Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR. II GAN EYNON. I Cafwyd noson fyw dros ben neithiwr (nos Fawrth) yn Sant Stephan. Syr John Simon yn dweyd y drefn wrth bobl y Wasg Felen,' sef y Times a'r Daily Mail. Cyhuddent ef o gamarwain y Senedd, yr hyn o'i gyfieithu yw ei fod yn dweyd anwiredd. Y mae un hanner o Syr John yn Gymro o sir Benfro, ac yr oedd yr hanner honno o'i natur yn tanio o dan y cyhuddiad. Atebodd yn wresog dros ben, ac fe argyhoeddodd bob dyn call nad oedd sail i'r cyhuddiad. Ac eto y mae eisiau ar lawer ohonom i gael rhyw esboniad paham y mae'r Globe dinod yn cael ei grogi am naw niwrnod, tra y mae pechaduriaid mwy o lawer fel papurau Northcliffe yn cael mynd yn rhydd. Ateb Syr John i hwnna ydoedd hyn Fod y Globe wedi cyflawni pechod pendant, hawdd ei ddeffinio ond mai rhyw fan bechodau dyddiol-rhyw grintachrwydd (pinpricks) tragwvddol-sydd yn nodweddu'r Wasg Felen.' Eto fod hyn yn y cyfanswm yn fwy niweidiol na rhyw gionyn o gelwydd coch, mawr, feljcelwydd y Globe ynghylch yinddiswyddiad Kitchener, Yn ystod ei araith rhoddodd Simon awgrym plaen y bydd llygad craffach yn cael ei gadw ar y ddau hapur pechadurus a nodwyd o hyn allan. Amcan Northcliffe yw bod yn geffyl blaen yn y Wladwriaeth. Hoffai fod yn fath o Kaiser yn ei ffordd ei hun. Nid oes ball ar ei ymffrost. Hawlia mai efe alwodd Kitchener at ei waith. Efe, yn nes ymlaen, oedd yn galw am roddi'r cwd iddo. Efe wedyn gododd hue and cry yn erbyn Arglwydd Haldane ac efe yn fwv na neb roddodd y cwd iddo yntau. Ar ol hynny Syr Edward Grey oedd y prif bechadur. Yn awr mae'r gyllell yn Simon hyd earn. 1"\1 erioed y fath impudence ? Y mae yn hen bryd erit)o yr Arglwyddyn beiddgar hwn, ac y mae yn syn na fnasai. hynny wedi ei wneud er's tro. Bydd naw o bob deg yn falch i weled Haw haearn y ddeddf yn cydio yng ngwrar y Wasg Felen.' Os na wneir, rhaid i ni gyfaddef mai Trech arglwydd na gwlad,' a'r Arglwyddyn hwnnw yn nn o greaduriaid diweddaraf Mr. Balfour. Amgylchiad arall dynnodd sylw mawr ym Mahilon ydoedd gwaith Mr. Stanton yn cipio'r sedd ym Merthyr er gwaethaf yr holl awdtirdodau goruchel.' Mynnai y Wasg Felen mai buddugoliaeth oedd hon dros Conscription. Bloeddient ganu felly pan ddaeth y newydd, a chyhoeddent ar bennau tai fod gwladgarwch wedi cario'r dydd. Edrycha'r rhan fwyaf ar y fuddugoliaeth fel galwad i yrru'r rhyfel ymlaen nes concro'r Germaniaid. Diau mai felly yr oedd, oblegid cafodd Stanton ei erlid yn grenlon gan y Pro-Germans oeddent am sefyll ar ben y clawdd heb wneud dim. Ymddengys i ni sydd yn edrych ar betliau o bell mai yr I.L.P. gafodd gosfa y waith hon. Eu dyn hwy oedd Mr. Winstone, ac efe (er gwaethaf yr holl gynllunio swyddogol) gollodd y j dydd Beth mae hyn yn ddangos ? Dangos yn y lie cyntaf nad yw Merthyr ac Aber- dar yn dewis cael Keir Hardie number two i'w cynrychioli yn y Senedd. Dangos hefyd ei bod yn hen bryd cipio'r awenau o afael y lleiafrif bychan ystwrllyd sydd yn f rhedeg Plaid Llafur y dyddian diweddaf hyn. Mae'n hen, hen bryd i'r mwyafrif mawr cymhedrol sy'n cadw draw o'r lodges benderfynu mai nid y gynffon sydd i ysgwyd y ci o hyn allan, ond mai y ci sydd i ysgwyd y gynffon. Mae'n werth sylw fod Mr. Stanton wedi ei arwain at y ford nos Fawrth gan Whip Plaid Llafur, Mr. George H. Roberts, a chan Mr. Edgar Jones. Pur debyg, er hynny, mai gyda'r Aelodau Annibynnol y cymer ei le am dipyn. Mae'r Ddeddf newydd sy'n cyfyngu llymeitan i ryw bum awr a hanner y dydd yn gweithio yn braf yn y Ddinas hon. Os a pethau ymlaen fel yn bresennol, gallwn anfon yr ynadon cyflogedig a'r plismyn am dro i'r Dardanelles. 'Does fawr waith yn en haros yma, pan, o dan yr hen drefn, yr oedd list fawr o feddwon yn aros eu tro bob dydd mewn llawer llys. Yn ychwanegol at hyn, pan fo dorau'r dafarn yn agor hanner dydd, nid oes fath ynlY byd o stem o bobl sychedig, a'u taf- odau creision allan, yn aros en tro Na dim o'r fath beth. Y gwir yw fody cy- hoedd, er gwaethaf holl driciau'r dafarn, yn cymeryd at y drefn newydd fel hwyaid yn cymeryd at y dwr. Gwelent fod ben- dith ynddi. Mae calon pob dirwestwr felly yn llawenhau. Ar ol cael bias fel hyn ar Ganaan, rhaid inni ar ol y rhyfel beidio dychwelyd i'r Aifft byth mwy. Un ffordd rad i ennill anfarwoldeb yn yr ystyr Seneddol o'r gair yw drwy ofyn cwestiynanffol neu gall, waeth prun. Mae Syr A. Markham wedi datblygu y dalent honno yn anghyffredin nes erbyn hyn y mae llawer iawn yn edrych arno fel nuisance. Lie nad oes talent i wneud enw mewn ffordd gadarnhaol, y peth rhwyddaf wedyn yw treio'r nacaol. Gall asyn, wrth sefyll ar y track, atal yr Irish Mail ond liis gall hanner cant ohonynt ei yrrn rhag ei flaen. Cymhwyser y ddameg. Wel, nuisance Seneddol yw Markham, ac y mae ymIOn cyflawni mesur ei anwiredd. Yn wir, mae eisiau rhoddi mwgwd am rhyw hanner dwsin ohonynt, y rhai sydd yn gwastraffti amser y Ty ac yn peri sport i'r Philistiaid Germanaidd. Gras ffein iawn ambell dro yw y gras i dewi. Y mae dau hen wrthgiliwr, sef Syr Edward Carson a'r hen forwr Arglwydd Charles Beresford, yn rhyw geisio ffurfio parti politicaidd newydd—parti Cenedl- aethol,' os gwelwch yn dda. Y casgliad naturiol yw nad yw y genedl' yn cael chware teg o dan yr arweinwyr presennol, ac y mae eisiau criw newydd i ofalu am y llong. Felly Carson sydd i fod yn gapten, a Beresford yn chief mate. Yna fe hwylia'r llong rhagddi, mewn llawn hwyliau, i'r porthladd dymunol. Gwyddom yr hoffai Carson fod yn Brifweinidog, a Beresford fod yn lie Jellicoe. Y gwaethaf yw nad oes nemawr neb arall yn credn hvnny. Yn y cyfamser y maent yn ceisio cyn- llunio rhyw ogof Adulam i'r anfoddlon- wyr ond, ys dywedai Mynyddog gynt, Ddaw hi ddim.' Pan y mae hen poachers yn troi yn game-keepers, mae'n bryd i helw 37r gonest edrych ati.

IYswiriant lechyd Cenedlaethol.

Advertising

POB OCHR I'R HEOL. -i