Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLEN A CHAN, &c. I - - I

News
Cite
Share

LLEN A CHAN, &c. The Challenge of Christianity to a IVoyld at Way.' TEITI, go glogyrnaidd yw hwn ar un o'r llyfrau cryfaf, craffaf a mwyaf ei angen ar gwestiwn y rhyfel yn ei wahanol ag- weddau—crefyddol yn bennaf --ydytii eto wedi ddarllen. Mawr yw swm y llen- yddiaeth mae y rhyfel wedi gynhyrchu, ond rhaid addef mai ysgafn ac arwynebol yw y rhan fwyaf o lawer ohoni. Pethau dros ddiwrnod ydynt a phan dderfydd dydd y rhyfel, derfydd am danynt hwythau. Yn wir, mae rhan enfawr ohonynt yn farw-anedig, ac mae cruglwyth eu cyrff eisoes yn peri pryder a gofid i'r llyfrwerth- wyr. Ond nid felly lyfr Dr. Griffith Jones, Prif- athro Coleg Bradford, mab hynaf y diweddar Hybarch Aeron Jones, Manordeilo. Cyhoeddir ef gan Duckworth am y pris isel o 2/6. Wyneb a brif broblemau moesol a chrefyddol y rhyfel, a cheisia eu hateb a'u dadrys yn wrol a chlir. Yn y bennod gyntaf ymdrinia a chysylltiad rhagluniaeth a'r rhyfel, ac ymgodyma yn llwydd- iannus ac argyhoeddiadol a'r gofyniadau glywir yn fynych-' Paham y caniataodd Duw i ddrwg mor fawr dorri allan mewn byd dan Ei awdur- dod a'i lywodraeth Ef Fi Hun ? Sut hefyd na buasai yn cyfryngu i'w hatal yn awr ? Paham na bai Duw yn pleidio yn agored y naill ochr neu'r llall o'r ymladdwyr, ac yn rhoi'r oruchafiaeth derfynol i un ohonynt ? Nid ein busnes ni yw rhoi yma ei atebion i'r cwestiynau celyd hyn, ond beiddiwn ddweyd nad yw yn osgoi yr un anhawster, ac ar y cyfan mae ei atebion yn dra boddhaol. Yn yr ail bennod dengys fel y mae gwareiddiad seiliedig i raddau pell ar fateroliaeth a naturoliaeth yn cyfrif am ein cyflwr trychinebus presennol. Yna claw at berthynas y rhyfel a moeseg Gristionogol, a delia yn gyson ac eofn a dysgeidiaeth yr Efengyl ynglyn a gwrthwynebu trais a clrwg trwy ryni arfau, yn ogvstal ac ag athrawiaeth ddieflig y Kaiser a'i lu fod nerth anianol yn rhoi hawl 1 bopeth. Ni theimlwn fod y Doctor mor ddiogel ar yr ail ran o'r mater hwn, ac i'n bryd ni mae yn begia yr holl gwestiwn wrth wneud galln (might) yn gyfystyr a grym ewyllys yn cymryd ffurf anianol i sicrhau'r hyn sy'n iawn. Eddyf pawb fod eisiau'r plismon i wylio a dal trosedd- wyr, ond nid yw'r digwydd fod gan wlad gewri o blismyn yn rhoi unrhyw hawl iddi ladrata eiddo neb gwan. A dyna sy'n gwneud might is right yn athrawiaeth annwn. Yn ei bennod ar berth- ynas y rhyfel a chart-ref a theulu a phlant, dywed y Doctor bethau ddylai sobri'r caletaf ohonom, Mae poblogaeth Prydain yn lleih.au yn flynyddol, a beth ddaw ohoni os na thry ddalen newydd a chysegru cartref a theulu i'w diben cynhennid sydd ystyriaeth a dreiddia hyd wraidd ein tynged yn y dyfodol. A'r Athro ymlaen i ddelio yn yr un ysbryd gwrol a chrafi a phroblemau gwladgarwch, milwr- yddiaeth, heddwch, a chyfaddasiad crefydd i'w hamgylchoedd newydd. Ac mae ei nerve a'i law mor ddigryn a medrus i drin y materion pigog hyn a'r rhai blaenorol. Deil y gyfrol i'w hail ddarllen a'i myfyrio yn ofalus. Temtia ni i feddwl ac ystyried anesmwytha'r caletaf a r llonyddaf ohonom ie, a rhydd arweiniad diogel a chymorth sylweddol i ni wynebu a dadrys rhai o'r pethau mwyaf dyryslyd i grefyddwyr ynglyu a'r rhyfel. Cyfrol odidog ydyw ymhob ystyr. '0, aios gyda Mi. ('Abide with Me.') irlYFRY DWCH yw gennym gy- hoeddi yr adolygiad canlynol gan yr Athro David Evans, Mus. Doc., Prifathrofa Caer- dydd, ar anthem Mr. ±$. F. Mills, iy.JK_.ii.ivi-. l w chael oddiwrth y Cyfansoddwr, 14 Wellfield-rd., Caerdydd, pris 3c.) :—Pleser ydyw i ni alw sylw ein cantorion at anthem newydd o eiddo organydd Ebenezer, Caerdydd. Ar ol wyth mesur o arweiniad offerynnol cenir y pennill cyntaf mewn cynghanedd lawn. Mae'r cynganeddion yn syml a thyner, fel y gweddai iddynt fod, a rhoddir lliwiad hapus a phriodol i rai brawdd- egau trwy ddefnyadiad chwaethus o gordiau cromataidd. Yn nesaf ceir alaw felodaidd a llyfn gan y bass yn y llywydd ar y geiriau, Cyflym ymgilia.' Rhoddir y trydydd pennill i'r cor, ac arweinia hyn i'r pedwerydd pennill yn yr is-lywydd. Cychwynnir y symudiad hwn gyda brawddeg rymus a gafaelgar i'r bass a'r tenor ar y geiriaii, Nid ofnaf neb pan fyddost Ti gerllaw a phan efelychir hwy gan y soprano j a'r alto, ar yr un geiriau a cherddoriaeth, cyr- haeddir pwynt effeithiol iawn trwy ddwyu y meibion i fewn i herio angeu a'r bedd. Yna arweinir yn dyner i'r symudiad olaf. Yn hwn cymerir y brif frawddeg gan y tenors, cyfeilir hwy yn dyner gan y tri llais arall, ac ar ol brawdd- egau pwrpasol a nodweddiadol, diweddir yn ddwys gyda'r geiriau, 0 bydd gyda ni.' Mae yr anthem yn syml ac effeithiol, ac o fewn cyr- raedd corau capelau, a hyderwn y bydd o was- anaeth cyffredinol. DAVID EVANS. Llawlvjr i thrawoiz. DA gennym weled llyfryn y Parch. M. H. Jones, B.A., Ton, Pentre, Rlionada, wedi rhedeg i'w ail argraffiad. Athrawon yr Ysgol Sul sydd gan Mr. Jones mewn golwg, ac mae wedi talu'r fath sylw i'w hylforddiant, a myfyrio problem yr Ysgol Sul mor drylwyr, fel y mae'ii gallu ysgrifennu ar y pwnc gyda medr, clirdeb, symlrwydd, a chraffter sy'n gwneud ei lawlyfr yn drysor mewii gwir- ionedd i'n cenedl ar hyn o bryd. Mae digon o theory ynddo i seilio ei gyfarwyddiadau a'i gynghorion yn gadarn arni, a nodwedd ymar- ferol, brofiadol, concrete, gall, y llawlyfr sydd yn rhoi ei werth aruchel arno, ac yn peri iddo ragori ar ddim o'r fath a welsom yn Gymraeg. Pris 6c., oddiwrth yr awdur. Undeb Cenedlaethol Cymru. CYFARPODYDD a hir gofir oedd rhai gwyl flynyddol U n d e b Celledlaethol Eglwysi Efengyl- aidd Cynrru ym Mhoutypridd, dyddiau Mercher a lau diw- eddaf. Yr oedd tua 600 o gynrychiolwyr yn bres- ennol o bob parth o Gymrn, a chapel mawr Penuel yn orlawn yn y tri chyfarfocicyhoeddus. Ceir hanes y cyfarfodydd yn fanylach o ffyn- honnell arall, ond rhaid inni ddywedyd na buom erioed mewn cyfarfodydd o'r fath a mwy o eneiniad a naws nefol arnynt. Bu yno ychydig ddadl frawdol ar Orfodaeth Filwrol, ond teimlid yn ddwys a difrifol mai prif angen ein gwlad heddyw yw difrifwch a gweddi. Yr oedd yr I areithiau oll yn aruchel ac ysbrydol eu nodwedd, a Duw yn bendithio'r holl eisteddiadau a'i bres- enoldeb amlwg. Dychwelwn at y mater eto. Crybwyllion. --MAE'R Parch. Grawys Jones, Aberdar, yn gwella yn dda y dyddiau hyn oddiwrth ei afiechyd bUn. Yn Elangamarch y mae ar hyn o bryd, Adfeirad buan a llwyr iddo. —Mae'r Hybarch J. Rogers, Pembre, wedi bod yn bur wael yn ddiweddar, ond mae mor siriol a'r aderyn, ac yn adennill ei nerth yn araf. Gyda'i fab, y Parch. Phillip Rogers, B.A., Caer- dydd, yr erys ar hyn o bryd. --Mae'r Parch. T. T. Jones, Maendy, wedi ail afael yn ei waith, ac yn teimlo yn llawer gwell. Yr oedd bron fel efe ei hun ylii Mhontypridd. -Mae'r Parch. James Evans, B.A., wedi ei benodi yn gaplan i'r fyclcliti, ac a i Winchester yn drtioed fel capten. Pery ei gysylltiad, bid siwr, a'r Undeb Cenedlaethol, ond bydd raid cael cynorthwywr iddo am dynior. Mr. Evans oedd y gwr mwyaf poblogaidd o bawb yng Nghynadleddau Pontypridd. --—5—

CYFARFODYDD.

A DDYLID NEWID CWRS PRESENNOL…