Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
Abercrave. I
News
Cite
Share
Abercrave. I BfJthlehem-Ttaddododd y Parch J. J. Wdhtma, Treforris, ei ddarlith benigamp ar Williams, Pantycelyn,' yn yr addoldy uchod nos tau, Taohwedd 26&in. Cadeiriwjrd gan Mr Reea Davieg, Massydert. glw da at gael organ oewyda.
,-Nebo, Glyncorrwg.I
News
Cite
Share
Nebo, Glyncorrwg. JlY Gobeithlu.—Noson ein Gobeithlu yw nos Fercher, ac ar Tachwedd 24ain ymwelodd Mrs. D. Jones, Hebron, Cymer, a Miss Maggie James, Tabor, Abergwynfi, a ni. Disgwyliodd y plant a ninnau oil lawer am danynt, ac ni siomwyd neb ohonom. Y drefn gymerwyd oedd i Miss Nellie George, yr hon -sydd mor garedig yn eu dysgu bob amser, i gymeryd. y wers arferol. Aethpwyd drwy rannau o eiriau y cantawd gyda'u gilydd, wedyn ar wahan. Ar ol hyn gal- wyd rhai o'r plant bach ymlaen i ganu i ni, yr hyn a wnaethant yn bur felys. Yna canodd y plant i gyd Paid a'm gadael, dirion Iesu,' a thonau eraill. Wedi hyn gofynnwyd i Mrs. Jones a Miss James i ddweyd ychydig eiriau wrth y plant. Fe gofia'r plant yr oil a ddywedwyd wrthynt am eu Brenin Iesu ac am amcan y Band of Hope i'w helpu i gadw eu cymeriadau a'u henwau yn dda. Cofiant hefyd mai amcan y Band of Hope yw eu cynorthwyo i fyw yn sobr, yn eirwir ac yn bur. Mae'r plant a ninnau yn bwriadu gwahodd y ddwy chwaer annwyl hyn i ymweled a ni eto cyn hir. Diweddwyd y noson felys hon drwy i'r plant bach oil ddweyd Gweddi'r Arglwydd. Ein profiad am yr oil yw, Melys, moes eto. Dewts Diaconiaid.-Nos Saboth, Tachwedd I7eg, dewisodd yr eglwys dri o swyddogion newydd at y rhai oedd yma yn barod. Dewis- wyd y brodyr canlynol :-Mri. Rees Edwards, Matthew-street; Evan Jones, Cymer-road ac Edward Hughes, Dunraven-street. Bendith y Nef fyddo ar yr oil, a'r golofn olau eglur fyddo yn ein harwain i'r dyfodol. Ap ELWYN.
-Aberhonddu.I
News
Cite
Share
Aberhonddu. Yn Ffrainc gydar Y.M.C.A.'—Nos Fercher, Rhagfyr iaf, yn ysgoldy Glamorgan-street, bu Mr. George Lewis, B.A., o'r Coleg Coffa, yn traethu wrth gynulleidfa orlawn ar y testyn uchod. Wedi treulio ohono dymor yn y Barry yn gwasanaethu ymhlith y milwyr ynglyn a'r Y.M.C.A., penodwyd Mr. Lewis i fyned drosodd i Ffrainc i gymeryd gofal Pabell y Gymdeithas yn un o'r gwersylloedd pwysicaf. Dengys y dystiolaeth a ddygwyd gan yr awdurdodau mil- wrol a chan swyddogion y Gymdeithas iddo gyf- lawni gwasanaeth gwerthfawr iawn drwy ei fedr a'i ofal. Gwyddys iddo lafurio yn galed a di- orffwys o fore hyd hwyr, a chanol nos fel canol dydd, er gwneud ei ran i weini ar y miloedd mil- wyr a gyrhaeddent y gwersyll ar unrhyw awr ar ol taith hir a mordaith oer weithiau, ar eu ffordd o'r wlad hon i rengoedd blaenaf yr ymgyrch. Yr oedd ei ddisgrifiad o natur y gwasanaeth y cafodd y fraint o'i roddi, ac o'r cyfleusterau a geid i ddyfod i gysylltiad agos ag amryw o'r milwyr o'r wlad hon ac o'r Trefedig- aethau, yn ddiddorol anghyffredin. Deallwn fod swyddogion y Gymdeithas wedi gyrru a to wahoddiad taer i fyned allan i For y Canoldir i gyflawni, yr unrhyw wasanaeth. Ni wel ei ffordd yn glir i gydsynio ar hyn o bryd, ond hwyrach y gwna ymhellach ymlaen. Y mae ei wasanaeth gwerthfawr yn y cyfeiriad hwn yn addewid am yrfa wir lwyddiannus yn y dyfodol fel gweinidog da i Iesu Grist, tra y bydd y profiad a enillodd eisoes o werth annhraethol iddo pan ymaflo yn y gwaith y mae yn llafurio mor gyson i gyfaddasu ei hun ar ei gyfer. Y mae amryw o'i gyd-fyfyrwyr yn barod wedi rhoddi eu gwasanaeth ynglyn a'r Y.M.C.A. am dymor. Ceir rhai ohonynt hefyd yn y Fyddin, tra y mae eraill ar fedr gwasanaethu eu gwlad mewn rhyw gylch neu gilydd yn yr argyfwng difrifol presennol. Talwyd diolchiadau cynnes i Mr. Lewis gan y cadeirydd, y Parch. T. Gwyn Thomas, yr hwn a dreuliodd fis Medi ymhlith y milwyr yn Ne Penfro, a chan y Parch. D. 0. Griffiths (B.), Porthydwr, yr hwn sydd ar; gychwyn i'r Cyfandir i weini yn un o Bebyll y Y.M.C.A. Cymerwyd rhan hefyd gan yr Athro John Evans, B.A. Mr. F. W. Jenkins, cynrychiolydd y Gymdeithas yn y dref Mr. E. A. Watts, ysgrifennydd yr eglwys a Mr. D. Cadwaladr, ysgrifennydd Cymdeithas y Bobl leuainc, dan nawdd yr hon y trefnwyd y cyn- hulliad. aw iA ————
Advertising
Advertising
Cite
Share
SOAR, ABBRTAWE.-Cynbaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd pregethu ryw bythefnos yn ol, pryd y gwasanaethwyd nos Sadwrn a'r Sal a non Lun gan y Parch Dr Gwylfa Roberti, Llanelli, Yn odfa bore Sal pregethwyd gan y gweialdog,riy Parch J. H. Rughes.1
Y Drysorfa Gynorthwyol.
News
Cite
Share
Y Drysorfa Gynorthwyol. SWN A SYMUD. Givrecsam.— Rai dyddian yn ol gallesid gweled dau wr parehedig yn troedio o dy i dy fel recruiting officers ymysg deiliaid y Caplan Peris Williams; ac, yn wir, recruiting officers oeddynt hefyd yn ceisio chwyddo byddin cefoogwyr y Drysorfa; ao nid oeddynt yn neb Uai na'r gwslr selog y Parchn Talwrn Jones, Brymbo, a T. B. Thomas, Coedpoeth Cawsant addewidion pendant am tua S50 mewn darn o ddiwrnod Y mae addewidion Gwrecsam yn awr yn tynnu at 2120 yn lie £ 66; a gwell na hynny, dyma ddywed Talwrn: Cawsom groeso mawr, a ohryn barodrwydd i addo a chyfranu Rhaid fod yr achos yn dda cyn y rhoddid croesaw i'r casglyddion. IVell done! y Gwrecsamiaid.' Y mae Talwrn wedi tyngu llw mawr y bydd y Drysorfa yn llwyddiant yn Nwyrain Dinbych a Ffiint, ac y mae • Tomos, Coedpoeth,' wedi gwertha ei hunan i'w helpn a rhwng y ddau, a H. W. Parry -sy'n gwybod hanes dau gyfandir—'rwy'n ofni y bydd ambell gybydd yn sibrwd wrth ei galon eiriau'r Salmydd-I 0 na bai i mi adenydd fel colomen yna yr ehedwn ymaith I I Sylw Cywir.-Dyma argyhoeddiad y Parch Talwrn Jones :—4 Yr wyf wedi'm hargyhoeddi'n llwyr er's tro bellacb, os am wneuthor rhyw beth, fod yn rhaid ei wneuthur ein hunain. Yr wyf wedi penderfynu yr af n, neu un o'r ddau weinidog arall, i bob eglwys yn y Cyf undeb, ac at y rhan fwyaf o'r aelodau.' A ddarlleno, ystyried. Pwy gymer yr awgrym ? Maldwyn.-Wedi ysgrifennu yr wythnos ddiweddaf, daeth rhagor o fanylion o Faldwvn trwy law brawd sydd wedi gweithio yn egniol a 1 lwyddiannus gyda'r mudiad, sef Mr Pentyrch Williams, Y H., Llanfyllin. Dywedai y Parch G. Griffiths, yr Ysgrifennydd Cyfundebol, fod Dosbarth Llanfyllin wedi gwneud yn dda, a diau fod llawer o'r clod yn ddyledus i'r Ynad mwyn. Bydd ganddo yn awr y bardd caredig I J. J. o'r Drenewydd, i gadw cwmni iddo, ae y mae Gwladwr' hefyd ar y warpath, fel mai f Gwae y rhai esmwyth arnynt' fydd hi ym Maldwyn nes y gwneir y Drysorfa yn llwydd- iant difeth. Y Rhestrati.-Danfoner pob rhestrau o enwau yn ddiymdroi. Peidier ag aros i'w cwblbau. Gellir ysgrifennu ar eu gwaelod I'w barhau.' Anfoner hwy naill ai i Abertawe i'r Arolygydd, neu i mi. At Bob Eglwys —Cyn y bydd y nodion hyn o dan lygad y darllenydd, yr ydym yn hyderu y bydd cylchlythyr ar ei ffordd, os nad wedi cyrraedd i bob eglwys Annibynnol Gymraeg yng Nghy s ru a Lloegr. A fydd yn ormod hyfdra ar ran y Pwyllgor ofyn i'r eglwysi roi sylw caredig iddo ? Y mae y mater yn un o'r pwys mwyaf i'r holl Enwad. Cylch ,Machynlleth.- Buraid i mi, ei fy ngwaethaf, bron, drwy daerni Gwladwr, fynd i gyfarfod pwyllgor y dosbarth yma Daeth nifer dda ynghyd, a ehynrychiolaeth o agos bob eglwys, a phob un yn awyddus iawn i weled y Drysorfa yn llwyddiant. Bu Mr Charles, Cadeirydd yr Undeb, yn treulio Saboth ymysg rhai o eglwysi y cylch, a gadaw- odd argraff dda iawn lie y bu, a chododd gryn sel o bleid y symudiad. Disgwylir y rhydd Machynlleth arweiniad i'r cylch hwn cyn bo hir. Dewiswyd y Parch S. Roberts, Lianbryn- mair, yn llywydd y cylcb, a Gwladwr yn ysgrifeuriydd, a rhwng y ddau bydd y pwyllgor yn gyfoethog o olenni a gwres. W. Ross HUGHES, Ysg. Cyffredinol. Borthygest, Tach. 30Ain, 1915.
I GALWADAU.
News
Cite
Share
I GALWADAU. EGLWYS LLOYD STREET, LLANELLI.—Mae y Parch Rowland Evans, Ynysmeudwy, wedi ateb yn gadarnhaol yr alwad daer ac unfrydol a dderbyniodd o'r eglwys uchod. Teimladau dwys sydd ar yr Ynys oherwydd eu bod yn colli un suddodd ya ddwfu i serch ei eglwys. Bwriada ddechreu yn ei faes newydd yn gynnar y flwyddyn newydd. Dytnunwn iddo lwyddiant mawr eto ymhlaid Teyrnas Tywysog Tang- nefedd DOMGAY, LLANDYBILIO -Mae 7 Parch Lewis Evans, Llansilin, Maldwyn, wedi derbyn gal wad unfrydol oddiwrth yr eglwys Seisnig uchod.
. 010-I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Morning Post, i fradychu achos Prydain ymysg y gwledydd, i galonogi'r gelyn, ac i ddigalonni ein cyfeillion, yn unig er mwyn gwneud Gorfodaeth Filwrol yn ddeddf gwlad. Maent wedi ymddiofrydu y myn- nant Conscription, costied a gostio, a defn- yddiant bob cynllwyn budr i'w sicrhau. Ac mae'r Llywodraeth ofn rhoi'r gag arnynt, tra mae'n ddigon parod i gosbi'r Labour Leader a'r Globe. 0 na chai CROMWEL ddychwelyd am tis (7) Mae addysg yn dioddef mae crefydd yn dioddef mae diwygiadau cymdeithasol wedi eu llesteirio am amser maith. Gwan- ychir eglwysi, cwtogir rhoddion at y Gen- hadaeth Dramor a Chartrefol, mae gwein- idogion mewn llawer man yn dioddef yn enbyd, ac mae'r holl Achos Mawr yn gwaedu. Ac eto ni welir fawr bri ar weddi nac ymbil mae difyrion yn amlycach na defosiwn; mae miloedd yn esmwyth arnynt yn Seion, ac nid ymofidiant am ddryllio JOSEPH.' Rhaid wrth ymostyngiad cyn daw heddwch. Nid trwy filiynau KITCHENER yn unig y daw amser yw i'r ARGLWYDD weithio.' Misolion. —MAE'R Welsh Outlook yn benigamp, ac yn cynnwys amrywiaeth r b y f e dd 0 1. Ysgrif werthfawr yw un yr Athro Miall Edwards ar Theology in Wales, ac mae sylwadau'r Golygydd ar gynildeb a'r fas- nach feddwol yn nodedig graft a gwerth- fawr. Ond paham yr atebodd y Parch. Francis Roberts ysgrif y TYST ar y B.D. yn yr Outlook yn lle'r TYST ? Edlychaidd yw ei esgus nad Annibynnwr mohono mae croeso i bawb yn y TYST. —Prif ysgrif y Dysgedydd eto yw un yr Athro Miall Edwards ar Berson Crist. Ysgrifenna yn gryf a chlir. Rhifyn da yw un Rhagfyr o'r hen gylchgrawn clodwiw. -Yn y Missionary Chronicle ceir apel gref ar ran y Gymdeithas gan Gadeirydd yr Undeb-y Parch. James Charles, ac ysgrif ddiddorol ar Arwyr gan y Parch. Robert Griffith-y ddwy yn Gymraeg. Mae y rhan Saesneg hefyd yn odidog. -Adolygiad yigolygydd ar y flwyddyn 1915 yw prif ysgrif y Cennad Hedd am Rhagfyr. Pryderus a difrifol ydyw, ond tal yd dda am ei darllen. —Yn y Cerddor ceir ysgrif graft a ffres gan yr Athro David Evans, Mus.Doc., Caer- dydd, ar y Gymanfa Ganu.' Nid ydym yr un farn ag ef ar bopeth, ond ysgrif werthfawr ac amserol ydyw. —Prinder darluniau sydd yn Nhywysydd y Plant, ac mae hyn yn ddiffyg pwysig. Mae yr ysgrif au yn dda. Ac mae'r un sylw yn wir am Dysgedydd y Plant. Paham hyn ? Os na chaeir mwy a gwell darluniau, ie, a rhai heblaw rhai cenhadol, ni ddiddorir y plant. Rhagora Cymru'r Plant arnynt yn hyn o beth, yn ogystal ag mewn amrywiaeth cynnwys. Nid gorchwyl hawdd yw darparu ar gyfer plant mae yn gelf ar ei phen ei hun- neu yn ddawn wedi ei roi gan natur.