Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
COLOFN YR EGLWYS.
News
Cite
Share
COLOFN YR EGLWYS. MYND A'N DRWG A'N DA AT GRIST.* GAN Y PARCH. BEN DAVIES, PANT-TEG. 0 Arglwydd, at bwy yr awn ni ? gennyt Ti y mae geiriau bywyd tragwyddol. loAN vi. 68. CWESTZWN bywyd sydd yn y fan yma, Y mae hwnnw o hyd yn aros just yr un fath. Pwysig yw cwestiwn bywyd y corff. Pwysicach yw bywyd cymeriad. Pwysicaf oil yw cwestiwn bywyd enaid ac ysbryd. Y mae rhywun yn y fan yma wedi gweld ymha le y mae y bywyd-wedi gweld car- tref y bywyd a ffynhonnell bywyd (Y llddo Ef yr oedd bywyd.' Ac wedi gweld hynny yn ymyl mudiad mawr i gyfeiriad marwol- aeth-mudiad mawr i gefnu ar ffynhonnell bywyd—y mae swn tyrfa yn mynd yn ol yn y cysylltiad hwn o ganlynwyr Iesu Grist. Y mae math ar gefnu ar Geidwad dyn-plant gwyrthiau yn troi yn ol. Y rhai oedd wedi derbyn llygaid gan yr Ar- glwydd Iesu yn defnyddio'r llygaid i weld y ffordd yn ol yn lie ymlaen. Y rhai oedd wedi cael traed gan yr Arglwydd Iesu yn defnyddio'r traed i gerdded yn ol, yn lie dilyn yr Iesu. Ac y mae'r mudiad yna yn ennill tir ac yn cryfhau, nes y mae'r Ar- glwydd Iesu Grist yn taflu Ei lygaid ar y deuddeg, ac yn eu cyfarch gan ddywedyd 'A fynwch chwithau hefyd fyned ymaith ?' Rhyw fath ar annibyniaeth dwyfol, yr un fath a phe buasai lesu Grist yn dweyd Os ydych am fynd, ewch chwi.' Fe aiff y Deyrnas yn ei blaen wedi hynny. Fe ddaw rhywrai i lenwi eich lie ac i ddod a bwriadau Duw i ben. Nid ydyw'r llif yma yn mynd i ysgubo y Deyrnas o'i blaen. Nid yw'r Arglwydd Iesu am i neb Ei ddilyn yn erbyn ei ewyllys. Ennill yr ewyllys yw Ei ddilyn Ef. 'At bwy yr awn ni ? meddai Pedr. Y mae enaid wedi cael ei wneud o'r fath ddeunydd, wedi cael ei adeiladu o ryw fath o aflonyddwch, fel y mae'n rhaid iddo fynd at rywun. Y mae yn rhaid iddo gael rhywun i'w garu, rhywun i'w lywodr- aethu, rhywun i'w arwain. Y mae gorsedd yng nghalon pob enaid, ac y mae yn rhaid cael brenin i'r orsedd ac y mae eu tynged ni yn ol y brenin yr ydym yn ei ddewis i'r orsedd. Ac 'At bwy ? medd Pedr, fel pe buasai yn awgrymu, Y mae yn llwm iawn ar wahan i Ti.' Pan yr ydym yn cefnu ar Grist, cread gwag iawn yw y cread yma. Rhyw anialwch mawr ydyw. Wedi troi cefn ar Ei bethau Ef, y mae yn mynd yn gryn anialwch. A oes gennym rywbeth gwell yn eu lie hwy ? Dylem gymryd dipyn yn araf gyda phethau'r
[No title]
News
Cite
Share
Un o'r Anerchiadau draddodwyd yng Nghyf- eillach Cymanfa Iyerpwl, Hydref 8fed i'r xofed W Crist cyn troi cefn arnynt. Os cefnwch ar y Beibl, beth sydd gennych yn ei le ? Yr ydych yn troi cefn ar Ei ddydd. A ydych wedi taro ar rywbeth cystal ag ef ? Ac ar dy'r Arglwydd ? Yr un peth- egwyddorion yr Iesu peidiwch a chefnu ar y rhai hyn heb rywbeth gwell yn eu lie. Pan gefnwn ar y rhai hyn yr ydym yn wynebu anialwch. Ac y mae Pedr yn gweld hyn. Beth gawn ni wedi troi ein cefn at yr Iesu ? Cawn addysg ond bydd honno yn gyf- rwng inni wneud drygioni mwy ysgeler. Gallwn gael cyfoeth, ac fe ddichon cael cyfoeth yn rhwyddach wedi cefnu arno Ef ond cyfoeth a gwaed arno fydd, ac yn gweiddi am fwy o hyd, ac yn gwneud gormes a chreulonder y byd yn fwy. Na, anialwch sydd. Llwm iawn yw y cread wedi cefnu ar yr Iesu. Y mae'r ysbryd sydd i lawr yn y gwraidd yn cynhyrchu'r rhyfel yn ysbryd gwrth-Gristionogol-yn torri Croes Crist ac wedi i ddyn dorri'r Groes, y mae'n gorfod wynebu'r gyflafan. Ond y mae'r apostol yn troi ei wyneb yn ol at y Ceidwad ac os ydym heb droi ein hwyneb oddiwrtho, y mae yn llaw11 ac yn gysurus iawn gydag Ef. Yn y fan yma y mae diogelwch Gennyt Ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.' Ni wn i ddim pa ystyr yr oedd Pedr yn roi i'r ddau air yno, ond y mae yn defnyddio dau air mawr iawn. Dyma ddarpariaeth fwyaf Duw ar gyfer angen dyn. At bwy ond at Grist yr awn ni ? Gyda'r pethau sydd gennym, rhaid inni fynd a hwy at rywun. Yr ydym yn mynd an syched at y dyfroedd, a'n afiechyd at y meddyg. I ble yr awn an pechod ? Rhaid inni fynd ag ef at rywun. Er fod anialwch y byd yma yn fawr iawn, fedrwch chwi ddim claddu pechod yma. Y mae lie arall inni fynd. Gadewch inni fynd ag ef at Iesu Grist-ffynnon y bywyd tragwyddol. I ble yr awn an daioni ? I gymdogaeth y bywyd tragwyddol, i'r daioni gael ei gadw a'i ddiogelu. I ddiogelu ein rhinweddau, gadewch inni fynd a hwy ato Ef. Dylai fod gennym ryw bethau yn ein calonnau nad ydynt i gael eu gwario. Nid oes raid i bob darn arian fynd ar goll a'r lie i ddiogelu'r darnau i gyd yw ynddo Ef. Bywyd tragwyddol '-y mae cadw yn y fan yma. Cadw trugaredd.' Y mae trugaredd yn cadw yn ffres yn Nuw o hyd. Y mae yn gwywo ac yn darfod ymhob man arall. I ble yr awn i ymofyn maddeu- ant ond ato Ef ? I ble yr awn i ymofyn tangnefedd ond ato Ef ? Daw oriau tywyll, fel y rhai sydd wedi disgyn ar filoedd yn y wlad yma. I ble yr awn ni i ymofyn tangnefedd, ond ato Ef ? Ble yr awn i ymofyn sancteiddrwydd ond ato Ef ? LIe y mae hwn i'w gael ? Dim ond yn un man—yn Iesu Grist. Gennyt Ti.' (I'w barhau).
[No title]
News
Cite
Share
BRYN SEION, PENCOED.—Oytihaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydci hanner-blynyddol ar y dyddiau SuI, Hydref 31ain, a'r Linn can. canlynol, pan y pregethwyd gan yr Athro Joseph Jones, M.A B.D., Aberhonddu, a'r Parch J. Rhedynog Evans, Carmel, Treherbert. Cafwyd pregethau amserol, grymus, a dylan- wadol iawn. Beudith fo'n dilyn. CAERFFILI.—Gwasanaethwyd yng ngwyt flynyddoi yr eglwys hon gan y Parchn Dr Gwy lfa Roberts, Llanelli, a D. J. Lewis, B.A., Tumble,
I RHANBARTH -PENYBONT.'
News
Cite
Share
RHANBARTH PENYBONT. Uchel-wyliau.- Yr Athraw Joseph Jones, M.A., B.D., Aberhonddu, wasanaethodd eleni ym Mryn Seion, Pencoed; y Parch J. Oldfield Davies, B.A.. Ton Ystrad, fu yn Bethel, Nant- ymoel; a'r Parchn Gwilym Rees, B.A., Merthyr, a Penar Griffiths, Pentre Bstyll, fu yn Bethel Newydd, Heolycyw, a Iluoedd dyrrai i'r oil i glywed geiriau yr Ion. Bethel, Nantymoel.-Mae yr eglwys hon newydd fod yn dewis pump o ddiaconiaid, gwyr da eu gair, i wasanaethu ei byrddau, sef Mri W. D. Williams, David Jones, John Walters, Evan Davies a John Williams. Rhyw saith mlynedd yn ol y bwriwyd coelbren ddiweddaf, a llon- gyfarchwn y frawdoliaeth ar hir wasanaeth ei swyddogion ymroddgar. Bryncethin.- Wedi ami ymdrech yn ystod y 12 mlynedd diweddaf i sefydlu y lofa yma, yr hon gyflogai dri chant o ddynion, penderfynir cau yr oil a dirwyn pob adran i derfyn. Gwar- iwyd miloedd lawer yn y suddiad a chyfaddas- waith peiriannol, a brwydro ag anfanteision y buwyd yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Yn awr dyma'r terfyn bythol, er mawr ysigdod yr achos goreu a siomiant plant llafur. Cyrddau Diotchgatwch.-Y Parch Ben Davies, Pant-teg, wahoddwyd gan eglwys Blaenogwy a'i gweinidog parchus i draddodi dwy bregeth ar hawl Duw i'n mawl am ddarpariaeth eto, ac ni chlywyd y proffwyd yn fwy o dan y gwlith erioed, er ei ami ymweliad a'r cwm. Dawn cartrefol ddewisodd Betharan, Brynmenyn, sef y Parch J. C. Evans. My Anthony Lewis.-Yn ei 88 oed, gollyng- wyd yr hen wron hwn mewn tangnefedd, er mawr alar eglwys y Tabernacl, Penybont, lie bu yn golofn hardd am gyfnod maith, fel ei daid o'i flaen, yr hwn oedd un o sylfeiawyr Annibynnia yn y dref yn 1808. Gwelodd y rhan helaethaf o'r hyn ffurfia y dref heddyw yn faes i anifail, a diddorol oedd ei glywed yn traethu am hynaf- iaethau'r ardal. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan ei weinidog hoff, y Parch H E. Rogers, B.A., a'r Parchn W. Bvans, B.A., a Price Davies, eurad y Coity, lie y gorffwys y sant. Ag arf y Gair, ef fu gawraidd-yn darnio'r Hen deyrnas satanaidd; Dewr a fu, ond darfu aidd Yr hen filwr nefolaidd.' Mr W. Thomas, Abercynffig.—IJon iawn gan edmygwyr yr uchod ddeall am ei adferiad wedi ergydion ami. Os yw dan graith ing calon drwy huniad ei un annwy. fu yn rhannu pleser iddo, gwyr am lw cyfamod sicr a'r gobaith sydd trwy ras. Efe yw trysorydd iiyddlon Ebenezer, a heulwen i wyneb ei esgob hoff yw ei bresenol- deb eto yn y cysegr. Tabernacl, Pontyclun.-Wedi misoedd o frathu gan boenau dirdynol, da gennym ddeall fod y siriol a'r diwyd Barch T. Williams wedi ymaflyd eto yn ei waith er Ilondid mawr i'w gynulleidfa gynnes ag Sydd wedi profi mewn caredigtwydd deilynga enw ar lechres cymwynaswyr goreu proffwydi yr Arglwydd. Nid Ilai diolchgar yw Mr Williams i'w frodyr weiniasant vn ei buloud yn ei absenoldeb llethol. + D. W.