Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENI, PRIODI, A MARW. MARWOLAETHAU. GEORGE.—Chwaer annwyl a gladdwyd yn neohreu Tachwedd oedd Mrs George, Trawslwyn Du, Cwm- wyag. Ar ol misoedd o losgedd a phoen, daeth y diwedd yn bur sydyn ao annisgwyliadwy, ac fe syrthiodd i'r bedd dan faich bron pedwar ugain mlynedd o amgylchiadau bywyd, Yr oedd yn dod o un o'r teuluoedd mwyaf adnabyddus yn y cylch- oedd, a theulu oedd wedi bod ym mlaenllaw ac yo golofn dan yr achos yn y lie. Brodyr iddi oedd Mri William Jones, Blaenau, ao Hywel Jones, Waun-newydd, a Thomas Jones, Fochriw-dynion oedd ymhlith cedyrn mynydd Duw. 'Does neb bellach yn aros ar ol—dim ond y Uinach i gadw cofiadwriaeth y marwolion yn fyw. Mae ei phriod eto ar dir y byw, a 'does dim un enw yn fwy oyf- arwydd i'r ardalwyr na'r enw Griffith George, Aberhenwen Faob.' Fe gafodd yr ymadawedig y fraint o fod yn fam i dyaid o blant. Mae un ohonynt yn Canada, tri yng Nghymru, ao un, sef Mrs Morgan Jeffreys, Briton Ferry, yn gorwedd ym mynwent Cwmwysg. Claddwyd Mrs George yn ymyl y ferch. Cafodd angladd poblogaidd, ac yr oedd tyrfa e berthynasau yn bresennol o bell at agos. Gwasanaethwyd gen y Parch Volander Jones, Pentretygwyn, a'r Parch D. Hughes Jones, Foohriw. Huned yn dawel yn ei chartref newydd nes Bo dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd.' WILLIAMs.-Taohwedd laf, gosodwyd un o hen ardalwyr Treoastell yn y bedd, sef yr hen chwaer annwyl Mrs Gwen Williams, gweddw Mr Jay Williams, gynt o Bantorafog. Yr oedd Mr Jay Williams yn un o gychwynwyr yr aohos yn Nhre- eastell, a bu yno yn flasnor teilwng am rai blyn- yddau, and bellach mae yn gorffwys ym mynwent henafol Owmwysg er's 46 mlynedd. Yr oedd y weddw yn 92 pan ddaeth yr alwad i fynd ar ei ol. Yr oedd yr ymadawedig yn gymeriad ardderchog- yn gryf mewn corff, mewn meddwl ac mewn argy- hoeddiadau crefyddol, ac yr oedd yn un o heddychol ffyddloniaid Israel. Treuliodd y tair blynedd diweddaf gyda'r ferch a'i phriod, set Mr a Mrs J. Howells, Oraig-road, Gwauncaegurwen; ond yr oedd ei chalon o hyd yn Nhrecastell, a chadwodd ei haelodaeth yn Soar hyd y diwedd. Yohydig fisoedd yn ol fe gladdwyd ei mab yng Nghefncribwr, sef Mr Jenkin Williams, ao fe fu hynny yn help i gyflymu ei marwolaeth hithau. Llun, Tachwedd laf, dygwyd ei gweddillion o Wauncaegurwen i Gwmwysg i'w daearu yn yr hen le. Yr oedd tyrfa fawr yn bresennol o wahanol fannau pell ac agos. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Paroh Volander Jones, Pentretygwyn, a'r Parch B. D. Davies, Gwauncaegurwen. Gorffwysed bendith gyfoethog y nef ar yr unig ferch sydd ar ol.

ISEION, R HYMN I.I

PENNAL, GER MACHYNLLETH.

Seion, Edwardsville.