Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

C CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU.'

News
Cite
Share

C CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU.' At Olygydd y Tyst. SYR,-Diau ein bod ni oil, fel darllenwyr y TYST, mewn perffaith gydymdeimlad ag amcan ysgrif Dyledwr,' er nad ydym yn cydsynied a'r hyn gynygia. Credwn oil y dylai'r gweinidog heddyw wybod rhywbeth am gwestiynau cym- deithasol y dylai ymdrechu cael gwell tai i'r bobl yn ogystal a chael gwell pobl i'r tai. Er hynny, mae fy hen gyfaill, Mr. Fred Jones, wedi bod yn dra anffortunus yn ei amddiffyniad o'r safle. Gall fod yn gampwr pan yn Gloywi'r Gymraeg a'r Geiriadur,' ond mae wedi ei methu hi y tro hwn. Nis gallai dim wneud mwy i gadarnhau saf- bwynt Dyledwr na rhan helaeth o'r llythyr hwn o eiddo fy hen gyd-fyfyriwr. Ymddengys i mi ei fod yn llawer rhy hoff o lyionel Johnson. Gydag eithrio Mr. Fred Jones, efallai, fe wyr holl ddarllenwyr y TYST nad gwybodaeth o'r iaith Roeg yw'r elfen fwyaf anhepgorol mewn bonheddwr. Nid wyf yn meddwl y cred Mr. Jones hyn yn ei oriau goreu neu, pan gaf y fraint o ddod i gymdogaeth Rhymni, byddaf yn disgwyl clywed i weinidog Moriah fod yn dra llafurus yn dysgu Groeg i'r bobl ieuainc. Taw beth yw gwir grediniaeth ein cyfaill, hyderaf, er mwyn enw da y B.D.s eraill, na wna ddefnydd rhy fynych o waith Lionel Johnson. IiIYr oedd yn dda gennyf ganfod fod fy nghyfaill erbyn hyn wedi dod i hoffi'r iaith Hebraeg. Pwy a wyr nad yw Mr. Jones yntau yn awr yn rhyw 'Abraham wedi dadebrtt' ? Yn ol ei lythyr ef, prif amcan dysgu'r iaith Hebraeg yw deall cenadwri'r proffwydi yn yr iaith a arferent hwy. Bydded hysbys i Ddyledwr ac i bawb eraill nad yw cwrs y B.D. yn gwneud pob myfyriwr mor gaeth i'r llythyren a hyn. Mae amcan uwch mewn dysgu Hebraeg na hwn. Ond gyda Groeg y Testament Newydd yr a Mr. Jones fwyaf ar gyfeiliorn. Yn awr, pan dder- bynia dyn alwad unfrydol o eglwys bwysig ym Mhrifddinas y byd, mae'n naturiol iddo fyw llawer yn y dyfodol, a gellir maddeu iddo os anghofia rai o'r pethau elfennol. Fe wyr dar- llenwyr y TYST yr hyn anghofiodd ein hen gyf- aill, mai'r Aramaeg, ac nid y Roeg, oedd iaith Crist a'i apostolion ac efallai fod cymaint o'i eiriau Ef Ei Hun yn y Testament Cymraeg ag yn y Testament Groeg-geiriau fel Talitha Cwmi,' Ephphatha,' ac Eloi, Eloi, lama sabachthani.' Ymhellach, Iddewon, ac nid Groegwyr, oedd awdwyr llyfrau. y Testament Newydd a thra y cyfansoddent yn yr iaith Roeg, dengys eu cynhyrchion y meddylient yn yr iaith Aramaeg. Felly, rhyw fath o gyfieithiad yw'r Testament Newydd yn y gwreiddiol.' Ai y ffaith eu bod yn is-ymwybodol o hyn a gyfrifa fod mwyafrif myfyrwyr diwinyddol Cymru, yn gyffredin, yn dangos mor lleied o sel dros astudiaeth y Testament Groeg ? i jFel Mr. Jones, bum am dair blynedd yn eis- tedd wrth draed y Prifathraw Silas Morris, ac yn myfyrio'r Testament yn y gwreiddiol.' Cof gennyf yr arferai, ar rai adegau, roddi tua hanner pennod ohono i ni i'w dysgu ar ein cof ac amser lied boenus i'r Prifathraw, a mwy poenus i'r dosbarth, oedd yr adeg y'n gosodai ar brawf yn y peth hwn. Y gwir yw, nad oes gan fyfyrwyr a gweinidogion Cymru, yn y cyffredin, hoffter at yr iaith Roeg a gallwn ddefnyddio termau cryfach i ddatgan ein teimlad at yr iaith Hebraeg. Fe addefir gan bawb y dylai pob gweinidog t. fod yn abl i ddarllen yr Hen Destament a'r Newydd yn y gwreiddiol. Mae gwybodaeth o'r iaith Hebraeg yn hanfodol i werthfawrogiad iawn o feriniadaeth Feiblaidd ac heb unrhy w wybod- geth o'r feirniadaeth hon, nis gall y gweinidog gyfarfod a'r cwestiynau a'r amheuon gynygiant eu hunain iddo ef ac i ddynion ieuainc mwyaf ymchwilgar ei eglwys. Mae'r un peth yn wir am y Testament Newydd. Nis gellir iawn ddeall perthynas ei wahanol rannau, ei amrywiol dermau a'i ddivitinyddiaeth, heb ei astudio yn y gwreiddiol.' Pa bryd, gan hynny, yw'r amser goreu i ddwyn pregethwyr Cymru i adnabyddiaeth o'r ieith- oedd hanfodol yma ? Mae'n amlwg na fuasai ond ychydig iawn ohonynt yn ymhyfrydu yn yr astudiaeth ohonynt ar ol gadael yr athrofa. Gallwn felly gydnabod doethineb yr awdurdodau hynny a'n gorfodant i ddysgu'r eithoedd hyn yn yr athrofa. -J' Da y gwnaeth Dyledwr dynnu ein sylw at Social Science. Mae gogwydd yr oes ac anghen- ion y ddynoliaeth yn galw am hyn. Nid oes un gweinidog teilwng o'r enw yng Nghymru nad yw'r cwestiynau cymdeithasol yn cael ei sylw mwyaf difrifol. Mae y rhai hyn gydag ef pan eistedda yn ei dy, pan gerdda ar y ffordd, pan orwedda i lawr, a phan gyfyd i fyny.' Y peth blaenaf a'r peth pwysicaf yw i'r pregethwr gael ei feddiannu ag Ysbryd Crist, ac yna fe ddaw yn alluog, yn raddol, i ddadrys y problemau cym- deithasol. Mantais, yn ddiau, yw astudiaeth fanwl o Social Science a Political Economy ond, wedi'r cyfan, nid y djuion sydd wedi treulio rhan fawr o'u hamser i gasglu gwybodaeth yn y meysydd hyn sydd wedi gwneud fwyaf er lies dynolryw. Yr ydym yn barod i dalu teyrnged i University Settlements a mudiadau cyffelyb ond mae eglwysi Cristionogol dinas fel Caerdydd wedi gwneud mwy i noddi'r diamddiffyn a dyrchafu'r safon foesol na dim o'r cyfryw. I P. R. THOMAS.

I Y ' CANIEDYDD ' NEWYDD.I

GWYIyFA A BOD FAN A'R OFFEIRIAID.

IPeniel, Tredomos.