Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Cyfarfod Ymadawol y Parch.…

News
Cite
Share

Cyfarfod Ymadawol y Parch. J. Hywel Thomas, Trefgarn, Penfro. Nos Fercher, Tachwedd 3ydd, daeth tyrfa luosog ynghyd i gapel Trefgarn i ddymuno'n dda i'r Parch. J. Hywel Thomas ar ei ymadaw- iad o'r cylch ar ol gweinidogaethu gyda chryn gymeradwyaeth i eglwysi Annibynnol Trefgarn, Paran a Phellycwm am 36 mlynedd. Yn yr eglwysi hyn y cafodd Mr. Thomas ei ordeinio, ac yn ystod ei arhosiad yn yr eglwysi a'r cylch bu yn fawr ei barch a'i ddylanwad yn yr ardal, ac y mae yna hiraeth mawr ar ei ol. Y rheswm o'i ymddiswyddiad yw nad yw ei iechyd mor dda ag y bu, ac nid oedd yn teimlo y gallai wneuthur cyfiawnder a'r eglwysi, yn enwedig yn ystod y gaeaf a chredai mai y peth doethaf oedd rhoddi fvny'r eglwysi, ac hefyd yniddeol o'r weinidogaeth sefydlog. Bwriada drigiannu yn Aberafon, ac fe fydd yn barod eto i wasan- aethu'n achlysurol eglwysi'r wlad. Mae Mr. Thomas yn bregethwr tlws, cryno ac efengylaidd. Bu yn fugail gofalus a chyfaill annwyl a diwen- wyn, yn gymydog hawddgar, ac yn fab tang- nefedd mewn gwirionedd. Gallwn dystio yn y fan hyn nad oes ganddo elyn yn yr holl wlad. ¡ Ymysg ei gydnabod gelwir ef Thomas bach, Trewgarn '-tri gair yn arwyddo anwyldeb—ac fe fydd Penfro yn dlotach ar ol colli cymdeithas y Parch. J. Hywel Thomas. Dechreuwyd y cyfarfod nos Fercher gan y Parch. J. Evans (B.), Penuel, ac etholwyd y Parch. J. Abel, B.A., Tyddewi, i'r gadair. Syl- wodd y Cadeirydd mai Mr. Thomas oedd yn gadeirydd iddo yntau pan y daeth i Dyddewi rai blynyddau yn ol. Nid claddu Mr. Thomas oeddynt heno, ond rhoi send-off iddo, ac i ddiolch i'r Arglwydd am ei fenthyg am 36 mlynedd. Blin iawn ganddo golli ei gymdeithas. Dyn parod a chymwynasgar—dim ond eisiau awgrym. Yn eiddigeddus wrtho ei fod yn medru retiro mor gynnar, ond nid retired Christian. Pan yn Aberafon fe fyddai yn gofio am yr hen saint yn yr ardal yma, a chredai y byddai arno hir- aeth filwaith ar eu hoi. Yr oedd holl gyfeiriad ei fywyd wedi ei dreulio i godi cymdeithas. Yr oedd pobl Trefgarn wedi myned i siarad a meddwl a cherdded fel Mr. Thomas yr oedd wedi cy- sylltu a gwau ei hunan fewn i'w bywyd teulu- aidd-wedi bod gyda hwy mewn galar a llaw- enydd. Yr oedd ei ddylamvad yn arhosol, ac yn berarogl yn y wlad. Yr oeddent yno i roi send-of f i frawd sydd yn ogoniant i'w swydd a dymunai o galon ei lwyddiant yn ei breswylfa newydd. Daeth Mrs. Griffith, Pointz Castle, a Mrs- Harries, Parcyreithin, ymlaen yn y fan hyn i gyflwyno pob o gold bangle drudfawr i Misses Letty a Hilda Thomas, merched Mr. Hywel Thomas. Cydnabyddwyd y rhoddion gan y gyntaf a ennwyd. Siaradwyd ychydig eirian gan y Parch. J. Evans (B.), Penuel, yr hwn dystiai ei fod yn colli cymydog, bonheddwr a chyfaill-brawd ag oedd ganddo syniad uchel am ei graffter a theithi meddyliol. Yr oeddynt yn colli fel egwlysi ddyn noble a chymeriad disglair. Bydd arno hiraeth mawr ar ol Mr. Thomas a'i deulu. Darllenodd y Cadeirydd lythyran oddiwrth amryw frodyr yn gofidio nad allent fod 3-11 bres- ennol, ac yn dymuno'n dda i Mr. Thomas yn ei gylcli newydd. Siaradwyd ar ran eglwysi Trefgarn, Paraiia Phenycwm gan y brodyr canlynol :—Mri. Essex Thomas, David Bevan, W. D. Jenkins, E. Rich- ards, John Perkins, Thomas Jenkins a George Griffith (ysgrifennydd yr eglwys). Mr. John Thomas (ysgolfeistr) a ddywedodd ei fod yn teimlo ervii anhawster i siarad. Wedi bod .yn^'cydfyw a Mr. Thomas yn y cylch, ac yn ei adnabod er'sj.^o mlynedd. Yn ddyn rhagorol, a gair da iddoJganJbawb]ja chan y gwirionedd el hun. Wedi clywed ugeiniau ojjbregethau ganddo -pregethau tlws bob amser, yn dangos 61 llafur, pob brawddeg a'i llond hi o feddwl. Ei bregeth yn chwyddo yn rhyw bedair neu bump o breg- etliau. Yr oedd ganddo esgobaeth eang, ac nid oedd dim a'i cadwai rhag mynychu'r cyfarfodydd —rhaid oedd myned, gwlaw neu hindda. Dyn cydwybodol yn ei orchwyl. Pawb yn edrych i fyny ato fel gweinidog delfrydol. Wedi bod yn aelod o'r Bwrdd Ysgol ac yn ysgrifennydd am iiynyddoedd; yn golled amhrisiadwy ar ei ol. Anawdd meddwl am Trefgarn ar wahan i Mr. Thomas. Nid hon oedd y dysteb gyntaf iddo cafodd godaid aur fel cydnabyddiaeth fechan gan yr eglwysi flynyddoedd yn ol, a da oedd ganddo ddeall fod yr hyn gyfhvynir iddo heno yn deilwug ohono ac o'r eglwysi. Wedi cael galwadau i eglwysi eraill, ac nid yn myned i eglwys arall yu awr. Mr. Thomas, Trefgarn,' y byddai byth Drwg oedd ganddo golli Miss Letty Thomas, wedi bod Y11 feistrcs yn yr ysgol ddyddiol am yn agosi 15 mlynedd ac yr oedd cryn hiraeth ar y plant ar ei hoi. Gwahoddwch Mr. Thomas i bregethu yliia eto yn achlysurol. Mr. Levi Davies, Lochvane Drwg iawn gan- ddo oherwvdd symudiad ei hen gyfaill, Mr. Thomas. Wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn y cylch, ac wedi bod yn gydwybodol yn ei holl waith. Nid c-hwi sydd yn colli Mr. Thomas, ond iii-pawb yu ffriiid iddo yn yr holl wlad. Efe yn caru heddwch a phawb, ac wedi yfed yn hel- aeth o ysbryd ei Feistr. Llwyddiant mawr iddo, a Duw fo gyda'r eglwysi mae yn eu gadael ar ol vn eu hiraeth. Mr. W. H. John, Solva, a sylwodd fod ganddo hawl i siarad yn y cyfarfod. Hen gysylltiadau yn perthyn iddo wedi bod yn aelodau ffydd- lawn yn yr eglwys am flynycidoedd lawer. Syn- iad uchel iawn ganddo am Mr. Thomas fel dyn lled'nais, caredig a serchog. Wedi derbyn cared- igrwydd oddiar ei law. Yn cael croesaw bob amser pan yn galw am dano. Wedi aberthu i ddod i'r cwrdd yma, ond rhaid oedd dod i ysgwyd llaw ac i ddymuno'n dda i Mr. Thomas. Canmolai'r eglwysi ar eu gwaith yn estyn anrheg- ion mor werthfawr iddo ef a'i ferched. Dynnunai ei lwyddiant a'i gysur yn ei gylch newydd. Mr. Harries, Lochineyler Wedi dod i'r cyfar- fod i gyd-lawenhau ac i gyd,-ofidio a'r brodyr oherwydd ymadawiad Mr. Thomas o'u plith. Yn colli un o'r cymeriadau mwyaf disglair; yn golled nid yn uuig i'r eglwysi, ond i'r wlad. Wedi gwnend He yn eu calonnau achartref yn eu inymvesau, ac fe fydd yna fwlch mawr ar ei ol. Nid dyn en wad oedd Mr. Thomas yn barod i helpu dyn mewn profedigaeth a chaledi bob amser. Gwerthfawrogai ei fywyd pur a'i ysbryd hawddgar. Colled Trefgarn yn ennill i Aberafon. Mr. E- Francis, Clawddcam, a Mr. D.Williams, Llandelvy. Dywedodd y brodyr hyn eu bod yn mawr ofidio fod Mr. Thomas wedi penderfynu y-madael o'r ardal. Wedi ei gael bob amser yn ddyn cartiaidd. hawddgar, a hawdd myned yn agos ato. Dymuiient ei lwyddiant yn ei faes newydd. Cyflwynwyd yn y fan hon godaid o aur ac anerchiad i Mr. Thomas gan Mr. W. Morgan, Llandeloy (aelod hynaf yr eglwys), yr hwn, gyda 11a :tliter yn ei fynwes a chryndod yn ei lais, ofkl.iai herwydd ymadawiad Mr. Thomas o'u plith. Darllcnodd Mr. G. Griffith, Pointz Castle, ysgrifennydd yr eglwys), yr anerchiad, yr hwn hefyd a ddywedodd eiriau canmoladwjr am ei weinidog, ac 3-n mawr hyderu y cawseut y fraint o'i weld a'i glywed yn fuan eto. Byddai croesaw iddo bob amser pan y delai i'r ardal. Parch. J. H. Thomas Dim disgwyl iddo ddweyd Ilawer rhy anawdd i lefarii. Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.' Diolchgar iawn i'r eglwysi am en caredigrwydd nid oedd hyn heno ddim at y caredigrwydd sydd wedi bod. Nis gallai dreidio bywyd yn fwy dedwydd yn unman nag yma neb yn achwyn arno os gwnai gamgymeriad. Yr eglwysi wedi bod yn devrn- garol iawn iddo -pob diacon a phob aelod dim gelyn yn unman. Byddai yu colio am danynt yn y cyfarfoclydd, a gofyunai am iddynt vveddi'o drosto gwiielai ef hynny drostynt hwy. Nid oedd yn ffarwelio a neb yn dyfod yn ol i edrych am danynt yn fynych eto, Drwg iawn ganddo i'w hen gyfaill annwyl, Mr. John, Blaenlhdeill- ion, feij-iii clo(I i'r odfa. Diolchai i'r gweinidogiou a'r cyfdllion oil, o bob enwad, am ddod i'r cyf- arfod a fedrai ef byth ddiolch digou am y rhoddion iddo ef ac i'w ferched. rlmwdd i chwi oil. Cyflwynodd Mr. John Thomas, ysgolfdstr, i Miss Letty Thomas, ar ran plant yr Ysgol, silver brush and comb. Diolchodd hithau am y rhoddion. Siaradwyd ymhellnch gan y Parch. T. Mafonwy Davies, Solva (yr hwn fcthodd. ddod mewn pryd i'r cyfarfod). Sylwodd ei fod yn colli'r unig gyfaill yn y weinidogaeth oedd yn ei groesawu ef i Solva bymtheg mlynedd yn ol. Gweinidog- ion Felinganol a Thyddewi o bob enwad wedi myned bugail Caerfarchell wedi mynd, a'r pat- riarch o Berea wedi mynd ond nawr dyma Mr. Thomas yn mynd. Credai nad oedd yn hawdd ganddo dorri yr hen gysylltiadau. Ei brofiad oedd- 'Awr ymadael, awr drom ydyw Er mynd o fodd, anfodd yw.' Da ganddo am y dysteb a'r hiraeth, ac am y chains i'r merched. Mr. Thomas yn cael ei gy- meriad wedi ei fframio er mwyn son am claiio pan y bydd ef yn. rhy wylaidd i wille-cd. 'Teilwiig ydyw gwneuthur ohonom hyn iddo, canys adeil- adodd efe i ni synagog.' Bydd yr adeilad hardd yn gofgolofn arhosol iddo. Anrhydedd y11 dod i'r golwg drwy roi fyny y weinidogaeth mor gynnar. Yr oedd wedi rhoi ei oreu i'w eglwysi, oud yu awr yn teimlo na fedrai wneud ei waith mor effeithiol- yu rhoi fyny yn gynt na phryd, yu ei dyb ef. Wedi bod yu weinidog ar hen eglwys Ddim wedi ffraeo ag mi diaton. Go lwin fyddai yr eglwysi onibai'r diaconiaid. Syniad y Cyf- undeb ycl uchel iawn am Mr. Thomas—' disgybl annwyl y Cyfundeb yw efe. Neb yn fwy der- byniol pan yn cymeryd rhan. Yr oedd hefyd .wedi dod i'r amlwg fel awclm gwych-n.yn ysgrif- ennydd coeth, llenyddol, ac yji medru dal llygad beirniadol v wlad. Ei ysgrifell ddim wedi bod yn segur. Neb 3-11 ffraeo ag ef. Byddai arno ef ofn ffraeo a Mr. Thomas byddai pawb yn dweyd mai arno ei y byddai'r bai Er fod Mr. Thomas yn mynd, bydd y golled yn aros. Cof- ient am eu bregethau tlws, ei ymweliadau tyner, a'i eiriau caredig. Rliowch gynnyg iddo ddod i'r cyfarfod blynyudol cyntaf gynhelir geiiiiyelt. Yr Arglwydd a'ch loendithio chwi, blant amddi- faid, wedi colli eich tad. Bv-dd croesaw mawr iddo pan ddaw am dro i'r hen wlad. Solva. Kii(inxokky.

Cyhoeddwyd ym Merthyr.

BEAUMARIS.