Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
CYFLOG Y GLOWR.
News
Cite
Share
CYFLOG Y GLOWR. GAN BURLAIS. Ychydig ddyddiau yn ol dygwyd materion ynglyn ag hur y glowt unwaith eto i sylw y Bwrdd Lleol, a gyfarfu o dan lywyddiaeth Arglwydd St. Aldwyn. Rhoisai'r perchenogion rybydd ar y iaf o'r mis hwn y byddent yn gofyn am ostyngiad 0 5 y cant yng nghyflogau'r gweith- wyr am fod pris y glo wedi gostwng rhyw ddeg ceiniog y dunnell oddiar mis Medi. Ar hyn o bryd derbynia'r glowyr yn agos i 31 y cant uwchlaw safon 1915 ac fe gofir iddynt dderbyn ychwan- egiad o 12f y cant at eu cyflogau mor ddiweddar a mis Medi. Credai Mr. Vernon Hartshorn ac eraill y dylasent fod wedi derbyn, bryd hynny, ychwanegiad o 15 y cant a hwn oedd un o'r prif resymau a ddygwyd ger bron Arglwydd St. Aldwyn gan arweinwyr Llafur yr wythnos ddiw- eddaf yn erbyn cais y meistri. Ceisient brofi, ymhellach, fod y fasnach, ar y cyfan, yn fwy Ilewyrchus nag yn yr un cyfnod y llynedd, a bod y rhagolygon yn foddhaol. O'r ochr arall, honnai y meistri fod pris y glo wedi gostwng, a bod llawer llai o lo wedi ei werthu. Allgludwyd miliwn o dunelli yn llai yn ystod y tri mis diweddaf nag yn ystod yr un cyfnod yn 1914. Mae diffyg Uongau masnach yn cyfrif am hyn i raddau pell. Er enghraifft, yn Rhymni yr wythnos ddiw- eddaf yr oedd pedair mil o lowyr allan o waith, pedair mil yn y Rhondda, a dwy fil yn sir Fynwy, oherwydd y diffgy hwn yn unig. Ceir miloedd eraill, meddai Mr. F. L .Davis, o bryd i'w gilydd, yn gwrthod gweithio am resymau eraill, bach a mawr, y cyfeiriasom atynt dro yn ol. Ymhlith y rhain, hwyrach mai anundebiaeth yw'r amlycaf. Daeth y cwestiwn pigog hwn o flaen Pwyllgor Gweithiol Undeb Glowyr Deheudir Cymru yr wythnos hon. Rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r mater, a phenderfynwyd galw sylw Llywydd y Bwrdd Masnach, Mr. Runciman, at y drafferth. Hefyd, mae'n eglur ddigon fod pris coed, a phob nwyddau sy'n angenrheidiol at wasanaeth y glowyr, wedi codi. Am y rhesymau hyn taflodd Arglwydd St. Aldwyn ei goelbren o blaid cais y perchenogion ac felly bydd cyf- logau'r glowyr, am o leiaf dri mis, yn 5 y cant yn is na chynt. Mewn cyfeiriad arall bu'r gweithwyr yn fwy llwyddiannus. Gwyddys i'r Llywodraeth, yn y flwyddyn 1912, basio Deddf y Minimum Wage. Pwrpas y Ddeddf hon oedd sicrhau na fyddai cyflog y glowr ar unrhyw gyfrif yn is na choron y dydd, ond ar amodau a thelerau neilltuol. Er enghraifft, byddai'n rhaid i'r sawl a hawliai'r minimum wage weithio pum niwrnod o bob chwech, oddieithr bod afiechyd neu rhyw reswm digonol cyfifelyb yn rhwystr iddo. Yn ail, byddai yn rhaid i'r gweithiwr fod yn brydlon wrth ei orchwyl, a rhoi diwrnod Ilawli o waith. Daeth cyfnewidiadau mawr a phwysig ynghol y cytun- deb y deuthpwyd iddo ym mis Gorffennaf y flwyddyn hon. Gwnaethpwyd ffwrdd a'r hen safonau. Codwyd cyflogau'r mwyafrif ymhell uwchlaw minimum y Ddeddf. DifLannodd hefyd y telerau a'r amodau y cwynid o'u herwydd, ag eithrio rhyw nifer fechan. Ond yr oedd yn aros eto yn gaeth wrth yr amodau tua dwy fil ar bymtheg o lafurwyr a gwaith Syr Lawrence Gomme, y gwr a ddewiswyd gan Lywydd y Bwrdd Masnach i gyfryngu, oedd penderfynu a ddylid rhyddhau'r dosbarth hwn. Rhoddodd ei ddyfarniad o blaid y gweithwyr. O'r braidd y gellid disgwyl dyfarniad gwahanol, oherwydd diddymwyd yr hen gytundebau'n llwyr pan wnaed y cytundeb newydd. Sail y telerau oedd Deddf y Minimum Wage ac yn ol barn Syr Lawrence Gomme, mae cytundeb mis Gorffennaf yn gwneud i ffwrdd a'r cyfan. Yr oedd mwyafrif y glowyr eisoes wedi eu gwaredu rhagddynt, ac ni welwn ei fod yn deg a'r gweddill eu cadw dan iau Deddf farw.
I 0 FON I FORGANNWG.
News
Cite
Share
I 0 FON I FORGANNWG. Derbyniodd y Parch. D. J. Hywel, Iylanfair- neubwll, alwad i weini i eglwys Bethel, Heol- ycyw ac ar ei ymadawiad o'i hen gylch i'w faes newydd, cynhaliwyd cyfarfod ymadawol yn Rehoboth, Maelog, nos I/un, Tachwedd laf, a'r Parch. R. P. Williams yn y gadair. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y brawd ieuanc Mr. W. J. Williams, Bryngwran, ac yntau hefyd yn symud i'r De i Ysgol Rag- baratoawl i lafurio gogyfer ag arholiad un o golegau yr Enwad. Sylwodd y Llywydd mai hwn oedd y cyfarfod ymadawol cyntaf iddo gofio am dano yn Reho- both. Arhosodd Mr. Hywel yma i lafurio am ddeuddeng mlynedd, a'r cylch yn un lied galed a gwasgarog gyda'r ddwy eglwys. Ceid mantais, yn ddiau, yn nhawelwch ardal fel hon i baratoi ar gyfer y pulpud. Am y cyfnod presennol, un anawdd yw i bregethu ynddo addysg wedi newid y cynulleidfaoedd. Y gwrandawyr yn awr yn arfer darllen. Y mae perygl i bregethwyr ddwyn i fewn i'w pregethau bethau newydd er mwyn ennill sylw ond y mae yr Efengyl yn ddigon hen i fod byth yn newydd. Bu Mr. Hywel yn dra dyfal i baratoi ar gyfer ei gynull- eidfaoedd. Parch. D. G. Harries (B.), Capel Gwyn, a ofidiai nad oedd ef wedi cael ond ychydig gyfle i adnabod Mr. Hywel, gan mai yn ddiweddar y daethai ef i Foil. Er hynny, gwyddai i'n brawd gyflawni diwrnod teilwng o waith yn Siloam a Rehoboth. Pe na bai wedi gwneud dim heblaw tramwy trwy'r stormydd o gapel i gapel, buasai wedi cyflawni gorchest fawr. Bydd yma hiraeth ar ei ol. Gweddiwn drosto yn ei gylch newydd. Y Parch. G. Jones (W.), a ddywedai mai prudd iddo ef oedd cyfarfod o'r fath, a bod gweinid- ogion ei enwad ef yn symud yn rby fynych i gael un. Enw na welid mohonno byth ar dy gweinidog Wesla yw 'Arosfa.' Ond arhosai dylanwad da gweinidogaeth Mr. Hywel yn hir ar yr ardaloedd. Dymunwn yn dda iddo ac os cawn gynghori y ddwy eglwys, cynghorwn hwy i geisio iddo olynydd yn fuan. Parch. D. Cwyfan Hughes, B.A. (M.C.) Hwn oedd y cyfarfod ymadawol cyntaf erioed iddo ef fod ynddo. Nid oedd wedi cael cyfle i adnabod Mr. Hywel am fod rhyngddynt anialwch mawr Trewan. Eto clywsai air da iddo yn yr ardal ar gyfrif ei gywirdeb. Peth mawr iawn i wein- idog yw bod yn gywir. Tueddai gwaith gwein- idog o drin dynion i'w wneud ef ar rai adegau yn rhagrithiwr. Gofidiwn fod yr eglwysi yn colli dyn mor dda. Parch. R. Y. Thomas, Caergybi, a ddatganai ei fod yn awyddus iawn i fod yn y cyfarfod oherwydd y ffaith fod y cylch wedi cael y fath gymeriad rhagorol i'w wasanaethu am gynifer o flynyddoedd, Meddai Mr. Hywel ar annibyn- iaeth barn. Gwasanaethodd ei Arglwydd yma o gariad, ac nid am ei fod yn caru elw nac enw. Ai yn awr i gylch poblog ym Morgannwg, lie y caffai ei alluoedd fwy o scope. Dlwyddiant iddo. Parch. W. Griffith, Caergybi, a grybwyllai mai ychydig iawn o gyfarfodydd ymadawol a geir ym Mon. Yn ddaearyddol, yr oedd Mr. Hywel, wrth fynd o'r North i'r South, yn mynd i lawr ond yn gymdeithasol, mynd i fyny yr oedd, am ei fod yn myned yn agos i'w hen gartref ef. Nodwedd yn ein brawd yw bod bob amser yn drwsiadus ei wisg. Yr oedd hefyd yn ffyddlon i'w waith. ac o gymeriad diamheuol. Cafwyd ychydig eiriau tyner iawn gan frodyr o'r ddwy eglwys. Amlygai Mr. joh-i Griffith, swyddog yn Siloam, fod yn ddrwg iawn ganddo golli Mr. Hywel am eu bod yn colli arweinydd a chymwynaswr. Pan ddaeth i'r cylch yr oedd ar gapel Siloam ddyled fawr, ond yn ystod ei weinidogaeth fod tair rhan o bedair ohoni wedi ei thalu. Pleser ganddo bob amser wneud cyniwynas. Bu bob adeg yn gefn- ogydd selog i achos dirwest. Agorodd ei law mewn haelioni i ami un. Er iddo fynd oddiyma, nis gall byth ymadael oddiwrthyf fi, 11a minnau chwaith oddiwrtho yntau. Mr. O. Williams, Rehoboth, a ddywedai mai dyn llawn oedd Mr. Hywel ymhob cylch, a chyfaill cywir. Nis gallai ef byth ei anghofio. Bu yn athraw i'r plant, ac yn ffyddlon i'r teulu- oedd yn eu gwahanol amgylchiadau. Mr. Isaac Griffith, un o swyddogion Rehoboth, mewn geiriau tyner a gyflwynodd i Mr. Hywel godaid o aur fel arwydd o'u parch dwfn iddo. Diolchodd Mr. Hywel am yr amlygiad syl- weddol yma o deimladau caredig. Yn ystod ei ddeuddeng mlynedd yn gwasanaethu yr eglwysi cafodd lawer o garedigrwydd oddiar eu llaw. Teimlai yntau yn garedig at bawb. Dymunai i'r eglwysi olynydd a wnai fwy o waith nag ef, a bendith Duw i orffwys arnynt oil. Parch. E. A. Pickering, Rhosneigr, a ddy- wedai mor chwith ganddo golli ein brawd. Bu o help i'r achos ieuanc yn Rhosneigr. Dymunai iddo gael bod yn ffrwd gref o ddylanwad da mewn eangder yn ei faes newydd. Parch. Rheidol Roberts, Bryngwran, a lon- gyfarchai y bobl am barhalt yn ffyddlon i'w gweinidog. Un ffyddlon yw Mr. Hywel. Bu yn ffyddlon i'w frodyr pan yr oedd eraill yn eu bradychu a'u trywanu yn eu cefnau. Pärch. E. B. Jones a sylwodd y bu ganddo law arbennig yn nyfodiad Mr. Hywel i'r cylch. Yn ystod y deuddeng mlynedd bu llawer o gy- fathrach cydrhyngddynt. Meddai Mr. Hywel ar lawer o graffter, gallai amddiffyn ei hun pan fo eisiau, ac yr oedd yn frawd cydwybodol i'r eithaf. Nis gallai Mr. Hywel anghofio'r eglwysi, na'r eglwysi chwaith ei anghofio. yntau. Gwelsai Rehoboth golli'r Parch. Henry Rees, coeth ac effeithiol ei weinidogaeth. Ar ol y Parch. H. R. Cadwaladr y daeth Mr. Hywel yno. Wedi myned oddiwrth eu llafur at eu gwobr yr oedd yr hen ddiaconiaid ffyddlon John Griffith a Richard Griffith, ac eraill. Dyma gyfnewidiad eto yn hane syr eglwysi yn ymadawiad Mr. Hywel i ran arall o'r winllan. Rhoed y Nef ei hamddiffyn dros y gweinidog a'r eglwysi. Wedi canu, gweddiodd y Cadeirydd i derfynu. Boed bendith vn dilyn ein hannwvl frawd vn ei faes newydd. E, B:
Advertising
Advertising
Cite
Share
1)WV FIL UDiS'i'lON Bywgraffladau ttyr o'r Prit vv ronlaid, &e Gam < Parch. T. Mardy Rees, Castelinedd M tudslen. Pris, LHetn, 4c.; mmlen bapur, Ie. cludtad, Ie. vn vchwanegol; blaendal gyd. 4rchsb Uadiwrth y Cyhoedawyr— JOSEPH Wil-UAMS & SONS, (MERTBVR), LTD., SWYDDF4K TysT.* KRILTRYit TYDflfc.
YN ERBYNGORFODAETH.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
deyrnas, mae dyryswch a chymhlethrwydd y cwestiwn y cyfryw ag a wna Orfodaeth yn ymarferol amhosibl. Lie y ceir Gorfod aeth Filwrol beddyw, ceir ef fel ffrwyth achosion na allant fodoli yma Yn y gwled- ydd lie y'i ceir, mae wedi tyfu i fyny drwy hir flynyddoedd o gyfundrefniad, ac mae y bywyd cenedlaethol yn y gwledydd hynny wedi cael ei gyfnewid i gyfarfod ag angben- ion cyfundrefn o Orfodaeth. Amlwg yw nas gall y wlad hon, ynghanol rhyfel, wneud cyfnewidiad mor fawr ac mor sydyn yn ein bywyd cenedlaethol a chymdeithasol, heb ganlyniadau marwol. 3. Geill y rhyfel barhau eto yn hir. Dadleua rhai fod hyn yn rheswm dros gnel Gorfodoeth-ond i'r gwrthwyneb hollol y mae. Po hwyaf y parhao y rhyfel, mwyaf oil yw yr angen' am gadw pethau yn llew- yrchus yma, canys os yw'r rhyfel i barhau yn hir, enillir yn y diwedd drwy ein nerth ariannol a gweithfaol. Nis gallai Gorfodaeth ychwanegu at ein Byddin ond cyfartaledd bychan ar y goreu yn fwy nag a geir yn wirfoddol. Ymddengys i'r Pwyllgor fod y rhesymau a nodwyd yn ddigon i brofi mai niweidiol i'n hachos yn y Rhyfel, a niweidiol i'n buddiannau gartref, a fyddai gwthio Gorfod- aeth Filwrol ar y deyrnas Nid yw'r Pwyll- gor wedi eyffwrdd ag agweddau eraill o'r cwestiwn. Ond meddylier beth a fyddai canlyniad gosod y wlad o dan y Ddeddf Filwrol, yr hyn fyddai yn ganlyniad union- gyrehol sefydlu Gorfodaeth. Byddai sefydlu Gorfodaeth yn golygu noddi a maethu Militariaeth, tra ninnau fel gwlad yn dweyd mai ein rheswm mawr dros fyned i ryfel oedd gwrthwynebu Militariaeth Germani. Gyda hyn, coleddir drwgdybiaeth ddofn am rai o'r dylanwadau sydd wrth g-fn yr ym- gais i wthio Gorfodaeth arnom. Mae'r Werddon wedi amlygu yn groew ei gwrth- wynebiad i Or fodaethac mae ymlyniad y Werddon wrth Loegr, a'r unoliaeth cyd- genedlaethol a arddengys-wedi bod yn amhrisiadwy werthfawr i ni yn yr argyfwng presennol.