Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

TREFFYNNON.

News
Cite
Share

TREFFYNNON. Soiree.-Nos Fercher diweddaf cynhaliwyd soiree ynglyn a'r Dosbarth Gwolo yn ysgoldy eglwys Gynulleidfaol Heol-y-Capel. Hwn ydoedd cyfarfod agoriadol y dosbarth uchod am y gaeaf, a daeth degau lawer ynghyd i fwynhau y ddeilen Indiaidd a'r bara brith, &e. Huliwyd y byrddau trugareddau goreu, a gwisgwyd yr ystafell yn hynod ddeniadol a gwyrddddail a'r byrddau a, blodau. Gwasan aethwyd wrth y byrddau, &c., gan Miss H Hughes, Dee View; Misses S A a L. Rees, Gwenffrwd House; Jennie Jones a Sarah Williams, Tudor Villa; Miss Kennedy; Mrs R. J. Owen, Hyfrydle, (te. Wodi gorffen gyda'r te a chlirio'r byrddau, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol o dan lywyddiaeth y Parch D. Oliver, D.D., gan yr hwn y cafwyd ychydig o eiriau arweiniol. i Yna cafwyd unawd ar y berdoneg gan Miss M. Williams; unawd, Mr W. Jones; darlleniad, Mrs R. J Owen, EA. unawd, Miss Buddug Williams; adroddiad, Mr H. Owen; unawd, Mr Davies; dadl, Miss Catherine Williams a'i pharti; unawd ar y berdoneg, Miss Graham, Birkenhead; deuawd, Mri Davies a Pierce; unawd, Miss Rosioa Edwards; adroddiad, Me Hugh Owen; unawd, Miss Myfanwy Williams; darlleniad, Miss Sarah Williams; ac uoawdau gan Miss R Edwards a Mr Davies. Cafwyd cyfarfod ds, a phawb wedi eu boddhau. Cyn ymwahanu cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r ddwy chwaer garedig, Mrs Parry, Hope House, a Mrs R. J.Owen, B.A., Hyfrydie, am roddi y te a'r danteithion yn rhad, a'r holl elw yn mynd i drysorfa y dosbarth gwnio. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss Blodwen Parry, A.L.C.M Hope House. Cyn ymadael canwyd 4 Hen Wlad fy Nhadau.' J. T. W.

Ein Henwad yn Llanelli.I

Advertising

I GOGLEDD REDIGION.

Advertising