Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
GALWADAU.-I
News
Cite
Share
GALWADAU. I PENDREF A SOAR, LLANFYLLIN.-Gwahodd. wyd y Parch J. H. Richards, Talwrn, Coed- poeth, Gwrecsam, gan yr eglwysi uchod i ddyfod atynt i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Y mae Mr Richards wedi derbyn yr alwad, a bydd yn dechreu ar ei weinidogaeth yn y He lonawr 2iJ, 1916.
BYWGRAFFIAD D. EMLYN EVANS.
News
Cite
Share
BYWGRAFFIAD D. EMLYN EVANS. At Qlygydd y Tyst. SYR,—Byddaf yn ddiolchgar am fenthyg un- rhyw lythyrau oddiwrth fy mrawd, D. Emlyn Evans, a all fad ym meddiant rhai 0 ddarllen- I wyr y TVST. Gofelir en dychwelyd i'r sawl a I ewyllysio hynny, a gofelir hefyd na chyhoeddir inohoilynt yn llawn liac yn rhannol heb ganiatad. Yr eiaaocn, <xc., Caerfyrddin. E. KERI Evans.
CWRS DIWINYDDOL EIN COLEGAU.
News
Cite
Share
CWRS DIWINYDDOL EIN COLEGAU. At Olygydd y Tyst. -1 SYR, Bydd lliaws, heblaw fy hunan, yn ddiolchgar i chwi am roi lie mor amlwg i'r ym- driniaeth ar gwrs diwinyddol ein Colegau, a chwrs y B.D. yn arbennig. Nid oes lawer ellid ychwanegu i ddangos gwrthuni y drefn fel y mae. Tybed y teimla ein lleygwyr ddigon o ddiddordeb yn y mater i ddarllen yr ymdriniaeth yn ofalus, a bod yn barod i rwyddhau'r ffordd i newid pethau er gwell ? Ni allesid codi'r mater i sylw ar well adeg, nag un mwy cyfleus i'w ystyried. Y mae darogan y cyfnewidir llawer o bethau hen ac oedrannus sydd agos i ddi- flannu gan y rhyfel. Felly y dywed arwyddion yr amserau. Bydd gweinidogaeth y Gair wedi newid, ac amodau Uwyddiant y gweinidog yn wahanol i'r hyn a fu. Nis gall yr oes a d.daw" mae'n wir, hepgor y pregethwr. Ca'r pulpud ei gyfle eto ond bydd rhaid. i'r gweinidog llwydd- iannus fedru gwneud mwy na phregethu yn unig. 0 ran hynny, y mae felly eisoes. Hoffwn wneud ychydig sylwadau pellach o safle un fu trwy gwrs y B.D., a chanddo hefyd brofiad o rai blynyddau yn y weinidogaeth Gym- reig. Ffrwyth y profiad hwnnw yn fyr yw hyn Fod rhan fawr o'r amser dreuliwyd gyda'r Heb- raeg a'r Iyladin yng nghwrs y B.D. yn amser gwerthfawr aeth ar goll, a'r drafferth yn un ofer. Ni fynnwn fod heb ffrwyth yr astudiaeth o iaith y Testament Newydd. Pleser yw medru darllen yr Ffengylau, &c., yn yr iaith wreiddiol nad all gweinidog fforddio bod hebddo. Am y ddwy iaith arall, pe ceid barn onest y rhan luosocaf, os nad yr holl fyfyrwyr, ceid tystiolaeth gref o blaid ymresymiad cadarn a goleu yr erthygl gyhoeddwyd yn y TYST. Fel y dywed eich goheb- ydd, treulir amser a sychir adnoddau meddwl y myfyriwr i gynnal trciddodicid, ac i ddilyn ffasiwn ffol yr hen Brifysgolion, heb unrhyw ystyriaeth o fuddioldeb ymarferol ac o ofynion gwaith gweinidog. Meddylier am weinidog ieuanc yn cychwyn ar ei waith mewn eglwys Annibynnol—boed wlad, boed dref, nid yw o bwys ymha Ie. Parod yw i gymryd dosbarth mewn Hebraeg, Groeg neu Ladin, pe rhoed cyfLe iddo. Os breuddwydiodd yn ei anwybodaeth am gyfle felly, buan yr agor- wyd ei lygaid. Yn ei aros y mae dosbarthiadan o blant a phobl ieuainc, a'n rhieni yn awyddus iddynt gael help y gweinidog newydd i'w cyf- arwyddo a'ti dysgu yn elfennau cyntaf gwybod- aeth Ysgrythyrol. Os gwyr sut i'w dysgu yn iaith eu mham, goren oil: y mae gwaith gwerth j ) ymroi i'w wneud yn y cyfeiriad hwn. Druan ohono os na fedr gywiro Cymraeg ei ddisgyblion. Yn gyffredin bydd y Gobeithlu o dan ei ofal, a gwyn ei fyd os gwyr sut i ddiddori ac adeiladu y plant mewn moes a dirwest. Ond, o ddifrif, pa baratoad gafodd ar gyfer y gwaith hwn ? Cam pechadurus yw anion o'r coleg iyfyriwr wyr fwy am Hebraeg nag am iaith ei wlad ei hun, ac am gyfhvr cymdeithasol y bobl y galwyd ef i fod yn arweinydd iddynt. Clywais athro un o'n colegau yn ceisio dar- bwyllo cynhadledd o arweinwyr ei Gyfundeb mai pregethu oedd gwaith y gweinidog, ac mai nid ei le ef oedd bod yn athro ar ddosbarthiadau ieuengaf yr eglwys. Dichon y diolchai llawer ohonom pe cawsai wrandawiad, gan mor anfedrus ac annigonol ydym i gyflawni gwaith athro ond ni warafuna yr un gweinidog, yn sicr, unryw drafferth ga gyda'r plant, os gall rywfodd fod o fendith iddynt. Nis gellir heddyw ddibrisio a diystyrru hawl y plentyn ar oreu ei weinidog. Bum yn gyd-efrydydd yn y Brifysgol a lliaws o fechgyn oedd, fel fy hunan, yn cymryd cwrs y B.A. ond Normal Students oeddynt, a chaent baratoad ar gyfer gwaith y dyfodol na ddaeth i feddwl neb o'n hathrawon ei roi i ni, y Minis- terials. Dyna un wedd yn unig i'r pwnc aml- ochrog hwn, a chyda hyn terfynaf. Gogleddwr.
[No title]
News
Cite
Share
SARON, RHYDYFRO.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei cbyfarfodydd blynyddol nos Sidwrn a'r Sal, Tachwedd 6ed a'r 7fed Gwasanaoth- wyd gan y Parch Stephen Ihouaas, Salem, Handeilo. Mwynhawyd y weinidogaeth gan gynulleidfaoadd wrion. SILOH, ABERDAR.-Cynhaliwyd cylarfod- ydd blynyddol yr eglwys uchod nos Sadwrn, y Sol ar Llun, Hydrof 30lin, 31ain, a Tachwedd laf, pan y cafwyd e:weinidogaetb nerthol a hyawdl y Parchn J. 0. Williams (Pedrog), Lerpwl; E J. Owen, Cwmaman; a J. Phillips, Mountain Ash. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, y casgliadau yn foddhaol, a chaed y pleser o weled rhai yn ymrestru dan faner Tywysog Tangnefedd. Gwedd siriol a chalon. nog geir ar y frawdoliaeth yma.
Tabernacl, Gilfach-Fargoed.j
News
Cite
Share
Tabernacl, Gilfach-Fargoed. CYtARl'OD ORDEINIO, CYFARFOD ORDIUNIO. Achlysur diddorol iawn yn hanes yr eglwys uchod oedd ordeiniad y brawd ieuanc Mr. Griffith John Jones, myfyriwr o Goleg Coffa Aberhonddu, i fod yn weinidog ami. Ychydig amser yn ol pasiodd yr eglwys alwad gynnes ac unfrydol i Mr. Jones, a chydsyniodd yntau a hi, a threfn- wvd i gynnal cyfarfodydd ynglyn a'r urddiad nos Fawrth a dydd Mercher, Hydref igeg a'r 2ofed. Gwasanaethwyd nos Fawrth gan y Parchn. D. H. Jones, Fochriw, a H. M. Hughes, B.A., Caer- dydd. 1-v .*> 1.. 11TTT.7TT^I/-liiT*r/4 t* '1'11' Bore Mercher am 10.30 Uywyddwyd y cylar- fod gan y Parch. D. G. Jones, Deri. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Seymour Rees, gweinidog ieuanc Ebenezer, Cefn, a chaf- wyd pregeth gref ac amserol ar Natur Eglwys gan y Prifathro Thomas Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu. Neilltuwyd odfa 2 o'r gloch i fod yn odfa'r urddo. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan y Parch. R. H. Davies, B.A., Cwmbach. Llywydd- wyd y cyfarfod gan y Parch. D. Leyshon Evans, C.S., Bargoed. Dywedodd y Llywydd fod yn dda ganddo fod yn bresennol y prydnawn hwnnw, a chanmolai yr eglwys ar ei gwaith yn penderfynu cael gwein- idog iddi ei hun. Teimlai fod yna gylch da i ddyn ieuanc weithio. Adwaenai yr eglwys yn dda, a chredai na fuasai yr eglwys yn un anawdd i'r gweinidog newydd gydweithio a hi; a dymunai estyn y croesaw cynhesaf i Mr. Jones i'r cylch. Hysbyswyd fod nifer luosog o lythyrau wedi dod i law oddiwrth gyfeillion Mr. Jones a'r eglwvs, yn datgan eu gofid. a'u hanallu i fod yn bresennol, a dymunent bob llwydd a bendith i Mr. Jones at ddechreu ei weinidogaeth, gan hyderu y byddai yn un fendithiol i'r eglwys a'r cylch. Darllenwyd tri o'r llythyrau, sef eiddo eglwys Carmel, Llanllechid, yr eglwys lie y cod- wyd ac y magwyd Mr. Jones ynddi; eiddo Mr. Jones, Prifathro Ysgol y Cyngor, Llanllechid ac eiddo'r Athro D. Miall Edwards, M.A., Aber- honcidu. Wedi hynny galwyd ar Mr. Edmunds, ysgrif- ennydd. yr eglwys, i rod.di hanes yr alwad. Dy- wedodd fod yr eglwys bron yn naw mlwydd oed. Cychwynwyd yr achos o dan nawdd y Cyfarfod Chwarterol, ac iddynt gael cyfarfodydd ynglyn ag agoriad y capel yn Nhachwedd, 1906. Aeth y Cyfarfod Chwarterol yn gyfrifol i sicrhau gwas- anaeth gweinidog iddynt am Saboth yn y mis am flwyddyn, sef ar y Cymundeb, yn ogystal a chyfrifoldeb gofal drostynt; a llwyddwyd i gael gan y Parch. James Jones, Fochriw, i ymgymeryd at hynny, yr hyn a wnaeth gydag urddas ond er siom iddynt hwy ac i'w eglwys yng Ngliarmel, Fochriw, torrwyd ef i lawr yn anterth ei nerth a'i ddefnyddioldeb yn gynnar yn y flwyddyn 1907. Felly gorfu i'r Cyfarfod Chwarterol ddewis -un arall i orffen y flwyddyn, a llwyddasant i sicrhau gwasanaeth y Parch. J. R. Salmon, Pont- lotyn, at hynny o orchwyl. Wedi hynny bu y Parch. W. Phillips, Salem, Trelyn, yn gofalu am danynt am bedair blynedd. Gwasanaethu ar Saboth y Cymundeb, a gofalu am gyfarfodydd yr wythnos. Teimlent yn ddigar iawn fel eglwys i'r brodyr hyn am eu gwasanaeth effeith- iol a da iddynt. Ond yn ddiweddar teimlent mai buddiol fyddai iddynt gael gweinidog yn hollol iddynt eu hunain. a syrthiodd y goelbren yn unfrydol ar Mr. Griffith John Jones o'r Coleg Coffa ac hyderai y byddai bendith Duw ar eu hymdrechion hwy fel gweinidog ac eglwys dros Deyrnas y Gwaredwr. Holwyd y gofvniadau gati y Parch. J. K. Salmon, Pontlotyn, a chafwyd atebion cryno a chynhwysfawr i'r oil ohonynt gan y gweinidog ieuanc. Yna gofynnwyd am yr arwyddion o du yr eglwys a'r gweinidog er cadarnhau yr alwad a'i derbyniad. Wedi hynny offrymwyd yr urdd- weddi gan y Parch. H. A. Davies, Aberdar. Pregethwyd siars i'r gweinidog gan y Parch. R. E. Davies, Llanllechid, a siars i'r eglwys gan y Parch. W. Phillips, Trelyn. Cynhwysai y ddwy siars wirioneddau buddiol a gwerthfawr. Wedi hynny cafwyd ychydig eiriau gan y rhai canlynol Y Prifathro Thomas Lewis, M.A., B.D., a'r Athro Joseph Jones, M.A., B.D., y rhai a ddyg- ent dystiolaeth uchel i'r brawd ieuanc fel myf- yriwr diwyd, gonest a chydwybodol yn y Coleg, ac fel un oedd yn mynd ar gynnydd parhaus drwy ei ymroad a'i ffyddlondeb gyda'u wersi. Dygodd Mr. D. W. Edwards, B.A. (yr hwn a ordeinir yr wythnos hon yn Penmain, sir Fynwy), dystiolaeth uchel iddo ar ran y myfyrwyr fel brawd a chyfaill, a dymunent yrfa lwyddiannus iddo fel gweinidog da i Iesu Grist. Dywedai Mr. McArthur, Casnewydd (un o gychwynwyr yr achos yn y Tabernacl, a swyddog ffyddlon yno am rai blynyddau), fod yn dda ganddo weld yr eglwys wedi symud i gael gwein- idog. Fod yna gylch da i weinidog gweithgar ac effro. Teiinlai fod gan y Tabernacl le cynnes iarwn yn ei galon. Dymunai fendith gyfoethog y Nef ar eu holl ym.drechion. Croesawai y Parch. John (B.), Gilfach, y gweinidog ieuanc yn galonnog i'r cylch. Yn dda ganddo gael dyn Duw i'r cylch. Dynion da yn brin iawn. Hyderai y byddai ei ddylanwad yn gyfryw nes ei gwneud yn anhawddach i bobl y cyleh bechu. Digon o le gan yr eglwys i weithio, ac addewid y Meisitr y bydda; i'r eglwys effro a gweithgar lwyddo. Y Parch. Dennis Jones, Shotton, Caer, yn falch i fod yno i ddangos ei barch ac i ddymuno yn dda i'r gweinidog newydd. Wedi cael eu cyd- godi yn ardal Llanllechid, yn cyd-chware ac yn cyd-ysgolia, ac yn cyd-addoli yn yr un capel, ac wedi cael y fraint o ddechreu pregethu yr un adeg. Nid oedd ganddo ddim ond da i ddweyd am dano. Yr oedd yn frawd ymroddgar a ffydd- lawn. Dywedodd y Parch. R. E. Peregrine, B.D., Rhymni, fod yn hyfrydwch ganddo yntau lon- gyfarch yr eglwys a'r gweinidog. Hanes da i'r eglwys yn y gorffennol, ac nid oedd wedi clywed dim ond hanes da oddhvrth bawb i'r gweinidog newydd. Dymunai ei lwyddiant ymhob ystyr. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch R, D. Jenkins, Fochriw. Am 7 o'r gloch yr hwyr dechreuwyd y gwas- anaeth gan y Parch. Enilyu Macdonald, Gilfach Goch, a phregethwyd gan y Parch. Dennis Jones, Shotton (yn Saesneg), a'r Athro Joseph Jones, M.A., B.D. (yn Gymraeg). Cafwyd. cyfres o gyfarfodydd nad d'n angof yn fuan yn y cylch. Gwelwyd yn bresennol tad a mam y gweinidog ieuanc, yn ogystal a nifer luosog o gyfeillion o gylch Llanllechid, ger Bethesda. Hefyd, yr oedd yn bresennol nifer luosog o frodyr yn y weinidogaeth, yn ogystal a nifer o gyfeillion o'r cylchoedd. cyfagos. Dechreua y brawd ieuanc ar ei weinidogaeth o dan amgylchiadau dymunol iawn. Y mae'r eglwys yn un effro a byw, a phobl gared.ig iawn ynddi. Y mae'r cylch yn un cynhyddol iawn, a saif y capel mewn man cyfleus i gwrdd a r cynnydd ychwanegol ddaw tua tu gwaelod y Gilfach a phen uchaf Peugam. Credwn hefyd fod Mr. Jones yn trawd ieuanc fydd yn taro y cyleh. Y mae yn un effro a gweithgar, a gair da iddo gan bawb a'i adwaenant. Edrychwn ymlaen at gyfnod llwyddiannus yn hanes yr eglwys o dan ei arweiniad.. Gwyddom y ca yn y swyddogion a'r aelodau pob cynhorthwy angen- rheidiol yn ei waith. Duw yn iddynt fel eglwys i wneud gwaith mawr dros Deyrnas y Gwaredwr vii y cylch poblog hwn. Fochriw. RHYS D. JENKINS;