Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENr, PRIODI, A MARW. MABWOLAETHAU. THOMAS.-Chwith yw meddwl na chawn weled y wraig ragorol Mrs Thomas, Bryndysul, yn Llan- dysilio byth mwy. Bu farw yn sydyn, a theimlir hiraeth mawr ar ei hoi. Un o ddisgyblion yr anfarwol Hybarch Simon Evans, Hebron, ydoedd, a hyfryd oedd gwrando ei hadgofion am y gwr mawr hwn. Daeth yr ysgrifennydd i gysylltiad a hi rhyw ddeunaw mlynedd yn ol, a theimla reidrwydd i dalu teyrnged i'w choffadwriaeth. Bu Mrs Thomas yn garedig iawn i'r achos goreu ac i weinidogion y Gair. Pan adeiladwyd y capel yn Llandysilio, rhoddodd 9250 tuag at y gwaith, heblaw llestri oymundeb hardd adrudfawr yn rhodd i'r eglwys. Ni chyfyngodd ei haelioni i'w chapel ei hun. Cafodd eglwys Nebo, o'rhon yr hannai, roddion gwerthfawr ganddi, a deallwa ei bod yn bwriadu rhoddi JE50 at yr adnewyddiad. Bydd ei merch annwyl yn sicr o sylweddoli bwriad ei mam haelionus. Yn angladd y ddiweddar Mrs Thomas, gwelwyd arwyddion galar a pharch mawr. Cymerwyd rhan gan offeiriadl. plwyf; y Parchn D. Williams, Maenclochog; J. Tegryn Phillips, Hebron J. Evans, Rhydwilym; W. Crwys Williams, Abertawe; D J.Michael, B.A., Blaenconin; a'r Parch Joseph James, B.A., ei gweinidog. Darllenwyd llythyr tyner iawnl oddi- wrth y Parch J. Cradoc Owen, A. S., Ebbw Vale, ac oddiwrth y Parch Evan Thomas, Ealing. Dang- hoswyd cydymdeimlad mawr a'i hunig farch, Annie, yr hon a adawyd mewn unigedd. M or wag yw Bryndysul yn awr heb John Howell ac Henry Thomas, y rhai a ragflaenasant Margaret Thomas. Boed i gysur goreu yr Efengyl lifo yn hael i Fryndysul, ac arhosed y fendith fythol ar y fferni gysegredig. Mae gan yr ysgrifennydd atgoflon na ddileir mohonynt byth am Bryndysul, a melus ganddo yw meddwl am danynt.

Pant-teg a Libanus, Caerfyrddin.

Graig, Rhymni.

[ PORTH ERYRI.

[No title]

Advertising