Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
-_. - -_-_ ,,- - - - -'"-_-"-…
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Gorllewin Morgannwg—Dafydd Jenkin, Pwll- glas—Nebo, Glyn corrwg-Siloh, Pentre—Graig, Rhymni-Peniel, Tredomos-Bethel Newydd, T-leolycyw-Trecastell-Pant-teg-J. H. J.- Bodringallt Bethesda, Llangennech-Castell- nedd a'r Cylch—Iylansad'wrn—Ferndale-—Bryu- aman-O Foil i Forgannwg—Trefgarn, Penfro- Cyfarfodydd, &c.
-YR ALWAD I DDIFRIFWCH.*
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR ALWAD I DDIFRIFWCH.* 1. RHAID cydnabod fod gwareiddiad Crist- ionogol Ewrop wedi methu yn hollol, dros dymor, yn ei agwedd ryngwladwriaethol. 0 fewn y gwledydd eu hanuin mae llawer ohono yn aros, ond ym mherthynas y gwledydd a u gilydd ymddengys fel pe wedi torri i lawr yn hollol, ac mae deg ohonynt yng ngyddfau eu gilydd fel bwyst- filod rheibus, ac yn rhuddo'r ddaear a gwaed eu calon. Nid oes gan wledydd Cristionogol yn yr ugeinfed ganrif amgen- ach ffordd i setlo'u cwerylon nag oedd gan hen Fabiloniaid ac Aifftiaid, Groegiaid a Phersiaid y cynfyd pell. (r) Mae gwladlywiaeth a diplomydd- i iaeth oleuedig a medrus wedi methu osgoi' rhyfel. Mae bron bob cenedl yn drwgdybiol ei chymydog, ac wedi rhoi ffordd i wane a rhaib anmwail. Mae cytundebau yn gandryll, a Llys yr Hague a'i ddeddf ryng- wladol a'i ddarbodion cyflafareddol yn sypyn o bapur a rubbish, a thraddodiadau urddas y gwledydd wedi eu gwasgaru i'r pedwar gwynt. (2) Mae datblygiad moes.ol a diwylliant meddyliol a chynnydd gwybodaeth a dysg wedi troi allan yn siomedig ryfeddol. Tybid ein bod wedi tyfu allan o fyd y tiger a'r savage, ac na welid byth mwy wledydd ymffrostient yn eu diwylliant Cristionogol yn disgyn i'r iselion hyn drachefn ond, ysywaeth, felly y mae. Ac ni bydd eisiau profi mwy fod datblygiad araf yn annig- onol i achub dynolryw. Hunangais a huanles, trachwant a myfiaeth anferthol a gwrthun, creulondeb ac erchylldra gwaeth nag eiddo canibaliaid, yw rhai o ffrwythau amlwg y culture bondigrybwyll sydd wedi dallu Ewrop am hanner canrif. (3) Nid yw tyfiant cymdeithasol ar lin- ellau dyngarol a brawdgarol wedi arbed y gwledydd rhag y galanastra sobraf wel- odd y byd erioed. Hyderid unwaith fod gwerinoedd y gwledydd o'r diwedd wedi dod yn ymwybodol o'u nerth, ac wedi ysgwyd ymaith iau caethiwed a gormes y beilchion a'u marchogai ar hyd yr oesau, ac wedi dod i garu eu gilydd i'r fath raddau nes gwneud rhyfel liior ofnadwy a hon am byth yn amhosibl, Ond siom sydd i'r cyfeiriad hwn eto. Nid gormod, gan hynny, yw dywedyd fod gwareiddiad Ewrop wedi cael y fath ergyd nes ei barlysu yn hollol. A dyma'r gwareiddiad y tybiai hyd yn oed Cristion- ogion ei fod y goreu, neu o'r hyn lleiaf y cytunent ag ef yn ddistaw ac ufudd. Derbynnid ef yn gyffredinol heb fawr freuddwydio mai corsen bwdr ydoedd. Drych o dristwch i edrych drosti' yw Ewrop heddyw, a geilw'r sefyllfa yn groch ar eglwysi Crist i sefyll uwch ei phen gyda'r difrifwch mwyaf. II. i. Y peth cyntaf welwn yw fod y drwg yn gwreiddio mewn syniadau a delfrydau sy'n hollol groes i anianawd ac ysbryd Crist a'r Efengyl. Er i'r gwledydd fod yn proffesu Cristionogaeth ac yn cadw i fyny rith ohoni yn y golwg, yr oeddynt yn araf wedi gwadu ei grym ac wedi llithro i afael materoliaeth noeth ac anianol. Nid Duw oedd yn cyfrif am fodolaeth y byd, ac nid oedd fawr pwys am dano. Y byd hwn— y blaned hon—oedd popeth mwyniant a chyfoeth a nerth daearol oedd yr unig bethau gwerth ymgyrraedd atynt. (a) Yna cododd awydd a chydymgais anniwall am gymaint o'r ddaear ag a ellid grafangu a dyma ffynhonnell ddrygsawrus pob cen- figen a malais a drwgdybiaeth a dichell rhwng gwledydd a'u gilydd. (b) 0 hyn drachefn tyfodd yr athrawiaeth ddieflig fod nerth anianyddol yn rhoi hawl i bopeth. Trwy drais a force yn unig y gellid tafellu a chadw'r darnau mwyaf o'r blaned, ac felly gwnaed might is right yn sylfaen moes- oldeb rhyngwladol. (c) Ond peth difudd i yw nerth a force heb ei ddisgyblu a'i gyf- lunio, ac felly wele filwryddiaeth haearn- aidd beiriannol yn codi ei phen, er gwneud pob dyn ieuanc yn rhan o'r machine i ddinistrio dynion ieuainc cenedl arall fygythiai fynd a mwy o'r blaned nag a ddymunai hi, y genedl gref. (d) Ac i goroni'r traha, aeth Germani mor bell a chyhoeddi mai'r State oedd gallu ac awdur- dod uchaf y byd ei lies hi oedd i bender- fynu moesoldeb gwladol, ac felly nid oedd cyfraith rhyngwladol o unrhyw werth gan nad oedd force milwrol tu ol iddi i fynnu ufudd-dod i'w rhaith a'i barn. Dyma wraidd gwleidiadol yr holl heldrin llofruddiog presennol. Ac nid oes angen dywedyd ei fod yn gwbl groes i egwyddor- ion ac ysbryd yr Efengyl. Cariad, cyfiawn- der, a chydnabyddiaeth addolgar o Dduw ac ufudd-dod i'w ewyllys yw hanfod cref- ydd y Groes, ac mae'r syniadau ofnadwy sydd dan y rhyfel yn elynol a marwol i'r cwbl ohonynt. Oni ddylai hyn beri i'r Eglwys ddod i ystyried yn ddifrifol y sefyllfa, ac ymostwng inewn edifeirwch a chywilydd wyneb ger bron Duw ? Rhaid ei bod wedi methu yn ei gwaith a'i chen- adwri cyn y buasai'r fath drychineb yn bosibl. 2. Dylai yr anhawster i gael hyd yn oed yr Eglwys i sylweddoli gwir gyfiwr pethau, ac yn arbennig galedrwydd a difaterweh y wlad ynglyn ag ej, ein galw i ddifrifwch mawr. Mae dau fath o galedrwydd a di- faterwch-naturiol ac ysbrydol. Gellid meddwl nad oes fawr galedrwydd naturiol i'w gael. Ceir pob parodrwydd i gyfrannu at reidiau y milwyr a'r clwyfedigion, a danghosir dyngarwch a chydymdeimlad rhyfeddol tuag atynt. Mae pawb yn awyddus i anfon cysuron a rhoddion i'r bechgyn dewr sy'n ymladd drosom, a gwneir yn fawr o'r rhai sy'n dibynnu arnynt gartref. Ac eto sicrheir ni fod -r. rhyw ddosbarth yn ymbesgi yn afresymol ar waed y wlad, ac yn casglu i'w coffrau symiau anhygoel. Nid yw rhai ffermwyr, meddir, yn ol o ddymuno i'r rhyfel barhau am gryn amser eto, er mwyn iddynt hwy gael mwy o bris am toch a cheffylau. Y fath gyflwr gresynus ar eneidiau parchus —edrych ar finteioedd o fechgyn glanaf Prydain yn cael eu hysgubo i'r farn er mwyn iddynt hwy gael uwch pris am ■ anifail Mae'r peth yn ddigon i godi arswyd ar engyl, heb son am ddynion. Ond y caledrwydd a'r difaterweh ysbrydol sy'n sobr. Tybed y cyfyd o'r blaenaH O'r hyn lleiaf, tra gwelir y cinemas a'r theatres a'r tafarndai yn llawn, gwag yw y cyfarfod gweddi, ac nid oes fawr arwydd ymostyngiad ger bron Duw. Gwelid hi ar ddechreu y rhyfel, ond aeth heibio yn bur fuan—pan welwyd nad oedd berygl i'r Germaniaid wneud Belgium o Gymru 1 3. Dylem gofio nad yw yn ddigon fod ein hachos yn un cyfiawn i ennill y dydd yn y rhyfel hwn. Mae ein hachos yn gyfiawn, diolch i Dduw, onite ni buasem byth yn gallu gweddio am ei lwyddiant, ac aberthu cymaint er ei fwyn. A thybia rhai pobl dda fod hynny yn ddigon, ac awgrymant na raid pryderu yn ormodol, gan fod Duw yn sicr o ofalu am dano. Ond nid oes angen mwy na chydnabyddiaeth arwyn- ebol iawn a hanes y byd i ganfod nad yw achos cyfiawn a da bob amser yn llwyddo yn nyddiau ei gefnogwyr. Rhaid i bobl yr achos fod yn gyfiawn yn ogystal a'r achos. Ac hyd yn oed wedyn gohirir yr oruchafiaeth weithiau am gyfnod hir. Yr oedd achos Habacuc a Paul a Penry yn gyfiawn, a hwythau eu hunain yn wyr cyfiawn bob un—ond eu concro gawsant yn eu dydd. Ai nid diwedd achos y Cyf- iawn Hwnnw oedd croeshoeliad a budd- ugoliaeth dros dymor Ei elynion cas ? Tybed nad oes gan Dduw rhywbeth mwy i'w gyrraedd nag a fwriadodd Ymerawd- wyr na Seneddau erioed wedi i r rhyfel fyned heibio ? Nid yw dioddefaint dir- prwyol wedi cyrraedd ei bennod olaf eto, ac efallai y geilw Duw arnom i ddioddef mwy fyth er mwyn Ei ddiben mawr. Oni ddylai hyn ein difrifoli ? 4. Mae'r difrod ar fywydau yn echrydus feddwl am dano. Ac arwahani bob ystyr- iaeth o Iwydd y genedl yn y dyfodol, ac eff aith y galanastra ar achos Crist yn ein gwlad, beth am dynged ysbrydol y bech- gyn annwyl hyn ? Mae llawer ohonynt yn fechgyn duwiol, a'r oil wedi eu sobreiddio gan erchylltra y rhyfel; ond mae llawer ohonynt hefyd yn wynebu'r farn, mae lie i ofni, heb nabod y Ceidwad. Oter yw gwadu ac ameu athrawiaeth y tadau, sy 11 hanfodol debygem i'n Hefengyl, a gwaeth nag ofer yw chware a'r purdan fel y gwna rhai doethorion Ymneilltuol. Rhagorach o lawer yw bod yn ddistaw am yr hyn nas gwyddom am dano, gan adael y dewr- ion ieuainc oil i drugaredd Tad Nefol sydd, er yn sanctaidd a chyfiawn, yn llawer tirionach na phurdan Pabyddol na Phro- testanaidd. Yr un pryd, dylai y syniad sobr fod miloedd o'n bechgyn yn cael eu hyrddio yn ddisyfyd i fyd arall ein difrifoli oil, a'n dwyn i ymbil daer a phar- haus ger bron Duw ar eu rhan pan yn jyw, ac i geisio ganddo yn Ei d-refu arbedol eu dwyn trwy Ei Ysbryd i gyflwr o ddiogel- wch tragwyddol. Fel y dywedodd Nurse Cavell, nid yw hyd yn oed gwladgarwch yn ddigon i gadw neb. —
Advertising
Advertising
Cite
Share
Nodion Anerchiad draddodwyd yng Nghyn- hadledd Undeb Eglwysi 13fengjrlaidd Cymru y111 Mliontypridd, Hydref yr 28ain, gan v Parch. ll, M. Hughes, B.A., Caerdydd.