Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Eglwys Lloyd Street, Llanelli.
News
Cite
Share
Eglwys Lloyd Street, Llanelli. Marwolaeth Mr. David Mathias, Marble Hall. -Collo(ld yr eglwys uchocl un o'i haelodau ffydd- lonaf a mwyaf heddychol pan fu farw y brawd annwyl hwn. Genedigol o Langeler oedd Mr. Mathias, ac yr ydym yn cofio y Uawenvdd mawr oedd gan yr eglwys pan wnaeth ef a'i deulu lluosog en cartref yma er's dros ugain mlyuedd Y11 ol. Y fath nerth i eglwys ieuanc mewn tref boblog vw cael teulu crefyddol wedi eu trwytlio yng ngwasanaeth ty Dduw a pharch dwfxi i'r cysegr, ac yn wastad yn barod i gymeryc1. rhaii yn yr holl ordeiniadau. Dyna oedd teulu Mathias 1 eglwys lyloyd-street. Brawd addfwyn, fine ei ysbryd, oedd yr ymadawedig, ac yn neilltuol o fifyddlon yng nghyfarfodydd wythnosol yr eglwys. Bu yn ddosbarthwr am flynyddau, ac yn athraw ffyddlon yn yr Ysgol Sul hyd nes iddo gael ei gaethiwo 1 w dy er's clrwe mis yn ol a rhoddodd ei ddosbartli (chwiorydd) ivreath i'w osod ar ei arch yn goffadwriaeth am y parch a'r anwyldeb oedd ganddynt tuag ato. Magodd deulu lluosog, a phob un o'r plant yn troi allan yn anrhydedd i'w tad a'u inam, ac yn troi mewn cylchoedd uchel a phwysig mewn cymdeithas. Un o'r meibion yw y Parch. Evan Mathias, yr hwn sydd erbyn hyn yn gaplan ym Myddin Prydain Fawr. Bu ef allan yn y Dardanelles, ac yr oedd ei dad yn ei theimlo yn anrhydedd fawr fod ganddo fab yn pregethu Crist i'n milwyr dewr yn y trenches, Cysgododd Rhagluniaeth drosto, a chafodd y fraint o ddod yn ol i'r wlad hon, a bod yn bresennol wrth erchwyn gwely ei anll wyl dad pan oedd yn croesi adref i fyd arall. Bore dydd Iau, Hydref 2iain, oedd dydd yr angladd. Yn y ty darllenwyd gan y Parch. R. Williams (Pres.), a gwedtdiwyd gan y Parch. J. J. Jones, B.A. Yn Ramah, ger Caerfyrddin, y mae bedd y teulu, ac yno y cychwynwyc1. y bore hwn. Wedi cyrraedd man tawel ei feddrod, darllenodd y Parch. T. Orchwy Bowen, Ebenezer (yr hwn yn garedig oedd yn gofalu am y trefniadau), a siaradodd y Parch. R. Williams (Pres.); gan ddwyn tystiolaeth uchel i'r ymadawedig fel cymydog tawel a heddychlon. Siaradwyd hefyd gan y Parch. J. J. Jones, B.A., fel un oedd wedi bod yn weinidog arno am flynyddau, ac yr oedd pobl Ployd-street yn falch i wrando unwaith eto ar y gwr annwyl hwn yn rhoddi gair o gysur i'r teulu caredig ar lan bedd eu hannwyl dad. Yna gweddiodd y Parch. T. Orchwy Bowen yn afiiel- gar iawn. Daeth llawer ynghyd o bangeler i dalu Y, gymwynas olaf i un a berchid yn fawr yn y gymdogaeth dawel honno. Yr Arglwydd fyddo yn nodded i Mrs. Mathias yn ei hiraeth dwfn ar ol priod tyner, ac i'r meibion a'r merched a'u teuluoedd oedd inor ofalus o'u tad. Na throedied neb yn anystyriol ar fedd gwr DllW. Ni gawn gwrdd a'n hoff anwyliaid Aeth o'n blaen yn niwl y bedd Ni gawn eto'u gweld a'u clywed Méwn cymdeithas bur a hedd. Hapus dyrfa, t] Sydd a'u hwyneb.tlla'r wIad W. F.
HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR.
News
Cite
Share
HYN A'R LLALL 0 BABILON I FAWR. GAN EYNON. I Mae Wil Bryan mewn peunod anfarwol vn Rhys Lewis wedi dysgu i blant dviiion y pwvsigrwvdcl o gultivatio check. Y mae Natur wedi arbed y drafferth lionno i ambell un, ac ar ben y rhes cawn y Daily Mail. Ni raid i hwnnw ddilyn cyngor Wil Bryan. Dyna sy'n cyfrif am y sylw- adau hyn fod y Daily Mail, y bore ar 01 araith fawr y Prifweinidog, yn ei darlunio ar y parwydydd fel 'Atebiad Mr. Asquith i'r Daily Gwarchod ni Yr unig ateb roddwyd gan Asquith i Wasg Fel en' Harmswortli ydoedd cyfeiriad ysgornllyd at y professional whimperers (' crintachwyr proffesedig ') oedd yn cam- liwio ffeithiau er mawr lawei#dd i r German o ddydd i ddydd. Y mae impu- deitce y Daily Mail yn ein hatgofio am y ceiliog hunanol hwnnw oedd yn meddwl fod yr haul yn codi o'i wely yn y Dwyrain bob bore er mwyn cael y fraint o'i glywed ef vn canu ei solo oerllyd ar ben y do men Yr oedd yn dda gennyf glywed y dydd o'r blaen, ar awdurdod pur dda, nad yw y Mail byth wedi ennill yn ol y tir a goll- wyd ganddo yn y dyddiau pan oedd gwyr yr Exchange yn T/lundain yma yn ei draddodi yn gyhoeddus i'r fflamau Wel, nid yw Asquith, fwy na neb ohonom, yn berffaith. Dim ond y Daily Alail a'i ffrindiau sydd yn hollol berffaith. Ond, perffaith neu beidio, nid dyma'r adeg i chwilota beiau. Eto dyna'r ffasiwn yn y dyddiau hyn. Neithiwr bu Arglwydd Tyddewi yn dweyd y drefn yn Nhy yr Arglwyddi. Ar ei ol cododd yr areithydd nerthol, Willoughby de Broke, a'r target oedd Asquith a'i wendidau. Wrth reswm, nid oes neb yn sylwi llawer ar ebychiadau de Broke a'i sort; ond oilid yw yn an- faddeuol fod Prydain Fawr yn caniatau i sparbilod fel hyn i awyru eu syniadau ar goedd gwlad ac yn Nhy Uchaf ein Senedd, yn unig am eu bod o ddamwain wedi eu geni mewn porffor ? Am Arglwydd Tyddewi, collais fy ftydd ynddo ef rhyw dair blynedd yn ol, pan y darfu iddo (ac efe ar y pryd yn Gadeirydd Rhyddfrydvvyr Deheudir Cymru!) ein gwerthu ar bwnc Dadwaddoliad. Yr oedd yn warth i'r Hwntws ei ethol i'r gadair ar ol hynny yn rhinwedd rhyw gan punt y flwyddyn-ei danysgrifiad blynyddol. Yr oedd Tyddewi, yn ei araith neithiwr, eisiau galw y Cyfrin-Gyngor ynghyd i roddi'r byd yn ei Ie. Nid Senedd etholedig gan y wlad, ond y Cyfrin-Gyngor-pob1 yn cynrychioli neb, wedi eu dewis o blith yr etholedigion.' Cynnyg braf o enau hen Radical, onite ? Ac eto, y mae y cynnyg hwnna wedi ei dorri o'r un corn | brethyn a'r cynnyg arall hwnnw i adael y gwaddoliadau Eglwysig i'w penderfynu; mewn amser cyfaddas.' Bu gwasg Rydd- frydol Caerdydd a'r Deheudir yn bur ddis- taw am y cynnyg bradwrus hwnnw, ond yr oedd fod cynnyg o'r fath yn bosibl yn dangos yn eglur nad oedd gwreiddyn y mater gan yr Arglwydd o Dyddewi. Wel, y mae yn addaw pethau arswydus yn ei araith bresennol, os na wna'r Llywodraeth ddawnsio i'r bibell o Sir Benfro. Ond y gwir yw, mai dyledswydd pawb ohonom ar hyn o bryd yw gohirio ein crintach- rwydd-peidio newid ceffylau nes croesi'r afon —neu, yn ol y Sais, mewn geiriau eraill, Don't bother the man at the wheel Concro'r German i ddechreu, ac yna-os rhaid—cnoi a thraflyncu ein gilycld wedyn. Cymanfa yn Stonehenge.' Dyna'r pen- nawd welaf yn y Chronicle am heddyw (Iau), ac y mae yn awgrymiadol a diddorol anghyffredin. Dywedir y bydd prif ddon- iau pregethwrol yr Hen Wlad yno yn efengylu i'r bechgyn. Yno yn yr hen deml Dderwyddol, lie y saif cofgolofnau pagan- iaeth er's miloedd o flynyddoedd, yn dyst- ion o addolgarwch ein cyndadau pan oeddent yn ceisio, fel pobl Athen, codi allorati yn Stonehenge i'r Duw nid adwaen- ent. Hoffwn fod yno. Y lllae peth fel hyn yn tanio dychymyg y Cymro. Synnwn i fawr nad yw Lloyd George wrth wraidd y syniad. Beth bynnag, y mae efe ei hun wedi addaw bod yno. Bydd Cyrnol Williams o Brynsiencyn yn sicr o fod ymhlith y geneuau cyhoeddus. Clywaf hanes hyfryd iawn am fechgyn Cymrn ym mholnnan-eu bod yn ymddwyn yn hollol deilwng o'r Hen Wlad, nid yn unig wrth jarw drosti, ond hefyd wrth fyiv yn addas i'r ffydd yn yr hon y'u magwyd. Tybed y ceir esgobion Cymru i'r Gymanfa ? Y gwaethaf yw nad oes yr un ohonynt fedr bregethu, oddigerth yn rhyw symol' iawn. Yn Eglwys Rydd y dyfodol dichon y bydd siaws i'r pregethwr ? Felly ni bydd Lecshwn wedi'r cyfan ym mis Ionawr nesaf. Yr oedd synnwyr cyffredin yn dweyd hynny o'r blaen. Eto, yr oedd y Conscription Party yn foddlon cymeryd y risk o wynebu Etholiad Cyff- redinol yn y gobaith y cawsent fwyafrif, ac yna gario allan eu program melltigedig. Y rhai hyn ydyw Prussians Prydain Fawr, ac fel y mae yr ysbryd aflan hwn wedi arwain yr Almaen dros y dibyn, yn yr un modd yn union boddlon yw ynfydion pen- boeth y blaid newydd hon i wneud wreck o'r Ymerodraeth—ac, o ran hynny, y cyfanfyd-er mwyn cyrraedd eu hamcan. Annheg ac anfaddeuol fuasai penderfynu pwnc fel hyn drwy'r ballot box pan y mae rhyw ddwy neu dair miliwn o'n bechgyn dewraf draw ar faes y rhyfel. Cyn rhoddi pen ar Wirfoddoliaeth, gadawer iddi gael fair play i ddecrheu. Yna, yn olaf peth, ar ol i bob cynllun arall fethu, os rhaid cael Gorfodaeth, rhaid i ni roddi ffordd. Felly, ar hyn o bryd, trefnir i ohirio Etholiad Cyffredinol nes bo cymylau rhyfel wedi ffoi, a'r wlad wedi dod yn ol i'w hiawn bwyll unwaith eto. Wn i ddim yn iawn paham, ond y mae y syniad yn ennill tir nad yw diwedd vr ornest waedlyd ymhell iawn. Diau fod Germani ymron gwaedu i farwolaeth bell- ach. Syn na buasai wedi gwaedu'r diferyn olaf er's llawer dydd. Nid pylor a phlwm fydd yn penderfynu'r ddadl wedi'r cyfan, ond newyn, a diffyg adnoddau masnachol. Ceir chewed cyn hir fod newyn mawr yn y tir. Wei, cyntaf oil goreu oil i rywbeth roddi terfyn ar y galanas ofnadwy. Eto nis gellir heddwch heb yn gyntaf gael y Goliath Germanaidd i'r llwcb. Ac yna gobeithio y myn y werin a'r miloedd ddeddfu ymhob gwlad na cha'r un Kaiser byth mwy ollwng uffern yn rhydd ar blant dynion fel y gwnaeth. y scamp hwn o
I CERDDORIAETH A OHERDD-ORION.
News
Cite
Share
wyddom y cenir un o'i donau yn yr oes I hon. Cydiodd y defFroad cerddorol yn eraill yng Nghymru yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cawn fod David Jenkin Morgan (1751-1824) yn ardal I/lech- ryd yn gerddor o gryn allu a gwasanaeth. Preswyliai yn Penllwyndu ar fin y ffordd o Lechryd i Blaenporth. Teithiai ymhell ac agos i ddysgu cerddoriaeth i bobl ieuainc. Ysgrifennodd. lawer o donau ac anthemau, y rhai a genid gyda bias nefol yn y cynulleidfaoedd yng Nghymru yn y dyddiau gynt. Tonau yn symud yn gyflym oeddynt, yn rhoi llamiadau sydyn, yn llawn slurs a fugues, ac yn swynol i'w canu. Dyna nodwedd ei anthemau hefyd. Cenir 'Mercurial,' sef Teyrnasa, Iesu Mawr,' yn ami yn y blynyddoedd hyn. Mae y tonau Ymlyniad' a Penydarren yn Y Caniedydd yn debyg- j'w gynhyrch- ion ef. Yr oedd rhyw lift hyfryd yn ei alawon. Rhoddodd wasanaeth mawr i gerddoriaeth yng ngodre Ceredigion yn arbennig. Kfe yn ddiau ddihunodd y gallu ddeffrodd David Ktulyn Evans; John Thomas, Blaenanerch—I^lanwrtyd jTn awr John Parry, Ffynnonlefrith, ynghyda llu o oleuadau llai disglaer, ond mawr eu gwas- anaeth yn eu cylchoedd dinod. Dydd y farn ddengys wasanaeth athrawon cerdd- orol eglwysi bychain gwledig Cymru.