Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN.i

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. Mwysedd. AIR dieithr, o ba le y daethost 1 Ai Cymraeg ydwyt. dywed. Heb dy fod yn Gymraeg, nis gallwn dy gymeryd i fryniau ein gwlad. Cofia di fod Cymreig- wyr beirniadol a'u llygaid ar ein hoi yn awr. Nid ydym am wrthod dy gymdeithas, ond yn wir y mae ofn arnom yn y dyddiau hyn gyda'r Gymraeg. A adwaenost ti y gwr medrus F. J.'? Efe sydd yn peri i ni grynu Ïn sodlau yn awr. Clywsom ei fod yn wr hawddgar ddigon, ond yn wir mae e'n ofnatsan fanwl gyda'r Gymraeg. Y mae peth ofn arnom anadlu'n Gymraeg, rhag i ni wrth anadlu dorri un o reolau diweddar y Gymraeg. A dweud y gwir wrthofc ti yn ddistaw bach, mae peth blys wedi bod ynnom ni yn ddiweddar i fynd at y Saeson. Bid sicr, fuasai hynny ddim yn golled i'r Gymraeg, nac ychwaith yn ennill i'r Saesneg Ond yr ofn arnaf fi yw, os nad af fi at y Saeson, yr aiff y Gymraeg ei hun atynt cyn bo hir. Tynnir hi o'i boll gymalau, llai a mwy, oddiwrth eu gilydd, wel di, ac mae arna'i ofn yr aiff rhwng cynifer o ddwylo deallus allan o fod. Duw helpo mam a'i bath Cred di fi, nid mater bach yw siarad Cymraeg ac ysgrifenu Cymraeg yn y dydd- iau hyn. Tybed fod hyn yn awgrym bich gwan o dranc buan y Gymraeg ? Modd bynnag, wele ni bellach ar ben y bryn, ac mae r caddug odditanom. Mor dda gennyf dy weld am dro, 0 Fwysedd hyblyg. Sut gwmnïaeth a gawn gennyt, dyw. d ? Tipyn yn ddiafael, fel brithyll mewn Haw, ydwyt, onide ? Yr ydwyt fel cath Myfyr Wyn yn ddigon ciwt.' Clywais am danat yn gwerthu 'Mellt' ym Merthyr am geiniog, ac yn gwerthu Haul' yng Nghaerfyrddin am chwech o geiniogau, ac yn gwerthu Y Nef a'r Ddaear' am swllt. A chlywais di am deuglust fy hun yn gwaeddi lond heol- Cardigan herrin gs-deuddeg Cardi am chwech; Cardis bob un.' Canfyddwn fod rhai wedi eu geni i Fwys yn fwy nag eraill. Un sydd yn heinif ar dy Iwybrau di yw A..). BALFOUR, Efe sydd wr mawr yn ei lenyddiaeth, a'i urddas a'i ysbryd. Buost di yn nodedig o gyfleus iddo i'w ddiogelwch a'i ddiangfiiau yn ei arweinyddiaeth o'r Ceidwadwyr ac yng nhgwrs Ditfyndolliaeth Mr Joseph Chamberlain. Pery dy swyn, a rhywbeth tebyg i ddireidi o hyd, ac yn wir yr ydwyt yn flals heb fynd yn ffol Er yn dy hoffi ar faes chware, nid cystal wyt gennym ar faes busnes a chrefydd. Yr oeddet yn fwy diniwed er's talwm nag ydwyt yn awr, a I mwy hyf ydwyt heddyw nag oeddet yn ddoe y tadau; ac am hynny yr ydym yn cefnu arnat bellacb i sylwi ar dy hanes yn ein bywyd cymdeithasol a chrefyddol vn y dyddiau byn. A chefned y dariienydd ar yr oil a ddar- llenodd, a chydgerdded a, ni ymlaen i weled y mwyso sydd gan feddylwyr mwysaidd ym myd crefydd a diwinyddiaetb. "Ceir hyn, mae'n wir, ym myd siarad cyfFredin a chytundebau a difyrion ymddiddanol, yr hyn sydd a thuedd ynddo i wanychu ym- ddiriedaeth ac i lygru purdeb ymadrodd, ac i wneud bywyd yn gellwair ac ysmaldod. Ond ar grefydd a diwinyddiaeth mae, ein meddwl yn awr. Ymddengys fod mwy o Fwysedd yn llenyddiaeth crefydd na'r un Jenyddiaeth aral], ag eifchrio Comic Cuts a Punch a'r cyffelyb, a chymer hynny le naill ai yn ymwybodol neu yn ariymwybodol. Y mae yn rhaid i rywrai i siarad yn amwys. Y mae rhyw twitch ynddynt fel pel y bowl- iwr. Teiiy y daethant i'r byd, ac felly y maent yn y byd, ac felly yr Lint o'r byd. Ac am hynny, yn un peth, gwelir yr amry- fusedd hwn yng nghrefydd a "diwinyddiaeth ein gwlad, sef y rhywbeth hwnnw sydd yn dianc o afael beirniadaeth o hyd, gan ei fod yn agored i fwy nag un eglurhad. Tueddir j ni i ddod i'r casgliad mai diffyg pendant- rwydd mewn crefydd a diwinyddiaeth ydyw un o'r galluoedd cudd sydd ar waith i ennill pobl allan o'r eglwys, ac i gadw eraill yn y pellter. Yr ydym dan argraff fod yr hy" n a elwir yn ■■ ■ DDIWINYDDIAETH NEWYDD yn cynnwys mwy o amwysedd na'r Hen Ddiwinyddiaeth Pe yn awdurdod mewn diwinyddiaeth, dywedem mai yn byn y mae ei phrif ddiffyg. ac am hynny y mae yn ddiddal. Dau o wyr parchus iawn a rhag- orol iawn y Ddiwinyddiaeth Newydd yw y Parchn R. J. Campbell, M.A aT Rhondda Williams. Y mae ein bedmygedd yn fawr a diffuant o'r ddau enwog byn. Y gallu cryfaf a fedd y byd Cristionogol, mor bell ag y gwyddom ni, mewn Cyfriniaeth Grefyddol, ydyw R. J. Campbell a phan ydys yu dweud hyn, yr ydys yn cyffwidd fi phrif wedd ei gymeriad cryf a dylanwadol. Un o feibion nodedig Cymru ydyw Mr Rhondda Williams Y mae Cymru wedi rhoi lliaws o'i bechgyn nrdderchog i'r Saeson, ac mae i Mr Williams ei arbenigrwydd yn eu plith ac ni phetruswn ddweud y geill Cymru deimlo yn gynnes ato a meddwl yn uchel ohono. Wele o'n blaen ddau o hyddysgwyr y Ddiwinyddiaeth Newydd, ac am hynny edrychir i fyny at-ynt; am hyfforddiant. Wei, beth am danynt ? Yn y Christian Common- wealth, Rhagfyr lOfed, 1913, dywed lVlr Campbell:—' Unless I missed the religious tendencies of our times, there is evidenced just now a remarkable return on the part of many people to the desire for a special and definite authoritative divine word of revela- tion.' Wedyn sonia am Auguste Sabatier gyda'i bwyslais ar dystiolaeth fewnol ac ynglyn a hyn dywed Mr Campbell Unless I am greatly mistaken, present day tendencies, to a large extent, are not justi- fying this foiecast. People are saying that snbjeeti vity ill J eligion is not wholly trust- worthy, &c. With people like these, the question of questions is, How am I to find God ? How can I be sure of having come into living relations with Him and with the eternal life ? To tell these not to trouble about what anybody says, but to hearken to the voice of the Divine Spirit in their hearts, does not seem to be enough—does not satisfy.' Felly y sieryd Mr Campbell yn helaeth ac yn amlweddog ac yn ddi- betrus. Yn yr un papur am Tachwedd 3ydd eleni, dywed Mr Rhondda Williams The position was pretty clear that there were large numbers of young people who could not be saved for religion, if religion was to be a mere tradition resting upon external authority. It must, on the con- trary, be the faith of their own souls Ac yr ydym oil yn araenu i'r ddwy dystiolaeth hyn, er ein bod ar yr un pryd yn teimlo oddiwrth eu hamwysedd. Maent f"Ily wrth sefyll yn annibynnol, ond mwy felly ydynt wrth eu dal wyneb yn wyneb. Sonia Mr Williams yn ei ysgrif am bobl ieiuinc yn ochri at ei olygiad ef. Dywed Mr Campbell am bobl ieuainc, ac yn bmodol am bobl ieuainc Ffrainc :—' Who say with one voice, that if they are to have a religious faith at all, it must not be based only upon what they can discover for themselves. Now, if you are going to furnish me with a religion, I demand that it shall not be merely what I think or what you think, or both of us think Nid ydym am feddwl fod ein dau arwr yn cyfeiliorni ac yn croesi cleddyfau. Yr ydym yn rhy gyfarwydd a gallu a chydwybod pob un ohonynt i dybio peth o'r fatli. Ond yr ydym yn credu ac yn gwybod fod i ddysgeidiaeth o'r fath ei mwysedd, yr hyn a wna ymchwilydd gonest yn amhensc yn ddigalon. A pheth ofnadwy ydyw amwysedd mewn crefydd a diwinyddiaeth lie bo ymholwyr didwyll a dwys am achubiaeth bersonol. Y mae y Ddiwinyddiaeth Newydd yn fwy agored i hyn na'r Hen Ddiwinyddiaeth. Dilyna'r Hen Ddiwinyddiaeth y Beibl a'r Testament Newydd yn flyddlonach na'r Ddiwinydd- iaeth Newydd, ac m hynny mae yn fwy penodol a sicr, a mwy cadarnhaol hefyd. Uwchfodaeth a Mew..fodaeth ydyw deunod arwoiniol y Newydd Nid oes gennym reswm am na roddesid hwy yn Dado'aetb a Christ ynnom,' os nad yw lliw y dvVr y pysgotir ynddo yu galw am hyn. Un ar ei ben ei hun yw ein hen gyfaill Rhondda i ergydio ar ben safon a dogma mewn crefydd, ac ar yr un pryd mae ef ei bun yr un mor nodedig am ddiwinydda a dogmayddu a Sifoni. Eir i mewn heddyw am union- grededd ac eoltir,-er mewn crefydd ond hyd yn hyn y mae y Ddiwinyddiaeth New- ydd yn fwy o I lef yn yr aiiialweh nag o Wele Oen Duw, yr Hwn sydd yn tynnu ymaitb bechodau y byd.' Ac yn ddibetrus dywedwn fod yr eglurhadau (?) a'r beirniad- aethau gynygir ar Dduw a Christionogaeth