Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TABERNACL, C W M GO RS.

News
Cite
Share

TABERNACL, C W M GO RS. Ymweliad y Prifathro T. Rees, M.A. Bangor. -Bf e oedd gwahoddedig yr eglwys uchod i'w gwyl hanner-blynyddol eleni Nos Sadwrn, Tachwedd 6ed, traddododd y Prifathro ddarlith orchestol ar 'Deyrnas Satan,' a thystiolaeth pawb yw mai anaml iawn y clywir darlith hafal l hon. Byddai'n lies i feddwl a chalon pob Cymro wrando arni Y Sul canlynol cynhaliwyd tair odfa bregethu-y Prifathro hyawdl yn gwasanaethu. Cafwyd cyfarfodydd hwylus a bendithiol iawn--y cynulliadau yn lluosog. a'r canu, o dan ofal yr arweinydd newydd, Mr W. J. Jones, yn effeithiol ryfeddol. Fe erys atgof- ion melus am yr wyl hon yng nghof yr eglwys am flynyddau meithion, a hyderwn y dilynir hi a bendithion ysbrydol amlwg. Y Gymdeithas Ddiwylliadol.-Dechreua hon ar waith y gaeaf yn obeithiol iawn. Wrth gwrs, o gylch y bwrdd t6 y cynhaliwyd ycyfarfod cyntaf, a chyfarfod hwylus yw hwnnw bob amaer. Yna daeth y Parch D. J. Moses, B.A Tycroes, atom i draddodi ei ddarlith benigamp ar 'Grist a Cesar.' Y Gyllideb ddiweddaf oedd pwnc y ddadl yn y trydydd cyfarfod, a bu'r ddadl wresog yn agoriad llygad i lawer. Cymer- wyd y rhannau arweinfol yn y ddadl gan Mr W. J. Jones a Mr Isaac Jones. Erbyn hyn y mae'r gymdeithas wedi cael ei hadenydd ar ei hynt i geisio gloywach nen Mae gwedd lewyrchus ar yr achos, er fod meddyliau pryderus llawer ohonom dros y moroedd draw yn awyddus, ac eto'n ofni, clywed newyddion am y becbgyn annwyl sydd yn y peryglon mawr. Nawdd y nef fo drostynt oil. AEI,OD BACH.

BETHESDA, LLANGENNECH.

Advertising