Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
eisoes, yn enwedig i'r rhai sydd wedi prynu eu ffermydd yn bur ddiweddar, ac wedi codi arian arnynt, pan yr oedd pris arian yn rhyw dair punt a deg swllt y cant. |Vr Mae ^cynilo ~wedi|declireu .,LWedi. "de- ctireu hefyd yn Jerusalem' —yn y Senedd. Gwrthodasant yn ol esiampl y Brenin i gau eu tafarn bach eu hunain yn Sant Stephan, er eu bod yn deddfncau tafarnau eraill y tuallan. Yr unig fan yn y deyrnas hon bellach ymha un y gellir sefyll glasses rownd a thalu am danynt yw yn y Senedd. Ond chware teg iddynt, y maent hwythau yn y Senedd o'r diwedd wedi penderfynu yn y modd mwyaf hunanymwadol fod yn rhaid iddynt hwytliau aberthu dros y deyrnas. Felly, o hyn allan, ni bydd i'r ysmygwyr yn y smoking-room Seneddol ddim ond spills I goroni'r aberth, ni cheir o hyn allan i'r ysgrifenwyr ragor o quills-dim ond steel Peiis Dyma ddau o arwyddion yr amseroedd-y quills yn mynd, a'r spills yn dod. Pwy faidd honni wedi hyn nad yw'r oes yn symud ? U Chware teg i'r Western Mail o Gaerdydd, er ei fod yn Dori anedifeiriol ac anobeithiol, y mae yn Gymro i'r earn, ac yn eiddig- eddus dros enw da Hen Wlad y Bryniau. Diolch iddo am hynny, a diolch ddwy- waith iddo am gyhoeddi pethau mor blaen ynghylch y llyfryn cableddus y cyfeiriais ato yn y TYST diweddaf. Mewn llythyr herfeiddiol oddiwrth yr awdur at Olygydd y Mail daw y gath o'r cwd, a gwelir mai Ymneilltuaeth y Cardi sydd yn blino'r bachgen. Dyna wreiddyn pob drwg. Drwy lwc, nid oes yr un o Ymneilltuwyr cedyrn Hawen a Twrgwyn yn hidio botwm corn beth yw barn yr ysgrifennydd am danynt, ac nid oes berygl iddynt dorri eu calonnau. Yr wyf newydd ddarllen dwy sketch o waith yr awdur yn yr English Review am Ebrill, 1915, ac y maent nid yn unig yn ddidalent ofnadwy, ond hefyd mor annhebyg i fywyd gwerinol Ceredigion ag yw Clochdy liangyfelach i'r North Pole. Os llenyddiaeth yw peth fel hyn, gwar- eder ni, Arglwydd daionus 'Rwy'n dweyd hyn am fod y cyhoeddwr yn dweyd mai fel llenyddiaeth yr oedd efe yn argraffu'r gyfrol Gwelais yn y W est em Mail fod prif lyfrfeydd y deyrnas-eiddo Mudie, a Smith, a Boot—wedi troi y gyfrolj dros y drws. Teimlent, yn ddiau, mai afradu arian yw talu pum swllt am gwd huddygl.
- -'- _n- - - - - - - - GALWADAU.
News
Cite
Share
_n- GALWADAU. SEION, NEWBRIDGE.—Esfcynnodd yr eglwys hon alwad daer ac unfrydol i'r Parch E. T Jones, Painscastle a Rhosgoch, a plienderfyn- odd y gwahoddedig gydsynio a'i chais. Or- deiniwyd ef yn weinidog ar yr eglwysi uchod ddwy flynedd yn ol, a gwasanaethodd hwynt gyda difrifweh a ffyddiondeb. Gwnaeth ei uniondeb a'i weithgarweb argraff ddofn yn y cylch, a gwerthfawrogir ei wasanaeth yn fawr gan yr eglwysi cyfagos BUn gan ei frodyr ei golli o'r Cyfandeb Myfyriwr diwyd ydyw a phregethwr cymeradwy. Bwriada ddechreu ei weinidogaeth yn ei faes newydd y Sul cyntaf yn Mawrtb, 1916.—Cyfaill. GOSEN, RHYMNI.—Y mae yr eglwys hon wedi estyn galwad daer ac unfrydol i'r Parch D. Rhys Jenkins, Fochriw, i ddytod yn weinidog iddi. Y mae yr eglwys a'r ardai yu ei adnabod yn dda, ao yn hyderu yn fawr y tueddir ef i t gydsynio "r cais.—J. Lewis, Ysg. yr Eglwys.
YR HEN FUGAIL A'R NIWI,.*…
News
Cite
Share
YR HEN FUGAIL A'R NIWI, -1 i GANJY PARCH. J. M. WII^IAIUS, PEN- I'J. 1 l JjYGROES.|ga t l I sft !■ fe. 1 m ■ "i i (. '0 Argl, wydd, at bwy yr auni^ni ? gennyt Ti y MM? geiriau bywyd ??gt??0/ -IOAK ?-  .1 j  ?* '"i'  ")?' 1 vwi • 68 fcf'tj .J -^ULaebui .j xJ&hLis., .r. J NiDbes dim wedi clwvfo-vr Arglwydd Iesu gymaint ag anystyriaeth. Y mae yn tynnu dynion bob amser a rheffynnau cariad, a byth a gorfodaeth greulon. Y mae syn- iadau'r byd am yr Arglwydd Iesu yn pen- derfynu beth a ofynnir ganddo yn y weddi, ac yn penderfynu beth a roddir iddo yn yr addoliad, ac yn penderfynu beth a wneir drosto yn yjbyd. Y mae enghreifftiau lu wrth law fod rhoi lie yr Arglwydd Iesu i arall bob amser yn arwain i gywilydd o Grist. Ni ddylid rhoi lie Crist i arall nes cael Ei well neu Ei gystal, ac ni ddylid rhoi lie Crist i arall nes y gellir profi i bob boddlonrwydd fod yr Arglwydd Iesu wedi methu yn yr hyn y daeth yma o'i blegid. Gwyddom fod llawer wedi cynnyg am rannu'r byd gyda'r Arglwydd Iesu ond pan gymharwn yr effeithiau a gynhyrchir ganddynt ar y byd, yr ydym yn troi yn ol at yr Arglwydd Iesu, ac yn gofyn, 'At bwy yr awn ni ? Y mae yr hyn a gyflwynir ganddynt yn darfod yn ymyl yr hyn a gyiiwynwyd ganddo Ef i dynnu ein sylw ato. Cwynai un o hen guides yr Wyddfa fod yr yimvelwyr diweddar ag Eryri yn dod a rhyw fapiau manwl gyda hwv, a'u bod yn medru gwneud hebddo ef yn burion. Ond pan ddaw'r niwl dros y mynydd,' ebe'r hen arweinydd, dyna lie y byddant yn gweiddi am yr hen guide yn bur fuan/ Yr ydym yn teimlo fod niwl wedi codi ar y mynydd y dyddiau yma. Y.mae hi yn niwl tua'r Llywodraeth, ac yr ydym yn cwyno ei bod yn hynod niwliog yn yr Eglwys methwn weled y llwybrau. Pa beth a wnawn ? Y peth goreu inni ei wneud yw anfon lief uchel i fyny am i'r Hen Fugail ddod at Ei waith.
INITHIO'R EGLWYS-DYNA'R FFORDD…
News
Cite
Share
NITHIO'R EGLWYS-DYNA'R FFORDD I'W CHRYFHAU.* GAN Y PARCH. J. J. JONES, B.A., BRYN SEION, PENFRO. YR adeg yma yr oedd hi'n argyfwug yn hanes Iesu Grist ac yn hanes canlynwyr Iesu Grist. Ymhob dydd barn y mae elfen o ddidoli. Dydd rhannu ydyw. Dydd gwa- haii-Li-dvdd cynhaeaf—dydd y gosodir prawf ar egwyddorion dynion, ar werth eu cymeriad, ac ar nerth eu cymeriadau. Ceir gweld pwy sydd a'r sylwedd a phwy sydd heb y gwir. Ac fe wahenir y dyrfa ar ddydd fel hwn ym mhresenoldeb Iesu Grist. Y mae'r us yn mynd ymaith gyda'r gwynt, a'r gwenith yn aros. Y mae'r efrau yn cael eu dinistrio, a'r had da yn cael ei sicrhau. Fe ddidolir y geifr oddiwrth y defaid. Profir gwerth crefydd pawb mewn argyfwng, ac y mae argyfwng y dyddiau hyn. Efallai nad ydym ni yn gweld didol- iad, ond y mae'r Aglwydd Iesu yn ei weld. Y mae'r gweiniaid yn mynd. Y mae'r dyrfa fawr yn mynd, ac y maent yn gadael Iesu Grist am eu bod wedi mynd trwy amgylchiadau heb weled eu cenadwri. Yr oedd ystyr newydd i borthi'r pum mil. Ni welodd y dyrfa awgrym o Fara'r Bywyd ac am eu bod wedi mynd trwy amgylchiadau heb weled eu neges, y maent yn colli ac yn gadael yr Iesn. Ond pan y mae'r gweiniaid yn mynd y mae'r Eghvys o hyd ar ei hennill ymhob tywydd garw. Y mae'r Eglwys ar ei hennill am ei bod yn dod i ail-ddarganfod ei hun. Dyna ydyw hanes Cristionogaeth, medd rliywtiii- rhestr o ddigwyddiadau yn y rhai y mae yr Eglwys yn ail-ddarganfod ei hun, a hynny am ei bod yn ail-ddarganfod ei hamgylchiadau. Y peth sydd wedi arfer lladd eglwys ydyw tywTydd teg. God's causes are never destroyed'by being blown up, but by being sat upon,' medd George Adam Smith. Y mae yr Eglwys i sefyll neu i syrthio drwy ei ffyddiondeb i Iesu Grist. Y mae diogelwch yr Eglwys mewn ffyddiondeb i Iesu Grist. Ac mi gredaf y denwn trwy yr anawsterau sydd yn dod, ond inni fod yn ffyddlon i Iesu Grist ac y byddwn yn ddyfnach ein hargyhoedd- iadau, ac y gwelwn well dyddiau yn Eglwys Iesu Grist nag yr ydym wedi weld eto. Ffordd y gofid ydyw heddyw, ond fe dyr gwawr y gobaith, ac fe geir dyddiau gwell yn fuan iawn.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Un o'r Anerchiadau draddodwyd yng Nghyf- 1 eillach Cymanfa Lerpwl, Etydref 8fed i r xofed.
Bethesda, Sir Gaernarfon.
News
Cite
Share
Bethesda, Sir Gaernarfon. Marwolaeth Gwr Da.—Y cyfryw ydoedd Mr John Williams, o'r dref hon, sef tad y Parch R. Lloyd Williams, Penarth, Maldwyn. Gwr tawel, addfwyn, ffyddlon a diymhongar ydoedd efe. Nid uii yn byw ar arddangosiadaa, ond un cywir a ffyddlon yn y dirgei. Un o'r hen stamp-ffyddlon i'r allor deuluol, i fit Dduw a'i t ordinhadau. Cafodd y fraint o gyflwyno mab i wasanaeth y cysegr. Meithrinwyd y Parch R. Lloyd Williams hefyd gan fam llawn o'r un ysbryd, wedi byw ar hyd ei hoes mewn awyr- gylch gyffelyb, canys y mae Mrs Williams yn chwaer i'r diweddar adnabyddus y Parch Hugh Jones, Birkenhead. Mae cydymdeimlad mawr hlr teulu yn eu galar. Gwasanaethwyd yn angladd Mr John Williams wrth y ty ac ar lan y bedd yng nghladdfa Coetmor gan y Parchn James Jones, Salem T. L. Joseph, Treflys; ac 0. Jones, Nant Ffrancon.
[No title]
News
Cite
Share
SARDIS, WAUNARLWYDD.—Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol y Sul a'r Llun, Tachwedd 28:Lin a'r 29ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch Rowland Hughes, B.D., Tylorstown. Cafwyd pregethau grymus a chynulliadau mawrion. Dilyned bendith.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Meddyginiaeth Ddyogel AT Anhwylderau'r Croen a'r Gwaed Os ydych yn dyoddef oddiwrth nnrhyw aSeofayd syd yn codi oddiar anmhuredd y gwaed, megys ECZEMA SolaOFULA, GWENWYN Y GWAED, OLWYFAU o unrhyw natur, CHWYDDIADAU OROENOL OLUNIAU DOLUKUS, ORYDOYMALAU, GOUT, Ac., dylech broii gwerth Clarke's Blood Mixture y Gwaed Burydd ac Adferydd bydenwog. Gwarentir i glirio y Gwaed oddiwrth pob anmhuredd sydd yn l OODl ODDIWETH BOB AOHOS, ac y mae yn rhydd oddi- wrth bobpetb sydd yn niweidiol i'r cyfansoddiad mwyaf I gwanaidd i un o'r ddau ryw, o fabandod hyd henain =d o dystiolaethau o bob parth o'r byd. Oddiwrth yr holl Fferyllwyr a'r Ystordai, 2s 9o botel. Gofynwoh am Clarke's Blood Mixture GW RAWEST BMIIYCHIADATT 'W ■