Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

GLOYWI'R GYMRAEG.i

News
Cite
Share

GLOYWI'R GYMRAEG. i Danfoner pob gofyniad a phob goheb- iaeth ynglyn a'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Rhymni. I'. H. T. Sut y gwahaniaethwch rhwng ei ac y'i ? Chwi welwch y peth yn eglur ond i chwi wybod hanes hynafiaid y'i. (I) Fe ddynoda'r sillgoll mai talfyriad o ei yw 'i. (2) Un o ffug-eiriau William Sales- bury ydyw ei. Y ffurf Gymraeg ydoedd y (diweddar i). Felly dyma'r rhagenwau mewnddodol 'm, 'th, y yn y tri pherson yn eu gwaith (I) Y wlad y'm ganed, (2) y wlad y'th aned, (3) y wlad y y ganed The country in which I was born-you were born-he was born. Ond wedyn fe doddodd y ddwy y yn y trydydd person i'w gilydd, a chafwyd y wlad y ganwyd (orgraff ddiw- eddar, i ganwyd)-the country in which he was born. Wedi cael ei Salesbury yn lle'r i, fe'i hysgrifennwyd y wlad ei ganwyd. Peth diweddar, diweddar ydyw'r y'i, ac er ei fod yn ymgais i gynrychioli'r ddwy y wreiddiol fel y danghoswyd uchod, eto mewn iaith, dyma'r hyn a eilw'r gwydd- onwyr yn reversion to type; ac y mae hynny yn llawn cymaint o drychineb mewn iaith ag ydyw mewn natur. (b) 'A ddylid ysgrifennu'r fannod yn V bob amser ar ol llaiariad ? Dylid ar ol llafariad a dipton, megis codi'r groes' a niiraglau'r mor Y mae'n annaturiol iawn darllen Paham y terfysga y cen- hedloedd yn lie terfysga'r cenhedloedd.' Tan ddylanwad Dr. Pughejy daeth yr arferiad o ymwrthod ag V mor gyffredin, tan y dybiaeth, y mae'n debyg, mae rhyw ddarn o fannod ydyw V. Onid y darn arall ydyw y ? ac nid oes fwy o reswm dros ysgrifennu V na phed ysgiifennid y'. Hanner y fannod gyfan yr ydyw'r ddau. Ond weithiau fe fydd ychydig orffwys rhwng y gair a derfyna a llafariad a'r gair a ganlyn, megis o flaen ymadrodd rhag- ferfol—er enghraifft, 'Ac ni bu dim yn eisieu yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt' (I Sam. xxv. 15). Y mae eisieu yr yn well nag eisiauV yn y fan yma, canys ystyr naturiol yr olaf fyddai to want the days. Dyma D.A.E. yn tynnu fy sylw at frawddeg a ysgrifennais i fy hun, neu o'r hyn lleiaf a brintiwyd fel hyn mewn cyfnodolyn Cymraeg Os byddai'r par ifanc a briodai'w dlawd.' 'Ai nid the young pair who married poorly, yn hytrach nag if the young pair who married were poor ydyw'r ystyr a dery dyn wrth ei darllen, a hynny oherwydd diffyg gorffwys ar ol briodai ? Eitliaf gwir. Y mae Os byddai'r par ifanc a briodai yn dlawd yn gwneuthur yr ystyr yn fwy amlwg. Os bydd yr ystyr yn gliriach wrth beidio a sillgolli, peidier a gwneuthur eto sillgolli yr ac yn ar ol llafariad ydyw'r rheol gydag ychydig eithriadau fel a nodwyd. (c) Beth am y fannod o flaen geiriau'n dechreu ag r ?' Nid oes, hyd y gwn i, ddim gwahaniaeth rhwng r a rhyw lyth- yren arall yn hyn o beth. J.J.—' Beth ydyw'r rheol fwyaf diogel i benderfynu rhywogaeth pethau yn Gym- raeg ? Y delfryd hwn ynteu y ddelfryd hon ?' Alyfi sydd wedi italeiddio pethau. "nfier mai rhywogaeth geiriau a geir mewn adeg, ac nid rhywogaeth pethau. Wel, ,fyniad. Y mae'n rhaid cyfaddef -ol yn y byd o fawr werth i ben- wogaetli gair, nag oddiwrth ei _n_ ystyr nag oddiwrth ei ffurf. Nid yw'r pethau tebycaf i reolau a geir yn y grama- degau goreu hyd yn oedd, yn cyfiawnau afradu congl o'r TYST i'wjdal. Felly y mae'n rhaid i Gymro wybod rhywogaeth geiriau Cymraeg drwy eu dysgu. Ie, delfryd! A raid i ni fodloni i dderbyn y gair hwn i'n lien ? Yr unig ystyr a all fod iddo yn ol yr ystyr sydd i' del' mewn lien ydyw a stubborn, grim mind! Ac nid yw'r ystyr o neat, pretty a roddir iddo y n g Ngogledd orllewin Cymru yn ei wneuthur yn rhyw gymwys iawn i gyf- ieithu ideal! Ond dyna—ei rywogaeth ydyw'r pwnc, onite ? Wel fe fydd enw a gyfansoddir o ansoddair ac enw fel rheol o'r un rhywogaeth a'r enw. Felly, gan mai gwrywaidd yw bryd, dyna hefyd ydyw delfryd. Efallai y cawn ymgom ar lyfrau Rhydd- iaith a Barddoniaeth Gymraeg y tro nesaf, ar gais. F. J.

Marwolaeth a Claddedigaeth…

IAPEL Y CADFRIDOG.

Advertising