Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

IAITH A CHREFYDD.I

News
Cite
Share

IAITH A CHREFYDD. I GAN BURLAIS. I Rhoddwyd sylw manwl a difrifol i'r cwestiwn uchod gan Gyngor Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn cyfarfod a gynhaliwyd yug Nghaerdydd yr wythnos ddiwedda. Yn ol pob argoel a thyst- iolaeth, mae Ysgolion Sul capeli Cymreig Mor- gannwg a Mynwy yn graddol fabwysiadu'r iaith Saesneg fel cyfrwng addysg Ysgrythyrol. Mae nifer yr Ysgolion y siaredir y Gymraeg ynddynt yn lleihau, tra y mae'r Ysgolion Sul dwy-ieithog yn cynhyddu'n gyflym ar draul yr hen iaith Nid doeth yn ein golwg ni fyddai dilyn awgym Cymanfa Ddwyreiniol Bedyddwyr Morgannwg, sef yw hynny, Gwneud y trosiad o'r Gymraeg i'r Saesneg mor ddoeth, araf, didramgwydd ag sydd bosibl er lies ysbrydol yr oes a diogeliad y to ieuanc.' Mae'n sicr gennym y sicrheir lies ysbrydol y to ieuanc, ac y diogelir yr iaith yn y fargen, yn hytrach drwy ymarfer a'r Gymraeg yn yr Ysgol Sul. Llawforwyn yr Eglwys yw'r Ysgol Sul. Ei gogoneddusaf waith yw galluogi ein hieuenctyd i ddilyn gwasanaeth y cysegr, i ddeall y bregeth, i ganu'r emynau'n synhwyrol, ac i gael budd ysbrydol allan o'r weddi gy hoeddus. Ei hamcan pennaf ddylai fod paratoi'r plant gogyfer a gwaith ymarferol yr Eglwys. Ni sylweddolir yr amcanion hyn wrth fabwys- iadu Saesneg fel cyfrwng addysg Ysgrythyrol yn ein Hysgolion Sul a chadw gwasanaeth yr eglwys yn y Gymraeg. Helpu'r bechgyn a'r merched i ddeall iaith a gwasanaeth y cysegr ddylai fod ei hamcan amlycaf. Am hynny, teimla Cyngor Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mai'r cynllun doethaf fyddai troi yr Ysgolion Sul yn ysgolion hollol Gymreig, a defnyddio'r Ysgrythyrau fel cyfrwng i ddysgu'r iaith. Felly penderfynwyd ymgynghori a swydd- ogion y gwahanol undebau crefyddol, sef swydd- ogion undebol yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a'r Methodistiaid, a phenodwyd is-bwyllgor o'r Gymdeithas i'r pwrpas. Rhywbeth ar y llin- ellau a ganlyn yw'r cynllun a gymeradwyir ar hyn o bryd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cymerer, er enghraifft, ddameg fel maes llafur. Darllener hi ddwywaith neu dair yn y Gymraeg. Eglurer y ddameg yn syml gan yr athraw brawddeg wrth frawddeg, heb dalu gormod o sylw i'r geiriau anodd, fel y byddo'r dosbarth yn deall cynnwys yr hyn a ddarllenir. Bydd yn ofynnol iddo aralleirio llawer brawddeg mewn iaith semi, hawdd ei deall; ond hyd y mae'n bosibl, dylai ddilyn geiriau a brawddegau'r ddameg yn y gofyniadau a'r esboniad. Wedi darllen ac egluro'r ddameg, wele'r athraw yn holi'r dosbarth ami. Rhydd ofyniad i bob aelod o'r dosbarth yn ei dro, a dymunir arnynt oil i ateb nid mewn gair fel Ie a Nage,' ond yn hytrach mewn brawddeg a ddyfynnir o'r ddameg. Eir drwy'r maes i gyd ar y cynllun hwn, fel y bo'r atebion, a'u gosod at eu gilydd, yn rhoi cynnwys a sylwedd y ddameg. Er mwyn sicrhau hyn, hwyrach y bydd yn rhaid i'r athraw fynd drwy'r cwestiynau a'r atebion fwy nag unwaith. Yn olaf, gofynnir i'r disgyblion eu hunain, bob un yn ei dro, roi cynhwysiad y ddameg yng ngeiriau'r atebion. Hwyrach y cawn ofod, rywdro, i roi enghraifft ymarferol o'r cynllun ond y mae'n sicr gennym fod y cynllun eisoes wedi profiIii hynod o lwydd- iannus mewn amryw eglwysi y gwyddoin am danynt. Dysg ein hieuenctyd iaith y Beibl, ac iaith y cysegr. Cofir nad yw'r disgyblion yn gyffredin yn hollol anwybodus o'r iaith. Clyw- ant iaith y Beibl yn y darllen, y weddi, a'r bregeth. Iaith y Beibl yw iaith yr ernynau. Nid ein hamcan yw dysgu'r plant i siarad iaith yr heol a'r aelwyd. Dyna ddyledswydd yr ysgol- ion dyddiol. Ein gwaith ni yn ein Hysgolion Sul yw dwyil y plant i fyny i fod yn aelodau gweithgar yn yr Eglwys, ac i gadw'r Eglwysi Rhyddion yn eglwysi Cymreig.

Advertising

TRYSORFA'R GWEDDWON.

LLANDEILO A'R CYLCH.

I Meddyg ar Wasgfeuon y Rhyfel.