Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
SARON, BIRCHGROVE. i
News
Cite
Share
SARON, BIRCHGROVE. i Nos Percher a dydd lau, Hydref xseg a'r I4eg' eynhaliwyd. cyfarfodydd ordeinio Mr B. P. i Davies, o Goleg Aberhonddu, yn weinidog i'r eglwys uchod. Dechreuwyd yr odfa nos Fercher gan y Parch Urias Phillips, B.A., Godrerhos a Chrynant. Pregethwyd pregeth stars i'r eglwys gan y cyn-weinidog, y Parch M. G. Dawkins, Treforris, yn rymus ac efteithiol, a phregethwyd hefyd gan y Parch D. D. Walters, Castellnewydd Emlyn, yn ei ddull nodweddiadol ef. Cafwyd cyfarfod cla iawn. Dechreuwyd odfa bore lau gan Mr D. J. Davies, B.A., o Goleg Aberhonddu, a phregeth- wyd ar Natitr Eglwvs gan y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Coleg Aberhonddu. Yn y prydnawn cynhaliwyc1 y cwrdd ordeinio, pryd y dechreuwyd gan y Parch W. J. Rees, Alltwen. Llywyddwyd gan y Parch J. H. Parry, Llansainlet. Cafwyd hanes yr alwad gan Dafydd Rees, diacon o'r eglwys. Holwyd y gofyniadau gan v Parch Gower Richards, Trebanos, ac ateb- wy(I yn fyr a chynhwysfawr gan y gweinidog ieuanc. Offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch J. Evans-Jones, Sciwen. Siaradwyd gan y brodyr canlynol :"Mr James Jones, o Gastellnewydd Emlyn, yr hwn a gyf- II lwynodd rodd i Mr Davies o'i fam-eglwys; Dafydd Rees, Saron, Birchgrove, a chyflwynodd yntau rodd i Mr Davies ar ran Ysgol Sul Saron, Birchgrove; Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., a Mr Martin Thomas, o Goleg Aberhonddu a Mr William Smith, Penybont. Croesawyd Mr. Davies gan weinidogion y gwahanol enwadau ar ran y Bedyddwyr gan y Parch Griffiths, Ainoii; ar ran y Methodistiaid gan y Parch T. C. Lewis, Lon Las ar ran Eglwys Loegr gan y Parch. Davies, curad, Birchgrove. Pregethwyd pregeth siars i'r gweinidog gan Dr B. Davies, Castell- newydd Emlyn. Cafwyd cyfarfod diddorol a buddiol iawn. Dechreuwyd odfa nos lau gan Mr D.J. Gregory, Birchgrove, a phregethwyd gan y Parchn B. Davies, Pant-teg, Ystalyrera, a Dr Davies, Cas- tellnewydd Emlyn. Terfynwyd y cyfarfodydd gan odfa rymus a blasus. Daeth. lliaws o bobl ynghyd i groesawu Mr Davies ar ei urddiad, ac yn eu plith gynrychiolaeth dda o weinidogion y cylch a'r Cyfund.eb. Dymunwn i Mr Davies lwvddiant mawr ar ei waith yn y clyfodol. -=-=:==:=- CvKAirj,.
Llawer yn Gyffelyb ym Merthyr.
News
Cite
Share
Llawer yn Gyffelyb ym Merthyr. Faint o bobl Merthyr-gweithwyr caled a gwragedd wedi llwyr flino-sydd a'u profiad yr un a'r wraig hon o Ferthyr a sieryd yma ? Yn ystod y tair blynedd diweddaf,' meddai Mrs E. Lewis, 127a Heolgerryg, ger Ysgol y Babanod, Merthyr Tydfil, cefais amryw o ymosodiadau poenus o anhwylder yr arennau. Meddiennid fi gan boenau ffyrnig ar draws fy nghefn, a chawn y crydcymalau yn fy nghoesau a'lii breichiau. Teimlwn mor ddrwg ar adegau fel y dylaswn fod yn fy ngwely, ond rywfodd gellais symud ymlaen. Yr oedd y gyfundrefn droethol allan o le, ac arhosai gwendid a wnai yr anhwylder yn llawer gwaith bob tro y caw- swn annwyd. $|' Gan i mi fethu cael rhyddhad ar ol treio amryw foddion, dechreuais o'r diwedd gymeryd Doan's Backache Kidney Pills, gan fy mod yn gweled canmoliaeth uchel iddyiit fel meddygin- iaeth at yr anhwylder hwn. Gwnaeth y pelennau hvn lawer o les i mi trwy esmwythau y poenau. Glanhawyd cyfundrefn yr arennau, siriolwyd fi yn fawr, a galluogwyd fi i fynd o gwmpas fy nyledswyddau gyda mwy o ynni. Mae Pelennau Doan yn ardderchog, ac yr wyf wedi hysbysu fy nghyfeillion o'r budd wyf wedi dderbyn trwyddynt. (Arwyddwyd) E. Lewis.' Gall llawer moddion eswmythau, ond y mae gormod ohonynt yn methu a rhoddi canlyniadau parhaus..Fel y bydd y cyfansoddiad yn dod i arfer a'r effeithiau, cymer ddogn mwy a mwy yn barhaus, nes o'r diwedd y metha y moddion. j Nid felly gyda Doan's Backache Kidney Pills. Cofnodir a gwylir achosion am flynyddoedd ar ol i'r feddyginiaeth gael ei chofnodi am y tro cyntaf. Y mae amser wedi eu profi, ac mae yr iachad yn un parhaus. Pris 2/9 y blwch, gan yr holl fasnachwyr, neu yn uniongyrchol oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. Peidiwch a gofyn am belennau at y cefn neu yr arennau-gofynnwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mrs Lewis.
.RHYDYBONT.
News
Cite
Share
RHYDYBONT. TRY HIT,I STCPVmjAD YR ACHOS. Bn yr'eglwys uchod yn dathlu dau canmlwydd- iant ei gyrfa ysbrydol yr wythnos ddiweddaf, ynghgda chynnal Jiwbili y geiniog olaf o ddyled y capel tiewydd. Saif capel Rhydybont tua mill- tir tuallau i dref Llanybytlier, ar y ffordd at Sanatorium Alltymynydd, i Rhydcymerau, Llan- sawel a Llandeilo. Ar Chwefror 22ain, 1797, pan oedd. y Parch Griffith Hughes o'r Grocswen yn pregethu, daeth y newydd brawychus fod y Ffrancod wedi glanio ym Mhenygaer, Penfro. Gwaeddodd Nansi Jones o Grugybar ar Dafydd Shon Edmund, o fynydd Llansadwrn i roi emyn allan i'w ganu, ond method d hwnnw gan ormod braw. Ar hyn dyma Nansi yn Uawn tan yn rhoi'r emlyn a ganlyn allan, a'i ganu nes oedd y trydan ysbrydol yn rhedeg drwy'r odfa:- Duw, os wyt am ddibennu'r byd, Cyflawna'11 gynta'th air i gyd Dy etholedig galw 'llghyd 0 gwmpas daear fawr. Aed sain Efengyl i bob gwlad, A golch fyrddiynau yn Dy vvaed, A dyro iddynt lwyr iachad., Ac yna tyrd i lawr. Bu eglwys Rhydybont yn ddoeth a ffodus yn ei dewisiad o bregethwyr i ddathlu'r amgylchiad drwy ddewis ei phlant ei hun, neu yn hytrach, y cewri godwyd yno i bregethu, sef y Parchn J. Bowen Davies, Abercwmboi W. Thomas, Llan- boidj^ Wynne Evans, Llundain E. Evans, Llanegryn D. Jones, Brynrhiwgaled a'i diw- eddar weinidog, y Parch J. J. Jones, B.A., Bryn Seion. Pregethwyd drwy'r dydd Saboth, nos Lun, nos Pawrth, bore a nos Fercher. Prydnawn Mercher eynhaliwyd cyfarfod i areithio. Llywyddwyd gan y Parch D. James, y gweinidog, yn hynod ddeheuig. Dechreuwyd yr odfa gan y Parch E. Evans, Llaubedr. Siaradodd y Parch Wynne Evans, Llundain, ar yr achos yn ei darddiad, o Ogof Cwmhwplin, ger Pencader, heibio i Capellago a llawer dirgel fan cyfarfod. arall, tan JTndiarI yr eglwys yn Rhydybont. Dilynwyd ef gan y Parch W. Thomas, Llan- boidy, ar y gweinidogion fu yno o James Lewis a David Jones, Maesgwyn, at David J ellkins Crugymaen, John Harries, Capel Isaac, ac Owen Davies, Crofftycyff, nes sefydlwyd Jonathan Jones yn weinidog yno yn Awst, 1775. Wedi ymadawiad Mr Jones rhoddwyd galwad i un William Jones, o Goleg Caerfyrddin, yr hwn lafur- iodd gyda llwyddiant mawr am ugain mlynedd. Cododd iddynt gapel newydd, a sicrhawyd darn da o dir fel mynwent, ac ymadawodd yn fawr ei barch am Abertawe. Yn canlyn ordeiniwyd un John Lewis, o Ysgol Ramadegol Neuadd- lwyd ond gan i'w iechyd dorri lawr, bu farw ymhen tair blynedd. Ar ei ol ef sefydlwyd yr enwog John Jones, Llangollen, yma, awdur y penillion anfarwol, Deio bach, fy machgen annwyl,' a gyfansoddodd ar gais gweddw dlawd, gyda'i llond dy o blant, oedd yn byw yn gynnil er tynnu Deio adref o America. Wedi i Jones, Llangollen, symud i Ferthyr, rhoddwyd galwad yn 1852 i Mr Henry Jones o Goleg Caerfyrddin, yr hwn fu yma wyth mlynedd. Yna rhoddwyd galwad i David Williams, Glyn-nedd, yr hwn adnabyddir heddyw fel Dr. Williams, Noni. Cydnabyddir fod Mr Williams yn un o gewri'r pulpud Cymreig. Ond gan fod gofalu am Rhyd- ybont, Brynteg, Bethel (Drefach) a Capel Noni yn ormod iddo, rhoddodd Rhydybont a Brynteg i fyny. Rhoddodd eglwys Rhydybont alwad i'r Parch J. J. Jones, B.A. (Bryn Seion, Penfro, yn awr), yr hwn lafuriodd gyda medr a llwydd- iant am flynyddoedd. Dilynnyd ef gan y Parch Twynog Davies, Caerdydd, yr hwn fu yma yn fawr ei barch tan y symudodd i Gaerdydd. Dilynwyd ef drachefn gan y Parch D. James, y gweinidog llwyddiannuS preseimol. Yn ystod yr amser byr odcliar pan y daeth Mr James yma, ymdaflodd yn llwyr ac egniol i holl amgylchoedd gwaith yr eglwys—y Gobeithlu, yr Ysgol Gan, a'r Ysgol Sul. Awd ati i adeiladu capel newydd a gostiodd ^1,700, a thalwyd yr holl ddyled erbyn y cyfarfodydd hyn. Ar ol Mr Thomas, cafwyd anerchiad diddorol gan y Parch E. Evans, Llanegryn, sir Feirionydd, ar y brodyr godwyd i bregethu yma. Crybwyll- odd am David Davies, urddwyd ym Mhenygraig, Cydweli Evan Evans, Llygadeiiwyn William Jones, yr hwn dreuliodd oes faith i weinidog- aethu yng Nghaerdydcl Thomas B. Evans, j Ynysgau, Merthyr D. Davies, New Inn, sir Fynwy William James, Caerdydd D. Davies, Treffynnon D. Williams, urddwyd yn Nhre- dwstan, a'r hwn fu farw yng Nglyn-nedd hefyd D. Williams arall, fu am dymor yng Ngholeg Aberhonddu, ac a ordeiniwyd yn Libanus a Cliwiucamlais, sir Frycheiniog. Sylwodd Mr. Evans ar Lygadenwyn, amaethdy o fewn ych- ydig bellter i Rhydybont, fel lie cynhyrchiol a chydnaws at godi pregethwyr, oblegid y mae hanes am dri mewn gwahanol gyfnodau wedi cvchwvn o'r fferm hon, ac wedi troi allaii, o dan fendith y Nef, yn weinidogion llwyddiannus, sef Evan Evans, Penygraig David Davies, New Inn a B. Evans, Ynysgau. Sylwodd hefyd en hod o 18 i 20 rnewu rhif, ond y rhan fwyaf ohonynt erbyn hyn wedi huno yn yr angeu ar ol diwrnod da o waith. Y nesaf i aunerch y cyfarfod oedd y Parch J. Bowen Davies, Abercwmboi, ar ein cyfrifoldeb ni yn wYlleb yr holl freintiau. Y tadau a lafur- iasant, a ninnau aethom fewn i'w llafur hwynt. Cafwyd anerchiad rhagorol ganddo, ac i orfien y cyfarfod cafwyd gan Miss Bessie Lewis, R.A.M. roddi can, Dyma Feibl annwyl Iesu ar yr alaw Flee as a Bird.' Yr oedd pawb yn teimlo awydd i longyfarcli )- gweinidog a'r eglwys ar y gwrhydri a'r ewyllys- garwch danghoswyd i dalu dyled o ki,ioo ar gapel mor brydferth mewn amser mor fyr. Bell- ach ni fydd ganddynt ond mynd i fe wn am pipe organ. Y mae yno le parod a chwareuydd gweith- iol yn y cerddor ieuanc, David Lewis. Hanna ef o hen deulu parcliusaf yr eglwys daliodd yr achos ar eu cefn am genedlaethau. Dymunwn iddo ef ac i bawb flynyddoedd o ddefnyddioldeb gyda chaniadaeth y cysegr yn y lle. ARDWYN.
i Gogledd Gwyr.
News
Cite
Share
Gogledd Gwyr. Avaith Cellhadwr.Daeth y Parch W. Evans, Madagascar, i'r Cyfarfod Chwarterol yn Eben- ezer, Duiivant, fei un o blant y Cyfundeb, ac hyfrvdwch mawr oedd ei weld a'i groesawu. Nid oedd disgwyliad am dano, fel nad oedd lie wedi ei baratoi idclo ar raglen y cyfarfod ond buan iawn y trefnwyd bopeth yn liwylus a deheuig. Cafwyd ychydig eiriau ganddo yn y Gynhadledd oeddent yn ennyn diddordeb ac iara d ai i'r I)i-o(-iyr, I't- yn codi disgwyliacl. Siaradai a r brodyr, a r Cyfundeb, ac a Chymru dros ei Feistr arllche1 a'i Fadagascar annwyl. Trefnodd y Parch W. Glasnant Jones iddo draddodi araith yn y pryd- nawn ar ol pregeth pwnc y Parch E. J. Edwards, Cwmbwrla. Yr ydym wedi gwrando nifer o'n cenhadon o dro i dro, a llawer o'u geiriau yn aros hyd heddyw, a'r atgofion yn gysegredig. Cymerodd Mr Evans lwybr newydd arbennig iddo ei hun. Dywedodd bethau byw, gafaelgar, lynant yn ein meddwl tra y bydd hwnnw yn ei le. Danghosodd fod ein dynion ieuainc sydd wedi ymrestru i'r fyddin a'r llynges wedi gwneud rywbeth mwy na rhoddi eu gwasanaeth i amdcli- ffyn eu gwlad. Yr oedd eu presenoldeb ewyllys- gar ar faes y gwaed wedi rhoddi ysbrydiaeth fyw i frodorion Madagascar i gredu yn sicrach nag erioed yn egwyddorion Teyrnas y Crist. Y Cymreigyddion.-Daeth cynhulliad hynod o dda i gyfarfod agoriadol y Cymreigyddion, fel pe baent wedi disgwyl i'r peth gymeryd lie er's hir amser, a phob un fel pe ar ei eithaf i beidio gadael yr un gair Saesneg i lithro dros ei wefusau y noson honno. Cymerwvd y gadair gan Mr T. Jones, ysgolfeistr, yr hwn sydd yn gwybod sut i lywyddu heb grwydro i lwybr neb arall. Tradd- ododd araith fer a phwrpasol, a galwodd Glas- nant at ei waith—y cyfan mewn ychydig iawn o funudau. Yr oedd Glasnant yn ddiddoiol, yn fyw, yn gyffrous, yn drywranol ac yn serchog. Yr oedd' y disgrifio, y darlunio, yr awgrymu a'r cyfeirio yn dra effeithiol, ac yn peri i ambell un golli llywodraeth ar ei gynheddfau teimladwy. Yr oedd yn gwbl naturiol, heb un gor-ymdrech i osod un argraff mwy na dangos Watcyn Wyn yn ei wahanol arweddau. Arweiniocld ni i fewn i hen aneddau ein gwlacl, i olygfeydd cartrefol a chwmni diddig. Rhaid i chwi ei glywed, a chewch fwynhad ac adeiladaeth, gweledigaeth ac ysbrydiaeth. Diolchwyd i'r llywydd a'r darlith- iwr- Cawsom noson ddifyr a'n boddloni yn dda. Yr oedd yn gyweirnod hapus i'c tymor. Llwydd- iant mawr i Gymdeithas Cymreigyddion Gor- seinon ar ei gwaith yn cael ei gwthio i'w thaith. Profed ei hun o wasanaeth gwirioneddol i'r ael- odau, yr ardal a'r wlad.
[No title]
News
Cite
Share
LLANFAIRCLYDOGAU.—Y Parch B. Carolan Davies, Ty'nygwndwn, bregethodd yn yr wyl ddioJchgarwch yma eleui. Cafwyd yr enem- iad' gyda'r gweddio a'r pregethu. Y maer bardd-bregethwr Carolan yn un o anwyliaid y pulpud yDg Ngheredigion.