Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COLOFN YR EGLWYS.

News
Cite
Share

COLOFN YR EGLWYS. MYND A'N DRWG A'N DA AT GRIST.* GAN Y PARCH. BEN DAVIES, PANT-TEG. 0 Arglwydd, at bwy yr awn ni ? gennyt Ti y mae geiriau bywyd tragwyddol. loAN vi. 68. CWESTZWN bywyd sydd yn y fan yma, Y mae hwnnw o hyd yn aros just yr un fath. Pwysig yw cwestiwn bywyd y corff. Pwysicach yw bywyd cymeriad. Pwysicaf oil yw cwestiwn bywyd enaid ac ysbryd. Y mae rhywun yn y fan yma wedi gweld ymha le y mae y bywyd-wedi gweld car- tref y bywyd a ffynhonnell bywyd (Y llddo Ef yr oedd bywyd.' Ac wedi gweld hynny yn ymyl mudiad mawr i gyfeiriad marwol- aeth-mudiad mawr i gefnu ar ffynhonnell bywyd—y mae swn tyrfa yn mynd yn ol yn y cysylltiad hwn o ganlynwyr Iesu Grist. Y mae math ar gefnu ar Geidwad dyn-plant gwyrthiau yn troi yn ol. Y rhai oedd wedi derbyn llygaid gan yr Ar- glwydd Iesu yn defnyddio'r llygaid i weld y ffordd yn ol yn lie ymlaen. Y rhai oedd wedi cael traed gan yr Arglwydd Iesu yn defnyddio'r traed i gerdded yn ol, yn lie dilyn yr Iesu. Ac y mae'r mudiad yna yn ennill tir ac yn cryfhau, nes y mae'r Ar- glwydd Iesu Grist yn taflu Ei lygaid ar y deuddeg, ac yn eu cyfarch gan ddywedyd 'A fynwch chwithau hefyd fyned ymaith ?' Rhyw fath ar annibyniaeth dwyfol, yr un fath a phe buasai lesu Grist yn dweyd Os ydych am fynd, ewch chwi.' Fe aiff y Deyrnas yn ei blaen wedi hynny. Fe ddaw rhywrai i lenwi eich lie ac i ddod a bwriadau Duw i ben. Nid ydyw'r llif yma yn mynd i ysgubo y Deyrnas o'i blaen. Nid yw'r Arglwydd Iesu am i neb Ei ddilyn yn erbyn ei ewyllys. Ennill yr ewyllys yw Ei ddilyn Ef. 'At bwy yr awn ni ? meddai Pedr. Y mae enaid wedi cael ei wneud o'r fath ddeunydd, wedi cael ei adeiladu o ryw fath o aflonyddwch, fel y mae'n rhaid iddo fynd at rywun. Y mae yn rhaid iddo gael rhywun i'w garu, rhywun i'w lywodr- aethu, rhywun i'w arwain. Y mae gorsedd yng nghalon pob enaid, ac y mae yn rhaid cael brenin i'r orsedd ac y mae eu tynged ni yn ol y brenin yr ydym yn ei ddewis i'r orsedd. Ac 'At bwy ? medd Pedr, fel pe buasai yn awgrymu, Y mae yn llwm iawn ar wahan i Ti.' Pan yr ydym yn cefnu ar Grist, cread gwag iawn yw y cread yma. Rhyw anialwch mawr ydyw. Wedi troi cefn ar Ei bethau Ef, y mae yn mynd yn gryn anialwch. A oes gennym rywbeth gwell yn eu lie hwy ? Dylem gymryd dipyn yn araf gyda phethau'r

[No title]

[No title]

I RHANBARTH -PENYBONT.'