Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
GWERSYLL KIXMEL.
News
Cite
Share
GWERSYLL KIXMEL. At Olygydd Y Tyst. SYR,—Teimlid yn wir ddiolchgar os anfonir i mi enwau a chyfeiriadau eich bechgyn annwyl a dewr ydynt wedi ymuno a'r Fyddin, ac wedi dod i aros i'r gwersyll uchod. Pleser calon fydd ymweled a hwy, a gwneud a ellir er eu cysur, ac yn y ffordd o'u gwasanaethu mewn ystyr ysbrydol. Ar hyn o bryd disgwylir i mi fugeilio'r oil ohonynt syddyn dal cysylltiad athri Chyfundeb, sef y Methodistiaid Calfinaidd, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Gallaf ddweyd fod y gwaith yn un yr ymhyfrydir yn fawr ynddo, a gwna'r syltoeddoliad o'r fraint" a'r cyfrifoldeb i un fod yn barod iawn i weddio am Ddwyfol gymorth ac arweiniad er bod yn deilwng o'r ymddiried- aeth. Diau y bydd yn dda gan lawer ddeall fod gennym Ysgol Sul bur flodeuog wedi ei sefydln. Ceir cynulliadau da iore Sul, a hwyl ac enein- iad neilltuol ynglyn a chanu ein tonau a'n hemynait godiclog, Cysur yw credu fod ami weddi yn esgyn i'r nef, a'i bendith gyfoethog yn esmwyth ddisgyn ar ein gwersylloedd ar yr adeg ryfedd hon yn ein hanes. Llawen gennyf ddwyn tystiolaeth fod yn Kinmel lawer o fechgyn sydd yn anrhydedd i'n cenedl o ran diwylliant a moes, a theyrngarwch i'w crefydd. Vr eiddoch, vn gywir iawn, Gwyndre, Abergele. W. G. OWEN.
Y DRYSORFA GYNORTHWYOL.I
News
Cite
Share
Y DRYSORFA GYNORTHWYOL. At Olygydd y Tyst. SYR,—A gaf fi, drwoch chwi, wneud apel at rai y gwn yr estynnent gymorth sylweddol i'r Drysorfa uchod pe edrychent arni yn yr un goleu a mi ? Teimlaf yn gwbl sicr mewn perthynas a miloedd o'r rhai sydd heb roddi eu cefnogaeth ymarferol i'r mudiad hwn, mai rhai o ddynion goreu ein heglwysi ydynt heb weled ystyr yr ymdrech yn ei gwedd a'i gwawr briodol. Mewn cydymffurfiad a'ch rhybudd difrifol diweddar i fod yn fyr, Mr. Gol., cyfyngaf fy hun i apel taer a charedig at ddosbarth neilltuol. Nodaf yn union pwy sy'n gwneud i fyny y dosbarth hwnnw. Yr wyf yn dra sicr nad yw y dosbarth yr apeliwn ato wedi gweled ac ystyried gwedd arwrol y Drysorfa Gynorthwyol. Fel gyda gwartheg Pharaoh, y mae y culaf a'r teneuaf o'r ddau air wedi llyncu y tecaf a'r brasaf. Ystyr y mudiad mewn tri sill yw HEI,PU'R GWAN. Tybied y darllenydd hynaws o ddifrif ei fod yn perthyn i eglwys wan,f echan ei rhif a thlawd ei hamgylchiadau a'i bod yn awyddus, o gariad at Waredwr byd, am gynnal yr achos a chadw ymlaen y weinidogaeth gyson, ond yn methu a gwneuthur hynny'n deilwng, er gwneud ei goreu glan. Yn awr, ddarllenydd caredig, ai ni ddisgwyliet i'r Enwad-y corff mawr o grefyddwyr y perthyni iddo-wneud rhywbeth er cynorthwyo'r achos eiddil, hyd oni ddaw'n alluog i sefyll ar ei wadnau ei hun ? Wel, yn sicr i ti, dyna enaid y mudiad hwn. Y mae un o gerryg milltir egluraf hanes datblygiad cen- hedloedd i'w gweled yn y pwynt hwnnw yn eu taith lie y daethant i noddi'r diymgeledd ac i helpu'r gwan a Christionogaeth agorodd lygad a chalon cenhedloedd yn y cyfeiriad hwn. Tybed fod Eglwys Crist i ddysgu'r wers hon i deyrn- asoedd, a'i diystyrru yn ei gwersyll ei hun ? Ond fe glywodd y darllenydd rywun yn dweyd mai codi cyflog y gweinidogion yw prif ac unig amcan y Drysorfa. Gan nad faint o hawl sydd gan ami i weinidog i ddisgwyl codiad yn ei gyflog, atebaf heb betrustod mai nid hynny yw prif ac unig amcan y Drysorfa hon. Os oes gan eglwys weinidog o gwbl, y mae yno er mwyn yr achos mawr sy'n agos at galon y Gwaredwr Ei Hun. Bodola'r gweinidog er mwyn yr eglwys, ac nid yr eglwys er mwyn y gweinidog. Ac yn awr yr wyf am nodi at bwy yr apeliaf am gymorth i'r Drysorfa Gynorthwyol, sef at bobl sy'n credu mewn gweinidogaeth. 0 ran fy hun, ni ofynnwn i am hatling oddiwrth y neb na chred fod meddu gweinidog yn fantais i eglwys wan, a hwnnw y gweinidog goreu'n bosibl. A lie gall nifer o bobl nad yd)ut yn credu mewn gweinidogaeth. tod yn weddol agos at eu gilydd, da y gwnaent ymuno'n un corff a mynd ymlaen a'u hachos gwan heb bregethwr ar ol prawf teg, os ceir mai yn ofer y cynhelir gweinidogion, rhanner y Drysorfa, dyweder ymhen deng mlynedd, rhwng yr eglwysi llewyrchus deng mlwydd oed na bu iddynt weinidogion. Na, apelio yr wyf at rai sy'n credu ei bod yn fantais i eglwys wan gael gweinidog-rhai sydd a g'weinidogion gan- ddynt eu hunain, a phan symudir hwynt a bleidleisiant heb betrustod am olynwyr iddynt. jUn gair arall. Cofied y rhai sy'n credu yn y mudiad, y byddant yn cyfrannu'n ddyblyg drwy gyfrannu'n fuan. Y mae'11 debygol y bydd inwy o angen cymorth yn y dyfodol agos ar eglwysi gweiniaid nag sydd wedi bod am rai blynydd- oedd ac y mae mor debygol a hynny na bydd miloedd ohonom mor alluog i gynorthwyo'r gwan ac ydym heddyw. Gofynnaf wrth derfynu, i'r sawl a ddarlleno'r llinellau hyn, eu darllen yn yr un ysbryd ag yr ysgrifennir hwynt, sef gyda dymuniad a gweddi am i'n Henwad annwyl gael help gan Dduw yn yr argyfwng presennol i wneud yn siriol a diatreg yr hyn a ddisgwyl y Nefoedd oddiwrthym. Yr eiddoch, &c., St. Clears, St. Clears, D. G. WIILIAMS. Tachwedd 2gaill, 1915.
I GWYIFA A BODFAN A'R OFFEIRIAID.
News
Cite
Share
GWYIFA A BODFAN A'R OFFEIRIAID. At Olygydd y Tyst. SYR,—Diolchaf i J. H. J, am ei ateb doniol i'm hateb i'w lythyr ef. Y mae ynddo ryw goegni difyr ac amheuthun sy'n ogleisiol i'r eithaf. Hyderaf y ceir mwy o'i ddawn yn y TYST rhag Haw. Gwel ef, a gwel pob darllenydd ystyriol, mai ateb ei ofyniad a wneuthum o'r peth a wyddwn i fy hun. Dichon y gwyr Gwylfa. ragor i'r un perwyl. P, ,????ityh1r y mae un anghywirdeb yn llythyr J .H.J y rhaid i mi ei gywiro. Nid wyf yn cyfeirio yn awr at ei waith yn fy ngalw yn un o arweinwyr yr Enwad. Bfe yw'r cyntaf hyd yn hyn i wneuthur hynny ac os gwnaeth gamgymeriad, camgymeriad diniwed iawn a wnaeth. Yr am- ryfusedd y dymunwn ei gywiro yw hwn Pa ddiolch iddynt, os yw pethau fel y dywed Bodfan y inaent ? Oherwydd gallwn gasglu oddiwrtho fod ei Gymdeithas ef yn fwy o Gymdeithas Eglwysig na dim arall. Felly y mae yn holl- bwysig i Bodfan fod ar delerau da a'r annwyl gariadus frodyr," gan mai hwynt-hwy yw prif genhadon y Gymdeithas.' Y mae'r amryfusedd y syrthiodd eich goheb- ydd iddo yn un pur gyffrediu, sef tybied mai un Gymdeithas y Mud a'r Byddar sydd, a'm bod innau yn oruchwyliwr lleol iddi. Fel arall y mae. Saif pob Cenhadaeth ar ei phen ei hun, ar yr un egwyddor a'n heglwysi Annibynnol. Y mae felly hyd yn oed gyda'r Cenadaethau Eglwysig. Nid oes gan y Royal Association in Aid of the Deaf and Dumb (sef y Genhadaeth yn IJundain) ddim i'w wneuthur a'r Chester Diocesan Mission, er enghraifft, llawer llai a'r Genhad- aeth hon, sef'The Glamorgan Mission to the Deaf and Dumb. Y mae yn holl-bwysig i mi fod ar delerau da a'm hannwyl gariadus frodyr, addefaf, nid am eu bod yn brif genhadon dan yr un Gymdeithas, ond am eu bod yn brif gydlafurwyr yn yr un maes. Atynt hwy gallaf ychwauegu cenhadon Presbyteraidd ardderchog yr Alban. Camgymeriad anffodus fu dywedyd fod fy Nghvmdeithas yn fwy o Gymdeithas Eglwysig na dim arall, gan y dichon i'r darllenydd cyff- redin fethu gweled mai o'r amryfusedd gwreidd- iol o dybied mai un Gymdeithas sydd, y cyfyd. Cenhadaeth gyd-enwadol yw hon, ond gwyr fy mrodyr Eglwysig yn burion mai gweinidog Ymneilltuol wyf fi yn bersonol. Pa chware teg bynnag a gefais gan y J Jan, cyfiawn yw dywedyd i mi ei gael yn gyffelyb gan y TYST, y Goleuaa, y Seren a'r Cymro. Nid yw anadl gwenwynig enwadaeth wedi chwythu eto ar ein Cenhadaeth. Ofnaf na bydd fawr o siawns i Gwylfa a minnau ysgrifennu bywgrafiiadau esgobion i'r Dysgedydd am dro, ond cofiaf i mi weled darlun o'r Esgob Hannington, ac ysgrif arno, yn Nhrys- orfa'r Plant flynyddoedd yn ol. BODFAN. The Deaf and Dumb Institute, Pontypridd.
CAPEL AI,S, LLANELLI. i
News
Cite
Share
CAPEL AI,S, LLANELLI. At Olygydd Y Tyst. SYR,—Gwelaf yn y TYST diweddaf fod eich gohebydd wedi ei gamarwain parthed y tiifeL- ymunodd a'r eglwys uchod y Cymundeb diw- eddaf. Yn yr adeg ddiiewyrch yma ar grefydd yn ein gwlad, teimlaf ei bod yn werth rhoddi y nifer yn gywir er mwyn hanesydd y dyfodol. Nid 22 ychwanegwyd at yr eglwys, fel yr hys- byswyd eich gohebydd, ond 25-24 o'r newydd ac un llythyr. iJSaboth a hir gofir gan yr eglwys oedd Tach- wedd Ljcg. Mor hardd oedd yr olygfa, mor hawdd oedd addoli, mor nefolaidd y naws, ac mor agos oedd y cymundeb a'r ysbrydol Prof- iad pawb yn bresennol oedd, A'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab Ef ) Iesu Grist.' Atgofiodd yr olygfa hardd y preg- ethwr am y dydd, y Parch. T. Thomas, Aberdar, o adeg nefolaidd yn hanes yr eglwys pan y der- byniwyd efjyn aelod o eglwys Capel Als yn un o II3 gan yr Hybarch T. Johns, D.D. Nid rhyfedd fod atgof o'r amser dymunol hynny wedi (leff ro'r goreu yn yr eglwys yn awr. Mae yn yrnyl 50 wed.i ymuno a'r eglwys y ddau Gy- mundeb diweddaf. Cymerwyc1 rhan yn y gwas- anaeth gan y Parch. J. Stephens, gynt o Brynteg. Cerdd ymlaen, nefol dan, Cymer yma feddiant glan.' Noddfa, Aberaman. T. THOMAS.
Eignbrook, Hereford. ^
News
Cite
Share
Eignbrook, Hereford. ORDEINIO CYMRO. Dydd lau, Hydref 2iain, cynhaliwyd cyfar- fodydd. ordeinio Mr. Edgar Bowen, M.A., B.D., yn eglwys Eignbrook, Hereford. Fel y gwyr llawer, mab yw Mr. Bowen i'r Parch. W. Bowen, Penygroes. Addysgwyd ef yn Caterham ac yn Lancashire College, Manchester, lie y cafodd yrfa hynod lwyddiannus. Graddiodd gydag anrhyd- edclau mewn Athroniaeth, ac enillodd ei B. D. tra ar ei gwrs diwinyddol. Brynhawn dydd lau pregethwyd mewn capel llawn o bobl gan y Parch. S. M. Berry, M.A., Carr's Lane, Birmingham. Am 6 yr hwyr aeth- pwyd drwy seremoni'r ordeinio, pryd y llywydd- wyd y cyfarfod gan y Parch. R. Nott, o Ebley. Ymhlith y rhai a gymerasant ran oedd Mr. Albert Thomas, mab y Parch. T. H. Thomas, Taibach, Aberafon, yr hwn a gynrychiolai fyfyr- wyr Colge Lancashire. Pregethodd y Prifathro W. H. Bennet, M.A., D.Litt., D.D., ar Natur Eglwys rhoddodcl y gweinidog ieuanc fynegiant o'i gredo a'i fwriadau ac offrymwyd yr urdd- weddi gan yr Athro R. Mackintosh, M.A., D.D; Yna traddodwyd y siars i'r gweinidog gan ei dad, y Parch. W. Bowen. Rhoddwyd y siars i'r eglwys ar y Sul, Hydref 3lain, gan y Parch. W. F. Adeney, M.A., D.D. Gellir liongyfarch yr eglwys a'r gweinidog ar lwyddiant neilltuol y cyfarfodydd, ac ar yr ysbryd hyfryd a nodweddai holl rannau'r gwas- anaeth. Yr oedd y siars i'r gweinidog yn un ryfedd o dyner a dwys. Bydded ysbryd yr ordeinio yn nodwedd y weinidogaeth ar ei hyd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
111111111111111111 rtHtai ['' HAYMAffsi BALSAM 1 WELLHA II BESWCH ac ANWYD H Amhrisiadxvy gyda fihlant. IBS Poteli lj,3 A GAN OLL FFERYLLWYR A GROSERS^RI !))!HBEB