Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN. |

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. Llofruddio Cenedl: CAWSOCH chwithau i'ch Haw, onido, y llyfryn ceiniog a sieryd am hyn yn Armenia, gan Arnold J. Toynbee. Y mae A. J. Toynbee yn wr. o nod yng Ngholeg Balliol, Rhydychen. Casglodd ei ffeithiau i'w lyfr oddiwrth genhadon Ger- manaidd, Swisaidd, Americanaidd ac eraill, ac am danynt oil dywed The facts con- tained in them are here presented with full I assurance of their truth.' Arweinir'i mewn, i'r llyfr gydag araith ardderchog ar y creu- londerau hyn gan Arglwydd Bryce, yr hon a draddododd yn Nhy'r Arglwyddi ar y 6ed o Hydref diweddaf. Baich y dystiol- aeth frawychus hon ydyw yr erlid calon- rwygol sydd wedi bod, ac yn bod, ar yr Armeniaid yn eu gwlad eu hunain,a hwynt-1 hwy yn hollol ddidramgwydd a diniwed. Yr hyn a welodd y tystion hyn a nodir yn y llyfr yw pobloedd wrth y miloedd, wrth y degau o filoedd, wrth y cannoedd o fil- oedd, yn cael eu gwthio allan, a'u llusgo allan, a llosgi allan o'u tai a'u trefydd a'u dinasoedd, fel y gwneid a seirff mewn anialdir a diffeithwch. Gyrrid rhai mil- oedd ohonynt allan am filltiroedd o'u car- trefi fel pe yn anifeiliaid mewn haint ddin- nistriol, a rhoddid hwy i fyny yn y dyff- rynoedd ac ar y mynyddoedd i heidiau o lofruddion cyflogedig yn dwyn arfau i'w lladd yn ddioed. Ar y teithiau o waed hyn rhennid y gwyr a'r gwragedd, y rhieni a'r plant, a'r cymdogion a'r cyd-ardalwyr, oddiwrth eu gilydd, a chwipid hwy fel pe yn gwn drwg i wahanol gyfeiriadau a buasai eu llofruddioll. wrtb eu gweld yn dod, yn rhedeg ac yn llamu i'w cyfarfod, ac yn eu gwaedu ymhob dull a modd, i farw yn araf neu yn fuan yn ol eu cyfle a'u dewis. Gwelid eraill yn cael eu pacio wrth y cannoedd i dai coed wedi eu cyf- addasu i danio a filamio ac ar ol eu cael yn annioddefol o gl6s i'w gilydd yn y tai hyn, rhoddid y muriau ar dån, a llosgid y cwbl yn lludw. Canfyddid eraill yn cael eu gyrru wrth y miloedd i longau ac wedi eu mono allan o'r golwg, teflid hwy i'r mor i foddi fel pe buasent yn ysgubion bwrddJy llong. Brydiau eraill gwelid merched ieuainc a phlant yn cael eu dwyn i farchnadoedd i'w gwerthu am ychydig sylltau yr un, ac i'w cadw o hyn allan oddi- wrth Gristionogaeth, ac i fod mewn caeth- wasanaeth neu ym mynachdai offeiriaid Mahometanaidd. Hawdd oedd gweld ar hyd llwybrau y bobl ddiniwed hyn fabanod wedi meirw ar hyd y ffyrdd, ac yn cael eu bwyta gan greaduriaid gwaedgar awyr a thir. A hawdd oedd gweled merched a gwragedd yn angerdd tan yr haul yn gorfod cerdded yn noethion ac er syrthio mewn llewyg yn y gwres ac o eisiau, cawsent fflangell yr erlidwyr, ac nid diferyn o ddwr oer. Edrydd teithiwr ddarfod iddo ar ei daith weled pedwar o blant bychain, y rhai a redai ato fel pe yn wallgof, gan waeddi yn oer ac annaturiol, Bara, bara, bara.' Wedi myned ychydig lathenni nes ymlaen gwelai y fam yn gorwedd yn anymwyb- odol, ac yr ydoedd yn marw. Dywed Arglwydd Bryce fod rhif y rhai a lofruddid fel hyn ac mewn moddau eraill oddeutu 800,000 allan o boblogaeth o tua dwy filiwn. Y mae rhai ugeiniau o filoedd ohonynt wedi dianc, ac yn dianc, ryw lun i farw neu i ryw fath o fyw, i wledydd eraill, megis i Rwsia a Port Said ac yng nghadwraeth y ffoedigion hyn mae'r unig obaith i gadw y genedl Arminaidd. Heb hyn aiff allan o fod. Ymholiad dwys tadau a mamau mewn dagrau, a phobl ieuainc mewn ysigdod ffydd yn y ddynoliaeth, yw—' Paham ? 0 paham hyn oil ? Diau gennym y dengys y llyfr hwn hynny yn benodol, sef ei fod yn codi o'r swyddogaeth wladol yn Nhwrci. Nid y bobl sydd yn gyfrifol am hyn, ond y swyddogion. Casbeth i Fa- hometaniaeth ydyw Cristionogaeth. Er ei bod hi ei hun yn meddu ar ryw fa tiro Gristionogrwydd, eto nis geill—o leiaf, nis gwna-ddygymod a Christionogion. Gwel y Llywodraeth Dyrciaidd fod y Cristion- ogion hyn yn meddu ar oleuni cynhyddol, ae yn dod i wahaniaethu rhwng da a drwg, cyfiawnder ac anghyfiawnder, mewn llyw- odraethau fel mewn personau: ac am hynny maent ar hyd y blynyddoedd a'u llygad ar y Cristionogion, ac y maent yn gorfod ymdeimlo y bydd i Gristionogaeth ddangos geudeb ac elfennau gwaethygol Mahometaniaeth, os ca chware teg ac y bydd i Gristionogion, fel y maent yn awr, feddu ar ddiwylliant uwchraddol ac ar fedr masnachol rhagorol, ac y bydd iddynt felly o angenrhddrwydd fynd i safleoedd o anrhydedd ac ymddiriedaeth. Pan yn gweled hyn yr ydym ar y ffordd ac yn ymyl pen y daith i ddod o hyd i'r atebiad PAHAM HYN OW, ? Parheir i gredu, mewn gair ac ysgrifen, fod rhyw feddwl gyda'r meddwl Tyrcaidd yn yr erchyllterau creulon hyn. Nid can- lyniad pangau ynfyd a disynwyr ydyw hyn. Y mae iddo ei ragfeddwl a'i rag- baratoi mewn gwaed oer, dieflig. Yr ydys i gadw golwg ar y ffaith mai yr Armeniaid Cristionogol yn rhandir Twrci erlidid ac a erlidir fel hyn. Cynlluniwyd yr erledig- aeth gan feddwl cywreiniach 11a meddwl y Twrc. Gwnaethai hen ffwl fel y Twrc y tro i'w gario allan, ond rhaid wrth ei fwy cynllwyngar a deallus i dynnu allan gynllun. Meddylier am a ganlyn i weled hyn. Cyn dechreu ar y llofruddiaethau hyn, yr oedd dynion o oed ac o gymhwys- ter milwrol wedi eu cymeryd i'r rhyfel gan y Twrc o blith yr Armeniaid ac nid oedd dim i'w ddweyd yn erbyn hynny. Y rhai oedd ar ol, yn gyfaddas i ryfel, ond wedi dianc, a leddid yn ddirybudd a di-oed. Y gweddill a geid wedyn a leddid, hyd y gelHd, yn y moddau a nodwyd ac mewn moddau dychrynllyd eraill. Pwy, tybed, oedd ac ydyw y cythraul anghenfilaidd hwn ? Hawdd dilyn 61 ei droed ormesol i mewn i Caercystenyn. Hawdd gweled mai oddiyno y cychwynnodd allan haid fawr o lofruddion, ac mai oddiyno yr aeth gorchymyn allan i wahanol ddosbarth- iadau i fod a'u harfau gwaed yn barod i'r lladdfa yn y dyffrynoedd ac ar y mynydd- oedd. Nid ydym am ddweyd mai Germani oedd yr archlofrudd hwn. Ar yr un pryd, canfyddir fod Twrci yn hollol ddibynnol ar Germani yn y rhyfel hwn, a hawdd yw gweld y gallasai Germani atal yr alanas a gair o'i gorsedd. Er y flwyddyn 1895 mae dylanwad Germani yn y rhandiroedd hyn yn fawr ac yn ddi-droi-yn-ol. Yng N gorffennaf diweddaf ceisiodd America gan Germani i roi ei chydweithrediad a hi i atal y creulonderau hyn-ond ni wnaeth sylw o'r cais. A phan alwyd sylw y Llys- genhadwr Germanaidd yng Nghaercys- tenyn at hyn, ei atebiad oedd Germany cannot intervene in the internal affairs of her ally.' Pa elw sydd i ddod o hyn ? Pa elw masnachol ? Pa elw gwleidyddol ? Pa elw ysbrydol ? Ac a bod elw o hyn, pwy a'i caiff ? Soniodd y Llys-genhadwr Ger- manaidd a nodasom yn awr yn Awst diw- eddaf am ad-eni Twrci wedi hyn a diau mai ysbryd Germani ydyw ysbryd yr adenedigaeth hon. Felly mae German- iaeth, ar ol Uadd cynifer o gannoedd o filoedd o'r Cristionogion Armenaidd, yn troi yn adenedigaeth i'r genedl! A rhyw ail-eni dieflig o'r fath fuasai yr unig dru- garedd a'r 800,000 laddwyd. Yr oedd cael eu lladd gyda'r fath fwystfileiddiwch yn drugaredd waredigol iddynt hwy, yu hytrach na chael eu hail-eni i Germani. Modd bynnag, mae'r Kaiser a Mahomed yn nodedig o debyg i'w gilydd. Creda Mahomed ei fod ef wedi ei awdurdodi drwy arfaeth a gras i ddiogelu dau unol- iaeth, sef unoliaeth Duw ac unoliaeth Mahomed. Creda y Kaiser ynddo ei hun ac yn ei dduw. A nhw ill dau welid amlycaf yn nechreu y rhyfel. Creda Ma- homed yn ei gleddyf, neu allu celfyddydol ac anianyddol, i oresgyn galluoedd ac i ledaenu ysbryd ac ewyllys ei genhadaeth i'r byd. A hon yw cred y Kaiser, a gwelir hi mewn llynnoedd o waed. Creda Ma- homed mai perthynas dyn a Duw yw perthynas caethwas a'i feistr, ac ni chyd- nebydd gyfryngwriaeth felly ychydig o gymundeb ft Duw ac o gariad ato geir yn aelodau Mahometaniaeth. Caethwasiaeth yn ei ffurf ddiweddaraf ydyw teymasiad y Kaiser. Saif ef ynlddarn anferth o Zeppelin ac o submarine ac o fagnelau