Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Anrhydeddu'r Teilwng: Mr.…

News
Cite
Share

Anrhydeddu'r Teilwng: Mr. John Lloyd, Penydarren. Mae y gwr da a enwir uchod yn adnabyddus I iawn ar hyd a lied y wlad, a bydd yn llawenydd gan bawb a'i adwaenant deall fod y cyleh y mae'n byw ynddo wedi codi i gydnabod ei weith- garwch a'i werth. Gesyd yr argraff ar bawb a deuant i gysylltiad ag ef mai nid dyn cyffredin mohono, ac y mae ei lafur a'i hanes yn tystio fod yr argraff yn un hollol wir. Mae wedi byw ym Morgannwg yn awr am deugain mlynedd. Treul- iodd y tair gyntaf yn ysgolfeistr yn Nhwynyr- odyn, Merthyr, a'r gweddill i gyd ym Mhen- ydarren. Ac y mae wedi llanw y blynyddoedd hyn gan gymwynasgarwch a gwasanaeth. Ystyr- rid ef yn un o'r ysgolfeistri blaenaf yn y wlad, a deallwn fod adeg wedi bod pan yr oedd rhai plant yn cerdded ymhell er mwyn manteisio ar ei ddawn a'i fedr. Mae'n enwog fel gwleidyddwr -yn Rhyddfrydwr i'r earn—ac wedi ymladd brwydrau poethion ar rai adegau, ond yn dod allan a baner buddugoliaeth yn chwifio yn yr awelon. Dywedai y diweddar Batch. R. S. Williams, Bethania, Dowlais, mai pobl gryfion mewn etlioliadan oedd pobl Penydarren. Os ymaflent mewn ymgeisydd y byddai yn siwr o lwyddo. Ac nid yw yn un syndod ei bod hi felly, oherwydd yr oedd y fyddin yn cael ei harwain gan General Lloyd. Mae yn hen aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, a gwelir ei boblogrwydd yn y ffaith ei fod wedi ei ddychwelyd ar hyd y blyn- yddau ar ben y rhestr. Gwna ei waith yn ffydd- lawn ac yn nrddasol. Yn y flwyddyn 1913 dewis- wyd ef yn Gadeirydd i'r Bwrdd pwysig hwn, a llanwodd y gadair hyd yr ymylon. Efe yw Llyw- ydd Cyngor Anghydffurfiol Penydarren oddiar ei sefydliad, ac nid yw y Cyngor wedi dychmygu ei newid, oherwydd gwyr yn dda mai amhosibl cael ei gystal, heb son am ei well. Fel ymddir- iedolwr o dan ewyllys y diweddar Mr. Thomas Williams, Gwaelodygarth, y mae cyfrifoldeb mawr yn gorwedd ar ei ysgwyddau ond gofala'i ddiddordeb a'i ddoethineb na siomir yr ymddir- iedaeth a osodwyd ynddo. Mae yn ysgrifennydd gwerthfawr ac yn ddiacon dylanwadol yn eglwys Horeb, Penydarren. Agos yw yr achos at ei galon, ac y mae y capel hardd sydd gan yr Anni- bynwyr Cymreig yn y lie yn gofadail ddiamheuol i'w ymdrechion a'i ddiwydrwydd. Teimlai pobl er's amser y dylesid ei gydnabod rhyw ffordd neu gilydd am ei wasanaeth hir ac amrywiol. A chan ei fod yn ymddeol o'i waith fel ysgolfeistr diwedd mis Gorffennaf diweddaf, gwelwyd fod yr adeg yn un ffafriol iawn i ystyr- ied y cwestiwn. Mewn cynhulliad a gyfarfu yn Neuadd Horeb nos Fawrth, Gorffennaf 6ed, pen- derfynwyd gyda brwdfrydedd mawr i wneud tysteb gyhoeddus iddo. Dewiswyd y brodyr canlynol yn swyddogion y Pwyllgor :—Cadeir- ydd—Mr. David Jones. Is-gadeirydd-Mr. H. Williams. Trysorydd-Mr. A. I. Freedman. Ysgrifenyddion—Mri. S. Williams a Lewis Jones, Casglwyd yn rhwydd ac yn ddidrafferth y swm o £ 80 ac onibai am sefyllfa pethau ar hyn o bryd, byddai yn llawer iawn mwy. Nos Fawrth diweddaf, Tachwedd 2il, cynhal- iwyd y cyfarfod aurhegi-i yng nghapel Horeb, Penydarren, ac yr oedd y gynulleidfa fawr a ddaeth ynghyd yn dystiolaeth newydd fod y gwr a anrhydeddwyd yn uchel ei barch yn y lIe a'r cylch. Gwelwyd yn bresennol Mrs. Lloyd, Penydarren y Cynghorwyr Ivor Abraham a William Lewis; Mr. John Evans, H.M.I.S. Mr. Gomer Jones, H.M.I.S. Miss Juan Evans, prif athrawes Ysgol y Merched, Cyfarthfa; Parch. D. R. Williams, Penywern Mr. T. Thomas, Cad- eirydd Cyfundeb Gogleddol Morgannwg; Mr. David, olynydd Mr. Lloyd ym Mhenydarren Parch. D. Rees, Merthyr; Mr. Ed. Williams, Ysgol Gellifaelog Miss Williams a Miss Price, prif athrawesau yn Ysgol Penydarren Mrs. C. Fen wick, Dowlais Mrs. Edwards, Court House, Merthyr Mr. H. S. Berry, Merthyr, ac amryw o bobl eraill sydd yn flaenllaw mewn gwahanol gyfeiriadau. Derbyniodd yr ysgrifennydd, Mr. Lewis Jones, lythyrau oddiwrth amryw bersonau yn gofidio fod amgylchiadau yn eu rhwystro i ddod i'r cyfarfod, ac anfonwyd brysneges i Mr. Lloyd gan Mr. J. M. Berry yn ei longyfarch ar y parch a danghoswyd iddo. Cymerodd yr anrheg y ffurf o anerchiad goreur- edig a chod o aur. Mae yr anerchiad yn gamp- waith celfyddydol, o waith Mr. John Jones, High-street, Penydarren; ac er fod y person medrus hwn wedi troi rhai ardderchog allan yng nghwrs y blynyddau, hwn yw y goreu. Mae pawb a'i gwelsant yn ei edmygu, ac yn canmol yn ddiddiwedd. Darllena fel y canlyn :— TO JOHN LLOYD, ESQ. DEAR SIR,—The 23rd day of July, 1915, wit- nessed your retirement from the heacimastership of the Penydarren Boys' School, a position you have held with dignity and honour for a period of nearly 37 years. This, together with the in- estimable public services you have so ungrudg- ingly rendered in the Borough of Merthyr Tydfil during that time, has prompted your numerous friends and admirers to ask your acceptance of this address and a purse of gold as a willing tribute, though but a small token of their high esteem and keen appreciation of your sterling qualities as an ardent educationist and a faithful public servant. Your scholastic career of over 45 years, nearly 40 of which have been spent in this Borough, has been a singularly successful one, whether viewed from the point of imparting instruction, or of exercising the best influence by precept and example upon your pupils and it has been your privilege to train a large number of teachers and scholars, many of whom today occupy prominent positions in various spheres of activity in the country. Always enthusiastically devoted to your profession, you have brought to bear upon your work a trained and well-stored intellect, a high moral purpose, untiring application, and an invaluable experience. And whilst discharging with conspicuous ability the onerous duties devolving upon you as a leading educationist, you have not been unmindful of your civic obligations. The long years of able service you have readily given as a member of the Merthyr Board of Guardians, your active interest in the religious, social, and political movements of the district, and your unceasing labours on behalf of your beloved Wales, have won our sincere admiration at all times. Above all, we value you as a Christian gentle- man and a faithful follower of the Master, and one who has unsparingly devoted the best years of his life for the moral and spiritual uplifting of the people and we believe your best work lies not in any personal gain, but in the enriched minds and lives of those around you. We fervently pray that, though the evening shades are falling, you may long be spared in health and strength to enjoy your well-earned leisure from your professional work still, we sincerely hope to get the benefit of your great and varied experience, your wise counsel, and your able guidance in the many public capacities your abilities so well fit you to occupy. That God's richest blessing may ever rest upon you and Mrs. Lloyd is the devout wish of all subscribing to this testimonial. Signed on behalf of the Subscribers. November 2nd, 1915. Cymerwyd y gadair gan y Maer (Cynghorwr John Davies, Y.H.). Dywedai mai llawenydd mawr iddo- oedd bod yn bresennol er mwyn talu teyrnged i Mr. Lloyd. Fel addysgiaethydd yr oedd yn y rheng flaenaf, ac wedi argraffu ei ddelw ar gannoedd o fechgyn. Fel trefnwr yr oedd yn ail i neb a phan yr oedd yn digwydd ymladd yn ei erbyn, dychrynai, oherwydd ei fod yn berson mor gryf. Fel dinesydd yr oedd yn cymeryd rhan amlwg ac anrhydeddus yn symud- iadau'r dref, ac fel Cymro yr oedd ei galon yn llawn barddoniaeth a gwladgarwch. Nid person yn cyhoeddi diffygion ei genedl mohono, ond un yn ceisio ei gwella trwy ei wybodaeth a'i brofiad. Araith hyfryd a brwdfrydig a gafwyd, a llawen gennym oedd cael y Maer yn ein plith. Cymerwyd rhan gerddorol gan Mr. J. R. Morgan, organydd Horeb Miss Gwladys Morgan, Dowlais a Mr. Evan Lewis, Penydarren ac ardderchog oedd gwasanaeth y tri. Darllenwyd anerchiad gwir farddonol gan Dewi, Penydarren ac anfonodd Mr. Ben Jones (Merthyrfab) nifer o englynion oedd yn llawn o Ben a'i hen gyfaill y canai am dano Cafwyd adroddiad o weithrediadau'r Pwyllgor gan yr ysgrifennydd, Mr. Lewis Jones. Traddodwyd anerchiadau gan y Cynghorwr John Harpur, Cadeirydd Pwyllgor Addysg y Parch. J. M. Hughes, Elim Mr. A. I. Freedman; Parch. T. B. Mathews; Mr. J. R. Davies; Mr. W. Walters, Twynyrodyn Cynghorwr Charles Fenwick; a Mr. W. Edwards, H.M.I.S. Cyflwynwycl yr anerchiad gan Mr. D. Jones, cadeirydd y Pwyllgor, a'r god o aur gan Mrs. Cynghorwr William Lewis, Morlais Villa. Pan ddaeth yr amser i Mr. Lloyd gydnabod y rhoddion, cafodd dderbyniad tywysogaidd. Yr oedd gwen ar bob wyneb, a dwylaw pawb yn dweyd, Da, was da.' Siaradodd yn gall ac yn feistrolgar fel arfer. Tystiai ei fod wedi treulio amser hapus iawn yn y lie, a'i fod wedi derbyn parch a chefnogaeth oddiwrth rieni'r plant ar I hyd y blynyddau. Nid oedd gwaith yr ysgol- feistr yn un hawdd yr oedd yn gofyn cadernid, dyfarbarhad ac amynedd. Hyfryd oedd deall ei fod yn cael ei amgylchynu gan gylch mor fawr o ffrindiau mor rhagorol. Llawenydd ganddo oedd gweld y tri inspector yn bresennol, a diolchai o waelod ei galon i'r Pwyllgor, y swyddogion, a'r holl danysgrifwyr am yr anrhegion ardderchog a gyflwynwyd iddo. Cafwyd cyfarfod hwylus a chynnes o'r dechreu hyd y diwedd. Gobeithiai nifer o'r siaradwyr y byddai Mr. Lloyd yn penderfynu aros ym Mhen- ydarren, er mwyn arwain yn y dyfodol fel yn y gorffennol, ac y cawsai le heb fod yn hir ar y Cyngor Trefol, lie y bydd ei brofiad a'i wybod- aeth o fantais fawr i Bwyllgor Addysg. Yr oedd yn dda iawn gennym weled Mrs. Lloyd yn bres- ennol. Mae hi wedi gofalu yn ffyddlon am ei phriod, ac ni phetruswn ddweyd y byddai yn amhosibl i Mr. Lloyd wneud cymaint onibai fod ganddo gymar sydd yn rhoi pob sylw iddo, ac yn gofalu'n gyson am dano. Bendith y Nef ar y ddau. B.

ISOAR, MERTHYR.

YSTALYFERA A'R CYLCH.

Advertising