Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-CYFARFODYDD. I

PENMAIN, SIR FYNWY.

News
Cite
Share

PENMAIN, SIR FYNWY. Y Sul a'r Llun, y 14eg a'r isfed o Dachwedd, cynhaliwyd cyfarfodydd i ordeinio Mr. D. W. Bclwards, B.A., o Goleg Aberhonddu, yn wein- idog ar hen eglwys barchus Penmain. Yn ystod y Sul pregethwyd gan y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Coleg Coffa Aberhonddu. Yn odfa yr hwyr pregethodd ar Natur Eglwys.' Prydnawn Llun am 2 o'r gloch cymerodd y cyfarfod ordeinio le. Yr oedd llu o gyfeillion wedi dod o wahanol fannau i gymeryd rhan yn y gwasanaeth ac i ddymuno Duw yn rhwydd i'r hen eglwys ac i'r weinidog ieuainc ar ddechreu peniiod newydd yn eu hanes. Ymhlith v gwein- idogion oedd yn bresennol gwelwyd y Parchn. Jacob Jones, Bethesda, Merthyr (Is-gadeirydd yr Undeb) P. W. Hough, Coed-duon C. Tawel- fryn Thomas, Groeswen W. Owen. Barry R. T. Williams, Pant-teg, Caerfyrddin Fred Jones, B.A.,B.D., Rhymni; E. B. Powell, Maesycwniwr T. Salmon, Pontlotyn T. Jones, Senghenydd J. B. Llewelyn, Mynyddislwyn; J. W. Price, Troedyrhiw J. T. Jones, Ynysybwl J. Davies, Grangetown, Caerdydd T. M. Roderick, Cwm- gors a'r Athrawon Joseph Jones, B.A., B.D., a D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu. Yr oedd yn bresennol hefyd nifer o gyd-fyfyrwyr Mr. Edwards o Aberhonddu. Derbyniwyd nifer o lythyrau yn datgan dy- muniadau da, ac yn gofidio oherwydd anallu i fod yn bresennol, oddiwrth nifer o weinidogion a lleygwyr. Oherwydd absenoldeb anorfod y Parch. R. E. Peregrine, B.D., Rhymni, cymerwyd y gadair gan y Parch. C. Tawelfryn Thomas, Groes Wen. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. B. Llewelyn, Mynyddislwyn. Ar ol ychydig o eiriau agoriadol gan y Cad- eirydd, galwyd ar Mr. Gomer Evans, mab yr hen weinidog, yr Hybarch Robert Evans, yr hwn a roddodd yn fyr ychydig o hanes ei dad, er mwyn cael cydio'r gorffennol wrth y dyfodol, Cafwyd anerchiad tyner a byw. Diddorol oedd ei wrandaw yn dangos cadwyni yr olyniaeth i ni. Pan oedd y Parch. Robert Evans yn wein- idog ym Methel, Aberdar, cafodd y fraint o dderbyn tad a mam y Parch. Rhys T. Williams, Pant-teg, Caerfyrddin (cyn-weinidog Ynysgau, Merthyr), yn aelodau. 0 dan weinidogaeth Mr. Williams, pan yn Ynysgau, y dechreuodd Mr. Edwards bregethu ac wele yntau wedi derbyn galwad i fod yn olynydd i'r Parch. Robert Evans. Hir y conr anerchiad Mr. Gomer Evans. Rhoddwyd hanes yr alwad gan Mr. Moses Davies, un o'r blaenoriaid. Gofynnodd y Parch. Thomas Jones, Senghenydd, y gofyniadau arferol i'r gweinidog ieuanc, ac atebwyd hwy yn fodd- haol dros ben. Yna cymerwyd yr arwyddion o du'r eglwys ac o du'r gweinidog fod yr alwad yn cael ei chadarnhau. Ar ol hyn offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. P. W. Hough, Coed-duon, a phregethwyd y siars i'r gweinidog ieuanc gan y Parch. Rhys T. Williams, Pant-teg. Galwyd yn awr ar Mr. George Lewis, B.A., un o fyfyrwyr Aberhonddu, a mynegodd yntau y syniad uchel a goleddid gan y myfyrwyr o Mr. Edwards fel myfyriwr, pregethwr, cyfaill a dyn. Daethpwyd yn awr at orchwyl hyfryd iawn. Yn ol ei hen arferiad garedig, penderfynodd eglwys Ynysgau na chai ei phlentyn ddechreu ei fyd gweinidogaethol heb arwydd sylweddol o'i serch a'i pharch tuag ato. Ymgymerodd y chwaer Mrs. Lewis, Georgetown, a chasglu ar gais yr eglwys tuag at gael rhodd. Cynrychiolid eglwys Ynysgau gan y diacon ffyddlon, Mr. David Nicholas. Yn ei ddull diddorol, mynegodd fod mam-eglwys Mr. Edwards yn ei anrhegu a roll- top desk hardd, a revolving library chair. Da calon oedd gweled cynifer o gyfeillion Ynysgau yno yn dymuno Duw yn rhwydd i'n cyfaill ar gychwyn ei yrfa weinidogaethol. Anrhegwyd Mr. Edwards hefyd a cheque gan Oymreigyddion Merthyr. Daeth Mr. J.Williams, trysorydd y Gymdeithas, i'w cynrychioli oher- wydd absenoldeb drwy afiechyd y cyfaill caredig a diddan, Merthyrfab. Chwith oedd cofio am yr annwyl ddiweddar Mr. D.D.Williams, y TYST. Pe yn fyw, cawsid mwynhau presenoldeb siriol D.D. ac fe glywsem ei lais yn crynu gan gared- igrwydd ei galon fawr. Cyfaill gonest i blant Ynysgau oedd Mr. D. D. Williams, a chwith oedd gweld ei le yn wag ymhlith cyfeillion Ynysgau, 1 Diolcfccdd Mr. Edwards utewa goir-iaa byt a phwrpasol am yr anrhegion gwerthfawr. Siaradodd yr Athrawon Joseph Jones a Miall Edwards eiriau caredig am Mr. Edwards fel myfyriwr a chymeriad aml-ochrog. Gorffennwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch. E. B. Powell, Maesycwmwr. Yn yr hwyr am 6 pregethwyd gan y Parchn. Rhys T. Williams a Jacob Jones, Merthyr, pryd y pregethodd yr olaf siars i'r eglwys. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol iawn, a set Duw yn amlwg arnynt. Boed i'r eglwys a'r gweinidog ieuanc deimlo fod y Sanct yn eu canol, a bod bendith y Goruchaf ar yr holl wasanaeth. Blin oedd gweled lie yr hen weinidog, y Parch. Robert Evans, a'i briod yn wag. Yr oedd y ddau gartref oherwydd afiechyd. Duw fo'n dyner wrthynt yn hwyrddydd oes, a doed Ei dang- nefedd i'w calon, a phrofi gaffont o hyfrydwch tir Beulah wrth neshau i ororau y wlad sydd well. I Senghenydd. T. JONES.

-._._-IY Drysorfa Gynorthwyol.

Advertising

[No title]