Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y Drysorfa Gynorthwyol.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y Drysorfa Gynorthwyol. SYMUDIAD PWYSIG. APlvI, AM GYDWKITHRISDIAD. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Drysorfa Gynorthwyol yng nghapel yr Annibyn- wyr Seisnig, Llandrindod, nos Pawrth a bore Mercher, yr 2il a'r 3ydd cyfisol. Daeth cyn- rychiolaeth gref ynghyd o Dde a Gogledd i geisio symbylu gwaith mawr a phwysig y Drys- orfa yn ei flaeii. Y mae gwyr cyfarwydd o'r farn fod y cyfle presennol yn well na'r un a gaed hyd yma, ac yn well o bosibl na'r un a geir am hir amser i ddod. Dyna farn un o'r dynion sy'n gwybod mwyaf am faterion ariannol o neb sydd ar y Pwyllgor, a chymaint, a dweyd y lleiaf, a nemor neb yn yr 15nwad. Yr oedd y Pwyllgor yn hollol unol a brwd- frydig dros symud ymlaen ar ullwaith-nid oedd gwahaniaeth barn o gwbl ar hyn a'r cwestiwn pwysig oedd, pa sut i wneud y sel yma yn heintus, a'i throi yn waith. Treuliwyd rhai oriau yn y ddau eisteddiad i drafod cynlluniau mewn ffordd rydd a brawdol. Deallid fod rhai Cyfun- debau yn gweithio yn drefnus, effeithiol a llwydd- iannus eraill wedi gwneud trefniadau, ond heb fod yn llwyddiannus iawn i'w gosod mewn gweithrediad ac un neu ddau heb wneud ond ychydig yn drefnus a ffurfiol. Anfuddiol o bosibl fyddai gosod y cofnodion ffurfiol yn y fan hon, ond dyma brif linellau yr hyn y penderfynwyd arno :— 1. Pod yr Ysgrifennydd Cyffredinol i anfon llythyr yn ddioed at Ysgrifennydd y Drysorfa ymhob Cyfundeb yn gofyn iddo fod mor garedig a galw Pwyllgor y Drysorfa yn y Cyfundeb ynghyd ar unwaith, i wneud y trefniadau a farnont yn ddoeth er sicrhau fod pob eglwys yn y Cyfundeb hwnnw yn symud ynglyn a'r Drysorfa cyn y Nadolig yn ddiffael. 2. L, in bod yn cynnyg gwasanaeth person oddi- allan i'r Cyfundeb i fyned i gyfarfod a'r Pwyllgor Cyfundebol, os y barna yr Ysgrifennydd y gall hynny fod o ryw help. 3. Ivnnwyd person neu ddau y mhob-i'CyfLindeb y gall yr Ysgrifennydd Cyfundebol ddibynnu arnynt am gefnogaeth a chynhorthwy. 4. Ennwyd Pwyllgor Gweithiol bychan i weled fod yr awgrymiadau hyn yn cael eu rhoi mewn gweithrediad, ac i gymeryd unrhyw fesurau a farnont yn ddoeth i sicrhau eu llwyddiant. Gall y Pwyllgor hwn gyfarfod yn weddol fynych, a hynny ar draul fechan, pryd y golygai draul a llafur mawr i alw yr oil o aelodau y Pwyllgor Cyffredinol at eu gilydd. 5. Gwneud trefniadau hefyd i gadw y symud- iad o flaen yr Unwad yn barhaus, ac ennwyd personau amlwg a medrus at y gwaith hwnnw. Mawr hydera y Pwyllgor y cymer y Cyfun- debau a'r eglwysi at y symudiad yn galonnog ac yn ddioed. Y mae £ 30,000 yn awr yn gymaint o werth ag a fuasai £ 50,000 flwyddyn yn ol. Y mae yr arian fuddsoddwyd yn y War Loan yn dwyn £ 10s. y cant o log, pryd na ddygent yn flaenorol ond £ 2 10s. neu £ 3. Hefyd, medd- ylied yr eglwysi am y ffaith y bydd mwy o angen Trysorfa fel hon nag erioed, os ydym am gadw ugeiniau o'n gweinidogion uwchlaw angen a gwarth. Y mae ymborth a dillad y gweinidog yn myned yn ddrutach fel ymborth a dillad pobl eraill ac y mae llaewr gweinidog mewn eglwys fach yn gorfod derbyn yr hyn all yr eglwys ei wneud yn wyneb yr amgylchiadau gwasgedig mewn rhannau arbennig o'r wlad. fybir fod yna symiau o arian yn llaw eglwysi a Chyfundebaii wedi eu casglu at y Drysorfa, ond heb eu talu i'r Drysorydd Cyffredinol. Dy- muna y Pwyllgor alw sylw caredig at y golled a dderbynia y Drysorfa drwy hynny, gan ei bod yn colli cyRe i'w buddsoddi ar delerau man- teisiol, ac yn colli eu llog. Krfyimir ar i bawb sydd ganddynt arian yn perthyn i'r Drysorfa eu hanfon yn ddioed i'r Trysorydd Cyffredinol, Mr. T. Davies, 56 St. Quintin Avenue, North Kensington, London, W. Hefyd, danfoner rhestr o bob addewidion yn ddioed i'r Parch. W. James, 10 Woodland Terrace, Swansea-Arolygwr y symudiad. Bydd yn bleser hefyd gan yr Ysgrifennydd roddi pob goleuni a help dichonadwy i bawb yn haelionus ac heb ddannod.' Mawr hyderwn na phrofa yr Enwad yn annheilwng o'i hanes yn yr argyfwng ofnadwy yr awn drwyddo ar hyn o bryd. Bydd gan yr eglwysi broblemati mawrion i'w dadrys ond odid ar ol y rhyfel doder yr eglwys wan, fel yr eglwys gref, ar dir gweddol ffafriol i wynebu ei dyrysbynciau. I W. Ross HUGHES, Ysg. Cyffredinol. I Borthygest, Tachwedd 4ydd, 1915.

I Carmel, Treforris.

Family Notices

Advertising

Advertising