Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

POB OCHR I'R HEOL. -i

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

POB OCHR I'R HEOL. H; (r) 'Adferteisio'r Beibl '-dyna amcan math o gymdeithas newydd sydd wedi ei ffurfio yn Llundain. Galw sylw at y Beibl yn y newyddiaduron dyddiol, a rhoi hys- bysiadau cyson am dano yr tin fath ag am lyfrau a nwyddau eraill. Rhyw deimlo y mae'r pwyllgor hwn y dylai'r Beibl gael mwy o le ym meddwl y byd ar adeg fel hon, ac mai un ffordd lied debyg o droi meddwl y byd ato yw dodi hysbysebion am dano ar ddalennau papurau newydd- ion. Wel, os gellir cael Gair Duw rywfodd i sylw, goreu i gyd, Yn sicr, y mae wedi ei daflu o'r neilltu'n ddiseremoni iawn er's blynyddau bellach. Ambosibl fyddai dwyn gwell dylanwad i weithredu ar fyfyrdodau y Cyfandir hwn heddyw. (2) Dymunol darllen fod cyflogwyr mawrion y byd yn sylweddoli, ac yn cy- hoeddi'n eofn, bellach, mai niwed ymhob ystyr yw'r gweithio ar y Sul sydd wedi dod yn beth rheolaidd a chyffredinol ymron yn y wlad. Un o'r malldodau sydd wedi ffynnu yng nghysgod y rhyfel yma yw digysegriad y Sabpth. Yr oedd gormod o weithio ar y Sul o'r blaen, a gormod o deithio ac o agor siopau ac o werthu papurau, ac o ganiatau i gerbydau llaeth fod hyd yr heolydd drwy'r dydd. Eithr gyda'r rhyfel hwn aeth y cyfan yn arfer- ion cyfreithlon ym meddwl y cyhoedd, a rhoes pawb heibio gondemnio'r halogi ddaeth ar ddydd Duw. Cyfiawnhawyd cynnal pob math ar gyrddau ar y Sul. Daeth gwerthu papurau newyddion yn beth cyffredinol a chwbl ddigywilydd, a'u prynu a'u darllen yr un fath ac o dan gochl paratpi cadnwyddau, a gwneud trefn- iadau anorfod i ryfel, aeth gweithio ar y Sul yn ddeddf i lawer ardal. Melltith ofn- adwy yw hyn. (3) Cynygid mwy o gyflog ar y Sul gynt er mwyn denu dynion i wneud, am eu bod yn anfoddlon colli'r Saboth er mwyn y gwaith. Erbyn hyn y mae'r eyflog a hanner ar y Sul, a'r war bonus yn ysgil hynny, wedi gwneud i ddynion orawyddu am weld y Sul yn dod er mwyn cael gweithio arno. Golyga deuddydd o gyflog iddynt ymron, a siomedig iawn yw lliaws yn y cylchoedd hyn am fod cyflogwyr y I gweithfeydd ym Mhembre'n son am roi i fyny'r Sunday labour. Dyna Iwybr y dirywiad Gorfod denu dynion gynt i weithio ar y Sul drwy roi rhagor o dal iddynt am wneud dynion yn dyheu am weithio ar y Sul erbyn hyn er mwyn cael yr ychwanegiad at eu cyflog a sicrha hynny iddynt. Diolch fod deddfau iechyd wedi codi i brotestio yn erbyn yr anfadwch bydol. Dyna'r eglurhad, meddir. Goruch- wylwyr yn sylwi fod y gweithwyr, oher- wydd blinder corff a diffyg gorffwys pri- odol, wedi mynd i droi allan mewn saith niwrnod yr hyn a wnaent gynt mewn chwech. Fe fyn natur ei hawliau, a thu- cefn iddi-diolch hefyd-fe fyn Duw sylw. (4) Y mae Dirwest eto wedi codi i sylw rhyfedd y dyddiau diweddaf drwy fod y cyfyngu ar oriau'r tafarnau wedi peri i geraint y fasnach ffyrnigo. Anfonodd rhyw lolyn i fygythio Mr. J. H. Thomas, arwein- ydd Gwyr y Reilwe, am gefnogi ohono y mudiad dirwestol; ond rhoes Mr. J. H. Thomas daw ar ei flagardiaeth yn lied fuan ac urddasol. Ymddengys nad oedd gan yr ymyrrwr hwnnw hawl yn y byd i siarad na phellebru ar ran Undeb Gwýr y Reilwe. Bu un arall yn y dref hon yn arllwys ei wenwyn ac yn bytheirio—Ben Tillet-ac yn dweyd ei druth cableddus am eglwysi a gweinidogion. Gallesid meddwl mai darllawyr y wlad oedd yn ei dalu, ac nid Undeb y Docwyr, gan mor selog ydoedd drostynt hwy a'u hachos, ac fel yr anogai weithwyr y dref i lymeitian. Y nefoedd a waredo weithwyr a gwerin gwlad rhag cael y dosbarth anfoddog a haerllug hwn i'w harwain ac i siarad yn eu henw. Os yw dyn fel hyn yn cynrych- ioli'r gweithwyr yn eu syniadau, ac yn dweyd eu meddyliau hwy yn y geiriau a lefarodd yn y dref hon, tynghedwyd achos y gweithwyr i fynd i lawr-ac i lawr yr I aiff yn fuan ac yn ddibetrus. Eithr diolch fod dynion fel y Mri. J. H. Thomas a Philip Snowden ac eraill yn arwain adran- nau o weithwyr y deyrnas hon. Glynu wrthynt hwy a'u tebyg yw gobaith y gweithiwr, a bwrw'r ysgrechwyr anghyson hyn a'u glafoerion allan o'r ffordd. (5) Heddwch! Dygn hiraethu am heddwch y mae hyd yn oed yr Almaen o'r diwedd ond haws gwneud rhyfel na'i ddodi i lawr. Caiff fwy o anhawster i wneud cymod nag a feddyliodd o lawer, er ei holl ystrywiau a chyfrwystra. Sicr yw ei bod wedi gorchfygu'r byd mor bell ag y mae rhyw bethau yn mynd. Cenedl fedrus ofnadwy yw wedi profi ei hun: alluocach na'r un oedd yn ei gwrthwynebu, yn ddios. Da i ni mai mewn Cynghrair yr ydym, a hwnnw'n un lied gryf, onite darfuasai am danom i bob golwg. Hongian wrth yr Almaen y mae ei chyd-ymladdwyr wedi wneud. Hyhi oedd yn rhoi nerth ac ysbrydiaeth ac adnoddau ac arweiniad a phopeth iddynt. Hebddi hi, ni safasent am fis ond wele hi wedi gallu sefyll ei hun ynghanol y cenllif am yn agos i flwyddyn a hanner, a chadw'r lleill ar eu traed gyda hi Yr oedd unrhyw genedl a allai wneud hyn yn feistres y byd, oddi- eithr i lu eraill gynghreirio i'w gwrth- wynebu. Pe cawsai hi un o'r cenhedloedd Cynghreiriol ar ei phen ei hun i'w herbyn, gwnaethai fyr waith am honno. Aethai Ffrainc a Rwsia a Phrydain a'r Eidal i lawr fel ysglodion o'i blaen, pe cawsai hwy ar wahan. Do, gorchfygodd y byd yn foesol (neu anfoesol, hwyrach, yw'r gair goreu). Eithr wele hi yn sylweddoli mor ofer yw'r cwbl wedi bod, ac yn dechreu gwingo am heddweh 1 Tebyg yw mai gwingo a gaiff, hyd oni welir hi yn crefu am dano ac yn codi ei dwylo gweigion i fyny, gan ollwng popeth ohonynt, a syrthio ar drugaredd ei gwrthwynebwyr. Dyna ddiogelwch y byd. (6) Y mae Mr. Towyn Jones, A.S., ar hyd a lied y wlad er's wythnosau ynglyn a'r gwaith o ymrestru. Galw heibio'r gweithfeydd mawrion ar ran Gweinidog- aeth y Cadnwyddau yw ei waith ef, yn hytrach na dim arall. Ac y mae gallu Towyn i annerch y gweithwyr yn Gym- raeg neu Saesneg, yn ol fel y bo'r gofyn, yn hylaw iawn i'r Wladwriaeth a balch yw'r bonheddwr sy'n trefnu'r cyrddau hyn yn y gweithfeydd ei fod-wedi taro ar wr fel Towyn. Ond rhwng ateb llythyrau aneirif, a cheisio am swyddi i bobl ymhob cyfeiriad, a rhedeg a rasio i helpu miloedd, cyflawni ei ddyledswyddau Seneddol, ac areithio a theithio, mae'n anodd deall sut y mae Towyn yn dal wrth ei gilydd.. (7) Dywedir mai un o'r ffeithiau mwyaf tarawiadol yn hanes y milwyr yw eu chwaeth at ddarllen gweithiau prifeirdd y byd. Gwyddys yn dda fod miloedd o fechgyn mwyaf diwylliadol y deyrnas hon yn ei byddin-bechgyn yr athrofeydd, ac athrawon ysgolion, cyfreithwyr, clercod, a rhai o bob dosbarth meddylgar yn y wlad. Hoffant gario'r llyfrau by chain gyda hwy argaffiadau poced o weithiau goreu- gwyr y gwledydd ac yn anad dim, llyfrau o farddoniaeth uchelradd. Ni I yw nlsyn- dod wedi'r oil, canys pan geir cyfrol fechan o wir farddoniaeth, gellir byw yn hir gyda honno. Blinir ar chwedlau, ac ar draeth- odau, ac ar gofiantau, ac ar athroniaeth a phopeth o'r fath, eithr erys bywiol swyn mewn cerdd dda, a gwir ymhob cylch yw'r llinell—A thing of beauty is a joy for ever. sic (8) Colled fawr i gymdogaeth Pont- yberem oil, yn ogystal ag i eglwys Caer- salem, oedd marwolaeth gynnar y gwr da Mr. Rhys G. Griffiths. Caed y manylion am ei angladd yn y TYST diweddaf. Ni chyrhaeddasai efe hanner cant oed, ond yr oedd iddo ddylanwad mawr ac enw rhagorol drwy'r holl wlad. Cwynid am dano ar ddydd ei angladd gan weddwon ac hen bobl y fro, gan gymaint fu ei gared- igrwydd iddynt oil o dro i dro. Cadwasai efe yn y lofa rai gwyr digon anhywaith ac ansobr, meddir, a hynny yn unig er