Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
VENOMS LICHTNINC COUCH CURE The Ideal family remedy. Contsing MBf no opium, morphine, paregoric, or other harmful drug. Cures at all ages. ?OUCHS.COLM COUCHS.COLDS ?m Veno'a the 8ureat and apeedieat ?!??M cure for theM winter Ub, the best pro. ??M? "tOD ?g?inet more MMOM dtngeM. JfcHILDPEN'S CHILDREN'S ■H Soon yield to Veno'a—even Whoop-, tM??__ M cen?h. And there h no trouble i £ ?t??? g?ng it, children simpiy love Vuo' ■Of m — I J Other sizes 1/3 ??? 3/ from L&rge I d. chemists and stares e<??<eAer<° Trial 2 ?e/«<e..<?«t<«<e<, they 0? ? ?MtJtjj? NOT'?M«t?7?«? FeM?.
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.
News
Cite
Share
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. I Peth sy'n sobri dyn yw cyfrifoldeb. LIawer brawd aflonydd mewn eglwys wedi ei drawsffurfio mewn moment wrth wneud diacou ohono. Cyn ei roddi yn yr harness yr oedd fel pren croes mewn llwyth ond wedi cyrraedd i'r set fawr, syndod i bawb oedd y gweddnewidiad Dýna sydd wedi peri y sylwadau hyn yw y cyfnewidiad dymunol sydd wedi cymeryd lie yn Mr. Bonar Law er pan ddyrchafwyd ef i'r set fawr yn yr House of Commons. Y mae Hew rhuadwy y dyddiau gynt weith- ian fel' oen swci plant bach yr amaethdy —mor ddiniwed Am y waith gyntaf erioed galwyd arno y nos o'r blaen i arwain y Ty. Naill ai Asquith neu Lloyd George fydd yn arwain yn swyddogol felly ond gan fod y ddau hynm- yn methu bod yn yr odfa, Bonar Law oedd arweinydd y seiat-ac ni bu Abel Hughes (Rhys Lewis) erioed yn fwy sedate. Doniol ydoedd ei glywed y nos o'r blaen yn amddiffyn y Prifweinidog, pan gofir sut yr oedd yn' chwythu bygyth- ion a chelanedd yn y dyddiau gynt- dyddiau boreaf ei brentisiaeth fel arwein- ydd y Stupid Party, Erbyn hyn y mae'r ddau barti yn un, heb neb yn tynnu'n groes,' ar ol i Carson a Churchill adael y Weinyddiaeth. Ni fu Bonar Law yn aelod o'r Cabinet erioed o'r blaen nes iddo gael ei alw y dydd o'r blaen i ymuno a'r Coali- tion. Efe, ar hyn o bryd, yw gaffer y Blaid Doriaidd, ac y mae yn deg dywedyd ei fod yn herwydd ei gymedroldeb presennol, yn ennill parch pawb oddigerth y pen- boethiaid sy'n perthyn i'w Blaid ei hun. Y mater mawr sydd yn rhannu'r Ty yn ymddangosiadol ar hyn o bryd yw parhad y Senedd bresennol. Dylasai farw marwolaeth naturiol mis Ionawr nesaf o dan ddeddf y pum mlynedd ond gan fod cymaint o bethau annisgwyliadwy wedi cymeryd lie, teimlir nas gellir apelio at y wlad ar adeg fel hon pan y mae cannoedd o filoedd o'n dewrion ar faes y gad. Anghyf- iawn fuasai difreinio rhain, oblegid os oes hawl gan neb yn y byd i gael vote, yn sicr y mae hawl gan yr hwn sydd yn peryglu ei fywyd dros ei wlad. Felly ni cheir ethol- iacl yn Ionawr. Ond yr hyn sydd yn blino'r Toriaid eithafol ar hyn o bryd ydyw y Parliament Act. Hoffai gwaedgwn ieuainc y Blaid pe medrent roddi hoel yn arch y Ddeddf honno, ac y maent ar hyn o bryd yn tynnu'r gwifrau i weled a allant wneud d r w y driciau yr hyn fethasant wneud mewn brwydr ago red. Y rhain ydyw Prwshans y byd politicaidd, ac y maent yn gwasgu ar aelodau Toriaidd y Wein- yddiaeth i hawlio torri pen y Parliament Act fel eu gwobr hwy am fod yn fechgyn da. A ddaw y dymuniad i ben ? Na ddaw. Ofn arall sydd arnynt ydyw ofn y daw y Plural Voting Bill yn Ddeddf Seneddol. Gwell gan Dorlaid,, wrth reswm, yr lien drefn o roddi un vote i'r dyn cyffredin, a banner dwsin—mwy neu lai—i'r gwr goludog. Ymladdasant yn erbyn y Ddeddf newydd hon nerth braich ac ysgwydd— yn y ddau Dy. Yr oedd (a diolch i'r Par- liament A ct am hynny) ar fin cyrraedd y deddf-lyfrau yn Nhy y Cyffredin, er gwaethaf yr Arglwyddi, pan chwalwyd popeth gan y Kaiser. Dadleua'r Toriaid lloerig mai i'r fasged y dylesid taflu'r Mesur hwn bellach. Pan newidia'r Ethiop ei groen a'r llewpard ei frychni—dyna'r pryd y daw Tori penboeth yn fod rhesymol. Cofir i Mr. Lloyd George fethu taro bargen a'r fasnach feddwol pan oedd y rhyfel yn dechreu. Am unwaith yn ei oes cyfaddefodd y Cymro enwog fod awdurdodau y Pig and Whistle wedi ei orchfygu Wedi hynny, fe newidiodd yntau ei job, ac aeth i ofalu am arfau tan. Gwelodd yn fuan mai y prif elyn yno wedyn oedd y fasnach feddwol, a gofyn- nodd am hawl i roddi cyffion am dani. Cafodd yr hawl ac felly, ar ol dydd 141un nesaf, rhyw bum awr a banner y dydd o yfetach a ganiateir i ni yn Iylundain. Lie bynnag y mae hynny o ddiwygiad wedi ei fabwysiadu eisoes, y mae yn llwydd- iant perffaith. Y dynion yn sobrach, a'r gwaith yn cael ei ddyblu a'i dreblu. Bydd ffeithiau fel hyn yn werth miloedd o aur melyn maes o law fel rhesymau dros roddi mwgwd byth-barhaol ar safn anniwall yr hen fasnach felltigedig hon. Y mae ar- glwyddi y dafarn yn rhuo, wrth gwrs ond lief yn llefain yn y diffaethwch ydyw. 'Does neb yn gwrando. Atebiad Mr. Lloyd George ydoedd fod tafarnwyr Lerpwl wedi chwyrnu hefyd, ond ni chymerwyd yr un sylw ohonynt. Canlvniad meddwdod yn llai o'r banner. Os ceir Prydain sobr ar ol y rhyfel erchyll hwn, gallwn wvnebu'r dvfodol eto yn ddigryn. 'Rwy'n clywed oddiwrth fy nghyfaill, y Parch. Fred Jones o Rhymni, nad yw yn gweled ei ffordd yn hollol glir i ateb g a 1 w a d Radnor Street yn gadarnhaol. Gwelais yn rhywle ei fod yn troi yn Llun- deiniwr. Drwg gennyf am fy amryfusedd. Ac eto, er nad yw yn dod i Babilon, y mae ein teimladau da tuagato yn aros yr un fath yn union a chan nad beth fydd ei ddewisiad rhwng y tri lie sydd yn ceisio ei swyno ar hyn o bryd, boed iddo gael yr arweiniad dwyfol bob cam o'r daith. Mae ein brawd llwyddiannus, y Parch. Edward Nicholas o Victoria Park, yn cael ei alw i Sheffield. Nid oes sicrwydd eto a fydd yn cefnu ar Babilon. Peth newydd dan haul yw cael Tori fel Mr. Walter Long yn dwyn Mesur o flaen y Ty i atal y landlords i godi yn y rhenti. Dadl y landlords yw fod pobl yn ennill yn dda y dyddiau hyn. Yr atebiad naturiol ydyw nad oes, a fynno hynny ddim i'w wneud a phris tai. Nid yn ol incwm y tenant, ond yn ol gwerth y ty, y mae pen- derfynu rhent. Heblaw hynny, os yw rhai pobl yn cael amser da, y mae llawer yn cael amser drwg a pha synnwyr codi rhent pawb am fod hwn a'r llall yn gwella ei fyd ? Felly ceir Bill o flaen y Tv y dyddiau hyn—a bydd yn ddeddf cyn hir -i atal mewn llawer o fannau y camwri hwn. Da iawn. Ceir Mesur bychan arall i atal Deifas i godi rhagor o use arian ar Lazarus. Mewn mannau yng Nghymru y mae hyn yn achosi llawer iawn o ddioddef
0 FRYN I FRYN. |
News
Cite
Share
trymion rhwng y bobl a Duw, a rhydd ger bron ddelw i'w haddoli gwaeth na delw aur Nebuchodonosor. Pan gyflwynodd Mahomed ei grefydd i'r bobl, rhoddodd bwys ar fod yr Arabiaid yn heddychgar a'u gilydd ond pan welodd eu bod yn waedgar, c yhoeJcÎodcl ryfel yn erbyn y byd. Ac wele y Kaiser mawr yn tor- byd. Ae we l c-? ,?- sythu, ac yn cefn-ledu, ac yn llygad-lonni yn herfeiddiol, gan gyhoeddi mai efe oedd yr unig wr oedd yn gymwys i lywodraethu y byd. Ac yn Awst blwyddyn i'r diweddaf cychwynnodd i'w waith. Y ddwy elfen yng nghrefydd Mahomed ag sydd eisoes wedi profi yn wanychtod ac yn hunan- laddiol iddo yw y cleddyf a thynged. Awdurdodai y Kaiser ei fllwyr i'r gad, gan 3Tmddiried yn y ddau allu hvn J a rhoddai yn eu cred, ac mae'r wlad a'r mil- wyr yn ei gredu hyd heddyw, sef mai efe sydd i lywodraethu y byd. Rhai o nod- weddion yr Arabiaid oedd gallu meddyliol cryf, deall craffus, ysbryd dewr, yn hoff o'r celfau cain, yn falch yn eu gilydd a'u pen' a meddent ar lawer o gydymdeimlad ag eraill. A dvna oedd Germani hyd yn Awst, 1914. Mor debyg, yn wir, ydyw y ddau hynod hyn, sef Mahomed a'r Kaiser Ac mor debyg i Kesariaeth ydyw'r lladd ofn- adwv sydd wedi bod yn yr oriau diweddaf hyn yn Armenia Aflonyddir ein gwaed yng ngwythiennau ein corff gan ysbrydoecld duon y ddau allu hyn. Y mae lladd eraill yn eu hysbryd ac yn eu crefydd. Hwynt-hwy biau'r unig ddwy wlad, ag eithrio, uffern, sydd o fwr- iad a chrefydd yn byw i ladd ac yn lladd i fyw. A rhai fel hyn yw y ddwy boblog- aeth yn ogystal a'r ddwy swyddogaeth. Na ddyweder wrthym mwyach, Ni ddylid beio'r bobl.' Cadwed ein hysgolheigion a'n ffug-dduwiolion y fath air iddynt eu liunain, canys heddyw addolir gan y bobl yn Berlin eilun pren o Von Hindenburg ac eraill o'u rhyfelwyr mawr Os dywedir wrthym, Cerwch eich gelynion,' dy- wedwn ninnau yn ol fod y diafol wedi bod yn elyn i ni er cyn cof geniwm, a phery yr un ond buasai'n well gennym ni garu'r diafol na rlmvrai b'i blant a adwaenom yn y dyddiau hyn. A bydded ein gelynion yn lanrwyr. Le sir estyn cynhorthwy i'r gweddill o Gristiollogion Armenia, A wnewch chwi roi help iddynt—y rhai sydd heb dy ac heb ymgeledd allan o'u gwlad ? Aiff eich rhodd ar ei. liunion iddynt drwy ei danfon i The Armenian Refugees (l ord Mayor's) Fund, 96 Victoria-street, 1/ondon