Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

,...........-.- -r. -:o+1…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

r -:o+1 I Y WERS SABOTHOL. Ii ♦ ? ——— | V WERS RYIIGWLADWRIAETHOL; Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., I t TREFFYNNON, f v < RHAGFYR i2fed.— J ehofah vn Gofidio Oblegid Gwrthgiliad Israel.—Hosea xi. 1-11. Y TESTYN HURAIDD. Tynnais hwynt a rheffynnau dynol, a rhwymau cariad ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu boch- gernau hwynt a bwriais atynt fwyd.Hosea xi. 4. RHAGARWEINIOT,. YCHYDIG wyddys am hanes boreol Hosea. Dy- wedir ei fod yn fab i Beeri, ond ni ddywedir i ba lwyth yr oedd yn perthyn. Ceir traddodiad Iddewig yn dweud ei fod yn perthyn i lwyth Issachar. Gellir casglu oddiwrth natur ei broff- wydoliaeth mai proffwyd yn nheyrnas Israel ydoedd. Yr oedd yn proffwydo yn nyddiau U zziah, J otham, Ahaz a Hezeciah, brenhinoedd Judah, a Jeroboam II., brenin Israel. Yr oedd yn cydoesi ag Esaiah, Amos a Joel. Parhaodd i broffwydo hyd yr adeg y gorchfygwyd Samaria. Y mae ei broffwydoliaethau yn cynnwys cyhudd- iadau a bygythion ar dy Israel, ynghyda gal- wadau cyffrous arnynt i ddychwelyd yn edifeir- iol at yr Arglwydd. Y mae ei arddull yn dywyll ac yn anawdd ei deall. Yn y Wers gosodir allan diriondeb a chariad yr Arglwydd at dy Israel yng ngoleuni cariad mam at ei phlentyn. Eto, er yr amlygiadau hyn o gariad a thosturi, yr oedd Israel yn anniolchgar a drwg. Cyhoedda farnedigaeth arnynt oherwydd eu drygioni. Ynghanol barn ymddengys trugaredd Ni chyflawnaf angerdd Fy llid ni ddychwelaf i ddinistrio Ephraim, canys Duw ydwyf Fi, ac nid dyn.' Fel llew o lwyth Judah, defnyddia Ei alln i waredu Ei bobl. BSBONIADOIY. Adnod 1. Pan oedd Israel yn iachgen, Mi a'i cerais ef, ac a elwais Py mab o'r Aifft.' Pan oedd Israel yn fachgen. Cyfeirir at hanes boreol Israel fel cenedl. Mi a'i cerais et. Amlygodd yr Arglwydd Ei gariad mewn modd neilltuol tuag at Israel. Ac a elwais Fy pitab o'r AitJt. Geilw Israel yn fab,' a chyfeiria at y fiaith ei fod wedi eu gwaredu o gaethiwed yr Aifft. Yr oedd y waredigaeth o'r Aifit yn profi mawredd cariad Duw atynt. A llaw grefjac a braich estyn- edig y gwaredodd hwynt. Adnod 2.—' Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o'u gwydd hwy aberthasant i Baalim, llosgasant arogldarth i ddelwau cerf- iedig.' Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o'u gwydd hwy. Pa fwyaf y galwai y proffwyd arnynt, mwyaf yr aent hwythau o'u gwydd hwynt. Darlunir cariad parhaus Duw tuag atynt er eu gwrthgiliadau. Danfonodd broffwyd ar ol proffwyd i'w rhybuddio o ganlyniadau eu hang- hrediniaeth a'u hanufudd-dod. Er hyn oil, par- haent hwy yn wrthryfelgar. Aberthasant i Baalim. Troisant oddiwrth y Duw byw at eilunaddol- iaeth. Mynnent dduwiau oedd yn apelio at eu synhwyrau. Yr oedd eu calonnau yn llygredig, ac felly chwenychent addoliad cnawdcl y cen- hedloedd. Trwy hyn yr oeddynt yn torri y ddau orchymyn cyntaf yn y gyfraith. Uosgasant arogldarth i ddelwau cerjiedig. Ffurf gwasanaeth ayogidaytlt i ddelwau cey l i'r Arglwydd ydoedd trwy aberthu ac arogl- darthu. Cyhuddir Israel o ddefnyddio y ffurfiau hyn i wasanaethu Baalim. Adnod 3.—' Myfi hefyd a ddysgais i Ephraim gerdded, gan eu cymeryd erbyn eu breichiau ond ni chydnabuant mai Myfi a'u meddygin- iaethodd hwynt.' Myfi hefyd a ddysgais i Ephraim gerdded. Gan mai Ephraim ydoedd y llwyth cryfaf, gelwir Israel oil wrth yr enw Ephraim. Danghosir mor dyner a thrugarog yr oedd Duw yn ymddwyn tuag atynt fel tad yn dysgu ei blentyn gcrdded. Gan eu cymeryd erbyn eu breichiau. Cyf. Diw., 'Ar eu breichiau.' Y ffigiwr ydyw tad yn dysgu ei blentyn gerdded, ac yna wedi i'r plentyn flino, ei gymeryd yn ei freichlau. Ond ni chydnabuant. Nid oedd. Israel yn cyd- nabod Haw Duw arnynt yn eu barwain ac yn eu cyfarwyddo. Adnod Tynnais hwynt a rheffynnau dynol, a rhwymau cariad ac oeddwn iddynt!, megis y rhai a godant yr iau ar eu boehgeruau hwynt a bwriais atynt fwyd.' Tynnais hwynt a rheffynnau dynol. Danghosir tynerweh yui- ddygiadau Duw atynt. Nid ydyw yn defnyddio moddion gorfodol i'w hatal fel y gwneir gydag anifeiliaid aflywodraethus, ond yn eu tynnu a rheffynnau dynol a rhwymau cariad. Ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau. Codir yr iau i esmwythau yr anifail dan ei faich, a rhoddir bwyd iddo. Y mae y ffigiwr yn dangos gofal a thy nerweh Duw at Israel. Rhyddhaodd hwy oddiwrth iau caethiwed yr Aifft, a bwydodd hwy yn yr anialwch. .Adnod 5.—' Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Assvriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi/ Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft. Dygodd Duw Israel o'r Aifft, ac nid oeddynt i ddych- welvd yno. Ond gan eu bod wedi pechu yn Ei erbyn, a gwrthod troi, dygid hwy i gaethiwed yn Assyria-caethiwed tebyg i gaethiwed yr Aifft. Adnod 6. A'r cleddyf a erys ar ei ddinas- oedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cvnghorion eu hun.' A'r cleddyf a erys ar ei -ddipictsoedd ef. Enwir cleddyf fel arwyddlun o ryfel. 0 ddyddiau Jeroboam II. hyd adeg Caeth- gludiad Israel gan yr Assyriaid, yr oedd gwrth- ryfel a rhyfel yn barhaus yn Israel, hi geinciau ej. Golygir llwythau Israel a'u diuasoedd. Am eu cynghorion eu hun. Yr oedd Israel wedi eu dysgu a'u cyfarwyddo i ufuddliau i Jehofah, a i wasanaethu Li f ond yr oeddynt hwy wedi my" nnu eu ffyrdd eu hunain, ac wedi myned ar ol a gwasanaethu duwiau gau. Adnod 7.—' A'm pobl I sydd ar feddwl cilio oddiwrthyf Fi er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb Ef.' A'm pobl I sydd ar feddwl cilio. Nid wedi llithro yn raddol, ond yr oeddynt wedi meddwl cilio. Dyma oedd eu pen- derfyniad a'u bwriad. Yr oedd eu mynych wrth- giliadau wedi myned yn benderfyniad a bwriad. Hyn yn dangos eu sefyllfa resynol. Er iddynt eu galw at y Goruehaf. Er i'r proffwydi eu galw i ymwrthod a'r eilunod, a gwasanaethu J ehofah, ni wrandawent. Yr oeddynt wedi meddwl cilio oddiwrtho. Adnod S.— Pa fodd y'th roddaf ymaith, Ephraim ? y'th roddaf i fyny, Israel ? pa fodd v'th wnaf fel Admah ? ac y'th osodaf megis Seboim ? trodd Fy nghalon ynnof, a'm hedi- feirwch a gyd-gynheuwyd.' Pa fodd y'th roddaf ymaith, Ephraim ? Gosodir allan gariad Duw yn glynu wrth Israel, ac yn apelio ato. Cariad tel pe bai vn methu gollwng ei afael ohonynt er eu holl wrthgiliadau. Eto rhaid oedd i gyfiawn- der weinyddu y gosb arnynt. Y'th roddaf 1 1 fyny. Cyf. Diw., Y'th fwriaf ymai_ th.' Fel Admah? ac y'th osodaf megis Seboim? Dwy ddinas yn agos i Sodom a Gomorrah, y rhai a ddinistriwyd gyda dinasoedd y gwastadedd. (gwel Deut. xxix. 23). Trodd Fy nhgalon YMlOf. Mewn tristwch a thosturi. A'm hedifeirweh a gyd-gynheuwyd. Cyf. Diw., A'm tostu.riaethau a gyd-gynheuwyd.' Pwysleisir mawredd tosturi yr Arglwydd at Ei bobl. Er eu holl bechodau, yr oedd cariad Duw yn ymestyn atynt ac am eu gwaredu. Adnod 9, Ni chyflawnaf angerdd Fy llid ni ddychwelaf i ddinistrio Ephraim, canys Duw vdwyf Fi, ac nid dyn y Sanct yn dy ganol di ac nid af i mewn i'r ddinas.' Ni chytlawnaj angerdd Fy llid. Cawn yma drugaredd yn budd- ugoliaethu. Y mae Duw yn penderfynu arbed I y genedl am dymor er rhoddi iddynt amser i edffarhau. Canys Duw ?wy/ fi, ac M!? ?M. Ni weinydda y farn yn fnan fel y buasai dyn yn gwneud. Ac nid af i mewn i'r ddinas. Cyf. Diw., Ni ddeuaf mewn digofaint/ Adnod xo.—Ar ol yr Arglwydd yr ant Efe a rua fel Hew: pan ruo Efe, yna meibion o'r gorllewin a ddychrynant/ Ar cl yr Arglwydd yr ant. Wedi gwrando ac ufuddhau i'w alwadau. Efe a rua fel llew. Yn cyfeirio at nerth ac awdur- dod yr alwad yn galw ato Ei bobl wasgaredig. 0'1' gorllewin. Yn llythrennol, O'r mor —yn golygu y lleoedd pellaf- Adnod 11 Dychrynant fel aderyn o'r Aifft, ac fel colomen o dir Assyria a Mi a'u goscdaf hwynt yn eu tai, medd yrArglwydd.' Dychryn- ant fel aderyn o'r Aifjt. Gosodir allan gyflymdra eu dyfodiad fel aderyn yn ehedeg. Wedi eu dyfodiad"'gosodir hwy mewn t-ai-mewn diog- elwch. GOFYNIADAU AR Y WERS; I. Pwy (wdd Hosea? fl 2. Pa bryd yr oedd yn proffwydo ? Pwy oedd yn teyrnasu yn Israel a Judah ? 3. At ba deyrnas y mae ei brofiwydoliaethau yn cyfeirio ? 4. Pa bryd yr oedd Israel yn fachgen ? 5. At ba waredigaeth y cyfeirir ? 6. Pa fodd, yii bennaf, y troseddodd Israel gyfraith yr Arglwydd ? 7. Pa farnedigaethau a gyhoeddir ar Israel ? 8. Nodwch yr ymadroddion hynny sydd yn dangos tosturi yr Arglwydd tuagat Israel. 9. Pa obaith sydd yn cael ei ddal o flaen Israel?

APEL AT YMNEILLTUWYR GOGLEDD…

Advertising