Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
' CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU.'
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU.' At Olygydd y Tyst. SYR,—Yr oedd yn dda iawn gennyf glywed fy hen gyfaill, Mr. P. R. Thomas, yn torri'r hir ddistawrwydd rhyngom trwy estyn bonclust i mi. Mor bell ag y deallaf ysgrif Mr. Thomas, y mae o'r un farri a minnau, ac yn groes i farn Dyledwr,' ynglyn a'r B.D. ac eto myfi. a leddir. Y mae dau beth yn yr ysgrif yn galw arnaf i amddiffyii fy nghymeriad :— (1) Ebr Mr. Thomas Mae amcan uwch mewn dysgu Hebraeg na deall cenadwri'r proffwydi yn yr iaith arferent hwy.' Paham, ynte, na ddywedych chwi beth ydyw'r amcan hwnnw, Mi. Thomas ? (2) Dyfyniad arall Ond gyda Groeg y Testa- ment Newydd yr a Mr. Jones fwyaf ar gyfeil- iorn. Fe wyr darllenwyr y TYST, yr hyn anghofiodd ein hen gyiaill, mai'r Aramaeg, ac nid y Roeg, oedd iaith Crist a'r apostolion.' Yn awr, rhag i ni'n dau dywallt gwaed yn ofer, dyma ychydig eiriau ar y mater gan awdurdod uchaf y deyrnas hon ar iaith, y Testament Newydd, sef Dr. J. H. Moulton That Jesus Himself and His apostles regularly used Aramaic is bevond question, but that Greek was also at command is almost equally certain.' Annichon, felly, ydyw gwybod beth oedd y gwreiddiol o'r cwbl o eiriau Iesu hyd yn oed ond hyn a wyddom-mai yng Ngroeg y Testament Newydd —iaith gyffredin Ymerodraeth Rhufain-y preg- ethwyd ac yr ysgrifennwyd Ei eiriau Aramaeg, hyd yn oed yn yr oes gyntaf gan mwyaf. Felly yr wyf yn dywedyd eto mai yn iaith wreiddiol y Testament Newydd y deuwch at eiriau ac vsbrvd Iesu a'i ddisgyblion. Fel hyn yr a. P.R.T. yn ei flaen Ymhellach, Iddewon, ac nid Groegwyr, oedd awdwyr llyfrau y Testament Newydd; a thray cyfansoddent yn yr iaith Roeg, dengys eu cynhyrchion y meddyllient yn yr iaith Aramaeg. Felly, rhyw fath o gyfieith- lad yw'r Testament Newydd yn y gwreiddiol.' Oho Fel hyn y dywed Dr. Moulton am yr Iddewon hyn They would write as men who used the language from boyhood, not as foreigners painfully expressing themselves in an imperfectly known idiom. It does not appear that any of them used Greek as we may sometimes find cultured foreigners using English, obviously translating out of .their own language as they go along.' Yn wir, tebyg iawn oeddynt i'r Cymry sydd wedi dysgu Cymraeg a Saesneg o'u mebyd, yn hollol ddilyffethair yn y ddwy iaith. Ydwvl. v tu cefn i 1. H. Moulton, FRED JONES.
JOHN VIRIAMU JONES.'
News
Cite
Share
JOHN VIRIAMU JONES. At Olygydd y Tyst. SYR,—Dymunaf ddiolch o galon i chwi am eich erthygl ragorol yn y TYST ar John Viriamu Jones, crewr cyfnod newydd yn hanes addysg yn ein gwlad ac er mwyn ategu yr hyn ddy. wedwch am dano fel gwr crefyddol a defosiynol iawn yr ysgrifennaf. Oblegid fe fu, ac eto y mae rhai, er gwaethaf yr hyn ddywedir am dano gan y rhai a'i hadwaenai oreu, yn credu nad un felly yr oedd ac os na restrant ef ymhlith yr athrawon di-Dduw fu ac eto sydd yn ein prif colegau, dywedant yn ddifloesgni nad oedd yn wr cref- yddol ei ysbryd o gwbl. Yr ydwyf am gofnodi ffaith fechan parthed iddo nad ydyw yn wybyddus ond i ychydig iawn hejblaw fy hun. Bu y gwr enwog yn byw yng Nghaerffili am rai misoedd, ac yn ystod yr amser hwnnw byddai yn rhoi tro i fyny i'r mynydd i ddrachtio yr awelon iachusol. Gwnelai hyn yn anil ar fore Saboth. Ar ochr y ffordd i fyny saif hen gapel Ainibynnol y Watford, a byddai yn ami yn troi i fewn i'r gwasanaeth, ac yn ymddangos wrth ei fodd ar fore y cyfarfod gweddi neu y gwasanaeth pregethu. Ac er nad yw yn arferiad ond ar achlysuron neilltuol i gasglu yn y bore, eto byddai y gwr mawr yn dangos ei barch a'i hoffter o dy Dduw trwy estyn i ryw frawd ddarn mwyaf o arian a feddai, a rhai troion ddatu o aur melyn, i'w rhoi yn y casgliad yr hwyr, heb ddweyd gair pwy ydoedd nac o ba le yr oedd yn dyfod. Hysbys y dengys y dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.' Mae rhywbeth fel hyn yn sicr o fod yn profi ei fod, fel y dywedwch, yn ddyn crefyddol ei ysbryd. Eglwysnewy dd. D. GWKRNYDD RKIVS.
I AT OLYGYDD ' Y TYST.'
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
I AT OLYGYDD Y TYST.' SYR,—Y11 wyneh peth goliebu a siarad sydd ar hyn o bryd yn ffynnu o berthynas i ymuno a'r Fyddin, dymunaf ofyn trwy eich colofnau am enwau llawn y rhai sydd wedi uno er dechreu y rhyfel o blith y dosbarthiadau a ganlyn 1. Enwau gweinidogion a phregethwyr sy 11 gwasanaethu fel caplaniaid parhaol (permanent) dros ystod y rhyfel, a'r rhai a wasanaethant ym mhebyll y Y.M.C.A. Hefyd yr Officiating Minis- ters yn y gwersylloedd a'i ysbytai gartrefol. 2. Enwau myfyrwyr ar gyfer y weinidogaeth perthynol i'r tri choleg a'r ysgolion rhagbara- toawl a myfyrwyr o Gymru sydd yng ngholegau Lloegr. 3. Enwau meibiou gweinidogion. 4. Enwau diaconiaid a meibion diaconiaid. 5. Enwau merched gweinidogion a diaconiaid a ymunasant fel nurses ar filwyr er dechreu y rhyfel, neu a wasanaethant fel cad-ddarparwyr (munition workers). Hyderaf yn fawr y telir sylw i'r cais syinl hwn gan berthynasau a chyfeillion a wyddant y ffeithiau. Hoffwn i'r rhestyr fod yn un y gellir dibynnu ami, a chaiff oleu dydd cyn hir os caf ganiatad caredig Golygydd y TYST. Rhodder yr enwau yn llawn o'r Gogledd a'r De a. Lloegr. Nid wyf heb dybio hwyrach y bydd yn dda i ni cyn bo hir fod y saeth hon yn ein cawell. Pwy fydd y cyntaf ? Dim ond post card wy'n geisio. Yr eiddoch. Tylorstown, ROWLAND I-IUGIIFS. I Tachwedd ibeg, 1915.
Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney.
News
Cite
Share
Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney. Triniaeth Rad I Y mae Rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod otiric acid yn y cyfansoddiad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur gyda hyn y cytuna pob meddyg gradd- edig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg, grafel a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at (hin Rhiw- matic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a thrwy hynny symudir achos yr anhwyldeb, yr hyn o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia ohono ac y mae wedi iachau achosion dirifedi wedi meth- iant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddygin- iaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog, ac sydd yn fvnych syrthio mor fyr o'r honiadau rhyf. eddol a wneir, fel y mae flydd ynddynt wedi mynd ar goll. I brofi fod Tabledi Estora yn llawn deilyngu y disgrifiad ohonynt-—meddyginiaeth ouest am bris gonest--atifonir un blychaid llawn o 40 Tabled i ddarllenwyr y TYST fel sampl rhad, ar dderbyniad y rhybudd hwn a 3c. mewn llythyr- nodau i dalu'r cludiad, y pacio, &c. Ar werth gan Fferyllwyr am 1/3 y blwch o 4° Tabled, neu 6 blwch am 6/9. Am Sampl- flwch llawn, cyfeirier Estora Co., 132, Charing Cross Road, Dondou, W.C.
Tabernacl, Pontyclun.I
News
Cite
Share
Tabernacl, Pontyclun. I Afiechyd y Parch T. Williams.—Weli ein llongyfarchiad i Mr Williams yn y TYST diweddaf at ei ail gychwyniad yn ei hoff waith, deallwn, gyda loes calon, ei fod eto wedi methu. Gwyddem am ei angerddoldeb ef i bregethu ac hwyrfrydigrwydd ei feddyg i ganiatau iddo. Treth fawr yw hyn ar frwdfrydedd y gwas divmffrost hwn dros yr Emanuel. Adferiad llwyr a buan, frawd. D. ANT. I
[No title]
News
Cite
Share
MORIAH, CILFYNYDD.—Y Parch E. Wynne Jones, Clydach Vale, fu yn gwasanaethu yng nghyfarfodydd yr eglwys hon y Sul a'r Llun diweddaf. Cafwyd piegethau grymus, elieith- iol a dylanwadol.
Moriah, Rhymni. I Moriah,…
News
Cite
Share
 Moriah, Rhymni. I Moriah, Rhymni. I Gwrtkod Galwad>-e'r Parch Fred Jones, B.A., B D wedi penderfynu peidio a chydsynio a, chais yr egl wys yn Radnor-street, Chelsea, i fyned i'w bugeilio, fel olynydd i'r diweddar Barch J Machreth Rees. Llawenycha Mynwy I a Morgannwg oblegid hyn. CYFAILL.
I HEN DEULU Y WINLLAN.
News
Cite
Share
I HEN DEULU Y WINLLAN. Yr wyf yn troi am dro bach y waith hon i Ebenezer, Rhydfelen, i gael cipdrem ar rai o'r hen bererinion oedd yno yn ddewrioa deulu'r winliau yn y dyddiau gynt. Byddai hen saint y Groes Wen yn dod yma i gyanal cyrddau am dri o r gloch ps^ydnawn y Suliau yn fferm Pwll- ywyaid a thy E Morgan. Medrai hen weddiwyr y Groes Wen dynt-u evnulloidfaoedd, ac yr oedd son am danynt trwy'r ardaloedd. Nid wyf fi yn meddwl traethu yn hyn o lith am hen gewri y Groes Wen, na chwaith am gychwyniad yr achos yn Ebeuezor, ond traethu gair am rai oeddynt yn golofnau cedyrn yno. Dafydd John y badwr, neu yn fwyaf aduabyddus, Dafydd Shon o Hewl y-bwnshi. Un o blant y Groes Wen oedd Dafydd a'i rieni o'i flaen. Dysgwyd ef i weithio yn ieuanc, fel y gwneid â. phiant yn gyffredin gan miynedd yu oi. Credwyf ei fod yn gweithio ar y carnlas yn saith oed. Yr oedd ei dad yn bado o Ferthyr i Gaerdydd, a bu yull bado glo Gwaith Maesmawr. Codwyd Dafydd yn swn gweddiau ei dad a'i fam a'r hen gewri o'r Groes, a daeth yntau hefyd yn gawr. I ddod yn gawraidd fel crefyddwyr, rhaid ein codi ymysg cewri crefyddol a gwrando arnynt. Yr oedd Dafydd yn nodedig am ei onestrwydd pan yn grwt bach, ac am ei gywirdeb pan yn eyflawni ei negeseuon. Yr oedd yn bado glo Maesmawr gyda'i dad. Evan Morley, ffermwr yn yr Ynys, oedd a contract y gwaith i fewn ac allan, a byddai yn cael nwyddau o Gaerdydd, sef canwyllau, pylor, a choed, ac yn talu am danynt bob tri neu chwe mis Y nos Wener blaenorol byddai hen wraig yr Ynys yn gyrru am Dafydd Shon bach, a byddai yntau yn mynd yn union. Wedi cyrraedd yr Ynys, byddai yr hen wraig yn gofyn, I Odi chi yn mynd i Gaerdydd yfory, Dafi bach ?' Atebai Dafydd, Odw, meistres.' Mae afna eisiau i chi dalu bit yn y man-a'r man,' dywedai hitbau. O'r goteu,' meddai Dafydd. Yna rhoddai y biliau i Dafydd a'r atian-weithiau P,30, £ 40, neu £50. Elai Dafydd adref wedi cael basynaid o laeth ac ymgom gyda Mrs Morley. Ar 01 cyrraedd adref gofynnai y fam, Pla boost ti, Datydd ? Dywedai yntau ei fod wedi bod yn yr Ynys gyda Mi 8 Morley, a bod ganddo gymaint a chymaint i dalu drannoeth yng Nghaerdydd. Yna cymerai ei fam yr arian ac elai Dafydd tua'r gwely, oblegid efallai y buasai raid iddo ef gychwyn gyda'i dad am 3 o'r gloch y bore. Ar 01 i Dafydd fynd i'r gwely, cymerai y fam y biiiau a'r arian a gwnlai hwynt yn ddiogel yn HogeU ei. lodrau. rralai yntau y biliau, a deuai a'r receipts yn ol. Cariodd gannoedd, os nad miloedd o bunnau o'r Ynys i Gaerdydd heb gymaint a dimai 0 gamsyniad, a hynny pan yn grwt bach. Methodistiaid oedd teulu'r Ynys, ond Annibynwr disglaer oedd Dafydd Shon o'i gryd i'w fedd Bu yn cym- deithasu a hen saint y Groes nes yr oedd yr an bictiwr a hwy a'r leau, Mae'r rhai sydd yn cymdeitbasu a hen deulu y winllan yn dod yn winllanwyr cryf, ac yn gallu dywedyd,4 Ein cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef, Iesu Grist.' Yr oedd Dafydd yn hoff o siarad am hen gewri y penglinian, a hen ddewrion y pnlpud, megis Caledfryn; Dr Rees; Evans o'r Oymer; Davies, Gaerdydd Shams Thomas; Williams, Troedrhiwdaiar; Powell, Caerdydd; Griffiths, Llanbarran; Stevens, Ebenezer; Davies, Tailiirion, &c. Deallwch ymha awyrgylch y mae'r dyn yn byw wrth ei siarad, ac yn yr awyr iach uchod yr oedd yr hen bererin 0 Ebenezer yn byw a bod. Yr oedd yn rhyfeddol ar ei liniau-yn gartrefol a natur- iol. Un o'r hen statrjp o hen weddiwyr Cymru oedd efe.- plentyn yn siarad a'i dad yn eofn fel un yn credu ac yn gweled yr Anweledig Yr oedd ei naturioldeb a'i ddawn blasus yn ei wneud yn hoff-ddyn y dyrfa pan ar ei liniau, a deuai i'r 'Amen' yuabeli cyn y dymunai'r gynulleidfa. Byddai yn hollti'r owmwl yn ami, II a'r cawodydd yn disgyn. Efallai y gofynna rhywun os oedd yn ramadegol. Oedd yn hollol.