn gweinyddu, yr hwn a fa yn wein- idog ar yr eglwys am un flynedd ar ddeg. Llongyfarchodd yr eglwys ar el dewisiad. Teimlad pawb yw fod dyfodol addawol i'r eglwys a'r gweinidog dewisedig. Bwriada gychwyn yma ym mis Mawrth. Marwolaeth Diacon.—Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu y diweddar Mr Edward Davies, Neuadd, Cwmbran. Efe oedd un o'r rhai gychwynodd yr achos yn Llantarnam. ( DAVID WILLIAMS, Ysg. I
I CYFARFODYDD.--
News
Cite
Share
I CYFARFODYDD. CAPEL ALS, LLANELLI.-Cynhaliwyd oy. manfa gan fyfyrwyr Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, yma ar y Sul, Tachwedd 28ain. Pregethwyd gan Mri A. Gravell, Burry Port; Llew. Jones, Treorci; a S D. Griffiths, Llan- stephan. Cafwyd Sul dedwydd iawn. Bendith ddilyno. TABOR, PENYGRAIG.-Cynhaliwyd cyfar- fodydd blynyddol yr eglwys uchod Sadwrn, Sul a Llun, Tachwedd 20fed, 21ain a'r 22ain. Pregethwyd gan y Parch D. Jeremy Jones, Cwmllynfell, a'r Parch O. Lloyd Owen, Pont- ypridd. Bu ymweliad y cenhadon yn lies i'r eglwys ac yn fantais i'r cylch.
I -Booth-street, Manchester.
News
Cite
Share
I Booth-street, Manchester. Llongyfarchíadau-l Mr E. Jones Roberts, B. A., o Athrofa Bala-Bangor, ar ei waith yncael ei wahpdd i fugeilio eglwys Queen-street, Rhyl. Un o blant yr eglwys uchod yw efe, ac mae'r eglwys yn falch ohono. Hana ei deulu o Borthmadog. Duw yn rhwydd iddo yn ei gylch newydd. Y Gytiideithas Lenyddol.-Dyma y rhaglen am eloni :Ieuan Gwynedd,' gan y Parch R. Williams, ipendleton; Llyfr Job,' gan y Parch D. R Rogers, M.A.; 4 China,' gan yr Athro Noah T. Williams, B.Sc I Y Rhyfel a'r Trefedigaothau,' gan Mr Glyn Hughes, Owen's College; 'Municipal Miracles,' gany Cynghor- wr R. J. Davies ac anerchiad gan Mr G Mon Hughes, Owen's College. Dyfodiaid -Llonder gennym oedd gweled o ddeugain i hanner cant o wyr y chwareli yn ein capel y Sul diweddaf. Maent wedi dod yma i weithio i orsaf London-road yn ystod tymor y rhyfel. Gwyr o Lithfaen, Trefor, Nefyn, Groeslon a Llanllyfni ydynt yn bennaf, ac yn lletya yn y cylch. Dymuna'r gweinidog a'r eglwys roddi y croeso cynhesaf iddynt tra i yn aros yn ein plith. GOHEBYDD.
. Ffynongroew, Mostyn.
News
Cite
Share
Ffynongroew, Mostyn. i Nos Sadwrn, Tachwedd 27am, yn Siloa, Ffvnnongroew, traddodwyd darlith gan y Parch. Rhys T. Williams, Pant-teg, Caerfyrddin, ar y testyn, Athrawon Bywyd y Dyn Ieuanc.' Caw- som ddarlith ddiddorol ac addysgiadol i bobl ieuainc. Llywyddwyd gan Mr. E. E. Davies, Llinegr. Pregethwyd y Saboth gan Mr. Williams, a chafwyd gweinidogaeth felys a grymus. UN YNO.
———— Llynhelyg.
News
Cite
Share
———— Llynhelyg. Cynhaliwyd cyngerdd yn y lie uchod nos Fercher, Tachwedd 24ain, pryd y cymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan Mri. W. T. Parry, R.A.M., R. J. Jones, W. Williams, a J. W. Jones, Newmarket; Misses Blodwen Ellis, M. Davies a M. Price, Penycefn Misses Iv. Roberts, M. Jones, Gwyneth Williams a Mr. L. Jones, Caerwys; Mr. T. H. Pierce, Penllwyn Mr. P. Hughes a'i barti, Sarn Miss E. A. Hughes a'i gramophone. Aeth pawb drwy eu gwaith yn dderbyniol iawn, ac yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr. Yr oedd Mr. J G. Hughes, Marian Prysau, yn garedig wedi addaw llywyddu, ond gan y lluddiwyd ef i fod yn bresennol, dan- fonodd rodd anrhydeddus i'w gynrychioli.
Rehoboth, Brynmawr.
News
Cite
Share
Rehoboth, Brynmawr. Ytmveliad yr Hen Weinidog.-Saboth di. ddorol yn hanes yr eglwys hon oedd Tachwedd 28ain, pan y gwasanaethwyd gan y Parch W. Crwys Williams, cyn-weinidog yr eglwys. Daeth cynulleidfaoedd mawr ynghyd, ac hawdd oedd gweled mor annwyl oedd Mr Williams gan yr eglwys lie y gwasanaethodd am gynifer o flynyddoedd. Yo ystod y dydd bedyddiodd ddeg o blant yr eglwys, gan roddi deheulaw cymdeithas i ddeg o aelodau newyddion. Ar ddiwodd y dydd anerchodd gynulleidfa un- debol ar ran y Gymdeithas Feiblaidd, a char- iodd ddylanwad er daioni ar bawb oedd yno.